主播大秀

Statue of Liberty

Y Crynwyr yng Ngogledd America

Gwlad gobaith, nid llawnder

Ers i Christopher Columbus lanio yn yr America yn 1492 a hawlio ei fod wedi 'darganfod' y cyfandir, roedd y Cymry wedi bod yn ffoli ar y chwedl mai Cymro, y tywysog Madog, oedd y cyntaf i hwylio dros yr Iwerydd i'r America mewn gwirionedd, a hynny dros dri chan mlynedd ynghynt, yn 1170.

Daeth y chwedl boblogaidd hon yn ddefnyddiol iawn yn yr 17eg ganrif ac yn ddiweddarach pan aeth bywyd yn annioddefol i nifer o'r Cymry oedd yn cael eu herlid oherwydd eu crefydd ac yn dioddef caledi ariannol a chymdeithasol .

I nifer o fewnfudwyr y 18ed a'r 19eg Ganrif roedd y Byd Newydd yn cwrdd 芒'u gobeithion ac yn well na'u holl ddisgwyliadau. Rhyddid crefyddol, safon bywyd gwell, y cyfle i weithio iddyn nhw'u hunain, i fod yn berchen ar dir a datblygu cymunedau llwyddiannus, yn rhydd oddi wrth hualau'r penarglwyddi ffiwdal a ffiniau dosbarth.

Mae'r caledi mae trigolion y wlad ddiffaith hon yn ei ddioddef oherwydd Ariangarwch Anniwall y Tirfeddianwyr, wedi effeithio ar fy nheimladau i'r fath raddau nes fy mod wedi penderfynu ysgrifennu i Lundain i geisio Gwybodaeth am unrhyw dir heb ei amaethu yn America er mwyn cynnig fy ngwasanaeth i cyd-drefnu Cynllun i symud cynifer o'm cydwladwyr sydd 芒 digon o ysbryd i adael eu tasgfeistri Eifftaidd a mentro arni yr ochr arall i'r Atlantig

William Jones

Er hyn, i drigolion pentref bychan ym Mhowys, Llanbrynmair, nid felly oedd hi.

Er i nifer ohonyn nhw aros yn America, ni wireddwyd eu gweledigaeth o baradwys eidylaidd, ar ffurf tref o'r enw Beulah. Wedi ei lesteirio gan bwysau o'r tu allan megis yr hinsawdd, y lleoliad ac, yn olaf, gwleidyddiaeth, ni ddatblygodd Beulah i fod yn baradwys fel roedden nhw wedi breuddwydio amdano, ac erbyn hyn nid yw'n llawer mwy nag atgof. Ond beth aeth o'i le?

Y Crynwyr

Roedd yr ymfudwyr o Lanbrynmair i gyd yn anghydffurfwyr, nifer ohonyn nhw'n Grynwyr, a benderfynodd bod bywyd yn annioddefol ym Mhrydain yn ystod y 18ed Ganrif. Roedd George Fox, sylfaenydd crefydd y Crynwyr, yn credu bod rhywfaint "o Dduw ym mhob person".

Mae ffydd y Crynwyr wedi ei seilio ar y cynsail y gall bawb gyfathrebu 芒 Duw, heb yr angen am Eglwysi, swyddogion eglwysig na gwasanaethau yn cynnwys sacramentau. Roedd hon yn safbwynt chwyldroadol yn y 17eg Ganrif oherwydd yr adeg honno roedd yr Eglwys yn agos iawn at y frenhiniaeth a gwleidyddiaeth. Roedd yr eglwys sefydledig, yr Eglwys Anglicanaidd, yn barnu bod safbwynt Fox yn ymosodiad ar strwythur cymdeithas ei hun, oedd yn golygu bod nifer o Grynwyr wedi eu herlid a'u carcharu oherwydd eu cred.

