Main content

Cerddi Rownd yr Wyth Olaf

1 Trydargerdd: Neges mewn Ffenest

Y Glêr

Mor rhwydd codi arwyddion
#BLM yn wyneb lôn
o ganol breiniau gwynion.
Ond mae pob 1 n llunio
cadwyn sy heddi’n cydio,
a chynnal breichie heno.

Hywel Griffiths 9

Y Gwylliaid Cochion

Paid ti â rhoi dim hasyl,
Mi gymrith mam y parsyl;
Dwi wedi mynd i destio’n eis,
Mae’n neis yn Barnard Castle.

Ifan Bryn Du 8.5

Cynigion ychwanegol

Darogan a wnaf yma’ch ffortiwn
Dyfodol y byd yma’n gwau
Oherwydd pandemig annisgwyl
Yr ydym ni nawr wedi cau.

Ar Werth - beic tandem “Raleigh”
A “chisin’ gêt” reit handi ;
a chyfrol ‘rof yn rhad i chwi
o gerddi Eurig Salsbury.

Ar ofyn -
rhywrai ifanc i siopa
am swper, am forgranc,
a’r mwyaf â dau grafanc.
Dan y bin mae ’ngherdyn banc.

Ar goll ers nos Lun o’r Gelli, efaill,
ac mae’n rhyfedd hebddi.
Aeth i’r golch i ymolchi
ar wahân. Hosan yw hi.

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘iau’

Y Glêr

Er amlder trin y gweryd,
Trwm yw iau trawma o hyd.

Hywel Griffiths 9

Y Gwylliaid Cochion

Mae i'r iau eu hamrywiaeth
ac i'r h欧n eu cynllun caeth.

Gwion Aeron 9

Cynigion ychwanegol

Cathreinwr caeth i’w rynnau,
Ni 诺yr e drymed yr iau.ES

Y llu h欧n yn gwario’r llog,
A’r to iau yw’r siort euog.ORHJ

Y cof nid â o’r Cefnau,
a’r hyn ôn i tra yn iau.

Y dyn h欧n a fu yn iau
yw'r dyn nad yw mor denau.

Cortyn dyn o’i blethiad iau
drwy’r nodwydd a dry’n edau.

Yn ôl mewn gwên anwylyn
daw'n doe iau, a ninnau'n h欧n.

Dan iau nad ydyw’n newydd,
byd rhy wyn yw bywyd rhydd.

Ei wneud a phoeni wedyn;
Ni ei yn iau, ‘mond yn h欧n!

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un noson wrth ateb holiadur’

Y Glêr

Un noson wrth ateb holiadur
Hirfeithach na thrwch y geiriadur,
Meddyliais am Briws:
Ble cafodd o’r jiws?
Mae’n rhaid fod o’n biws, yr hen gr’adur.

Osian Rhys 8.5

Y Gwylliaid Cochion

Un noson wrth ateb holiadur -
Pa un yw’ch hoff air o'r geiriadur?
Dewisais y glêr
Sy'n odli 'fo sêr,
A hefyd yn wybed annifyr.

Rhiain Bebb 8.5

Cynigion ychwanegol

Un noson wrth ateb holiadur,
Fe dreuliais i deirawr annifyr
Yn nodi’n go flin
Sawl awr ar fy nhin
A dreuliwn ar sgrin cyfrifiadurES

Doedd gen i ddim clem sut atebir
“Un noswaith wrth lenwi holiadur”!
Bum wrthi yn griddfan,
yn mwmblan a sgriblan
nes “sh••t”* rhedais allan o bapur!

(* an English expletive the use of which in Welsh language poetry is approved by the Creative Writing Dept of the University of Wales Aberystwyth )

4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Fan hyn y swatiaf yn ofnus eto’

Y Glêr

Fan hyn y swatiaf yn ofnus eto,
Fan hyn, mewn llecyn a’r rhwymau’n llacio,
Ond bydd adenydd yn fy nghadwyno:
Y mae seicoleg mai haws-yw-cilio
Yn tynhau clymau’n y clo fel erioed,
I ddofi f’untroed sy’n rhydd i fentro.

