主播大秀

Ail Gadair i Llyr

Enillydd y gadair eleni - a'r llynedd

Yr oedd o'n teimlo'n euog, meddai Bardd Cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011, dod i Abertawe ac ennill gyda cherdd yn canu clodydd Caerdydd.

Enillodd Llyr Gwyn Lewis o Gaerdydd - a Chaernarfon - gadair Eisteddfod yr Urdd am yr ail dro yn olynol yn dilyn cyflawni'r un gamp yn Llanerchaeron y llynedd.

Ond eleni, meddai, teimlodd nid yn unig ryddid i arbrofi mwy gyda'i gerdd gan nad oedd dan gymaint o bwysau i ennill - hefyd yr oedd wedi paratoi ei hun i fwynhau y seremoni a'i naws fwyfwy ar sail ei brofiad yn cael ei gadeirio y llynedd.

Dilyniant o gerddi anfonodd o i'r gystadleuaeth ar y teitl Fflam a'r fflam honno yn 么l y beirniad a draddododd y feirniadaeth, Emyr Lewis, yn drosiad am gariad.

Dywedodd i gerddi Ll欧r wneud argraff arbennig arno ef 芒'i gyd feirniad, Mererid Hopwood.

"Yn ogystal a dawn mae disgyblaeth gan y bardd hwn," meddai Emyr Lewis gan ganmol y bardd am beidio 芒 gwastraffu geiriau ac osgoi 么l straen a brys ar y casgliad.

Rheswm da pam efallai gan i Llyr gyfaddef mai tua'r degfed drafft o'r gwaith anfonodd o i'r gystadleuaeth.

"Mi fydda i'n hoffi gweithio reit i'r deadline," meddai.

Yn wreiddiol o Gaernarfon mae Llyr yn byw yng Nghaerdydd ac yn astudio gwaith T Gwynn Jones a W B Yeats ar gyfer doethuriaeth.

Y mae eisoes wedi graddio yn y Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd ac ennill gradd meistr mewn Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae'n gystadleuydd cyson am gadair yr Urdd nes cyrraedd y brig y llynedd gydag awdl.

Eleni, dywedodd ei fod yn awyddus i arbrofi gyda'r mesurau rhydd ar gyfer y gystadleuaeth sy'n draddodiadol yn gwobrwyo cerddi caeth.

"Roeddwn i'n teimlo rhyddid mawr ar 么l ennill y llynedd - roeddwn i wedi cael un gadair ac yn hapus efo hynny - yr oedd o'n fwy o 'Mi gai weld be allai wneud eleni' heb boeni cymaint am ennill!" meddai.

"O'r herwydd mae hon yn fwy mentrus na'r llynedd ond efallai ddim cweit mor llwyddiannus fel cyfanwaith - roeddwn i'n teimlo bod yr awdl y llynedd yn fwy crwn a mwy gorffenedig a bod yna linyn cryfach drwyddi hi," meddai.

Dywedodd mai'r hyn a ystyria ef yn wych am y gystadleuaeth hon yw ei bod yn fodlon gwobrwyo beirdd "addawol" a defnyddio disgrifiad y beirniad ohono ef a'u disgrifiad hefyd o gystadleuaeth fel "ffatri'r dyfodol".

Dywedodd bod cyfuniad o gariad at Caerdydd a phrofiad personol yn y gerdd sy'n disgrifio cariad yn dadfeilio a throi yn lludw - ond ychwanegodd nad oedd am ymhelaethu am y profiad personol hwnnw.

"Dwi ddim eisiau mynd ar 么l hynny ormod," meddai.

Ond yr oedd yn gwbl barod i ymhelaethu am ei deimladau tuag at Gaerdydd, dinas sy'n amlwg yn agos at ei galon.

Dywedodd bod Caerdydd yn ddinas sy'n ei gyfareddu a'i fod yn teimlo'n euog ar un wedd i'r gerdd ddod i'r brig yn Abertawe!


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.