主播大秀

Lowri Gruffydd, Swyddog Prosiectau Canolfan addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg

'Mantais' - creu papurau 拢20

Tynnu sylw at fanteision cyrsiau coleg Cymraeg

Mae pobl yn prysur wneud eu harian eu hunain ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae'r cyfan yn digwydd ym mhabell 'Mantais' lle mae ymwelwyr yn cael gwahoddiad i ddylunio eu papur ugain punt eu hunain.

Syniad yr arlunydd Bedwyr Williams ydi o ac mae templad ar gael i'w addasu gyda lle i gynnwys wyneb rhywun enwog o'ch dewis chi.

Ac nid yn annisgwyl mae Mr Urdd ymhlith y rhai sydd wedi eu cynnwys yn barod.

Y syniad yw llunio papur ugain punt ar gyfer Cymru'r dyfodol a ddydd Sadwrn bydd Bedwyr ym mhabell Mantais am ddau o'r gloch yn cyhoeddi pwy yw'r enillydd gyda gwobr o 拢30 (go iawn) i'r buddugol.

Eglurodd Ioan Wyn Evans mai ymgyrch i hyrwyddo addysg prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg ydi Mantais.

Mae myfyrwyr sydd eisoes yn dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn egluro pam fod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn syniad da ac yn s么n am eu profiadau ar www.mantais.ac.uk

Hefyd yn cael sylw ym mhabell Mantais mae cynllun noddi amgylcheddol cyfrwng Cymraeg o'r enw AmNawdd sydd yn cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd am ddilyn cyrsiau amgylcheddol drwy gyfrwng y Gymraeg

Dywedodd Lowri Gruffydd, Swyddiog Prosiectau gyda'r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, fod AmNawdd yn cael ei redeg ar y cyd 芒 Chyngor Cefn gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.

"Y nod ydi cynyddu'r nifer o arbenigwyr Cymraeg yn y maes amgylcheddol a chynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y sectorau addysg uwch.

Mae ffurflen ar y wefan i wneud cais am grant o 拢1,500.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.