主播大秀

Un o'r ystafelloedd ble roedd Goronwy Owen yn dysgu

Cofio Goronwy Owen

Maen nhw'n dal i gofio Goronwy Owen yn yr Unol Daleithiau - ond nid yn gymaint am ei farddoniaeth ond ei afradlonedd. Grahame Davies sy'n egluro mwy.

Mae 'na dref lle mae bardd dadleuol o Gymro yn cael ei anrhydeddu, lle ceir cofebau iddo, cyhoeddiadau amdano, a lle y cynhelir digwyddiad blynyddol er cof amdano.

Ond nid yng Nghymru mae'r dref hon, ond yn hytrach yn Virginia yn yr Unol Daleithiau. Williamsburg yw'r dref, a Goronwy Owen yw'r bardd, un a fu'n obaith mawr barddoniaeth Gymraeg ei ddydd.

Y dydd hwnnw oedd y ddeunawfed ganrif, pan oedd ysgolheigion a llenorion Cymraeg yn ceisio dod o hyd i r么l i'r iaith mewn byd modern. Roedd yr hen strwythur cymdeithasol o lysoedd a beirdd yr uchelwyr yn dadfeilio, gan adael barddoniaeth Gymraeg heb noddwyr.

Angen arweinydd
Nod unigolion fel teulu'r Morrisiaid a chymdeithasau fel y Cymmrodorion oedd profi y gall barddoniaeth Gymraeg oroesi yn y byd modern, gan ddal ei thir yn erbyn y Saesneg, y Ffrangeg a'r Almaeneg.

Roedd angen arweinydd symbolaidd arnyn nhw, ac fe gawsant eu harwr pan ddaeth bardd ifanc disglair o Ynys M么n at eu sylw.

Ganed Goronwy Owen i rieni gweddol dlawd ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yn 1722, a thrwy gyfuniad o'i dalent ei hun a chymorth y teulu Morris, ysgolheigion a noddwyr ll锚n lleol, fe ddaeth yn hyddysg yn y clasuron ac yn feistr ar y mesurau caeth Cymraeg.

Dawn, dysg a dyfalbarhad
Ond y byd modern oedd hwn; doedd uchelwyr ddim yn cadw beirdd Cymraeg i'w moli bellach. Roedd Goronwy angen bywoliaeth. Ble gwell nag Eglwys Loegr a gynigiai incwm rheolaidd, statws cymdeithasol a digon o amser i sgwennu?

Fe ordeiniwyd Goronwy yn offeiriad.

Roedd ganddo ddawn, dysg a dyfalbarhad. Ac roedd ganddo gefnogaeth ffrindiau pwerus. Ond, yn anffodus, roedd ganddo hefyd natur gwerylgar, hoffter o'r botel ac arfer o ddenu anffawd.

Methodd 芒 chael plwyf ar ei ynys enedigol ac, ar 么l gwasanaethu fel curad mewn plwyfi yn Lloegr, fe benderfynodd fentro i'r trefedigaethau. Hwyliodd yn 1757 gyda'i wraig a'u tri bachgen i Virginia, lle roedd wedi cael cynnig swydd yng Ngholeg William a Mary, yr ail goleg hynaf yng ngogledd America.

Ond daeth anlwc i'w ganlyn. Bu farw ei wraig ac un o'i blant ar y fordaith, marwodd bachgen arall yn fuan ar 么l iddo lanio, ac wedyn fe farwodd ei ail wraig ryw naw mis ar 么l iddo ailbriodi.

Dadleuol fu ei yrfa yn y coleg hefyd. Er gwaetha'i barchus, arswydus swydd fel offeiriad, a'i safle fel darlithiwr, fe gymerodd ran mewn terfysg rhwng bechgyn y coleg a bechgyn y dref, ac yn 1760 fe adawyd iddo adael y coleg a chael bywoliaeth plwyf gwledig yn Brunswick County.

Priodi am y trydydd tro
Yno, fe briododd am y trydydd tro, ac fe ymddengys iddo ganfod mesur o sefydlogrwydd, gan gyfuno ei waith fel offeiriad gyda'i ddyletswyddau fel tyfwr tybaco ac yn berchennog ar bedwar o gaethweision. Fe fu farw yn 1769 yn 46 oed.

Ond roedd ei farddoniaeth wedi aros ar 么l yng Nghymru. Dim ond un gerdd a ysgrifennwyd ganddo tra'r oedd yn America, marwnad ddirdynnol i'w noddwr, Lewis Morris, lle mae ei hiraeth am F么n yn amlwg.

Cofio ei fywyd afradlon
Yn Virginia heddiw, fe gofir Goronwy yn gymaint am ei fywyd afradlon ag am ei barddoniaeth.

Yn Brunswick County, caiff pererinion llenyddol ymweld 芒'i fedd, a gweld cofeb iddo a godwyd gan Seiri Rhyddion America. Ceir hyd yn oed ymweld 芒'r ty lle y treuliodd ei flynyddoedd olaf. Mae'r safleoedd wedi eu marcio ar fapiau twristiaid y sir.

Yn y llyfrgell ar gampws coediog Coleg William a Mary ceir coflech i'r bardd, ac fe gedwir yr ystafell lle y darlithiodd y Monwysyn i'w ddisgyblion yn union fel yr oedd yn y 18fed ganrif.

I'r ystafell hon y deuthum i roi darlith Wyl Ddewi flynyddol y gymdeithas Gymreig leol crynodeb o hanes barddoniaeth Gymraeg, gan gynnwys gwaith Goronwy ei hun, wrth gwrs.

Yn y cyntedd tu allan ceir coflechi yn coffau myfyrwyr o'r coleg a aeth i frwydro yn rhyfel annibyniaeth America, saith mlynedd yn unig wedi marwolaeth Goronwy.

Ceir coflech hefyd i fyfyrwyr a staff a frwydrodd dros y Confederacy yn rhyfel cartref America, ryw ganrif yn ddiweddarach. Ceir nifer o enwau Cymreig ar y gofeb.

Disgynydd uniongyrchol
Un enw Cymreig a safodd allan ymysg y Cymry alltud a'r Americanwyr yn y gynulleidfa ar gyfer y ddarlith oedd Owen. Mae Mr David Owen yn ddisgynydd uniongyrchol i Goronwy drwy'r unig un o feibion y bardd i dyfu'n oedolyn yn America.

Mae wedi ymweld 芒 Chymru wyth o weithiau, gan gynnwys ymweliad 芒'r bwthyn yr honnir iddo fod yn gartref i'w gyndaid enwog. Doedd dim ots ganddo fod fy narlith wedi crybwyll enw Goronwy fel llymeitiwr.

Wedi'r cyfan, ei gymeriad lliwgar, yn gymaint 芒'i farddoniaeth, sy'n golygu bod ei enw yn dal yn chwedl yn Virginia dros ddau gan mlynedd ers ei farwolaeth a thros dair mil o filltiroedd i ffwrdd o'r ynys y bu arno gymaint o hiraeth amdani.

Gan Grahame Davies.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.