Main content

Cerddi Rownd yr Wyth Olaf

1 Trydargerdd: Gorchymyn

Tir Iarll

Lenor, nes cilio’r celwydd – rho dy lais,
rho dy law o’r newydd,
rho d’anadl ar adenydd
a bwr’ i waedd: ‘I can’t breathe’!

Mererid Hopwood 9

Y Tir Mawr

Gorchymyn wrth Moses

Gorchymyn yw hwn iddynt hwy
Addolwch un Duw, d’oes dim mwy
Yfory tyrd atai i ben Mynydd Seinai
Rhag ofn y meddyliai am fwy

Huw Erith 8.5

Cynigion Ychwanegol

Nid mor gaeth hualau’r clo
Eu grym aeth o’r how lacio

Hyn i’r crwydryn:” Cer adra! – paid oedi!
paid heidio i’r traetha’!”
Heb air ffrom wrth Dom, boi da:
I’r helyw mae’r rheola’.

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘metr’ neu ‘medr’

Tir Iarll

I’n plith, i ddau fetr ein plwyf,
Daw England â’i wahanglwyf.

Emyr Davies 9

Y Tir Mawr

Dwy fedr i ni’r haid feidrol,
I Bo a’i griw, bygyr-ôl.

Carys Parry 8.5

Cynigion ychwanegol

Dwy fetr o gyswllt petrus
Neu di-feind – a chael dau fys.

Nid darlith mo llith y llô,
Ei fedr yw i fwydro

Ni fedr sglein aur y fodrwy
Wadu’r clais na mendio’r clwy’

3 Limrig yn cychwyn â’r geiriau ‘Mi es i am dro...’

Tir Iarll

Mi es i am dro ryw ben bora
wedi gwisgo’r sun crîm a fy sgidia,
dau bolyn mewn llaw
a mentro cyn naw
reit draw o fy nghegin i’r lolfa

Tudur Dylan Jones 8

Y Tir Mawr

Fe es i am dro i Fangcock
Ras gerdded yn erbyn y cloc
R’ôl chydyg wythnosa’
Y cloc ddaeth yn gynta
A fynta’ heb goesa’. Am sioc

Gareth Jôs 8.5

Cynigion ychwanegol

Fe es i am dro i Gwm Sgwt,
Gan ddilyn arweiniad fy nghwt,
Cyrhaeddais nôl adre
Yn fuan ‘rôl dechre
O rywle ond sai’n gwbod shwt.

Fe es i am dro draw i Seoul
Gan gerdded bob cam, ac yn ôl
Y daith o’r Waunfawr
Gymrodd flwyddyn ag awr
Ond welais i fawr o ddim byd

Fe es i am dro i Dre’r ddôl
Cyn mentro i Dde Montreal
Ac yna drwy Dwrci
Yn syth i Gentyci
Ac wedyn fe ddois i yn ôl

Mi es i am dro rownd y bloc
Drwy’r bore, drwy’r pnawn, rownd y cloc,
A thrannoeth, mi es i
Gan ddeud, ‘Er fy lles i
Yn union be wnes i wna’i toc’.

Mi es i am dro i ystyried
Dyfodol ein hil ar y blaned,
Dirywiad capeli,
Y crap ar y teli
A phryd bydd tafarnau’n agored.

Mi es i am dro efo nheulu
I Ddurham i “hunan- ynysu”;
Gwnaf reol i chi,
un arall i mi,
Does dim byd yn bod efo hynny.

4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘A’r nos yn agos, rwyf i’n ddiogel’

Tir Iarll

Awr clyfwchwr dros y d诺r diorwel,
awr sêr di-s诺n dros siarad y sianel,
awr murmur persain fel papur parsel
yn sisial drwy'r wlad, ac awr ymadel,
bwrw i Dewi, bro dawel - f’afon dlos;
a’r nos yn agos, rwyf i’n ddiogel.

