主播大秀

Archifau Mehefin 2009

Dyna le . . . Ond lle?

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 07:11, Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Glynebwy ddwedsoch chi?
Ynteu Glyn Ebwy?
Neu Lyn-ebwy efallai?
Glyn-Ebwy hyd yn oed.

Mae'n ymddangos ein bod ni mewn strach yn barod gydag enw cartref Eisteddfod 2010 - dros flwyddyn cyn y digwyddiad.

Fel Eisteddfod Glyn Ebwy mae'r Eisteddfod Genedlaethol ei hun yn cyfeirio ati mewn pamffledi, gohebiaeth ac ar arwyddion.

Ond os trowch chi at y llyfrau enwau lleoedd fe gewch mai Glynebwy yw'r ffurf gywir. Dyna ddywed Y Llyfr Enwau - y geiriadur enwau lleoedd safonol diweddaraf ac yn hynny o beth mae'r awdur, D Geraint Lewis, yn cyd-fynd 芒 Briws sydd hefyd yn cynnig Glynebwy fel y ffurf Gymraeg o Ebbw Vale.

A chyda llaw y ffurf Saesneg yw'r un gysefin gyda'r Gymraeg, am nerwid gydag enwau lleoedd, yn gyfieithiad o'r ffurf honno.

Codi arwydd yng Nglynebwy

Cyn hynny yr enw Cymraeg gwreiddiol ar y llecyn oedd Pen-y-cae gydag Ebbw Vale yn dod i fodolaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i'r gymdogaeth dyfu o amgylch gwaith haearn a sefydlwyd yn wreiddiol ganol yr 1780au.

Go brin bod angen egluro mai'r ystyr yw, dyffryn afon o'r enw Ebwy.

Sydd bron yn gywir - ond mai Ebwydd neu Ebwyth oedd enw'r afon yn wreiddiol yn 么l y ddau chwilotwr diwyd hwnnw Melville Richards.

Eb, yn golygu ebol a'r elfen gwyth neu gw^ydd, yn golygu ffyrnig neu wyllt a hynny'n peri i Hywel Wyn Owen awgrymu y gallai hynny ddisgrifio'r ceffylau fyddai'n yfed o'r afon.

A chyda llaw, Glynebwy yw ei sillafiad ef a Melville Richards o'r ffurf Gymraeg. Nid Glyn Ebwy, nid Glyn-ebwy, nid Glyn-Ebwy.

Ac yn hynny o beth y mae, Bruce 'Briws' Griffiths a D Geraint Lewis yn cymryd eu harwain gan y gyfrol sydd 芒'r gair olaf am enwau lleoedd Cymraeg, Rhestr o Enwau Lleoedd - A Gazetteer of Welsh Place-names a olygwyd gan Elwyn Davies ar gyfer y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ac a gyhoeddwyd 1957 gyda rhagair gan Syr Ifor Williams.

Yn y rhagymadrodd hwnnw mae Syr Ifor yn egluro'n fanwl pryd y mae enw lle yn ddeuair, yn ungair lluosillafog neu'n air lluosillafog gyda chysylltnod.

Perthyn Glynebwy i'r categori "unsillaf+lluosillaf" sy'n ufuddhau i'r rheol dim cysylltnod. "Ysgrifenner fel un gair," meddai Syr Ifor.

Lleoedd eraill tebyg yw Brynaman, Brynsiencyn, Ceinewydd; Tyddewi - ac yr oedd yna gamsillafu hwnnw hefyd pan ymwelodd yr Eisteddfod 芒'r lle rai blynyddoedd yn 么l!

Mae chwe rheol i gyd a dyna pam y cawn yn y Gymraeg amrywiaethau fel Castell-nedd, Llan-faes, Eglwys-wen, Castellnewydd, Pentrefoelas, Ystradmeurig, Tal-y-bont, Gawelod-y-garth, Cerrigydrudion, Rhydyceisiaid ac yn y blaen.

Yn y pen draw mae'r cyfan i'w wneud 芒'r acen.
Meddai syr Ifor:

"Dilynwyd dwy egwyddor gyffredinol wrth ddiwygio'r enwau. Yn gyntaf, dylid ysgrifennu enwau lloeodd hyd y galler, yn un gair. Yn ail, dylid eu hysgrifennu fel y gellir, wrth ddarllen, eu hacennu'n gywir yn 么l rheolau arferol yr iaith Gymraeg; i sicrhau hyn defnyddir cysylltnodau i ddangos safle'r acen.