Roedd Proclamasiwn 1655 yn eu rhoi yn yr un dosbarth 芒 brygowthwyr fel pobl a arferai 'aflonyddu ar weinidogion mewn modd haerllug ac anghristnogol' ac felly, pan fydden nhw'n ymddwyn fel hyn, gan gynnwys, efallai, gynnal cyfarfod crefyddol yn nh欧 rhywun, fe ystyrid eu bod yn amharu ar yr heddwch ac felly fe fyddai achos yn cael ei ddwyn yn eu herbyn. Yn wir rhwng 1662 a 1670 fe garcharwyd tua 6,000 o Grynwyr, yn bennaf am gynnal cyfarfodydd a g芒i eu gwahardd gan y Ddeddf a nodwyd eisoes. Er hynny fe ffynnodd ei athroniaeth ac erbyn iddo farw ym 1691 roedd dros 500,000 o Grynwyr o gwmpas y wlad.

Engrafiad o gyfarfod Crynwyr
Cerfiad pren o gyfarfod Crynwyr
Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion

I'r Crynwyr yn Llanbrynmair dim ond un o'r nifer o ffactorau a'u gorfodai i roi'r gorau i'w cartrefi oedd erledigaeth grefyddol, gan eu gorfodi i fentro i geisio bywyd newydd filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Dros 100 mlynedd ynghynt, ym 1679, cynhaliwyd achos llys yn y Bala, Gogledd Cymru, a effeithiodd ar nifer fawr o Grynwyr a wrthodai dalu degymau. Ffurf ar drethi oedd y degymau a dalwyd i'r penarglwyddi ffiwdal, yn yr achos hwn, - yr Eglwys Anglicanaidd. Achosodd hyn i nifer symud o Gymru i'r America; er nad oes ffigurau pendant ar gael, mae'n wybyddus bod y rhai a adawodd tua'r adeg yma wedi dechrau'r gwladfeydd ym Mangor, Narbeth, Maesyfed, Berwyn, T欧 Ddewi, Hwlffordd, Bala-Cynwyd a Bryn Mawr, yr enwyd ysgol I芒l ar ei 么l ym Mhennsylvania.

Rhoddodd llwyddiant yr ymfudwyr hyn obaith i drigolion Llanbrynmair a oedd, ym 1795, yn wynebu mwy o drafferthion. Yn economaidd, roedden nhw'n ei chael yn anodd i ymdopi: roedd cyfres o gynaeafau gwael wedi gadael y dref yn brwydro i dyfu digon o gnydau i'w bwyta, roedd y tir yn wael ac roedd y rhenti roedden nhw'n cael eu gorfodi i'w talu yn cael eu hystyried gan nifer, yn enwedig aelodau h欧n cymuned y Crynwyr, yn afresymol. Roedd y sefyllfa roedden nhw'n eu cael eu hunain ynddi, er nad yn unigryw, wedi achosi pryder ymhlith Cymry eraill. Ysgrifennodd William Jones, disgybl Voltaire, a g诺r a addysgodd ei hun, o Langadfan yn y 1790au:

"Mae'r caledi mae trigolion y wlad ddiffaith hon yn ei ddioddef oherwydd Ariangarwch Anniwall y Tirfeddianwyr, wedi effeithio ar fy nheimladau i'r fath raddau nes fy mod wedi penderfynu ysgrifennu i Lundain i geisio Gwybodaeth am unrhyw dir heb ei amaethu yn America er mwyn cynnig fy ngwasanaeth i cyd-drefnu Cynllun i symud cynifer o'm cydwladwyr sydd 芒 digon o ysbryd i adael eu tasgfeistri Eifftaidd a mentro arni yr ochr arall i'r Atlantig"

Er na ddilynodd yr ymfudwyr William Jones fe gawson nhw'u sbarduno gan ei eiriau ac fe benderfynon nhw fentro arni yn America.


Mudo

Renato Carpanini  - llun o Amgueddfa Werin Sain Ffagan

Oriel yr Eidalwyr

Lluniau o arddangosfa Atgofion Eidalwyr yng Nghymru, Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Dysgu

Hen arian

Ar daith

Adnodd Hanes i blant oed cynradd am bobl a ymfudodd i bedwar ban byd.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.