主播大秀

Non Evans: Athletwraig a Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol

21 Hydref 2009

Pwnc arbenigol: bywyd a gyrfa Shane Williams

Oeddech chi'n hapus efo'ch perfformiad?

Roeddwn yn hapus gyda fy mherfformiad ac yn enwedig gyda fy mhwnc arbenigol. Er mod i'n teimlo mod i wedi gwneud yn dda ar fy newis bwnc , roeddwn yn gwybod y byddwn yn gorfod gwneud yr un mor dda ar y wybodaeth gyffredinol.

Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?

Roeddwn i mor nerfus! Gan fod cynulleidfa teledu roeddwn ofn gwneud ff诺l o fy hun!

Pam ddewisoch chi eich pwnc arbenigol?

Dewisais fy mhwnc oherwydd fy mod yn chwarae rygbi dros Gymru ac roeddwn yn teimlo y gallwn uniaethu gyda Shane Williams gan fod steil chwarae'r ddau ohonom yn debyg. Hefyd fi yw prif sgoriwr ceisiau rygbi merched, gyda 62 cais, a fe yw prif sgoriwr y dynion.

Oedd y profiad yn y gadair ddu beth roeddech chi'n ei ddisgwyl?

Roeddwn mor nerfus ag roeddwn yn ei ddisgwyl!

A oedd cystadleuaeth frwd rhwng yr enwogion?

Na, roedd pawb yn eitha nerfus ac yn hybu ei gilydd ymlaen.

Sut mae eich gwybodaeth gyffredinol?

Mae fy ngwybodaeth gyffredinol yn ofnadwy! Roeddwn i yn teimlo fod y cwestiynau yn annheg ychydig ac yn ffafrio'r byd teledu.

Felly, pwy adeiladodd Gastell Caernarfon?

Dim syniad! Ond atebwch chi hon: ble mae cwpan y byd rygbi merched yn cael ei gynnal nesaf? Ateb - Llundain. [Dyna'n rhoi ni yn ein lle! Os yw o unrhyw ddiddordeb, Edward 1af adeiladodd y castell].

Mwy am Non Evans ...

Mae Non Evans yn un o chwaraewyr rygbi merched amlycaf a mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae wedi ennill 79 o gapiau dros ei gwlad fel cefnwr/asgellwr a sgorio'r nifer uchaf o bwyntiau dros Gymru mewn rygbi merched rhyngwladol.

Wedi chwarae i d卯m rygbi merched Bryste am naw mlynedd gadawodd ar ddechrau 2009 i chwarae yn agosaf at adref i d卯m Harlequins Caerdydd. Dechreuodd chwarae rygbi yn 1994 i d卯m Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd gan ennill ei chap cyntaf yn erbyn yr Alban yn 1996.

Yn ogystal 芒 llwyddo ar y maes rygbi mae Non wedi cynrychioli Cymru a Phrydain mewn jiwdo a chodi pwysau gan ennill dwy fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad mewn jiwdo. Yn 2002, hi oedd y ferch gyntaf i gystadlu mewn dwy gamp wahanol yn y Gemau. Mae wedi bod yn bencampwr Cymru a Phrydain mewn codi pwysau p诺er (powerlifting).

Daw'n wreiddiol o Bontarddulais ger Llanelli ond mae bellach yn byw ym Mhentyrch ger Caerdydd. Wrth ei gwaith bob dydd mae hi'n arbenigwr ym maes imiwnedd sy'n gwerthu cyffuriau i gwmni fferyllol.


Mastermind Plant

Joseff gyda thlws 2009

C'mon Midffild!

Joseff yn sgorio'r marciau uchaf i ennill tlws 2009.

Lluniau

Huw Stephens yn adolygu

Tu 么l i'r llen

Sut mae'r s锚r yn mynd ati i adolygu? Cip ar eu paratoadau munud olaf.

Gwyliwch Mastermind Cymru a rhaglenni eraill 主播大秀 Cymru ar iPlayer.

Y Cyflwynydd

Betsan Powys

Betsan Powys

Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.