主播大秀

Hanes Dyffryn Nantlle

top
Dyffryn Nantlle

Dewch ar daith i ddarganfod hanes tirwedd dramatig, chwareli a llenorion enwog ardal papur bro Lleu.

Ffurfiwyd tirwedd Dyffryn Nantlle gan y rhewlifoedd, nifer o nentydd yn llifo o'r cymoedd i lawr y dyffryn i ddau lyn Nantlle, ac yna fel afon Llyfni yn ymddolennu tua'r m么r.

Saif Mynydd Mawr, Mynydd y Cilgwyn a Moeltryfan un ochr i'r dyffryn ac yna rhes fawreddog crib Nantlle yr ochr arall, y Garn, Mynydd Drws-y-coed, Mynydd Talymignedd, Craig Cwm Silyn, y Garnedd Goch a'r Graig Goch hyd fynydd Llanllyfni. Rhed afonydd eraill, Desach, Llifon, Wyled a Charrog trwy'r ardal hefyd.

Bu anheddau yma ers dros ddwy fil o flynyddoedd fel y dengys yr olion lluosog o gytiau a chaeau ar y llechweddau lle bu'r amaethu cynnar a'r caerau fel Caer Engan, Dinas Dinlle a'r Gaerwen. Lle tawel iawn oedd y dyffryn drwy'r Oesoedd Canol, gyda ffermydd ar lawr y dyffryn, gwartheg a defaid yn crwydro'r llethrau dan y drefn hendref a hafod, dyrnaid o bentrefi bychain o gwmpas eglwysi'r plwyf, ychydig o bobl a digon o goed a thir comin y mynyddoedd.

Y Mynydd MawrDyma hefyd leoliad pedwaredd gainc y Mabinogi, gydag enwau lleoedd fel Caer Arianrhod, Pennarth, Dol Pebin, Trwyn Maen Dylan, Dinas Dinlle a Nant-lleu yn ein hatgoffa o helyntion y chwedl. Yng Nghaer Arianrhod y llwyddodd y dewin Gwydion i dwyllo Arianrhod i enwi ei mab yn Lleu Llaw Gyffes a chael arfau iddo, o ganghennau derwen rhwng dau lyn yr achubodd Gwydion Lleu a'i droi yn 么l o rith eryr i fod yn ddyn unwaith eto.

Mae'r dyffryn yn llawn o'r hen hudoliaeth. Cyfareddwyd y teithwyr cynnar gan brydferthwch y dyffryn. Crwydrodd y seintiau yma i ledaenu Cristnogaeth a sefydlu eu heglwysi, Beuno yng Nghlynnog, Rhedyw yn Llanllyfni, Twrog i Landwrog a Gwyndaf i Lanwnda ac o'u cwmpas y tyfodd y pentrefi cyntaf.

Datblygodd nifer o f芒n stadau yn y dyffryn ond y bwysicaf a'r fwyaf o lawer oedd yst芒d Glynllifon, sydd 芒 hanes hir o gyfnod Cilmyn Droed-ddu hyd ddyddiau yr Arglwyddi Newborough.

Daeth cyfnod mawredd a bri y stad i ben ac fe symudodd yr Arglwydd a'i deulu oddi yno ym 1948. Bellach mae Parc Glynllifon yn atyniad pwysig i'r ardalwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac mewn rhan o'r Plas y mae cartref Coleg Meirion -Dwyfor.

Dyfodiad y chwareli

Daeth newid syfrdanol pan ddatblygodd y chwareli llechi o tua 1750 ymlaen ac yn arbennig rhwng 1800 a 1850. Agorwyd nifer o chwareli, yn dyllau ponciog ar y llethrau ac ar lawr y dyffryn gan weddnewid dyffryn amaethyddol, tawel i fod yn ardal ddiwydiannol brysur mewn dim amser.

Tyllau'r Cilgwyn, Penyrorsedd, Dorothea, y Gloddfa Glai, Cors y Bryniau, Moeltryfan a rhyw ugain o rai eraill, yn chwydu eu cyfoeth trwy chwys y chwarelwyr. Heidiodd pobl yma i weithio, codwyd tyddynnod ar y tir comin o fewn tafliad carreg i'r chwareli, ac yna tyfodd y pentrefi fel madarch, treblodd y boblogaeth rhwng 1801 ac 1891 o 4000 i bron 12000 o bobl.

Prif stryd PenygroesBu cloddio am gopr yn Nrws y Coed cyn hyn, ond dyma adeg y diwydiannu go iawn. Daeth i fod yn gymdeithas unigryw ym mhentrefi'r chwarelwyr, yn fwrlwm o gorau, bandiau, eisteddfodau, timau p锚l-droed, capeli a thafarnau, cymdeithasau di-ri yn Nrws-y-coed, Nantlle, Talysarn, Tanrallt, Llanllyfni, Penygroes, y Fron, Carmel, Y Groeslon, Rhostryfan a Rhosgadfan.

Daeth i fod yn ffordd o fyw unigryw y tyddynwr-chwarelwr, yn cyfuno diwydiant trwm ac amaethu o fewn diwrnod gwaith o fore gwyn tan nos. Diwedd y 18fed ganrif oedd penllanw y chwareli, ond parhaodd y llechfaen i roi gwaith i gannoedd dros hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ond yna daeth y trai anorfod. Diweithdra a phobl yn symud o'r ardal i chwilio am waith. Mae'r dyffryn yn parhau i ddioddef oherwydd hyn er bod nifer o fentrau fel Antur Nantlle, Menter Llyfni ac unedau Stad Ddiwydiannol Penygroes yn ceisio rhoi hwb i'r economi.

Magwyd llu o bobl yma a ddaeth i amlygrwydd mewn gwahanol feysydd. Beirdd a llenorion fel Kate Roberts a Dic Tryfan; o Garmel y brodyr, yr ysgolhaig Syr Thomas Parry a Gruffudd y llenor amryddawn; ac un o feddylwyr praffaf Cymru heddiw, Dafydd Glyn Jones; yr annwyl ddramodydd John Gwilym Jones, Morris T Williams a Griffith Davies o'r Groeslon. Yn Nhalysarn ers talwm, R Williams Parry; Idwal Jones, crewr Gari Tryfan a Gwilym R. Jones a lliaws o rai eraill roddodd wasanaeth gwiw i'w cymdeithas a thu hwnt.

Heddiw, mae yma amrywiaeth o gyfleoedd i hamddena. Y llwybrau cyhoeddus a arweiniai o fferm neu dyddyn neu bentref i chwarel, capel, melin, gofaint, stesion neu i'r mynydd erbyn heddiw yn cynnig teithiau difyr i flasu rhamant, golygfeydd a hen hanes y dyffryn, ac fe gewch deithiau mynydd go iawn - yn wir, un o oreuon Cymru dros grib Nantlle, neu i gopaon y Cilgwyn, Moeltryfan neu'r Mynydd Mawr.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.