Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd: Gair o Ddiolch

Penllyn

Mor hawdd ei ysgrifennu
Yn nyddiau’r llym lonyddu,
Ond pan ddaw eto haul ar fryn,
Bryd hyn, a wnei weithredu?

Beryl Griffiths 8.5

Crannog


I diolch am fywyd Prys Edwards

Yn ei antur roedd plentyn, - yn y llw
roedd tri lliw yn gyfun,
yn y llais roedd traeth a llyn
a thad yn y bathodyn.

Idris Reynolds 9

Cynigion Ychwanegol

Hawdd yw ei roi ar bapur
Hawdd yw ei ddweud, mae’n gysur,
Ond fe gawn weld ei hyd a’i led,
Trwy weithred mae ei fesur.

Gair o ddiolch i Jim Parc Nest – ar ei benblwydd
Yn ei herwe synhwyrest - hafe hud
y Ddyfedeg onest,
cerddi’r winllan a ganest
a’u canu nhw’n iaith Parc Nest

Diolch nos Iau
Dod o waelod y galon wna’n ‘Diolch’
ond â i’r entrychion
i roi sws iach yr oes hon
i’n hanwylaf angylion

Wedi cael y Cofid caeth
yn wylo mae dynoliaeth
yn y cur, ond bydd y co’
yn dal i guro dwylo

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ciw’

Penllyn

Am y roliau amryliw
Ddoe naw cant oedd yn y ciw.

Alwyn Sion 9

Crannog

I’r rhai sydd fwya’u heisiau
yn y ciw, mae drws yn cau.
Eirwyn Williams 9

Cynigion Ychwanegol

Yn y ciw at ddrws ‘ein’ côp
Bysied o Oakley Bishop.

Sobor ar fore Sabath
Yn y ciw am dun bwyd cath.

‘Un ciw hir’ dwedodd Carol,
‘Yne ras am doilet rôl’

O bob ciw, y ciw cywir
ydi’r ciw sy’n giw go hir.

O na chawn ast wen a chiw
i hel y praidd amryliw.

Mae gennym duedd heddiw
i droi cefn a neidio’r ciw.

Mae adlais trwm o edliw
yn y cefn ar ddiwedd ciw.

Rhaid wrth amynedd heddiw,
Ninnau i gyd yn rhan o giw.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’r pris erbyn hyn wedi codi’

Penllyn

Mae’r pris erbyn hyn wedi codi
Ac anodd cael blawd i chi bobi
Fe rannaf fy nhric
Mae hwn yn un slic,
Fe wnaiff Weetabic ‘di friwsioni

Alwyn Sion 8

Crannog

Roedd menyw yn byw yng Nghydweli
yn gwerthu cyffuriau ac ati.
Am ddime cawn ddigon
i’m cadw yn fodlon.
Mae’r pris, erbyn hyn, wedi codi.

Gillian Jones 8

Cynigion Ychwanegol

Pan oeddwn yn caru ‘fo Siwsi
Cusanau yn ffri roddai i mi,
Ond nawr yr wyf i
Yn briod â hi,
Mae’r pris erbyn hyn wedi codi.

Chweigen, oedd y peint cyntaf gês i,
Erbyn hyn mae'r pris wedi codi!
Er na wnâi les,
Trueni na wnes
Yfed mwy pan oeddwn yn fabi!

(Mewn caffi yng Ngheredigion)
Mae’r pris, erbyn hyn, wedi codi
A’r gateaux sy’n ddrud iawn eleni.
Yn addfwyn fy llais
Dywedais wrth Sais,
‘Ddy prais of ddat slais is ten gini.’

Rwy’n rhentu hen fwthyn bach shabi
I lawr wrth y tra’th yng Nghwmtydu,
Rôl sawl cais am noddfa
Gan Sais, rhag Corona,-
Mae’r pris, erbyn hyn, wedi codi.

Fe brynes lond fan o bacedi
O bapur t欧 bach yn siop Aldi,
R’on ni’n gwerthu nhw’n rhad
Cyn daeth prinder i’r wlad –
Mae’r pris, erbyn hyn, wedi codi.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ystafell Newid


Penllyn

Un dyn, ond diawl, dau enw
wyf: y llon, ac ar fy llw,
yr hyll hefyd. Mae’r llwyfan
ynom ni i gyd: mae ’na gân
i’w chanu, gwefr i’w chynnig.
Lle nid oes i’r hyllion dig
yn hyn o sioe a’i gwin sur.
Dan y golau, dan golur,
ni 诺yr fy nau enw i
ddyfned gall y ddau ofni’r
holl fonllefau. Un llwyfan,
dyna i gyd, un hen gân.
Gruffudd Antur 8.5

Crannog

Ein hyder a’n pryderon
a fynna hoel o fewn hon,
hi yw ffau’r uchelgais ffol
a man ein hofnau mewnol,
ein pentref, a chynefin
y gair hallt a’r Wintergreen,
y rhuo a’r gorawen,
y parêds a’r llwyau pren.
Mae campau bras ein glasoed
ac awdurdod dod i oed
yn ei chân a’i heffian hi.
Unwaith bûm ran ohoni.

Idris Reynolds 9.5

5 Triban beddargraff anifail anwes

Penllyn


Mor agos oeddem Iola,
Ond rhoddaist dy naid ola’
Dy gosi di a ddaeth i ben,
Y chwannen lawn ei bola.

Beryl Griffiths 9

Crannog


Yr hiraeth sydd yn para
Fel s诺n dy sgrechiad ola,
Cei huno’n dawel, fochyn tew,
Yng nghwpwrth rhew drws nesa.

Eirwyn Williams 9

Cynigion Ychwanegol

Er treulio d’oes yn turio
Yn tyllu ac yn cloddio
Yr wyt mewn twll yn awr, rhen Fflei
Na dde’i di byth ohono.

Pysgodyn Aur
Mewn ffair bu gwagu waled,
A'i alw yn...Eluned,
Cyn iached oedd ei euraidd wawl
Bu farw'r diawl, o syched!

Neithiwr fe gest yr ola
O gathod dy gymanfa

Ac yma nawr, fy nghwrcyn del,
Cei’n dawel ddigwrcatha.
I gofio’r brwydrau dyddiol
a’r cyfarth ymosodol
daeth cerdyn bach i Nymbar Three
o du y Post Brenhinol.

Fy selsig-gi sydd yma
o fewn ei genel ola’;
ar fore llwyd fe drowyd Mac
ar darmac yn lasagne.

Am Andy’r Anaconda
mae gen i’r hiraeth hira’;
yr hisiwr slei a aeth ar ffo
a llithro i’r byd nesa’.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cysurwyr Job neu Cysurwr/aig Job

Penllyn

Annwyl Jôb,
Dyma fi'n anfon rhyw air i'th gysuro...
Diolcha nad wyt ti yng Nghymru yn ffarmio!
'Dwi fod yn ynysu; ac i fod yn gweithio,
Adre bob dydd yn gwneud dim ond heneiddio.
Rhyw gwta ddeufis sydd tan y dydd hiraf
A dyna ni wedyn ar drothwy y gaeaf.
Mae'r cwrs "agwedd bositif" wedi' ganslo'n y pentre
Roedd o'n wastraff o amser, 'rôn i'n gwybod o'r dechre!
Dau gant pedwar deg saith o ddiwrnodau mae'n debyg
Sydd o "ddim siopa" o hyn tan Nadolig.
Mae'n Andrex o argyfwng ar y siope eleni
Ag un cwmni s诺p mewn "administroni!"
Mi brynais eye liner i'r wraig 'dolig diwetha,
Mae’n beryg’ mai bin liner gaiff hi tro yma.
A chig rhyw hen gamel fydd i ginio eleni
Rwy'n amau yn gryf y bydd lympie'n y grefi.
Mae'r wraig drws nesa'n cael "home delivery",
Mae hi dros wyth deg, a'r tad bron yn ninety!
Serch hynny'r hen Jôb, cwyd di dy galon.
Tra fod gen i fy iechyd, rwy'n cyfri mendithion.

Aled Jones 9.5

Crannog


(Gydag ymddiheuriad i’r Job Beiblaidd a oedd yn 诺r duwiol ac uniawn – tu hwnt i demtasiynau)

Yn ôl yr Apostolion roedd problem gyda Job,
mae’n anodd byw heb ‘fish and chips’ mewn byd o dato pob.
Eisteddai wrth y byrddau fel g诺r oedd fawr ei flys
cans ef oedd cwsmer gorau Macdonalds yng ngwlad Us,
ac yn y bennod honno rhwng gwyll a thoriad gwawr
yn fynych âi un gwydryn bach yn ddau neu dri go fawr.
Chwaraeai ei hoff emyn, Delilah, ar y crwth
a hoffai gwmni’r merched, Mair Magdalen a Ruth.
Mi dreuliodd ambell orig ym mreichiau hallt gwraig Lot
a Satan a ddywedodd eu bod yn smocio pot.
Ond aeth i chwilio cyngor cyn dyfod dyddiau’r pla
gan ddod o hyd i feddyg, a hwnnw’n Feddyg Da.
Awgrymwyd troedigaeth a dysgu bwyta’n iach
a Job aeth i Ddamascus i brynu platiau bach.
Ei benyd fyddai dilyn y Job go-iawn, di-fai
gan rodio mewn amynedd a bwyta dipyn llai.
Tra’n croesi y diffeithwch, heb ffynnon bityr êl,
tro pedol wnaeth ei gamel am wlad y llaeth a’r mêl,
cans yn y grawys creulon hiraethu a wnai Job
am Eli, Bil a Saffar yn nhafarn glyd y Globe.

Endaf Griffiths 9

7 Ateb Llinell ar y Pryd


Penllyn


Yn Ll欧n, Wayne, mae'n lle ninnau:
Af i ddim i ufuddhau.
0.5

Crannog


Yn agos i’m hwythdegau
Af i ddim i ufuddhau.
0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwaith

Penllyn

Mae yma eto heddiw rhwng y dail,
llond pîg o fwsog a rhyw snwff o wlân,
saernio'i gynllun syml, gosod sail,
cyn aros rhwng dwy shifft - rhoi pwt o gân;
mae'n cychwyn eto ar ei hwb a'i naid
i dyrchu yn y pridd am sment i ddal
muriau ei nyth yn gadarn fel sy' raid.
O'm ffenest, trôf yn ôl i'm pedair wal,
â'r sgrîn yn mynnu sylw fel o hyd,
rhof air ar air fan hyn, strategaeth draw
fel taswn innau'n bensaer newid byd
a holl sgaffaldiau'r cread yn fy llaw.
Daw yntau at y gwydr, pen ar dro
cyn troi i orffen gosod brigau'r to.

Haf Llewelyn 10

Crannog

O wrando, gwelaf ddwy yn pwytho’u byd
Gan dynnu edau hanes hon a hon
 nodwydd chwim sy’n clymu’r pwt yng nghyd
 chlwtyn mwy, a’u taenu ger fy mron.

Daw dernyn arall, gwelaf bwy yw pwy,
A sut bu’n perthyn trwy ryw hen fam-gu.
Nid oeda’r sgwrs, a phwythau mân y ddwy’n
Creu clytwaith cof sy’n estyn ar bob tu.

Fe glywaf wres y cwrlid brith trwy’i hyd
A gwn 'does modd na rhaid ei gwpla’n llwyr
Er mwyn i glytiau’r fro ein cadw’n glyd.
A’u lliwiau’n cadw’u cryfder tan yr hwyr.
Simsana’r sgwrs – a gwelaf ambell bwt
Heb bwythau’r cof i’w clymu’n un yn dwt.

Philippa Gibson 10

9 Englyn: Archfarchnad

Penllyn

Yli’r dyn â llond stondin o ’nialwch
yn hawlio’r holl bafin,
yr un brith, ei eiriau’n brin,
â’i ffair rad anghyffredin.

Gruffudd Antur 9

Crannog


O’r ddaear mynnwn gario – yn helaeth
o’i thir hael gan lwytho
bag ‘r ôl bag hyd nes y bo
ddigon i’r silffoedd wagio.

Philippa Gibson 9.5

Cynigion Ychwanegol

Hoffwn un ‘rôl’ i’w gaffel - er hasdio
I’r Asda, ‘run bwndel,
Ond rhyddhad cyn ‘mi ad’el
Diawl y mae un Daily Mail.

A môr o donnau mawrion - yn dyrnu
a’i darnio yn gyson,
ofnwn weld o’r hafan hon
ogof o silffoedd gweigion.

I ferch nid yw archfarchnad- ddi-bapur
ddi-bopeth yn eithriad,
eleni o ganlyniad
‘nôl a hi i siop y wlad.

MARCIAU TERFYNOL


PENLLYN 72
CRANNOG 74