主播大秀

'Llwyddiant' er gwaetha'r problemau

09 Mehefin 2012

Ychydig dros 90,000, sef tua'r un faint ag Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011, ond dipyn llai na Llanerchaeron yn 2010, wnaeth ymweld ag Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ond mae'r mudiad wedi cyhoeddi bod yr 诺yl yng Nglynllifon wedi bod yn llwyddiant.

Roedd hi'n argoeli'n dda ddydd Llun, pan roedd yr haul yn gwenu ar Eryri, a phan daeth y nifer fwyaf erioed o bobl i'r 诺yl - 23,913 - gan achosi tagfeydd difrifol.

Ymddiheurodd y trefnwyr i ymwelwyr am y tagfeydd a chyflwyno newidiadau i'r trefniadau traffig a lwyddodd i ddiddymu'r problemau weddill yr wythnos.

Ond erbyn hynny, roedd gelyn arall wedi cyrraedd - y glaw ac, yn ei sg卯l, y mwd. Ac yn sg卯l hynny, trodd y meysydd parcio yn feysydd sglefrio i geir gyda thractors yn cael eu defnyddio i dynnu cerbydau i ddiogewch tir cadarn erbyn diwedd yr wythnos.

Amcangyfrifir bod 27,500 o geir wedi ymweld 芒'r maes a dywed yr Urdd fod y nifer uchaf erioed o stondinwyr wedi dod i'r maes - er bod nifer wedi cau yn gynnar ddydd Gwener pan ddechreuodd hi arllwys y glaw o ddifri'.

Ond, o ran y cystadlu, gwresog oedd y ganmoliaeth i safon uchel nifer o'r cystadlaethau llwyfan gyda 15,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn ystod yr wythnos.

Yn 么l Meriel Parry, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Eryri: "Yma yn Eryri, rydym wedi gweld goreuon Cymru yn cystadlu. Boed hynny ar lwyfan y pafiliwn, yn y babell gelf a chrefft neu yn siarad yn gyhoeddus. O amgylch y Maes mae pobl ifanc wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, hamdden a chreadigol. Fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb y pwyllgorau lleol yma yn Eryri lwyddodd i godi mwy na'r targed lleol a osodwyd iddynt."

Dywedodd Aled Si么n, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: "Rydym wedi cael wythnos lwyddiannus, gyda nifer uchel o bobl yn mynychu'r lleoliad hyfryd hwn yng nghysgod yr Eifl a mynyddoedd Eryri ... Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r cannoedd o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio'n ddiflino gydol yr wythnos, weithiau mewn amgylchiadau heriol, yn arbennig stiwardiaid y meysydd parcio."

Dywedodd Dr Ian Rees, Pennaeth Coleg Meirion Dwyfor: "Mae wedi bod yn bleser croesawu'r Urdd yn 么l i dir Coleg Meirion-Dwyfor yng Nglynllifon eleni. Er gwaetha'r tywydd heriol mae wedi bod yn Eisteddfod llwyddiannus. Braf oedd gweld cynifer ar y maes bob dydd a phawb yn mwynhau, llongyfarchiadau i'r Urdd."

Bydd yr Eisteddfod yn terfynu gyda'r Gymanfa Ganu nos Sul, 10 Mehefin yng Nghapel y Drindod, Pwllheli. Mae'r gymanfa yn dechrau am 6:00pm, ac mae'r t芒l mynediad yn 拢6. Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a'i ddarlledu ar S4C.


Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

Rhowch dro ar g锚m C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.