主播大秀

Llinell amser cestyll Cymru

Cliciwch ar y llinell amser a'i lusgo yn 么l ac ymlaen i ddilyn y brwydro ffyrnig dros reolaeth Cymru drwy gyfrwng hanes y cestyll a gododd tywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr. Cliciwch ar y digwyddiadau i ddysgu mwy.

        Adeiladu Castell Dolbadarn Llywelyn ap Iorwerth - Llywelyn Fawr - yn adeiladu Castell Dolbadarn rywdro cyn 1230 ar ben bryncyn uwchben Llyn Padarn ger Llanberis.
        Cychwyn adeiladu Castell Cricieth Llywelyn ap Iorwerth yn dechrau adeiladu Castell Cricieth yn y 1230au.
        Cipio Carreg Cennen Rhys Fychan, gor-诺yr yr Arglwydd Rhys, yn cipio Castell Carreg Cennen oddi ar y Saeson.
        Cytundeb Trefaldwyn Harri III yn arwyddo'r cytundeb sy'n cydnabod Llywelyn ap Gruffydd (Ein Llyw Olaf) yn Dywysog Cymru.
        Adeiladu Castell Caerffili Bygythiad Llywelyn yn arwain at benderfyniad Gilbert de Clare, Iarll Caerloyw a Hertford, i godi Castell Caerffili.
        Adeiladu Castell Dinas Bran Gruffudd ap Madog II, tywysog Powys Fadog, yn codi castell ar safle hen gaer o Oes yr Haearn ger Llangollen.
        Llywelyn yn ymosod ar Gaerffili Gyda'i bwerau ar eu hanterth mae Llywelyn ap Gruffydd yn ymosod ar Gastell Caerffili yn 1270 ac wedyn yn 1271.
        Rhyfel cyntaf Edward I yn erbyn Llywelyn Edward I yn cychwyn ei ryfel cyntaf yn erbyn Llywelyn ar 么l dychwelyd o'r groesgad yn 1274.
        Y Cymry'n meddiannu Castell Aberystwyth. Cyn i'r gwaith o godi Castell Aberystwyth orffen, mae'r Cymry lleol yn meddiannu castell Edward I ac yn ei ddifrodi. Ond byrhoedlog yw eu llwyddiant.
        Milwyr Edward I yn meddiannu Dolwyddelan Wedi marw Llywelyn yn 1282, mae milwyr Edward yn meddiannu hen gadarnle ei daid, Llywelyn Fawr, yn Nolwyddelan.
        Cychwyn adeiladu Castell Caernarfon Mae Edward I yn dechrau ar y gwaith o godi Castell Caernarfon ychydig fisoedd wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd.
        Cychwyn adeiladu Castell Conwy. Hefyd yn fuan wedi marwolaeth Llywelyn, mae Edward I yn rhoi gorchymyn i godi castell newydd yng Nghonwy.
        Geni Edward II yng Nghaernarfon Geni'r babi a ddeuai yn y pendraw yn Frenin Edward II yng Nghastell Caernarfon ar ganol y gwaith adeiladu yno.
        Madog ap Llywelyn yn ymosod ar Harlech Amddiffynfeydd y castell, a chyflenwadau o Iwerddon, yn llwyddo i gadw gwrthryfelwyr Madog ap Llywelyn allan o Gastell Harlech.
        Cyhoeddi Statud Rhuddlan Edward I yn cyhoeddi ei gynllun ar gyfer Cymru yng Nghastell Rhuddlan.
        Caernarfon yn syrthio i Madog ap Llywelyn Cyn gorffen adeiladu Caermarfon mae'r castell yn syrthio i ddwylo'r Cymry yn ystod gwrthryfel ffyrnig Madog ap Llywelyn 1294-95.
        Gwarchae Madog ap Llywelyn ar Aberystwyth Mae'r milwyr Saesnig yn llwyddo i wrthsefyll gwarchae'r Cymry ar Aberystwyth gyda chymorth cyflenwadau ar longau o'r m么r.
        Castell Conwy dan warchae Mae Conwy dan warchae yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn gyda Edward I ei hun oddi mewn i'r castell.
        Cychwyn adeiladu Castell Biwmares Wedi i Madog ap Llywelyn gipio Castell Caernarfon mae Edward I yn mynd ati i adeiladu pencadlys newydd ym M么n.
        Rhoi'r gorau i waith adeiladu Biwmares Byddai Biwmares wedi bod yn un o gestyll mwyaf trawiadol Ewrop pe bai wedi ei gwblhau ond mae Edward yn symud ei ymdrechion i'r Alban.
        Glynd诺r yn ymosod ar Ruddlan Mae Castell Rhuddlan yn gwrthsefyll ymosodiad cyntaf Owain Glynd诺r yn ystod y gwrthryfel sy'n dechrau yn 1400.
        Milwyr Glynd诺r yn cipio castell Conwy Mae Castell Conwy yn syrthio i ddwylo'r Cymry ar ddechrau gwrthryfel Glynd诺r.
        Glynd诺r yn ymosod ar Gastell Harlech Mae Castell Harlech yn llwyddo i wrthsefyll ymosodiad cyntaf Glynd诺r.
        Gwarchae Glynd诺r ar Fiwmares Mae'n ymddangos i ddilynwyr Glynd诺r gipio Castell Biwmares am gyfnod.
        Cricieth dan warchae gan Owain Glynd诺r Wedi gwarchae hir mae Castell Cricieth wedi ildio i ddwylo dilynwyr Glynd诺r erbyn 1404.
        Glynd诺r yn cipio Castell Harlech Mae Owain Glynd诺r yn llwyddo i gipio'r castell ar ei ail gynnig, a chynnal senedd yn Harlech.
        Milwyr Glynd诺r yn cipio Aberystwyth Ar yr ail gynnig, mae milwyr Owain Glynd诺r yn llwyddo i feddiannu Castell Aberystwyth, ac mae'n ganolfan bwysig iddo am bedair blynedd.
        Ail ymosodiad Glynd诺r ar Ruddlan Mae Castell Rhuddlan yn llwyddo i wrthsefyll ymosodiad arall gan Glynd诺r.
        Glynd诺r yn ildio Castell Harlech Mae'n rhaid i Owain Glynd诺r ildio Castell Harlech i Harri o Drefynwy, sef Tywysog Cymru yn 么l y drefn Seisnig.

        Cestyll

        Castell Dolbadarn

        Oriel Cestyll

        Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

        Hanes Cymru

        Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

        Creu'r genedl

        Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

        Arwisgiad '69

        Arwisgiad '69

        Arwisgiad '69

        Edrych nol ar arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon yn 1969.

        主播大秀 iD

        Llywio drwy鈥檙 主播大秀

        主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

        Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.