主播大秀

Celf lliwgar y ganolfan groeso

Plant Ysgol Llandwrog gyda'r gwaith celf a baratowyd gyda'r artist Catrin Williams, Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a Christian Hughes o Gartrefi Cymunedol Gwynedd

Bydd croeso lliwgar iawn i ymwelwyr Eisteddfod yr Urdd Eryri diolch i'r arlunydd Catrin Williams a disgyblion ysgol gynradd leol ardal yr eisteddfod eleni.

Bydd Canolfan Groeso'r Eisteddfod yn cael ei addurno gan 12 o weithiau celf lliwgar wedi eu creu gan blant Ysgol Llandwrog a'r arlunydd haniaethol ar y thema 'Teulu'.

Meddai Tracey Ann Richardson Jones, Pennaeth Ysgol Llandwrog: "Cafodd y plant brofiad gwych yn cael cydweithio gydag artist mor brofiadol 芒 Catrin ar y prosiect celf yma.

"Thema'r gwaith ydi 'Teulu', ac roedd o'n gyfle i ni blethu y gwaith oedd y plant wedi bod yn ei wneud eleni ar deulu st芒d Glynllifon, cartref yr Eisteddfod wrth gwrs.

"Rydan ni'n edrych 'mlaen i weld y gwaith gorffenedig yn ei le, a gweld ymateb ymwelwyr o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, iddo."

Cafodd y gwaith ei greu drwy brosiect sy'n cael ei ariannu gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) fel rhan o waith cymunedol y gymdeithas dai yn y cyfnod yn arwain at yr Eisteddfod.

Dywedodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr CCG: "Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn falch o allu cefnogi'r Urdd wrth i'r Eisteddfod ymweld 芒'n hardal ni, a chael bod yn rhan o brosiect mor werth chweil. "Fe fyddwn ni ar y Maes am yr wythnos, gyda gweithgareddau dyddiol ar ein stondin ynghyd 芒 gwybodaeth a chyngor am ein gwaith."

Dywedodd Aled Si么n, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: "Dwi'n si诺r bydd y Ganolfan Groeso yn werth ei gweld eleni, a bydd gwaith y plant a Catrin yn rhoi croeso gwreiddiol iawn i'r Eisteddfodwyr."


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.