主播大秀

Frank Lloyd Wright - diolch i Taliesin Preservation am y llun

Frank Lloyd Wright

Robert Humphries yn s么n am un o enwogion teulu ei wraig - Frank Lloyd Wright.

Dim ond tair milltir o fy nghartref yn Spring Green, Wisconsin, y mae cymuned fechan o bobl sy'n cadw cymynrodd greadigol Frank Lloyd Wright yn fyw.

Aelodau Cymrodoriaeth Taliesin (Taliesin Fellowship) ydyn nhw ac yn dal i siarad yn barchus am y meistr, eu hannwyl "Mr. Wright" - y pensaer o dras Gymreig a drawsnewidiodd bensaern茂aeth Americanaidd yr ugeinfed ganrif.

Mae'r Gymrodoriaeth yn byw a gweithio ar yst芒d Taliesin lle mae t欧 Wright, o'r un enw, wedi sefyll ar dalcen bryn er 1911, yn edrych dros ddyffryn Afon Wisconsin a'r cwm lle sefydlodd ei hynafiaid Cymreig eu tyddynnod yn y 1860au.

Mae Cymrodoriaeth ac Ysgol Pensaern茂aeth Frank Lloyd Wright yn defnyddio eraill o greadigaethau Wright sy'n dal ar yr yst芒d hefyd: Hillside 主播大秀 School a adeiladwyd yn 1902 yn ysgol breswyl a sefydlwyd gan ei fodrybau, Jennie a Nell Lloyd-Jones; a Tan-y-Deri, bwthyn a gynlluniodd Wright yn anrheg i'w chwaer yn 1907.

Uwchben yr hen ysgol, mae melin wynt Romeo a Juliet a adeiladwyd yn 1897 i bwmpio d诺r i'r ysgol, yn dal i droi yn yr awel, er nad yw'n weithredol heddiw. Midway Farm, ysgubor a ddatblygodd Wright a'r Gymrodoriaeth rhwng y 1920au a'r 40au yn nes at ochr y bryn nesaf.

Mae pob un o'r adeiladau'n ddymunol i'r llygad gyda'r gweunydd, caeau a gerddi wedi eu cynllunio i greu rhyw fath o dirlun hudol ac ysbrydoledig.

Arwyddion o Gymreictod

Fe welwch arwyddion o Gymreictod ar yr yst芒d. Olion o arysgrifen uwchben lle t芒n yn theatr yr ysgol, sy'n dweud, yn y Gymraeg, "Gosod dy galon ar addysg."

Ac yn y neuadd mae nod cyfrin yderwyddon yn cynrychioli'r arwyddair Cymraeg, "Y Gwir Yn Erbyn Y Byd."

Daeth yr hynafiaid Lloyd-Jones 芒'r arwyddair o Gymru gyda'r geiriau'n gwbl briodol ar gyfer Wright ac yntau'n ddyn oedd gymaint o flaen ei amser.

Dal i'w gofio

Mae rhai sy'n dal i gofio Wright yn dda iawn - prentisiaid a fu wrth draed y meistr ac yn gyfrifol, efo Wright, am rai o'i brosiectau byd-enwog fel t欧 Fallingwater ym Mhensylfania ac Amgueddfa Guggenheim yn Efrog Newydd.

Erbyn heddiw mae aelodau ieuangach - sy'n brentisiaid i'r prentisiaid cyntaf.

Fel y prentisiaid gwreiddiol maent hwythau hefyd yn treulio hanner y flwyddyn yma yn Wisconsin, ac yn yr hydref yn mynd i ail gartre'r Gymrodoriaeth yn Taliesin West yn Arizona er mwyn osgoi'r gaeafau caled.

Bywyd cynnar

Ond, sut un oedd "Mr.Wright"? Rhamanteiddiodd Wright ei wreiddiau Cymreig gan ystyried ei hun yn etifedd traddodiadau barddonol ei hynafiaid.

Dyna un rheswm pam y rhoddodd enw'r bardd Taliesin ar ei gartref ac nid yw'n syndod iddo ddod yn ffigwr braidd yn chwedlonol ei hun.

Mae llawer o bobl leol yn dal i gofio'r dyn ecsentrig yn gwisgo het cantel llydan, mantell hen ffasiwn a chrafat llifeiriol.

Maen nhw'n dal i siarad am y tro y gorchmynnodd ei brentisiaid i beintio'u ceir yn goch ac amdano'n gwahardd buchod du a gwyn ar yst芒d Taliesin. Yn 么l Wright, roedd yn rhaid i bopeth blesio'r llygad.

