主播大秀

Medal Ddrama: Ennill ar ei chynnig cyntaf

Manon - enillydd y llynedd

Yr ymwneud rhwng merch yng nghyfraith a mam yng nghyfraith sy'n dioddef o dementsia yw testun y ddrama a enillodd i Elin Gwyn Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe.

Dywedodd Elin, o Sling ger Bethesda, iddi seilio'i drama ar brofiad personol o'r cyflwr ac yr oedd, meddai'r beirniaid yr unig ddrama o'r saith yn y gystadleuaeth i gyffwrdd 芒 hwy.

Dywedodd Elin fod y ddrama yn ymwneud ar y naill law a pherthynas y ddwy wraig a'i gilydd a hefyd eu perthynas 芒'r dynion yn eu bywydau.

Dangoswyd clip fideo o'r ddrama ar lwyfan yr eisteddfod yn ystod y seremoni i wobrwyo elin.

Dywedodd i gyflwr dementia effeithio ar ei theulu ac ar deulu ei chariad gyda'i fam-gu ef yn dioddef.

"Dyna oedd gwraidd y peth ac mi ddatblygodd wedyn i fod yn berthynas rhwng merch yng nghyfraith a mam yng nghyfraith," meddai.

Wrth sgrifennu dywedodd iddi wneud ymdrech arbennig i gadw cydbwysedd rhwng hiwmor a difrifoldeb, nid rhywbeth hawdd o ystyried y sefyllfa.

"Mae'n bwnc dwys iawn ond yr oeddwn eisiau dangos yr ochr arall ond heb fod yn rhy ysgafn," meddai.

Dywedodd Elin bod ganddi ddiddordeb mawr mewn drama ac yn gobeithio gwneud dyfodol o sgrifennu. Enwodd Tennessee Williams, Arthur Miller, meic Povey ac Aled Jones Williams fel ei hoff ddramodwyr.

Yn y coleg ym Mangor astudiodd lenyddiaeth Saesneg ac mae'n awr yn paratoi ar gyfer doethuriaeth gydag astudiaeth o gyfraniad diwylliedig y diwydiant llechi yn ystod y cyfnod wedi 1972.

fel rhan o'i chwrs mae'n gweithio yn yr Amgueddfa lechi yn Llanberis.

Dywedodd mai hon oedd y ddrama gyntaf iddi sgrifennu a'i bod wrth ei bodd ennill ar ei chynnig cyntaf yn y gystadleuaeth hon.

Ond nid dyma ei llwyddiant eisteddfodol cyntaf enillodd dlws ll锚n yr ifanc a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.

Sgrifennodd hefyd ar gyfer yr opera ddwyieithog Twm S卯on Cati yng Nghastell Caerffili fis Ebrill.

Dywedodd y bydd ei buddugoliaeth yn Eisteddfod yr urdd yn hwb sicr iddi ddal ati

"Dwi'n meddwl fy mod i wedi ffeindio'r cyfrwng i mi ," meddai.

Wrth draddodi'r feirniadaeth disgrifiodd Manon Eames y ddrama fel un gyda sefyllfa gyffredin a thraddodiadol ond gyda thro eithaf annisgwyl yn ei diwedd.

Ac er nad oedd y ddrama meddai yn ddigon hir dywedodd bod ynddi ddeunydd y geid ei ddatblygu i gynnal drama un act a bod gan y dramodydd y gallu i gyflawni hynny.

"Mae yma eisoes ddarnau o ddialog meistrolgar, " meddai gan egluro mai drama sy'n deillio o gymeriadau yw hi .

"Hon," meddai, "Ydi'r unig ddrama i gyffwrdd ynom ni fel beirniaid ."

Canmolodd hi a'i chyd feirniad, Tim Baker, safon y gystadleuaeth yn gyffredinol gan ddweud iddynt weld gwellant o gymharu 芒'r tro diwethaf iddynt feirniadu yn 2006.


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.