Osian Rhys 9.5

Y Gwylliaid Cochion


Ail agor ysgolion

Na, di o'm yn mynd, don i'm yn meindio
ein Mai diog, bu'n saffach meudwyo
â chyrtens glanwaith a chrwt yn sgleinio
o unigrwydd; ond er imi lwyddo -
chwarae yw ei garchar o'n nh欧 yr haf.
Fan hyn y swatiaf yn ofnus eto.

Tegwyn Pugh Jones 9

5 Pennill telyn o fawl neu ddychan: Cymdogion

Y Glêr

Tri pheth sy’n annwyl imi,
Sef coeden, ffens a llwyni,
I gadw llygaid MI5
Oddi ar y drive, myn diawl i!

Hywel Griffiths 8.5

Y Gwylliaid Cochion

Bum i unwaith yn drugarog
Ac fe gerais fy nghymydog,
Ond er syndod, yn anffodus,
Doedd ei wraig o ddim mor hapus.

Rhiain Bebb 8.5

Cynigion ychwanegol

Tra bo ffens a thra bo llwyni,
Tra bo coeden yn fy ngardd-i,
Tra bo waliau uchel, cryfion,
Byddwn ninnau’n ffrindiau bodlon.HG

Mae'r mwyafrif yn heddychlon,
Un neu ddau sy'n creu trafferthion,
Ac o'r rhain, pan fydd 'na helynt,
Gwell yw peidio camu rhyngddynt.

Bum yn dyfalu, do, ers meitin,
am y rhai tu draw i’r sietyn;
a oes ganddynt rai rhinweddau
lle dychmygaf ond ffaeleddau?

Mae gan bawb gymydog gwirion
Boed yn ferched neu yn ddynion
Os yw’r fro i gyd yn la la
Dim ond un sy’n wirion fan’na

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Chwaraeon Amgen

Y Glêr

Canslwyd yr Ewros a’r Chwe Gwlad a Wimbledon, ill tri,
(trueni na chanslwyd Cheltenham ynghynt ond, dyna ni …),

a heb fy fficsys dyddiol o’r holl gystadlu brwd,
a dweud y gwir, mi o’n i mewn tipyn bach o mood.

Rhaid, felly, ydoedd trefnu fy rhaglen i fy hun
o gampau heriol a chyffrous, gorchestion mawr ar lun

yr Olympiadau fu yng Ngroeg er clod i Zeus,
(gweddïais i ar hwn a’r lleill, ond do’n nhw fawr o iws).

S4C enillodd yr hawliau teli i gyd,
a gwerthais ofod noddi i bedwar ban y byd.

Enillais rownd y ddisgen, roedd hynny yn rhy hawdd –
aeth platiau gorau’r gegin ymhell dros ben y clawdd.

Shot-pwtiais fag o siwgwr (nid oedd dim blawd i’w gael),
a ffyn bamb诺 fel javelin – enillais yn ddi-ffael.

Gafaelais yn fy mhastwn, cans dyna bowlfowlt bardd,
a rhedais, hedais draw uwchben y ffens ym mhen draw’r ardd.

Naid uchel oedd hi wedyn er mwyn cael dod yn ôl,
gan lanio mewn pwll padlo, yn syth i wneud front crawl.

Enillais i fedalau am y campau hyn bob un,
a bloeddiais ar y diwedd fy anthem i fy hun.

Hywel Griffiths 8.5

Y Gwylliaid Cochion

Un AmGen eleni yw'n G诺yl, ac amgen iawn hefyd yw’r hwyl,
Ond cofiwch mai rhithiol yw'r tasgau mympwyol
Wrth fynd drwy’r fynedfa i’r 糯yl.
Yr Orsedd a'i bos Myrddin Ap, addasodd ddawns flodau yn rap,
Ras deircoes dan gant i’r ddeuawd cerdd dant,
A stomp rownd T欧 Gwerin ar hap.
Pôlfoltio wnaeth Ceidwad y Cledd, tra'n canu ‘rhowch i mi yr hedd’,
Cyn ras y telynau, lawr rhwng y stondinau
A’r trefnwyr yn welw eu gwedd.
Y sialens i Ferched y Wawr oedd troi pice mân yn rhai mawr.
Tra Barddas a’u campau ar hen drampolînau
Eu safon aeth fyny…..a lawr.
Y ras 诺y ar lwy oedd yn heriol, ni chafwyd prawf cyffur statudol,
Roedd Dafydd ap Gwilym yn hynod o gyflym
Ond Iolo a’i lwy fu’n orchfygol.
Yn ola’, mewn Talwrn llawn hyder, y ffeinal a drodd yn reit 'sgeler,
A'r Meuryn yn bygwth yn hollol ddisymwth
Ei gerdyn coch, ‘this is not soccer’.

