主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Congo - amser deffro
Gwion Lewis, arbenigwr ar faterion rhyngwladol, yn trafod y datblygiadau diweddaraf yn Y Congo

Pwt o newyddion i chi: mae rhyfel mwyaf gwaedlyd a brawychus y byd yn dwysáu.
Mae dros bedair miliwn wedi eu lladd, a'r nifer hwnnw'n cynyddu'n gynt nag erioed o'r blaen.

Yng nghanol y cyfan, mae un o wledydd mwyaf y byd yn gwbl ddi-lywodraeth, a sefydlogrwydd cyfandir cyfan yn y fantol.

Glywsoch chi ddim?
Peidiwch â phoeni: 'doedd yna'r un gair am hyn yn y papurau yng Nghymru.

CongoPriodas Charles a Camilla, angladd y Pab a ffrwythlondeb Britney Spears sydd wedi mynd â bryd ein newyddiadurwyr yr Ebrill hwn, nid stori arall am ba mor ofnadwy yw hi yn Affrica.

Ond nid 'stori arall' yw hon, pa ffordd bynnag yr edrychwch arni.

"Byth eto!"
Dyna oedd addewid arweinwyr y Gorllewin pan ddaeth yr hil-laddiad yn Rwanda i ben ddiwedd y Naw Degau.
Heddiw, geiriau gweigion iawn yw'r rheiny dros y ffin yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Anhrefn
Yn y wlad enfawr hon - cymaint â holl wledydd Gorllewin Ewrop gyda'i gilydd - mae yna anhrefn llwyr.

Yng ngogledd-ddwyrain y Congo yn unig, mae o leiaf saith o arglwyddi rhyfel a'u byddinoedd yn brwydro i geisio rheoli'r ardal.

Mae llawer o'r milwyr yn blant, canibaliaeth yn rhemp, miloedd yn cael eu claddu'n fyw, a mwy fyth o ferched yn cael eu treisio yn feunyddiol.

Newyn a salwch sy'n lladd y mwyafrif wrth i'r ymladd orfodi miliynau i ffoi o'u tai i guddio yn y jyngl.

I'r rheiny sy'n mentro adref, prin yw'r tai hynny sy'n dal i sefyll: mae'n bolisi gan y byddinoedd i losgi pentrefi cyfain yn ulw, yn aml fin nos heb ddeffro'r trigolion yn gyntaf.

Beth sydd wrth wraidd yr hunllef hwn?
Yr ateb hawdd yw 'bwyd'.

Yma yn y Trydydd Byd, gellid dadlau fod ennill cymaint o dir â phosibl i dyfu cnydau yn angenrheidiol i ddyfodol y llwyth.

Ond i gael ateb llawnach, rhaid edrych yn fwy manwl ar y berthynas rhwng y Congo a'i chymydog, Rwanda.

Rwanda a'r Congo
Am 30 mlynedd, cafodd y Congo (neu Zaire fel y'i gelwid bryd hynny) ei rhedeg gan yr unben creulon, Mobutu Sese Seko.

Mobutu Sese Seko - mewn gwisg o groen llewpard Ddeng mlynedd yn ôl, dechreuodd Mobutu golli ei afael ar y Congo pan ddechreuodd y mwyafrif Hwtŵaidd yn Rwanda lofruddio'r lleiafrif Twtsïaidd.

Wrth i'r Twtsïaid gryfhau tuag at ddiwedd yr hil-laddiad, penderfynodd rhai o'r milwyr Hwtŵaidd ddianc dros y ffin i'r Congo, lle yr oedd Mobutu yn barod i roi lloches iddyn nhw.

Ers hynny, mae Rwanda yn poeni fod yr Hwtwiaid alltud yn bwriadu ymosod arni o'r Congo.

Laurent Kabila Yn 1997, gyda chydweithrediad Uganda, cefnogodd Rwanda ymdrech gŵr o'r enw Laurent Kabila i ddisodli Mobutu, gan gredu y byddai'n gorfodi'r Hwtwiaid yn y wlad i ddychwelyd adref.