Ganwyd Frank Lloyd Wright yn 1867 yn Richland Center, Wisconsin, yn fab i Anna Lloyd-Jones, Cymraes a ymfudodd i'r America efo'i rhieni o Rydowen ger Llandysul a chododd y teulu o Undodiaid dyddyn ger Spring Green, Wisconsin yn y 1860au.

Cyfreithiwr, gweinidog ac athro cerddoriaeth oedd ei dad, William Cary Wright a'r chwedl yw i Anna grogi lluniau hen eglwysi cadeiriol canoloesol uwchben crud ei mab i'w annog i ddod yn bensaer.

Dylanwad mawr

Treuliodd Wright hafau ei ieuenctid yn gweithio ar ffermydd ei ewythredd a chafodd y profiad hwn, yn ogystal ag agwedd yr Undodiaid tuag at natur ddylanwad mawr ar athroniaeth a chelfyddyd Wright gydol ei oes.

Dechreuodd gyrfa bensaern茂ol Wright pan yr oedd yn 18 oed trwy gydweithio ar gapel ei ewyrth Jenkin Lloyd Jones gyda Joseph Lyman Silsbee, pensaer o Chicago.

Mae'r capel hwnnw yn dal i ar ei draed ar waelod "Cwm Jones," yn wynebu Taliesin. Wedi ei farw, yn y fynwent honno y claddwyd Wright.

Erbyn 1887 yr oedd Wright wedi dechrau gweithio yn ninas Chicago, yn brentis i un o benseiri enwocaf y cyfnod, Louis Henry Sullivan.

Ymhen chwe blynedd sefydlodd ei fusnes ei hun a chartref yn Oak Park yn rhan gyfoethog y ddinas efo'i briod, Catherine Tobin.

Cawsant chwech o blant: Frank Jr, John, Catherine, David, Frances a Robert Llewellyn gyda John a Frank Jr yn dod yn benseiri.

Tai'r paith

Ddechrau'r ugeinfed ganrif daeth Wright yn enwog am dai a gynlluniodd yn "arddull y paith (Prairie)" ac y mae cannoedd ohonyn nhw a gynlluniwyd gan Wright i adlewyrchu tir gwastad y canol-gorllewinol - y mid west yn dal mewn bodolaeth - a rhai ohonyn nhw yn agored i'r cyhoedd.

Yn 么l Wright, roedd angen trawsnewid pensaern茂aeth America. Galwodd am beidio ag efelychu adeiladau clasurol neu Ewropeaidd ond, yn hytrach, greu arddull newydd ac Americanaidd yn adlewyrchu tirwedd a natur y wlad.

Galwodd Wright ei athroniaeth e'n "bensaern茂aeth organig" gan ddweud fod angen i benseiri ddefnyddio defnyddiau naturiol a brodorol ac ymgorffori'r adeilad o fewn ei safle.

Sgandal

Er gwaetha'r llwyddiannau, nid oedd popeth yn f锚l i gyd ym mywyd Wright.

Yn 1909 dechreuodd perthynas rhyngddo 芒 Mamah Borthwick Cheney, gwraig un o'i gyflogwyr.

Gwahanodd Wright a'i wraig ac aeth gyda Mamah i Ewrop er mwyn dianc rhag anghymeradwyaeth ei gymdogion a threuliodd y ddau flwyddyn yno yn teithio'r Cyfandir cyn oedi yn yr Eidal.

Ar 么l dychwelyd i'r Unol Daleithiau yn 1911 daeth Wright a'i feistres yn 么l i Wisconsin ac i gartref newydd ymhlith ffermydd ei ewythredd.

Ymhlith hoff lyfrau Wright ar y pryd roedd The Masque of Taliesin, addasiad barddonol o chwedlau'r Brenin Arthur gan yr Americanwr Richard Hovey a hynny'n egluro pam y dewisodd yr enw Taliesin ar ei d欧. Wrth gwrs roedd awydd arno hefyd i anrhydeddu ei wreiddiau Cymreig.

Llosgi a lladd

Ond chwalwyd y tawelwch yn 1914. Ar ddiwrnod braf ym mis Awst, rhoddodd gwas Daliesin ar d芒n a llofruddio Mamah Cheney a'i phlant a gweithwyr eraill Wright efo bwyall. Dim ond dau ddyn a ddihangodd.

