主播大秀

Pethau Rhyfedd Eraill: Cyflwyniad

Llygaid llewpard

Beth arall sy'n rhyfedd?

Nid ysbrydion ac UFOs yw'r unig bethau rhyfedd yn y byd - mae'r ieti, Triongl Bermuda, neu Anghenfil y Loch Ness yn rai enghreifftiau amlwg o bethau anesboniadwy enwog, ond beth am y pethau rhyfedd eraill yma sydd i'w cael yng Nghymru hefyd?

Er nad oes cymaint o s么n wedi bod amdano yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai pobl dal yn grediniol fod 'Bwystfil y Bont' yn dal i grwydro caeau Sir Ceredigion, gyda nifer o lygaid-dystion yn honni iddyn nhw weld y gath ddu, fawr fin nos.

Mae'r heddlu yn y sir wedi bod yn derbyn galwadau am anifail o'r fath ers dechrau'r 1980au, gyda'r llygaid-dystion yn ei disgrifio i fod yn anifail tebyg i biwma, panther neu lewpard - ac mae nifer o anifeiliaid fferm yr ardal wedi cael eu llad yn y cyfnod yna, gyda olion grafangau neu ewinedd miniog i'w gweld ar eu cyrff.

Hanes Cathod Gwyllt ar safle Natur 主播大秀 Lleol

Yn y gogledd, mae s么n am anghenfil sy'n byw yn nyfnderoedd Llyn Tegid, ger y Bala - anghenfil tebyg i'r un a geir yn llyn Loch Ness yn yr Alban, a elwid yn Tegi. Er fod rhai pobl yn eithaf amheus o'r chwedl yma, ac yn ei weld fel dim mwy na ymgais i ddenu twristiaid; mae rhai drigolion ardal y Bala yn grediniol fod rhywbeth go ryfedd yn byw yn y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru.

Dywed un person iddo weld creadur oedd oleiaf wyth troedfedd o hyd, un arall iddi weld rhywbeth tebyg i ddolffin yn neidio. Roedd rhai gwyddonwyr o Siapan yn gweld yr honiadau yma yn gwbwl gredadwy, ac aethant mor bell a phlymio i mewn i ddyfnderoedd y llyn mewn llong-danfor i geisio cael hyd i'r 'anghenfil' yma - ond ddaethpwyd o hyd i ddim.

Hanes 'Bwystfil Bala' ar safle 主播大秀 Lleol

Yn yr adran yma, cewch weld a chlywed clipiau o'r archif o nifer o wahanol fathau o bethau rhyfedd eraill yng Nghymru a thu hwnt.


Hanes

Croes Geltaidd

Hanes

Dilynwch hanes Cymru o'r Celtiaid, i'r Canol Oesoedd, hyd y cyfnod modern.

主播大秀 Lleol

Cymru o'r Gofod

主播大秀 Lleol

Oes ysbryd neu fwgan yn eich ardal chi, neu ydi pobl y gofod wedi ymweld a'r dref?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.