主播大秀

Y ddau awdur ar y llwyfan gydag is-gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru

Pwysigrwydd awduron plant

Anrhydeddu dau awdur

Am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth cyflwynwyd Gwobr Tir na n-Og ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

Ac ar faes yr Eisteddfod cyn y seremoni tynnodd is gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru sylw at bwysigrwydd arbennig y gystadleuaeth hon ac at lyfrau plant yn gyffredinol.

Dywedodd Gareth Davies Jones mai'r her a wynebir ym maes llyfrau i bobl ifainc yw peidio 芒 cholli darllenwyr pan ydynt yn cyrraedd eu harddegau.

"Mae'n bwysig felly," meddai, "fod llyfrau Cymraeg o'r safon uchaf ar gael iddyn nhw."

Dywedodd i welliant mawr fod yn ansawdd a safon llyfrau plant dros y blynyddoedd diwethaf a bod cystadleuaeth fel Tir na n-Og yn ffordd bwysig o gydnabod hynny.

"Mae'n bwysig ein bod yn anrhydeddu y bobl sy'n sicrhau y gweddnewidiad hwn. Mae'n ddawn ac yn grefft arbennig. Mae'n bwysig rhoi clod gweladwy iddyn nhw," meddai.

Disgrifiodd anrhydeddu'r enillwyr ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fel datblygiad naturiol yn hanes y gystadleuaeth.

Yr enillwyr ar y llwyfan eleni oedd Nicholas Daniels y daeth ei lyfr Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth a gyhoeddwyd gan Wasg y Dref Wen yn fuddugol yn yr adran gynradd.

Y buddugol yn yr adran uwchradd oedd Gareth F Williams gyda nofel afaelgar Eira M芒n - Eira Mawr yng nghyfres Wap gan Wasg Gomer.

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru ei bod yn arbennig o arwyddocaol llwyfannu'r seremoni am y tro cyntaf eleni a hithau yn Flwyddyn Darllen Genedlaethol.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.