主播大秀

Rhian yn rhannu llwyfan 芒'r 'Meistr'

Rhian Lois

A hithau wedi cael blwyddyn i'w chofio daw blwyddyn enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel y llynedd i binacl arbennig iawn nos Sul gyntaf Eisteddfod yr Urdd Caerdydd.

Dyna'r noson y bydd y gantores Rhian Lois Evans yn ymuno 芒 Bryn Terfel ei hun, ac enillwyr eraill yr Ysgoloriaeth, ar lwyfan Canolfan y Mileniwm.

Hon yw noson dathlu deng mlynedd yr Ysgoloriaeth ac fe wneir hynny gyda chyngerdd yr holl enillwyr.

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hyfryd o brysur ers i mi ennill yr Ysgoloriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Conwy," medd Rhian Lois, sy'n wreiddiol o Bontrhydygroes ger Aberystwyth ond sy'n awr yn byw yng Nghaerdydd.

Prysur gyda chyngherddau

"Cyngherddau sydd wedi bod yn fy nghadw'n brysur yn bennaf ac yn ddiweddar b没m yn canu rhan y soprano yn Offeren Mozart gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham yn Neuadd Symffoni Birmingham. Roedd yn brofiad anhygoel," meddai.

Yn dilyn y cyngerdd hwnnw fe'i gwahoddwyd yn 么l i ganu gwaith Stravinsky mewn cyngerdd yn ystod yr wythnos sy'n dilyn cyngerdd yr Urdd.

Ar ben hyn i gyd mae Rhian Lois, a fu'n brif ferch Ysgol Tregaron, yn paratoi ar gyfer ei arholiadau blwyddyn olaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Cymru cyn symud i Lundain i ddilyn cwrs 么l radd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd, Llundain.

Y tro diwethaf

Cymerir rhan yn y cyngerdd hefyd gan enillydd yr Ysgoloriaeth pan ymwelodd yr Eisteddfod a Bae Caerdydd ddiwethaf, y ddawnswraig o Benarth, Lowri Walton.

Nid oedd hi ond yn 17 oed pan enillodd .

"Roedd ennill yr Ysgoloriaeth yn brofiad gwych," meddai Lowri sydd ar hyn o bryd yn astudio Theatr Cerdd yn Ysgol Arts Educational yn Chswick, Gorllewin Llundain.

"Mae rhai o'r pwyntiau roddodd Daniel Evans i mi yn y dosbarth meistr yn dal i aros efo fi.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru eto ac fe fydd rhannu'r llwyfan gyda Bryn Terfel yn brofiad arbennig," meddai. Enillwyr eraill a fydd ar y llwyfan yw, y gantores Fflur Wyn, y feiolinydd Rakhi Singh a Mirain Haf, enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth.

Hefyd ar y llwyfan bydd yr actor, Daniel Evans.

Dechrau teilwng

"Bydd y cyngerdd yn ddechrau teilwng i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd," meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Si么n. "Mae hi bob amser yn bleser croesawu Bryn Terfel yn 么l i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae'r Ysgoloriaeth wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn ffordd i ieuenctid adeiladu ar eu perfformiadau buddugol a gweithio gydag arbenigwyr i ddatblygu eu sgiliau. Fe fydd y cyngerdd yn goron ar ddeng mlynedd gofiadwy iawn," meddai.

Y cyn enillwyr

Cyn enillwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel yw: Rhian Lois Evans (Bro Conwy, 2008), Manon Wyn Williams (Sir G芒r 2007), Rhys Taylor (Sir Ddinbych 2006), Lowri Walton (Canolfan Mileniwm Cymru 2005), Rakhi Singh (Ynys M么n 2004), Aled Pedrig (Tawe Nedd ac Afan 2003), Rhian Mair Lewis (Caerdydd 2002), Fflur Wyn (Bro Conwy 2000), Mirain Haf (Llanbedr Pont Steffan 1999)

Mae tocynnau ar gael ar 08700 40 2000 neu

Rhagor am Gyngerdd Bryn Terfel


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.