主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rwanda - cwestiwn ac ateb
Gwion Lewis yn ateb cwestiynau am yr hyn fu'n digwydd yn Rwanda

Pam y digwyddodd yr hil-laddiad yn Rwanda?
Bu tyndra ethnig yn Rwanda erioed rhwng y mwyafrif Hwtŵaidd a'r lleiafrif Twtsïaidd. Dirywiodd y berthynas rhyngddynt pan wnaed Rwanda yn drefedigaeth i Wlad Belg yn 1916.

Roedd y Belgiaid yn ystyried y Twtsïaid yn well na'r Hwtwiaid, a rhoddwyd gwell swyddi iddyn nhw o'r herwydd. Digiodd yr Hwtwiaid wrth yr awdurdodau gan arwain at gythrwfl ar y strydoedd ddiwedd y Pum Degau pan laddwyd dros 20,000 o Dwtsïaid. Gorfodwyd mwy fyth i ffoi i wledydd cyfagos.

Pan ddaeth Rwanda yn wlad annibynnol yn 1962, yr Hwtwiaid gymerodd yr awenau. Roedd y ffoaduriaid Twtsïaidd yn benderfynol o ddychwelyd i Rwanda, a daeth llawer at ei gilydd i geisio disodli'r arlywydd newydd, Juvenal Habyarimana.

Er i'r ddwy ochr arwyddo cytundeb heddwch ddiwedd haf 1993, lladdwyd Habyarimana pan saethwyd ei awyren i'r ddaear y mis Ebrill canlynol.

Ymateb yr awdurdodau oedd i alw ar Hwtwiaid Rwanda i ddifa'r hil Dwtsïaidd - polisi a arweiniodd at 800,000 yn cael eu llofruddio.

Pwy saethodd awyren yr arlywydd i'r ddaear?
Nid yw hynny wedi ei sefydlu'n bendant eto, ond mae adroddiad swyddogol a gyhoeddwyd ym Mharis wedi beio'r arlywydd Twtsïaidd presennol, Paul Kagame.

Mae heddlu Ffrainc o'r farn ei fod wedi rhoi gorchymyn i'w ddynion ymosod ar yr awyren.

Sut llwyddwyd i lofruddio cynifer o bobl?
Bu'r cyfryngau yn Rwanda o gymorth mawr i arweinwyr yr hil-laddiad.

Cyhoeddwyd sawl papur newydd gan yr awdurdodau Hwtŵaidd fel propaganda - yn eu plith, Kangura, a ddisgrifiai'r Twtsïaid yn gyson fel 'chwilod du' a ddylid eu sathru.

Oherwydd fod trwch y boblogaeth yn anllythrennog, gwnaed defnydd hefyd o orsaf radio, Radio Television des Mille Collines, a alwai ar yr Hwtwiaid yn feunyddiol i ddifa'r 'gelyn bradwrus'.

Ble oedd y Cenhedloedd Unedig yn ystod hyn i gyd?
Tynnwyd milwyr y Cenhedloedd Unedig allan o Rwanda ar ôl i 10 ohonynt gael eu llofruddio.

Ar y pryd, gwrthododd Washington â derbyn fod hil-laddiad yn digwydd yn Rwanda. Roedd cyfreithwyr yr Arlywydd Clinton yn bryderus y byddai cydnabod hynny yn gorfodi America i weithredu.

Erbyn i'r Cenhedloedd Unedig yrru llu i geisio rhoi trefn ar Rwanda, roedd yr hil-laddiad drosodd.

Sut mae Rwanda yn dod i delerau â'r hil-laddiad heddiw?
Naw mlynedd yn ôl, sefydlwyd Tribiwnlys Trosedd Rhyngwladol Rwanda yn Nhansanïa i ddod ag arweinwyr yr hil-laddiad o flaen eu gwell. Mae'n cael ei feirniadu'n gyson am fod yn ddrud, araf ac aneffeithiol.

Mae llysoedd confensiynol Rwanda yn llwyddo i gynnal rhai achosion, ond ers mis Mawrth 2005, mae cyfundrefn uchelgeisiol o lysoedd cymunedol, anffurfiol - llysoedd gacaca - wedi gweithredu ledled y wlad.

Er bod y broses gacaca yn amherffaith o safbwynt hawliau dynol y diffynnydd, credir mai dyma'r unig ffordd ymarferol i ddatrys y 60,000 o achosion sydd yn disgwyl gwrandawiad.






cysylltiadau




affrica

> De Affrica
> Kenya
> Ethiopia
> Tanzania
> Sudan

Profiad newydd - enw newydd

Rwanda

Rwanda - cwestiwn ac ateb

Congo - amser deffro

Cyfaredd yr Aifft



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy