主播大秀

Golygfa o'r cynhyrchiad

Hedfan - y Sioe Uwchradd

Trosi sioe o'r Saesneg

Trosiad o sioe sydd eisoes wedi ennill ei phlwyf yn Saesneg oedd y Sioe Ysgolion Uwchradd yn yr Eisteddfod.

Addaswyd Feather Boy Nicky Stringer a Peter Tabern i'r Gymraeg gan Lowri Hughes a cefin Roberts gyda Lowri Hughes yn cyfarwyddo hefyd.

Yn addas iawn ar gyfer yr oed drama gerdd bwerus yn ymwneud a bwlio yw Hedfan yn olrhain hanes Robat Nobel (Tomos Wyn) 13 oed sydd yn newid o fod yn geek mwyaf yr ysgol i fod yn llanc ifanc hyderus.

Digwydd hynny yn sgil ei gyfeillgarwch ag Edith (Alys Owen Davies) hen wraig digon surbwch a phengaled y mae'n ei chyfarfod fel rhan o brosiect gymunedol.

Yr oedd nifer o elfennau i gynulleidfa ifanc uniaethu 芒 hwy.

Mae'r ymwneud rhwng hen ac ifanc a phwysigrwydd yr ymwneud hwnnw yn thema bwysig ac yn fodd i dangos beth sydd gan y gwahanol genedlaethau i'w cyfrannu i'w gilydd.

Yr oedd pob cyfiawnhad llwyfannu sioe mor berthnasol ond rhoddwyd fel rheswm arall dros ddewis trosiad o waith Saesneg brinder sioeau Cymraeg tebyg.

Mor wahanol, felly i'r hyn ddigwyddodd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin y llynedd lle bu cynhyrchiad gwreiddiol Gymraeg gorchestol gyda pherfformiad ychwanegol yn gorfod cael ei drefnu ar y munud diwethaf.

Mae hwn yn sicr yn faes i'r Urdd fel mudiad ei ystyried yn ofalus a ffrwyno doniau sydd at ei alw.

Yn seiliedig ar nofel gan Nicky Singer comisiynwyd y sioe lwyfan wreiddiol gan Theatr ieuenctid Cenedlaethol Llundain ac yr oedd dros gant o ddisgyblion o bob rhan o Sir Conwy ar y llwyfan ar gyfer y perfformiad Cymraeg nos Sul.

Lluniau o'r cynhyrchiad


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.