Mererid Hopwood 10

Y Tir Mawr

Er penawdau’r braw, er bod tre’n dawel
a’r dyddiau iach ar galendr diddychwel,
er bod pwys ar ganran, ofn yr anwel
a’r nos yn agos, rwyf i’n ddiogel
yn yr ardd, f’amser a wêl – ail-ddirwyn
rhai o’r gwanwynau mwyn drwy’r gwenyn mêl.

Myrddin ap Dafydd 9.5

5 Pennill telyn o fawl neu ddychan: Cobra

Tir Iarll

Mae pob llong a pob awyren
yn dibynnu ar y capten,
ond gwna COBRA waith rhagorol
pan fo Boris yn absennol.

Tudur Dylan Jones 8

Y Tir Mawr

O bob neidr a 诺yr dyn
Peryclaf un yw’r COBRA;
Mae gwenwyn yn ei chalon oer,
I’r gwan, ei phoer sydd sobra’;
Ond caiff, am siarad drwy ei het,
Lond cabinet o wobra’.

Myrddin ap Dafydd 8.5

Cynigion Ychwanegol

Fe alwyd pwyllgor COBRA
I drafod troeon ffawd
A’r sôn fod siop Llansawel
Yn cadw pwys o flawd.ED

Ni allai’r pwyllgor COBRA
Ddeall sut, na phryd na pham
Wrth wrando o’r ardd rhosod
Be oedd Dom yn moyn Da’r ham.AK
Ym mhob argyfwng ddaw i’r wlad,
I’n harbed byddant yno,
A’r chwythu gwenwyn ddaw o’r nyth
Mor ddrwg a’r hyn sy’n herio.

Mewn argyfwng rhaid cael pwyllgor,
Un a’i undod yn anhepgor,
Lle nad oes un sarff yn cuddio
Gyda golwg ar ei dwyllo.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Siopa

Tir Iarll

Fe greuwyd f’ymerodraeth
Drwy’r dyddiau hegar hynny,
Stampidio dros y nyrsys
A minnau’n panig-brynu.

A chadarn yw fy ngorsedd
O fogrols, wfft i’ch gwawd,
Ei chadernid a sementiwyd
O basta, bîns a blawd.

Para mae’r gorbrynnu.
«Ond…mae cyfyngiadau, Nei! »
Fe’ch clywaf chi yn poeri!
Wel, fel Dom, wyf gadno slei.

Bob bore draw yn Waitrose
A Thesco â throlis llawn,
Fe gadwaf ddisgl wastad
Yn Aldi bob prynhawn.

Rhaid dweud ei bod yn syndod
Sut caf innau etawê,
Ym Mangor rydw i’n siopa
ac wy’n trigo yn y de!

Aneirin Karadog 8.5

Y Tir Mawr

Meddai’r wraig, “G’am bo chdi’n pasio, galwa’ mewn i Siop Tan Groes”
A rhoi rhestr siopa’i Jaco oedd cyn hired â’i ddwy goes

R’ôl rhoi punt i’w datgysylltu a rhoi’r babi yn y drol
Fe aeth Jaco dan chwibanu mewn i’r farchnad heb ddim lol

Ond wrth bwnio ambell blentyn a rhoi scriff i ambell goes
Sylweddolodd gyda dychryn fod y drol am dynu’n groes

Neidiai pawb wrth sylweddoli fod ‘na fwlsyn yn eu plith
Oedd yn methu lliwio troli yn ei blaen i’r dde na’r chwith

Byddai gyrru ercraffd cariar lawr yr aisles ‘di bod yn haws
Roedd ymdrechion Jac yn ofar, aeth ei drol drwy stondin gaws

Er y tuchan a’r straffaglio roedd y drol ‘di dod i stop
Cafodd Jac y myll a’i chicio ac fe saethodd hi drwy’r siop

Wedi’w dal drwy groen ei ddannedd fe’i dilynodd hi yn awr
Yn dal arni efo’i winedd tra bo’i wep o’n llyfu’r llawr

Roedd y drol yn gyrri drosti ac mewn gwe o ddental fflos
A thu mewn eisteddai’r babi’n mynd drwy’r siop fel Stirling Moss

Yn ei ffordd, ‘di rhewi’n gorcyn, Brysl Sbrowt fel haearn Sbaen !
Dyma’r drol yn stopio’n sydyn. Aeth y babi yn ei flaen

Gyda’i glwt yn llawn at fyrstio hedodd heibio’r Mr. Sheen
A gwneud tin dros ben cyn glanio ‘mysg y papur sychu tin

Dal i fynd wna’r drol fel mellten Haliai Jaco ar ei hôl
T’oedd ei bunt o yn yr handlen ac roedd eisiau honno’n ôl

Ar ôl malu’r drws yn ufflon a sgrialu lawr y stryd
Roedd ‘na g诺n i fyny polion a phensiynwyr ar ei hyd

Gellid clywed swn y damio’n Aberdaron ar y gwynt
Aeth y drol o afael Jaco mewn i’r gamlas efo’i bunt

D’oedd y boi m’ond eisiau baco a phapurau n’eno’r dyn
Os ‘di’r Wraig am siopio eto geith hi fynd i wneud ei hun !
Gareth Jôs 9

7. Ateb llinell ar y pryd

Tir Iarll

Un hawl sydd, yn ôl y sôn,
Nid yw yn hawl i’r duon.

Aneirin Karadog 0.5

Y Tir Mawr

Un hawl sydd, yn ôl y sôn,
Na, dwy - y ni a’r duon.

Huw Erith 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Sglein

Tir Iarll

Mae tai bach yn affwysau’r ddinas
sydd â gwynt tu hwnt i fryntni’n
llygru’r lloriau, staenio’r waliau,

a wyneb newydd weithiau’n dod
gyda’i gynnwrf ar ddisberod
i’r siamberi barbaraidd hyn;

rhwng waled llac a throwsus tyn,
mae dynion ac mae bechgyn
mewn a mas o giwbiclau serch

yn golchi dwylo, ysgwyd llaw;
ac uwchlaw trwch tawelwch,
gwrywdod yn datod ei felt...

wedi awr neu ddwy neu fwy o fwynhad,
llusgant eu brad fel papur t欧 bach
yn ôl at yr oriau mân;

ond sylwan nhw ddim, yr halogwyr hyn,
a hwythau wedi’u cyffroi
yn lân.

Gwynfor Dafydd 9.5

Y Tir Mawr

O bell, gwelaf bioden
yn mynnu’r hyn sy’n weddill
wedi’r pryd yn yr ardd;
haul yr hwyr ar ei phlu –
gwyrdd a glasddu fel hen dei ysgol –
yn ei gwneud hi bron yn hardd.

Pwy na all edmygu’n slei
fflach ei thorsythu ar y lawnt,
swagar braf un ar y brig?
glo carreg ei llygaid
yn amddiffyn ei safle a’i braint
mor fachog â’i phig.

Pan ddaw dwy golomen am eu siâr,
mae’i sioe ymosodol
yn ormod i’r adar llwyd;
arian llachar ei hadain
a’i chrafanc yn gloywi
ei hawl hanfodol ar ei bwyd.

Myrddin ap Dafydd 9.5

9 Englyn: Cist Offer/Bocs T诺ls/Twlbocs

Tir Iarll

Rhaid cofio iro o hyd yn y gwaith,
Rhag i’r gist droi’n wichlyd;
Rhag i’r gêr, y geiriau i gyd
A’u huodledd droi’n rhydlyd.

Emyr Davies 9.5

Y Tir Mawr

Disgwyl y mae’r morthwylion – yn y llwch
Gyda’r llif a’r cynion
Hwyrach y bydd yr wyrion
Yn agor stôr y gist hon.

Carys Parry 9

Cynigion ychwanegol

Os oes eisiau, ar frys, washar, – boltan
bwcwl belt, sgriwdreifar
neu bin neu jystabl sbanar:
yn nes y bo pob ffrind sbâr.
Pob teclyn ag erfyn a fynni – at iws
I sawl tasg sydd ynddi
Ond ni fedd neb allweddi
Rhagor all ei hagor hi.

CYFANSWM MARCIAU


TIR IARLL 72
Y TIR MAWR 71.5