主播大秀

Castell Dolwyddelan 漏 www.castlewales.com

Castell Dolwyddelan

11 Chwefror 2009

Saif castell Dolwyddelan mewn man trawiadol uwchben dyffryn Lledr, a'r Wyddfa a'i griw yn gefndir ysblennydd iddo. Mynnai traddodiad mai hwn oedd lle geni Llywelyn Fawr yn 1173, ond cychwyn adeiladu'r castell yn hytrach na chael ei eni ynddo wnaeth Llywelyn.

Mae Dolwyddelan yng nghanol cantref Nantconwy a thad Llywelyn, sef Iorwerth Drwyndwn, yn arglwydd arno. Mae adfeilion castell yn 卯s yn y dyffryn, a elwir Tomen Castell, a oedd o bosib yn lle geni'r tywysog.

Llywelyn, mae'n bur debyg, adeiladodd y t诺r mawr hirsgwar a welir o'r ffordd islaw, a hynny er mwyn gwarchod y hen ffordd dros y bwlch i gantref Ardudwy. Mae amrywiaeth barn ynghylch pwy fu'n gyfrifol am y t诺r arall, gyda rhai ysgolheigion yn ffafrio Llywelyn ap Gruffudd ac eraill o blaid Edward I.

Roedd milwyr Edward wedi meddiannu'r lle erbyn Ionawr 1283, a hwythau'n gwisgo dillad gwyn er mwyn symud trwy'r eira heb fod yn rhy amlwg. Trwsiwyd rywfaint ar y castell gan y Saeson, ond hyd y gwyddys ni welodd unrhyw ymosodiad yng ngwrthryfeloedd Madog ap Llywelyn nag Owain Glynd诺r.

Yn 1488 prynwyd Dolwyddelan gan Maredudd ab Ieuan ap Robert. Roedd yn awyddus i ddychwelyd at ei wreiddiau yn y fro, ond cafodd fod yr ardal yn ddigyfraith; ni allai fynd i'r eglwys newydd a gododd yn Nolwyddelan heb warchodlu.

O dipyn i beth fe ddadfeiliodd y castell, a daeth yn wrthrych artistiaid o Loegr a'r tu hwnt yn ystod y mudiad Rhamantaidd. Erbyn 1848 roedd wedi ei etifeddu gan yr Arglwydd Willoughby de Eresby, ac efe fu'n gyfrifol am adfer t诺r mawr Llywelyn ap Iorwerth i'w gyflwr presennol.


G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.