主播大秀

Medal yn gwireddu uchelgais i Nia

Nia Haf Jones, enillydd Medal y Dysgwyr

05 Mehefin 2012

Dim ond pymtheg oed yw Nia Haf Jones o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, ond ers iddi ddechrau'r ysgol uwchradd mae wedi bod yn uchelgais ganddi i ennill Medal y Dysgwyr.

A heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri, fe wireddodd hi'r uchelgais honno.

"Roeddwn i eisiau ennill y Fedal oherwydd y byddai hynny yn dweud mod i wedi cyrraedd lefel uwch efo safon well," meddai.

A wnaeth y profiad ddim siomi chwaith yn 么l Nia sy'n ei ddisgrifio fel un "arbennig - profiad gwych. Dydw i byth yn mynd i anghofio bod ar y llwyfan."

Er bod ganddi enw Cymraeg, dim ond ers Blwyddyn 6 mae Nia wedi bod yn dysgu'r iaith. Mae ei thad, sy'n gweithio i Gyngor Wrecsam ac yn wreiddiol o Landegla, yn siarad Cymraeg ond Saesneg yw iaith ei mam, er mai hi a ddewisodd enw Nia, gan deimlo ei bod yn bwysig i'w merch gael enw Cymreig gan ei bod yn byw yng Nghymru.

"Ers pan dwi'n fach, dwi wedi siarad Saesneg efo mam a dad ond rydw i'n tr茂o siarad dipyn bach o Gymraeg efo dad r诺an," meddai Nia.

"Rydw i hefyd yn cael gwersi tu allan i'r ysgol efo Mrs Thomas," ychwanegodd gan ddweud ei bod am geisio defnyddio mwy o'r iaith mewn siopau a chyda rhai o'i ffrindiau sy'n medru'r iaith. Am mai i ysgol gynradd Saesneg yr aeth hi, dywed mai yn Saesneg mae hi'n cymdeithasu fel arfer.

笔锚濒-诲谤辞别诲

Roedd rhaid i Nia ysgrifennu tri darn o waith a chyflwyno recordiad o'i hun yn siarad am ei diddordebau a'i hanes er mwyn ennill y wobr.

Un o'r darnau a ysgrifennodd oedd adolygiad o'r llyfr Cymry Man U, ac mae p锚l-droed yn rhan bwysig o fywyd y teulu.

"Mae gen i ddau frawd mawr ac mae dad yn eu cefnogi," esbonia, "mae Man U yn beth pwysig yn ein t欧 ni. Dwi wedi bod i Old Trafford ddwy waith. Mae'n biti eu bod nhw wedi colli'r gynghrair!"

Weddill yr wythnos, mae gan Nia ddigon ar ei phl芒t: mae'n cystadlu eto ddydd Iau ar y Llefaru i Ddysgwyr ac mae ganddi hefyd bedwar arholiad TGAU ar 么l.

A'i huchelgais newydd, r诺an ei bod wedi cyflawni hon, ydy gwneud yn dda yn ei harholiadau a chael swydd dda.


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

Rhowch dro ar g锚m C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.