"Gwneir eithriad pan geir enw disgrifiadol fel afon, bwlch, cefn, cwm, glyn, llyn, moel, morfa, mynydd, nant etc., yn elfen gyntaf mewn enw ar nodwedd ddaearyddol. Yn y rhain ysgrifennir yr enw disgrifiadol ar wah芒n, ac felly hefyd gydag enwau lle ceir betws, a capel fel elfen gyntaf pan fo'r fannod yn dilyn."

Yda chi'n gwrando yn y cefn?

"Ond pan fo'r enwau daearyddol hyn yn rhan o enw pentref neu fferm ysgrifennir hwy yn un gair, e.e. Cwm Aman am y cwm ond Cwmaman am y pentref a'r plwyf."

Felly, Glynebwy sy'n gywir ond Glyn Ebwy sy'n cael ei ddefnyddio helaethaf hyd y gellir gweld.

Gan gynnwys y llond ceg o enw llawn swyddogol; "Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau gwent a Blaenau'r Cymoedd yn y Gweithfeydd Glyn Ebwy 2010".
A pheidiwch a cheisio dweud hynna eto - neu fe fyddwch yn hwyr ar gyfer Y Bala . . .

Ond fel y byddan nhw'n dweud yn Private Eye; 'Dyna ddigon am enwau lleoedd. Gol.'

Oni bai fod gennych chi sylw i'w wneud wrth gwrs . . .

Trannoeth Michael Jackson

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Kate Crockett | 20:32, Dydd Sadwrn, 27 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Kate Crockett yn sgrifennu o 糯yl y Smithsonian, Washington wedi'r newyddion am farwolaeth Michael Jackson

Fel un o blant yr wythdegau, wrth gwrs roeddwn i'n ffan o Michael Jackson - yn prynu ei recordiau, yn rhyfeddu at y fideos drudfawr, a hyd yn oed yn cael tocyn i'w weld yn canu yn yr hen Barc yr Arfau yng Nghaerdydd yn 1988.

Ond o'r holl enwau mawr i fi eu gweld yn perfformio'n fyw ar hyd y blynyddoedd, y gyngerdd honno wnaeth leiaf o argraff arnaf. Does dim gwadu talent aruthrol Michael Jackson fel perfformiwr ond ni wnaeth unrhyw ymdrech y noson honno i gyfathrebu gyda'r gynulleidfa.

Fflat iawn oeddwn i'n teimlo wedi'r gyngerdd, a hynny er gwaetha'r cyffro o weld seren mor fawr yn dod i Gymru - peth prin iawn yn y dyddiau cyn agor y CIA a Stadiwm y Mileniwm yn y brifddinas.

Ar hyd y blynyddoedd wedyn daeth yn fwyfwy anodd dilyn ei yrfa heb weld bod rhywbeth mawr iawn yn bod. Collodd ei sbarc creadigol ac ar yr un pryd roedd ei ymddangosiad corfforol yn arwydd allanol o'r problemau lu oedd ganddo.

Cafodd gyfle i glirio'i enw mewn llys barn wedi cyhuddiad iddo gamdrin plentyn ond dewisodd yn hytrach dalu miliynau i dawelu'r plentyn hwnnw. Ac er i lys barn ei gael yn ddieuog o gyhuddiad arall yn y blynyddoedd wedyn, yn sicr roedd ei ymwneud 芒 phlant yn annoeth ac yn anaddas, a dweud y lleiaf.

Felly teimladau cymysg oedd gen i o glywed am ei farwolaeth, a minnau yma yn yr Unol Daleithiau i recordio rhaglenni i Radio Cymru am 糯yl y Smithsonian yn Washington DC.

Cofio

Mae Cymru'n un o dair thema yn yr 诺测濒 eleni a thrannoeth marwolaeth Michael Jackson, trefnwyd digwyddiad coffa iddo ar fyr rybudd gan rai sy'n cymryd rhan yn un o elfennau arall yr 诺测濒 - Giving Voice, dathliad o'r gair llafar yn y diwylliant Afro Americanaidd.

Ar y llwyfan Radio yna ar y Mall, roedd ei recordiau'n cael eu chwarae, a rhoddwyd cyfle i bobl rannu eu hatgofion ohono.

Digwydd imi daro heibio, a gwrando ar ddwy ddynes yn eu pedwardegau neu'n h欧n yn siarad gyda chriw o blant ifanc am Michael Jackson. Soniodd un am ei balchder a'i hanghrediniaeth pan ddarlledwyd cart诺n yn seiliedig ar y brodyr Jackson pan oedd hi'n blentyn.