Wrth inni ffarwelio â’n g诺yl, daeth nodyn o dristwch i’r hwyl,
A Cheidwad y Cledd sy’n huno mewn hedd, ond fo oedd Pencampwr yr 糯yl.

Rhiain Bebb 8.5

7. Llinell ar y pryd

Y mae ei ôl ar y mur
neu
Y mae ei hôl ar y mur
neu
Y mae eu hôl ar y mur
neu
Ar y mur y mae ei ôl
neu
Ar y mur y mae ei hôl
neu
Ar y mur y mae eu hôl

Y Glêr

Er ei olchi’n egnïol
Ar y mur y mae ei ôl

Hywel Griffiths 0.5

Y Gwylliaid

Fel rheg gan ddwylo segur
y mae eu hôl ar y mur

Gwion Aeron 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Croesi’r Lôn


Y Glêr

Roedd y dull ei hun yn bur gyfarwydd,
Pot o baent, gefn nos dywyll, a’r weithred
Liw dydd wedyn yn troi’r llechwraidd
Yn waedd yn dy wyneb, ac yn alwad
I’r gad na allai’r awdurdodau’n rhwydd
Ei sgrwbio cyn ei throi mewn dim o dro
Yn eicon bro, ond y tro hwn nid oedd
A wnelo’r hyn a roed ar ochr t欧
Ddim oll ag iaith, a phob dim â malais
Cachgïaidd mewn cymuned fach Gymraeg,
Cywilydd caled gwarthnod croesymgroes
Ar dalcen garej fach goch. Nid oedd gwraig
Y t欧, dywedai, am ei lanhau’n syth
Ac anghofio’r bobl sy’n byw’n ein plith.

Eurig Salisbury 9.5

Y Gwylliaid Cochion

Fan hyn yr ydym ni, bob dydd,
ar ochr saff y stryd
a’n gwynt yn boeth ar ei gwâr
hi, y ferch sy’n dal y sgrin
llonydd. Mor llonydd.
Ninnau, yn dal ein hanadl fel un,
bron.

Wyth munud a phedwar deg chwech eiliad.

Draw fan’cw, bob dydd,
petalau’n codi a gostwng yn yr awel
dan amdo seloffen.

Wyth munud a phedwar deg chwech eiliad.

A ninnau’n baglu dros ein traed o glai
a gwynt y canrifoedd yn ein gyddfau,
i fynd o’r tu arall heibio,
bob dydd.

Mari Lisa 10

9 Englyn: Cwtsh

Y Glêr

Pan syrthia’r crwt o’i sgwter – o’i ddolur
Ei ddal yn ddifater
A wnaf i am ennyd fer
Yn dynn, dynn ac yn dyner.

Eurig Salisbury 9.5

Y Gwylliaid Cochion

(Cwtsh y coronafeirws)

Trwy ddôr fy mreichiau agored cerddodd
cyn cwrdd â'm cymuned,
ar law fe'i cludais ar led.
Roeddwn i mor ddiniwed.

Tegwyn Pugh Jones 9.5

Cynigion ychwanegol

I Malen ar ei phenblwydd yn 18 oed
Un gaer yn gadarn o gariad, a mwy
Na ‘myd mewn cofleidiad.
Trysor o agor llygad
Y dydd y dethum yn dad.
Cwtsh (Tatws)
Y gwaddol o’r Ddôl a ddalia - aelwyd
Y teulu warchoda
Argae rhag gwae y gaea’
I roi o’i hyd aur yr ha’.

CYFANSWM MARCIAU

Y Glêr 72.5
Gwylliaid Cochion 72