主播大秀

Hanes Lleol: Ardudwy

top
Llanbedr

Parahad o hanes Ardudwy a'r cylch yng ngogledd orllewin yr hen sir Feirionnydd.

Ymlaen o Lanfair i bentre prydferth Llanbedr. Os troir i'r dde i gyfeiriad y mynyddoedd deuir at bentre Gwynfryn ac yna Pont Beser lle mae afon Nantcol yn llifo i mewn i Artro. Yno uwchlaw'r Cymer y mae hen gapel Salem (Cefncymerau).

Daeth y capel yn enwog oherwydd i Curnow Vosper, arlunydd o Gernyw, ddod ar ei wyliau i Lanfair a chasglu nifer o'r bobl yn gynulleidfa yn Salem ar gyfer ei paentio. Cymeriad penna'r darlun yw Si芒n Owen, hen wraig gadarn nodweddiadol o hen wragedd y fro hon flynyddoedd yn 么l. Rhyw lithro i'r darlun a chael anfarwoldeb wnaeth Ifan Lloyd am fod ei ffrind yn rhy winglyd i sefyll yn llonydd.

Capel SalemI fyny o Salem at hen ysgol a chapel Cwm Nantcol. Caeodd yr ysgol a diddoswyd hi bellach fel neuadd y Cwm. Mawr ein dyled i'r trigolion am ddarparu adloniant a chyfarfodydd diwylliannol i lawer a ddaw o'r cylch i fwynhau nosweithiau difyr a phaned a sgwrs yn dilyn.

Ym Mlaen y Cwm saif t欧 ffarm hynafol Maes y Garnedd, cartref y Cyrnol John Jones, ac mae ei lofnod i'w weld a'r warant marwolaeth Charles I. Pan ddaeth mab annheilwng y brenin ar yr orsedd cafodd John Jones ei grogi a'i gorff ei lygru. Er ei gysylltu ac ymgyrchoedd Cromwell yn Iwerddon yr oedd ochr raslon iawn i'w gymeriad. Gorchmynnodd ei frawd yn Ardudwy i beidio 芒 chasglu rhent ar ei diroedd wedi cynhaeaf drwg rhyw flwyddyn. Y sawl a gafodd ras, hwnnw sy'n dangos gras fel arfer.

Yn 么l i Bont Beser a throi i'r dde, deuir at Ddinas Bochellyn, hen gaer o Oes y Cerrig, yna ymlaen at Gwm Bychan - rhyw amffitheatr o gwm yn y creigiau. Mae ynddo lyn lle mae afon Artro yn tarddu a chraig uchel, Carreg y Saeth, yn codi ohono. Bu'r hen d欧 yn gartref i genedlaethau o'r Llwydiaid enwog yn eu tro. Pan alwodd Thomas Pennant yno yn yr ail ganrif ar bymtheg cafodd achau'r teulu gan Ifan Lloyd (1698-1786) a gweld fod y teulu yn olrhain eu hachau at Bleddyn ap Cynfyn (1100-1175), tywysog Powys.

Tirfeddianwyr mwya'r ardal

Wedi gadael Llanbedr, fe ddeuir i bentref hir Dyffryn Ardudwy, pentref o dyddynnod ers talwm. Pobl annibynnol - yr unig ffordd i'w hargyhoeddi oedd bob yn un! Prif gymeriad y dyffryn yn ei ddydd oedd Richard Humphreys y Faeldre, gweinidog a phensaer Capel Horeb M.C. y Dyffryn. G诺r doeth, llawn arabedd, a phregethwr da.

Plas Cors y GedolWedi cyrraedd pentre Tal-y-Bont gellir troi i'r chwith a dringo'r hwylfa i'r Bella Port, lle mae Ken a Beti Roberts yn byw, dau sy'n gynheiliaid y papur bro a phopeth diwylliannol yn y fro. Eto i'r chwith y mae ffordd arall syth sy'n mynd i gwm unig Sgethin lle mae Bodlyn, cronfa dd诺r y Bermo. Mae'r cymoedd hyn yn fannau cychwyn gwych ar gyfer dringo mynyddoedd y fro.

Ar y ffordd i gwm Sgethin gwelir Cors-y-Gedol, hen blasty a fu'n gartref i'r Fychaniaid am genedlaethau. Hwy oedd tirfeddianwyr mwya'r ardal. Yr oedd Richard Vaughan, a oedd yn cydoesi ag Edmwnd Prys, Si芒n Phylip a Huw Llwyd Cynfal (taid Morgan Llwyd), mor dew fel yr oedd yn rhaid agor drws T欧'r Cyffredin iddo fynd i mewn. Amod tenantiaeth ar y st芒d oedd ei gario dros y Llawllech i Ddolgellau i ddal y goits fawr. Ymlaen eto am y Bermo a gwelir adfail hagr hen gapel Egryn. Yma y profwyd mawrion weithredoedd Duw yn ystod ymweliad grymus 1904. Mae'n dyst i'r hyn all Duw ei wneud eto os ceisia pobl "yr hen lwybrau" mewn edifeirwch. Os ydy'r rhan fwyaf o bobl y fro wedi troi cefn ar Dduw eu tadau, gall ddod yn ddisymwth eto i fywhau ei waith.

Tre wyliau Seisnigaidd ydy'r Bermo erbyn hyn, ond y mae llawer yn ei gorffennol i'w chymeradwyo - ei morwyr hi a roes gychwyn i borthladd newydd Porthmadog; ei hen adeiladau o wenithfaen llwyd Ardudwy. Edrycher ar resdai Bro Gyntun (Porkington!) er enghraifft (fe'u gwelir ar y ffordd i mewn i'r Bermo o ochr Dolgellau. Er mai un capel Cymraeg sydd ar agor yn y Bermo erbyn hyn, deil y bywyd Cymraeg yno yn bur wydn.

Mae pobl Ardudwy fel y mynyddoedd "yma o hyd". Gwynfyd na welwn drallwysiad o Gymry ifanc i'n plith. Mewn un pentre' mae'r cyfartaledd yn 70% mewnfudwyr a 30% o Gymry. Am bob hen wraig sy'n marw yma mae llu o geisiadau am ei th欧 cyn iddi oeri yn ei bedd. Brysiwch yma yn wir.

Y Parch Gwilym Humphreys, Llanfair, Harlech


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.