主播大秀

Hanes Bro Ardudwy

top
Castell Harlech

Hanes Ardudwy a'r cylch yng ngogledd orllewin yr hen sir Feirionnydd. Y Parch Gwilym Humphreys o Lanfair sy'n ein tywys o gastell Harlech draw at gysgod mynyddoedd Eryri.

Gan ddilyn cyngor hen ffarmwr i'w was bach pan ofynnodd hwnnw iddo "Ble ga'i ddechrau hel cerrig", (yr ateb oedd "Dechrau wrth dy draed"). Dechreuaf finnau yn Harlech, lle y'm ganed ac y'm maged, wrth adrodd hanes dalgylch papur bro Llais Ardudwy.

Digwyddodd hynny o fewn tafliad carreg bron i borth yr hen gastell a godwyd yn 1284 gan Edward I, Brenin Lloegr.

Yr adeg honno codwyd cadwyn o gestyll er mwyn amgylchu cadernid Eryri, noddfa y tywysogion Cymreig a'u dilynwyr. Castell Harlech yn ei ddydd oedd y cadarnaf ohonynt a'r olaf i syrthio bob tro.

Ystyr 'Harlech' ydy craig uchel serth (daw'r "ar" o "ard", hen air am "uchel"). Sylw Griff Lloyd, un o gymeriadau Harlech, ar Edward oedd "Ei fod yn sicr o fod yn ddyn craff gan iddo godi'r castell mor agos i'r stesion!"

Owain Glynd诺rTa waeth am hynny, 'Cas a chariad' oedd fy nheimladau tuag ato, gan y golyga ormes a chartref i mi. Diflannodd y 'cas' pan sylweddolais flynyddoedd yn 么l fod Owain Glynd诺r wedi symud ei deulu yma er diogelwch o Sycharth ger Croesoswallt ar y gororau. Pan ddiflannodd Owain, symudwyd ei wraig, ei ferch a'i wyrion a'u cadw yn Nh诺r Llundain, lle y buont farw.

O ben y tyrau gellir gweld Pen Ll欧n hyd at drwyn Cilan, Eryri yn ei gogoniant, ac ar ddiwrnod clir arfordir Penfro a mynyddoedd y Preseli fel ynysoedd yn y m么r. O ben y Moelfre gellir gweld mynyddoedd County Wicklow yn Iwerddon. Nid oedd gan Fatholwch, Brenin y wlad honno, rhyw lawer o ffordd i ddod i Harlech i ofyn i Fendigeidfran am law ei chwaer yn wraig iddo. Yn wir, dywedodd un hen fardd ei fod yn gallu ogleuo ciniawau Iwerddon ar yr awel ambell dro!

Gweledigaethau'r Bardd Cwsg

Wrth edrych tua'r gogledd ar hyd Forfa Harlech gellir gweld bryncyn a fu unwaith yn ynys. Dyma'r Lasynys, cartref Ellis Wynne (1670-1734), rheithor Llanfair a Llanddanwg yn ei dro ac awdur y Gweledigaethau enwog. Adnewyddwyd hen d欧'r Lasynys yn drwyadl yn ddiweddar a'i ddodrefnu'n chwaethus. Gellir galw yno a'i weld, ac y mae'n bosib, trwy drefnu ymlaen llaw, gael rhywun a fedr roi hanes y lle i bob ymwelydd. Pwysig yw darllen rhan o weithiau'r awdur er mwyn profi rhin un o bencampwyr rhyddiaith Cymru. Ellis Wynne a 'sgrifennodd un o'r pethau mwyaf iasoer yn yr iaith pan soniodd ei bod hi'n gynhesach yng nghegin Glyn Cywarch nac ar ben Cadair Idris neu ar elor ym mhorth y fynwent ar noson oer yn y gaeaf.

Ychydig i'r gogledd wedyn saif Bryn Felin, Eisingrug. Yno roedd yr awdures Gwyneth Vaughan yn byw. Yn ei nofel 'O Gors y Bryniau', ceir disgrifiad byw o ardal Llandegwyn a Diwygiad '59. Yr oedd yn nain i Irma Hughes de Jones y Gaiman, golygydd Y Drafod, papur Cymraeg y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Claddwyd Gwyneth Vaughan yn Eglwys Llanfihangel-y-Traethau ar lan afon Dwyryd. Yn y fynwent hefyd mae hen garreg fedd yn dyddio yn 么l i ddyddiau Owain Gwynedd. Dyma le hyfryd gyda mynyddoedd Ardudwy fel "wal ddiwah芒n" rhyngom a'r Traws, a'r m么r a Chricieth yr ochr arall.

Bechgyn o Lydaw a sefydlodd y rhan fwyaf o hen lannau'r arfordir - Bodfan yn Llanaber, Tanwg, Tecwyn a Thwrog. Gan ymsefydlu wrth aberoedd yr afonydd codent gelloedd o wiail i ddechrau, yna, wedi ennill cynulleidfa, godi eglwysi o gerrig gyda waliau yn gylch o'u hamgylch. Daethant yma yn y bumed neu'r chweched ganrif a mawr yw'r ddyled am ddod 芒 Christnogaeth i'r fro mor gynnar.

Traeth LlandanwgRhyw filltir i'r de o Harlech deuir i Landanwg, ac wrth deithio tua'r m么r a cheg afon Artro deuir at Glynnor, hen gartref yr awdures Rhiannon Davies Jones. Cafodd ei haddysg yn lleol yn Llanfor, ac yna yn Ysgol Sir y Bermo. Mawr yw'r ddyled iddi am ei nofelau yn portreadu Oes y Tywysogion. Ar 么l deng mlynedd, a hithau bron yn ddall, deffrodd y cynheddfau creadigol eto a chafwyd dyddiadur dychmygol ganddi, sef un o'r eiddo Elizabeth Prys o'r Gerddi Bluog, merch yng nghyfraith yr archddiacon. Ei deitl yw Cydio Mewn Cwilsyn. Dyma'r peth cyntaf i'r awdures ysgrifennu am ei bro ei hun.

Boddi wedi taith glera

I lawr y ffordd eto, deuwn at hen eglwys Llandanwg. Wrth ei thalcen dwyreiniol y claddwyd Si么n Phylip o Fochras (1543-1620), bardd teulu Fychaniaid Cors y Gedol, awdur tua 200 o gywyddau ac awdur llu o englynion. Bu farw trwy foddi ym Mhwllheli wedi bod ar daith glera yn Arfon. Canodd ei fab Gruffudd farwnad iddo wrth ddwyn ei gorff yn 么l i Fochras - "y bardd trist yn ei gist gau".

Maes gwersyll enfawr ydy Mochras erbyn hyn a phan fo'r tywydd yn braf mae ei safle rhwng Traeth Artro a Sarn Badrig a mynyddoedd Ardudwy yn un dihafal. Bu Sarn Badrig (rhimyn o graig yn ymestyn i'r m么r tua Enlli) yn angau llawer i long hwyliau yn y gorffennol.

Yn gymydog i Fochras ar forfa'r Dyffryn, adeiladwyd maes awyr hir. Bu hwn yn ei dro yn gaffaeliad mawr i'r ardal. Ysywaeth, clywyd yn ddiweddar ei fod i gau ac amddifadu llawer teulu o ffon fara.

Cyn gadael Llandanwg, yn 么l y s么n (er dyddiau Ellis Wynne) roedd yr hen eglwys yn cael ei defnyddio yn orffwysfa cyrff cyn eu cludo i Enlli i'w claddu yno.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.