主播大秀

Ymbarels y Steddfod - yr oedd eu hangen ddoe i gysgodi rhag yr haul. Rhag y glaw y bore ma.

Dyddiadur Dyddiol (1)

Briwsion bob dydd

Nodiadau dyddiol o faes yr Urdd

Hyd yn oed cyn i wawr y Steddfod dorri yr oedd cymylau trymion ansicrwydd ariannol yn taflu eu cysgodion dros Faes Gloddaeth.

Ddydd Sul bu'r Llywydd Anrhydeddus, Prys Edwards, yn cernodio ar raglen radio Dewi Llwyd Gyngor Dinas Caerdydd am fethu 芒 noddi ymweliad yr Eisteddfod 芒'r Brifddinas y flwyddyn nesaf gan fygwth na fyddai'r 糯yl yn gallu ymweld 芒 Chaerdydd byth eto!

Fore ddoe, ddydd Llun, daeth galwad oddi wrth yr Urdd yn swyddogol am yr hyn oedd yn cael ei alw yn "sicrwydd ariannol hirdymor" gan awdurdodau lleol.

Doedd hynny ddim yn annisgwyl, wrth gwrs, a'r Eisteddfod Arall wedi dod i gytundeb o'r fath a Chymdeithas Cynghorau Lleol Cymru dair blynedd yn 么l bellach.

"Rwy'n erfyn," meddai Dilwyn Price, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Sir Conwy, "ar gynrychiolwyr Cymdeithas Cynghorau Lleol Cymru i roi'r un ymrwymiad i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gwyliau a digwyddiadau cenedlaethol eraill ag a wnaed i Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

"Buasai'r sicrwydd o rannu'r cyllido blynyddol rhwng 22 awdurdod yn caniat谩u pob awdurdod yn ei dro i estyn gwahoddiad i'r Eisteddfod heb orfod clustnodi 拢300,000 dros gyfnod byr fel y gwnaeth Conwy ar gyfer yr eisteddfod eleni."

Ac yn wir, cyn machlud haul ddydd Llun yr oedd cymdeithas y cynghorau wedi addo cyfarfod yr Urdd "cyn bo hir".

Bwydo drud

Problem ariannol o fath arall sy'n poeni sawl un o grwydwyr y maes clyd a braf ar gyrion Llandudno - sut i fforddio bwyta yno.

Do, bu cryn rwgnach unwaith eto ymhlith y 'pyntars' am y prisiau y mae'r stondinwyr bwyd yn ei godi am eu pum torth a byrgars i borthi'r miloedd.

Mae hon, wrth gwrs, yn g诺yn flynyddol yn y digwyddiadau hyn a does bosib na all yr Urdd ddod i ryw gytundeb hirdymor 芒'r darparwyr cyn i bobl benderfynu na allan nhw byth ddychwelyd bla, bla, bla ...

Cychwyn braf

O ran tywydd, fodd bynnag, doedd yna ddim cwyno o gwbl yngl欧n 芒 darpariaeth y diwrnod.

Ymbarels

Er braidd yn wyntog yr oedd hi'n ddigon sych a braf i ddenu dros 20,000 o ymwelwyr ac ni chlywyd ychwaith gwyno am drafferthion trafnidiaeth er ei bod hi'n ddiwrnod gwyl banc.

Y bore ma, mae'n glawio - ond ymhlith cynnyrch masnachol yr Eisteddfod mae ymbar茅ls - mewn coch gwyn a gwyrdd.

Y drwg yw - mae hi'n dal yn awel gref!

Car Steddfod

Car cyfarwydd nad yw byth yn cael trafferthion parcio ar faes Eisteddfod yr Urdd ydi un o Renaults cwmni Gravells o Gydweli.

Bu Clio ar raffl mewn eisteddfodau ers blynyddoedd bellach a thros y deunaw mis diwethaf prynwyd gwerth 拢22,000 o docynnau i geisio'i ennill y diweddaraf.

Ond dim ond un oedd ei angen wrth gwrs a chyhoeddwyd ddydd Llun mai'r un a brynodd Helen Roberts o Lanfairfechan oedd hwnnw a chyflwynwyd iddi allweddi'r car ar y maes gan Jonathan Gravell.

Yr un a ddewiswyd i dynnu'r tocyn, gyda llaw, oedd Gruffydd Evans o Ysgol Bod Alaw a ddaeth eui hun yn fuddugol ddoed yn y gystadleuaeth llefaru i flwyddyn dau ac iau.

A'r darn roedd o'n cystadlu arno? Y Car Bach Hud!

Ffrwyth llafur

Daeth yn arferiad bellach i gyhoeddi y gyfrol o gyfansoddiadau ysgrifenedig yr Eisteddfod ar ddechrau'r wythnos yn hytrach na'i diwedd ac yr oedd cyfrol '08 ar werth ddoe.

"Wrth ddarllen y gyfrol mae'r modd y mae aelodau'r Urdd yn creu campweithiau o'r fath safon yn rhyfeddu," rhyfedda'r Prifardd Tudur Dylan Jones, cadeirydd y bwrdd o fewn yr Urdd sy'n gofalu am yr Eisteddfod.

Sbardun ychwanegol i'r cystadleuwyr eleni oedd tocyn llyfrau gan Gyngor Llyfrau Cymru i bawb a ddaeth i'r brig - yn rhan o ddathliadau y Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol.

Haeddai ambell i feirniad wobr hefyd. Twm Morys, er enghraifft, wedi gorfod dewis o blith 184 o gerddi ar y testun Ych a Fi a derbyniodd Aled Lewis Evans 50 o straeon byr gan ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13 sydd ddim yn oed adnabyddus am amlder ei gystadleuwyr.

Allan yn awr i wynebu ail ddiwrnod ar y maes . . .

Dyddiadur 2


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.