Ond o fewn blwyddyn iddo ddod yn arweinydd ar y Congo, newidiodd Kabila ei feddwl a phenderfynu nad oedd am syrthio'n drwm ar yr Hwtwiaid wedi'r cyfan.

Newid ochr
Gorfodwyd Rwanda ac Uganda i newid ochr a chefnogi'r milwyr oedd yn ceisio disodli Kabila. Ofer fu eu hymdrechion. Erbyn hyn, 'roedd milwyr Angola, Simbabwe, a Namibia yn amddiffyn Kabila - datblygiad a ddisgrifir gan rai fel cychwyn 'Rhyfel Byd Affrica'.

Am bedair blynedd, bu ymladd di-dor rhwng y ddwy ochr.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, nid yr Hwtwiaid alltud oedd yn bennaf gyfrifol dros ymyrraeth Rwanda, Simbabwe ac Uganda â'r Congo ond, yn hytrach, adnoddau naturiol cyfoethog y wlad, yn arbennig ei diemyntau.

Ers blynyddoedd, mae tystiolaeth fod mwynau drudfawr fel casiterit yn cael eu cludo'n anghyfreithlon o'r Congo i brifddinas Rwanda, Kigali.

Cytundeb heddwch
Yn 2002, daeth blinder â'r rhyfel i ben am gyfnod. Sefydlwyd llywodraeth newydd yn y Congo, a'r grym yn cael ei rannu rhwng sawl mudiad gwleidyddol.

Lle i ddathluBu pethau'n weddol sefydlog tan fis Mehefin y llynedd pan gipwyd tref Bukavu gan wrthryfelwyr gyda chefnogaeth Rwanda. Honnodd y gwrthryfelwyr fod y Twtsïaid lleol yn cael eu llofruddio, ond hyd heddiw, nid oes tystiolaeth o hynny.

Mae'r gwrthdaro yn y rhanbarth hwn yn parhau, ac yn prysur ledaenu i ardaloedd cyfagos.

Yn ôl llywodraeth y Congo, mae milwyr swyddogol Rwanda wedi croesi'r ffin ac yn ymosod ar y fyddin frodorol. Mae Rwanda yn gwadu hyn, er bod cryn dystiolaeth fod mwyafrif y 'gwrthryfelwyr' yn siarad ieithoedd nad ydynt yn gynhenid i'r Congo o gwbl.

Eironi
Mae'r adroddiadau diweddaraf o'r Congo, felly, yn ein gorfodi i wynebu eironi digon hyll: fod llywodraeth y bobl ddioddefodd fwyaf yn yr hil-laddiad yn Rwanda bellach yn cyfrannu'n helaeth at ddioddefaint gwaeth fyth yn y wlad sydd drws nesaf iddi.

Cewch drafferth dod o hyd i unrhyw wleidydd sy'n mentro dweud hyn. Mae Hotel Rwanda yn dal i werthu popgorn ledled y byd, ac yn tynnu sylw mwy o bobl nag erioed o'r blaen at sefyllfa druenus y Twtsïaid ddiwedd y Naw Degau.

Mae angen cryn naid yn seicolegol, felly, i feddwl y gallai rhai o'r Twtsïaid hynny fod yn cyflawni erchyllterau eu hunain.

Sut ddyfodol?Ond dyma naid sy'n angenrheidiol os ydym am wynebu'r hyn sy'n digwydd yn y Congo heddiw.

Pan oedd hil-laddiad Rwanda yn ei anterth, cynigwyd sawl esgus dros fethiant y byd datblygedig i fynd i'r afael â'r anfadwaith.

Yn eu plith yr oedd ofn, difaterwch ac anwybodaeth.

Yn achos y Congo, maddeuwch i mi am eich hamddifadu chi o'r olaf o'r rhain.

Dolennau








cysylltiadau






affrica

> De Affrica
> Kenya
> Ethiopia
> Tanzania
> Sudan

Profiad newydd - enw newydd

Rwanda

Rwanda - cwestiwn ac ateb

Congo - amser deffro

Cyfaredd yr Aifft



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy