主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Profiad newydd - enw newydd
Meleri Siôn yn sgrifennu am ei hymweliad â Malubalube yn Lesotho

Y Cefndir
Diwrnodau cyn fy mhen-blwydd yn 17 gofynnodd fy nhad os oeddwn i eisiau mynd da fe i Malubalube yn Lesotho - gwlad annibynnol yng nghanol De Affrica - i ymweld â Me Mathabelo a'i theulu.

Fel y gallwch ddychmygu roeddwn yn teimlo'n eithaf nerfus ac ansicr ond roedd y ffaith fy mod yn mynd i weld Me Mathabelo a Me Lonea yn eu gwlad a'u pentref eu hunain yn syniad arbennig a chyn bo hir roedd y cyffro wedi cymryd lle'r ansicrwydd.

Prifathrawes Ysgol Gynradd Malubalube yw Me Mathabelo a chan fod fy nhad yn brifathro ysgol gymunedol Trewen cafodd e'r cyfle i sefydlu dolen gyswllt gyda'r ysgol hon ym mynydd-dir Lesotho.

Ers hynny ymwelodd Me Mathabelo â ni ddwywaith a'r ail dro daeth Me Lonea sy'n athrawes ifanc hefyd.

Dolen Cymru yw'r sefydliad sy'n trefnu'r manylion holl bwysig ynglŷn â chyfnewid athrawon Cymru a Lesotho.

Cefais i'r cyfle i fynd ar y daith oherwydd imi ddod i adnabod Me Mathabelo yn dda iawn ac erbyn hyn dwi'n rhan o'i theulu Basotho.

Rheswm arall yw'r ffaith fy mod wedi gwneud llawer o waith cyfryngol ar gyfer y prosiectau sydd yn ymwneud â'r cysylltiad, er enghraifft, gwaith ffilmio plant Trewen ac athrawon Lesotho yn dawnsio, actio a chanu yn y Gerddi Botaneg a gwaith yn ymwneud â ffotograffiaeth.

Y daith
Cymerodd dros dri diwrnod i gyrraedd pentref Malubalube yn dilyn taith anodd o un ochr i'r cyhydedd i'r llall mewn awyren, wedyn bron naw awr o deithio i fynyddoedd rhanbarth Mokhotlong mewn bws mini.

O'r naw aeth i Lesotho yn rhan o'r ddolen gyswllt, fi oedd yr ifancaf a'r unig un oedd ddim yn athro neu'n athrawes.

Fel disgybl y chweched yn Ysgol Dyffryn Teifi, gallwch ddychmygu fod y profiad hwn yn swreal cyn hyd yn oed cyrraedd pen y daith.

Roeddwn i, fy nhad ac athrawes arall o Ysgol Trewen wedi teithio ymhellach na'r chwe athro arall ac fe sylwon fod y ffordd yn gwaethygu wrth fynd ymlaen.
Trac asyn yw'r disgrifiad gorau a dweud y gwir!

Er hyn mynnodd gyrrwr y bws mini fynd a ni bob cam i'r hyn fyddai'n gartref inni am wythnos gyfan.

Dwy filltir cyn cyrraedd y lodge ymddangosodd pobl yng ngwisg draddodiadol y Basotho ar gefn ceffylau fel arwydd o heddwch a pharch - ond yn bennaf fel neges o groeso.

Arwydd arall o groeso oedd sŵn canu'r pentrefwyr yn cario ar draws y llethrau serth tuag atom.

Ni allaf ddisgrifio'r sŵn yma mewn geiriau, ond, yn sicr, roedd yn fyddarol ac yn unigryw i bobl y Basotho ac yn amhosib i mi ei ddynwared.

Ymddangosodd y gymuned o bob ochr i'r trac, plant bach, hen bobl, pobl o bob oedran wedi dod allan i'n croesawu - profiad na fydda i byth yn ei anghofio; yn enwedig y ffaith eu bod yn dawnsio a chanu wrth redeg gyda'r bws bach yn y tywyllwch!

Yr ysgol
Y diwrnod cyntaf yn yr ysgol gwelsom bob ystafell - rhai yn well na'i gilydd. Nid oedd drysau ac yr oedd gwydr ar y llawr y tu allan a'r tu mewn i'r dosbarthiadau o'r ffenestri oedd wedi torri.

Wrth ddringo'r cerrig oedd yn arwain i'r ystafelloedd hyn roeddwn bron a chwympo oherwydd y gwydr - cyflwr hollol annerbyniol ar gyfer lle'r oedd plant yn dysgu.

Gyda'r holl gyfoeth sydd yn y byd heddiw, ni ddylai'r sefyllfa hon fodoli.



Oddi mewn roedd y welydd yn wag a brwnt a'r lloriau'n anwastad. Yng Nghymru ni fyddai'r dosbarthiadau hyn yn cael eu galw'n ddosbarth, ond yn sied ag angen ei dymchwel!

Dangosai hyn, yn berffaith, wir dlodi'r bobl.

Yr un diwrnod cefais fy nghythruddo o glywed bod storws bwyd yr ysgol yn wag oherwydd na allai llywodraeth y wlad anfon bwyd yno.

Rheswm y rhan fwyaf o'r plant dros ddod i'r ysgol oedd i gael bwyd gyda rhai yn cerdded tua dwy filltir yno a dim brecwast na chinio ar eu cyfer.

Teimlaf yn grac wrth feddwl yn ôl am hyn oherwydd y gallai sefyllfa fel hyn fod wedi lladd llawer o'r plant roeddwn i wedi dod i'w hadnabod.

Teimlaf yn waeth byth o weld y bwyd sy'n cael ei wastraffu bob dydd yn fy ysgol i yng Nghymru.

Tybed a fyddai plant Cymru a gwledydd cyfoethog eraill mor wastraffus pe byddent yn sylweddoli fod y bwyd y maent yn ei wastraffu bob dydd yn ddigon, mewn gwirionedd, i fwydo plant bach Affrica!

Profiadau newydd
Ond nid oedd popeth ynglŷn â'r daith yn ddwys nac yn ddiflas ac rwy'n gwenu bob tro yr wyf yn meddwl am y cariadon o blant sydd yn Ysgol Malubalube.

Mae plant yn tueddu i fod yr un fath pa bynnag wlad ydych chi ynddi. Yn wên o glust i glust ac yn hapus wrth dderbyn ymwelwyr.

Tynnais lun gyda fy nghamera digidol a'i ddangos ar y sgrin iddynt - golygfa y byddaf yn ei chofio am weddill fy oes gyda'r dosbarth cyfan yn neidio dros ddesgiau i weld y llun!
Digwyddiad a ddangosai'n berffaith pa mor chwilfrydig yw plant wrth brofi rhywbeth gwahanol a diddorol, waeth lle maen nhw.

Byddwn wedi bod wrth fy modd pe byddai'r eiliadau yna wedi eu dal ar fideo; felly, y diwrnod canlynol, penderfynais fynd â'm camera fideo i'r un dosbarth.

Fel y gallwch ddychmygu, roedd hyn yn well byth.

Un teledu oedd yn y pentref a'r plant yma yn gweld eu hunain ar sgrin fach. Roedd y cyffro yn anhygoel. Unwaith eto neidiodd y plant dros eu desgiau tuag ataf. Pennau bychain yn pipo drwy'r lens, y llygaid yn fyw mewn syndod anhygoel bod y fath beth yn bosibl.

Gall y munudau hyn fod yn brofiad y bydd y plant yn ei drysori am byth a theimlwn innau'n hapus o feddwl imi greu hapusrwydd mor syml dim ond o fod yno gyda fy nghamera digidol!

Defnyddiais y camera fideo i ffilmio fy nhad wrth ei waith fel tystiolaeth fod y prosiect yn bodoli a bod athrawon Ysgol Trewen yn gwneud gwahaniaeth i fywydau'r plant.

Dysgais wrth ffilmio fod cwricwlwm Lesotho yn ddiflas ac yn anysbrydoledig ac fel disgybl ysgol fy hun gwelais fod y gwaith yn diflasu'r plant.

Roedd fy nhad yn ceisio dangos i'r athrawon ei ffordd ef o ddysgu oherwydd gallech weld bod y cwricwlwm yn gwneud yr athrawon ifanc yn anysbrydoledig hefyd.

Tra roeddwn yn ffilmio hyn, gwelais y syndod oedd ar wynebau'r plant fod y dyn yma yn eu dysgu nhw trwy eu cynnwys hwy yn y dysgu.

Ffarwel
Profiad arbennig oedd ymadael Malubalube.

Daeth y plant i ffarwelio - ffarwel arbennig y byddaf yn ei chofio am byth fel digwyddiad emosiynol ond hapus.

Hyd heddiw, ni allaf gredu'r rhythm a feddai pob plentyn wrth ddawnsio y naill ochr a'r llall i'r bws mini.

Gwelais olygfeydd bendigedig, bum yng nghwmni plant a'm hysbrydolodd ac arhosais gyda theulu cariadus a chroesawgar a roddodd yr enw Palisa Morojele imi - blodyn y veldt.
Profiadau byddaf yn eu trysori am byth.

Mor ifanc â hyn, gallaf ddweud bod y profiad yma yn mynd i chwarae rhan allweddol i'm gwneud yn berson gwell. Yn berson sy'n gwerthfawrogi llawer mwy mewn bywyd ac yn berson ysbrydoledig.

Ar y ffordd yn ôl, sylwom ar blant yn cerdded adref o'r ysgol yn dod tuag atom ac meddai fy nhad; "Tra'n bod ni'n mynd yn ôl i Gymru, rydym yn gyrru ymlaen flynyddoedd i'r dyfodol, ble roedd pobl y Basotho yn cerdded canrifoedd i'r gorffennol."

Geiriau sy'n disgrifio'n berffaith ddatblygiad ein gwlad ni - yn enwedig o'i chymharu â Lesotho.

Rhaid imi ofyn, pa fywyd yw'r gorau?

  • Mae Meleri Siôn - Palisa Morojele - yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Teifi.

  • Cyhoeddir yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 ar y cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch





  • affrica

    > De Affrica
    > Kenya
    > Ethiopia
    > Tanzania
    > Sudan

    Profiad newydd - enw newydd

    Rwanda

    Rwanda - cwestiwn ac ateb

    Congo - amser deffro

    Cyfaredd yr Aifft



    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy