主播大秀

Cyngerdd Ysgoloriaeth Bryn Terfel

Bryn Terfel

Rhannu llwyfan gyda'r meistr

Bydd Bryn Terfel yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar ddechrau Eisteddfod yr Urdd, ar gyfer dathlu pen-blwydd ysgoloriaeth sy'n dwyn ei enw.

Y mae hi'n ddeng mlynedd ers cychwyn Ysgoloriaeth Bryn Terfel gyda'r nod o ddatblygu a meithrin talent ifanc sy'n dod i'r amlwg yn eisteddfodau'r urdd.

Ac ar y nos Sul cyn cychwyn yr Eisteddfod eleni bydd y canwr ei hun yn ymuno ag enillwyr y deng mlynedd diwethaf i gadw cyngerdd a fydd yn sicrhau fod yr eisteddfod yn cychwyn y ffordd orau posib.

Cyfoeth o dalent

"Mae'r cyfoeth o dalent sydd i'w weld yn flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn werth chweil ac roeddwn yn awyddus i ddatblygu ysgoloriaeth fyddai'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu talent a chynyddu eu sgiliau fwyfwy. Rwy'n credu fod yr ysgoloriaeth wedi cyflawni hyn ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau ymhell i'r dyfodol," meddai Bryn wrth edrych ymlaen at y noson.

Yn gystadleuydd cyson yn yr Urdd pan yn ifanc dywedodd Bryn fod Eisteddfod yr Urdd nid yn unig yn rhoi'r profiad o berfformio o flaen cynulleidfa ond hefyd yn sicrhau beirniadaeth adeiladol.

"Fe wnes i elwa gymaint o gystadlu yn yr Urdd ac ro'n i'n awyddus iawn i roi rhywbeth yn 么l i'r ieuenctid heddiw," meddai.

Yn rhannu llwyfan ag ef ar Fai 24 2009 bydd y ddawnswraig, Lowri Walton, y sacsoffonydd Rhys Taylor a'r feiolinydd Rakhi Singh.

Bydd Mirian Haf, enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth hefyd yn perfformio yn y cyngerdd a'r actor Daniel Evans sydd wedi gwneud cryn enw iddo'i hun y tu allan i Gymru.

Meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Si么n:

"Mae hi bob amser yn bleser croesawu Bryn Terfel yn 么l i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae'r Ysgoloriaeth wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn ffordd i ieuenctid adeiladu ar eu perfformiadau buddugol a gweithio gydag arbenigwyr i ddatblygu eu sgiliau. Fe fydd y cyngerdd yn goron ar ddeng mlynedd cofiadwy iawn."

Enillwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel yw:

  • Manon Wyn Williams (Shir G芒r 2007)
  • Rhys Taylor (Sir Ddinbych 2006)
  • Lowri Walton (Canolfan Mileniwm Cymru 2005)
  • Rakhi Singh (Ynys M么n 2004)
  • Aled Pedrig (Tawe Nedd ac Afan 2003)
  • Rhian Mair Lewis (Caerdydd 2002)
  • Blwyddyn G诺yl yr Urdd
  • Fflur Wyn (Bro Conwy 2000)
  • Mirain Haf (Llanbedr Pont Steffan 1999)
  • Pinacl blwyddyn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.