主播大秀

Medal y Dysgwyr: Curo'i chariad am fedal

Sophie

Dau gariad ddaeth yn gyntaf ac yn ail yng nghystadleuaeth Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe, 2011.

Y mae Sophie Baggott a Daniel Nicol yn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ac yn gwybod eu bod wedi cystadlu yn yr un gystadleuaeth.

"Digon teg," oedd ymateb Daniel i fuddugoliaeth Sophie yn dilyn y seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod yn Abertawe.

Dywedodd bod y ddau yn siarad Cymraeg a'i gilydd.

"Ac rydym yn tectsio hefyd," meddai.

A phan ofynnwyd i Sophie beth ddywedodd ei chariad pan y'i curodd i'r lle cyntaf atebodd, "Llongyfarchiadau".

Yn 18 oed yng Ngorffennaf magwyd Sophie yng Nghaerdydd i deulu o'r Brifddinas ac mae ei brawd a'i chwaer hefyd yn dysgu Cymraeg.

Yn astudio Saesneg, Cymraeg, Almaeneg a Hanes yn yr ysgol mae gan Sophie ddiddordeb arbennig mewn ieithoedd a dywedodd yr hoffai hefyd ddysgu Sbaeneg oherwydd ei diddordeb yn Sbaen.

Dywedodd i ymgeisio am y fedal oherwydd ei hoffter o sgrifennu - ac o siarad. "Rydw i'n siaradus," meddai.

>Ychwanegodd yr hoffai yrfa yn ymwneud 芒 sgrifennu, yn newyddiadurwr neu awdur efallai.

"Y llynedd yr oeddwn yn falch iawn o ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion am ysgrifennu rhyddiaith i ddysgwyr ac mae fy ngwersi Cymraeg wedi cynnig profiadau gwych i mi ac rydw i'n ddiolchgar dros ben am hynny," meddai.

Ar gyfer y gystadleuaeth a feirniadwyd gan Elin Meek a Nia Parry cyflwynodd Sophie lythyrau, ysgrif ac erthygl.

"Roedd y tri llythyr dyfeisgar yn dangos ychydig o hynt a helynt y Gymraeg dros y ganrif a hanner diwethaf. Rhyddid gwleidyddol oedd tetun yr erthygl hynod gyfoes oedd yn dangos 么l aeddfedrwydd mawr. Yn yr ysgrif, roedd dau linyn yn cydblethu'n hyfryd, sef hanes pyllau glo Cymru a hanes glowyr Chile," meddai'r beirniaid.

"Rydw i wedi mwynhau bywyd yn y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Caerdydd lle ces i gyfle arbennig i ddysgu Cymraeg. Rydw i'n hoff iawn o ieithoedd a'r cyfleoedd a gynigir ganddynt. Yn arbennig rydw i wrth fy modd yn teithio, o'r teithiau blynyddol i Langrannog i'r mis a dreuliais yn crwydro o amgylch Gwlad Thai gyda'r ysgol," meddai Sophie.

Yn drydydd yn y gystadleuaeth yr oedd Angharad Thomas o Ysgol Howell, Caerdydd.


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.