Doedd Wright ei hun ddim yno ar y pryd ond yn gweithio yn Chicago pan dderbyniodd y newyddion dychrynllyd o Spring Green.

Mae cymhelliad y llofrudd yn parhau yn ddirgelwch ond gwenwynodd ei hun, colli ei lais a marw cyn i'r awdurdodau gael cyfle i'w holi.

Er i'r digwyddiad daflu cysgod hir dros fywyd a gwaith Frank Lloyd Wright, penderfynodd ailgodi Taliesin ar yr un safle.

Derbyniodd gomisiwn newydd hefyd gan lywodraeth Siapan i gynllunio gwesty moethus yng nghanol Tokyo a threuliodd bron i ddeng mlynedd yn y wlad honno yn gweithio ar y prosiect gan greu y Gwesty Ymherodrol a safodd yno tan 1968.

Enwogrwydd byd-eang

Yn 1924, cwrddodd Wright y ferch a ddaeth yn wraig iddo am weddill ei oes, Olga Lazovich Hinzenberg, neu Olgivanna, yn wreiddiol o Fontenegro.

Ar 么l iddyn nhw briodi yn 1928 penderfynodd y ddau sefydlu ail gartref, Taliesin West, yn anialwch Arizona a ganwyd merch, Iovanna, iddynt.

Daeth Cymrodoriaeth Taliesin i fodolaeth yn 1932 pan wahoddodd Wright a'i wraig benseiri ifainc i Daliesin i ddysgu trwy weithio dan ofal y meistr ei hun.

Dan ei arweinyddiaeth, aeth y prentisiaid ymlaen i weithio ar rai o'i gynlluniau nodedig fel pencadlys cwmni Johnson Wax yn Racine, Wisconsin (1937); T欧 Fallingwater yng nghoedwig Pensylfania (1939), Synagog Beth Sholom ger Philadelphia (1954), Twr Price yn Bartlesville, Oklahoma (1956) ac Amgueddfa Guggenheim yn ninas Efrog Newydd (1961), ddwy flynedd wedi marwolaeth Wright.

Mae Fallingwater, sy'n sefyll ar raeadr, yn un o dai enwocaf y byd ac yn fuddugoliaeth bensaern茂ol i Wright, yn dangos y meistr ar ei orau yn greadigol.

Ond er ei fod yn ei 60au, nid oedd yn barod i roi'r bensil i lawr. Wedi'r Ail Ryfel Byd, cynlluniodd gannoedd o dai ac adeiladau nad oes lle yma i s么n amdanynt.

Gweithiodd law yn llaw 芒'r Gymrodoriaeth i'w hadeiladu gan ennill enwogrwydd drwy'r byd a chael ei holi ar deledu a chyhoeddi dwsinau o lyfrau ac erthyglau.

Ymweld 芒 Chymru

Yn hwyr yn ei fywyd, yn y 1950au, ymwelodd ef 芒'i wraig 芒 Chymru er mwyn cael gweld gwlad ei hynafiaid.

Yn ystod y daith ymwelodd 芒'r pensaer Cymreig Clough Williams-Ellis ac mae lluniau'n dangos y ddau bensaer ecsentrig yn eistedd ger ffynnon yng nghanol Portmeirion.

Pan fu farw Frank Lloyd Wright bron yn 92 oed yn 1959 roedd ei ddylanwad mawr ar bensaern茂aeth Americanaidd yn amlwg er bod y rhan fwyaf o'i syniadau yn cael eu haddasu yn hytrach na'u cop茂o, gan benseiri eraill.

Gallwch weld ei ddylanwad ar bensaern茂aeth ym mhob man yn y byd. Mae pob pensaer yn astudio'i waith a'i athroniaeth.

Wrth gwrs, mae'r byd wedi newid a rhai o syniadau Wright heb fod mor ymarferol erbyn heddiw.

Ond mae'r athroniaeth o "bensaern茂aeth organig" yn dal i ysbrydoli miloedd o benseiri ac eraill sy'n chwilio am ffyrdd o ymgorffori eu cartrefi mewn i'r byd naturiol.

Disgrifiodd Wright ei d欧, Taliesin, fel ei "hunanfywgraffiad mewn maen a phren."

I ddweud y gwir, mae Taliesin yn cynrychioli bywyd a gwaith dyn a adawodd waddol o greadigaethau prydferth ac sydd wedi trawsnewid pensaern茂aeth y byd i gyd.

Robert Humphries


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.