Meddai'r llall am ei phlentyndod hithau, "Pan roeddwn i'n gweld Michael Jackson ar y teledu, doeddwn i ddim yn gallu credu 'mod i'n gweld rhywun oedd yn edrych fel fi."

Rhoddwyd y g芒n Beat It ar y system sain, a heb unrhyw anogaeth, cododd twr o blant ar eu traed i ddawnsio a dathlu .

Yn ddirybudd hollol, teimlais y dagrau'n cronni - nid mewn ffug alar Diana-aidd am un na wnes i ei gyfarfod erioed ond o weld pwysigrwydd Michael Jackson fel arloeswr i'r gymuned hon.

Diolch byth, mae'r plant oedd yn dawnsio o 'mlaen i yn cael eu magu mewn byd ble mae arwyr o bob lliw a hil i'w gweld ar y teledu, mewn ffilmiau, a hyd yn oed yn y T欧 Gwyn lai na milltir i ffwrdd - ac mae hynny'n werth dathlu.

Steddfod Washington?

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Kate Crockett | 19:22, Dydd Iau, 25 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Gair o'r Smithsonian
Kate Crockett yn sgrifennu o 糯yl y Smithsonian, Washington

Tybed ai fel Steddfod Washington y bydd pobl yn cofio am 糯yl y Smithsonian?

Rhan o un o faneri Mary Lloyd Jones

Wrth grwydro o stondin i stondin, taro ar hen ffrindiau a gofyn i bobl, "Chi 'ma am yr wythnos?" yn sicr mae'n hawdd credu ein bod yn y brifwyl.

Ond beth yw'r adeilad yna y tu cefn i ni? O ie, y Capital, lle roedd llygaid y byd ychydig fisoedd yn 么l wrth i Barack Obama gael ei sefydlu'n Arlywydd yr Unol Daleithiau.
'N么l ar y diwrnod hanesyddol hwnnw ym mis Ionawr, roedd miliwn o bobl yn gwylio'r seremoni islaw'r Capital ar y Mall - stribyn hir o barc sydd wedi'i ddisgrifio fel ystafell ffrynt yr Americanwyr.

Y naill ochr a'r llall i'r Mall, mae cyfres o amgueddfeydd sy'n dod o dan faner y Smithsonian a dyna'r sefydliad sydd yn trefnu'r 诺测濒 hon i ddathlu diwylliant gwerin.

Ond nid y tu fewn i furiau'r amgueddfeydd mae'r 诺测濒 - mae'r stondinau ynghanol y Mall ac o ddod allan o orsaf y Metro, yr olygfa gyntaf sy'n wynebu'r ymwelwyr a'r trigolion lleol yw baneri Mary Lloyd Jones yn datgan bod y Cymry yma.

Erbyn diwedd y pythefnos nesaf yma, bydd hyd at filiwn o bobl wedi ymweld 芒'r fan hon, a bydd nifer ohonyn nhw wedi dysgu ambell frawddeg yn Gymraeg. Yn ogystal 芒 dysgu'r iaith, ar y stondinau mae'n bosib clywed mwy am lenyddiaeth, celf, crefft, bywyd gwledig a diwydiannol Cymru, ymchwilio i hanes teuluol, dysgu sut mae hollti llechi a chodi t欧 unnos.

Mae nifer fawr o gerddorion yma: yn eu plith, Gwyneth Glyn, Si芒n James a Pharti Cut Lloi, Crasdant, Linda Griffiths, a Gai Toms ac mae 'na gynulleidfaoedd teilwng yn gwrando ar y gwahanol berfformiadau.

Ac ydy'r Americanwyr eisiau dysgu am Gymru? Ydyn, heb os. Mae'r brwdfrydedd a'r chwilfrydedd yn fyw iawn. Ar ddiwedd pob sesiwn mae yna gwestiynau lu i'r perfformwyr, a phobl yn dangos diddordeb gwirioneddol yn ei diwylliant ni.

Gyda'r rhesi o gwestiynau i'w hateb, a'r gwres llethol sydd ar y "maes", mae'n ddiwrnod hir a blinedig i'r cynrychiolwyr Cymreig.

Yn y seremoni agoriadol, dywedodd Wayne Clough, Ysgrifennydd y Smithsonian, a dyn sy'n olrhain ei achau yn 么l i Gymru'r 1630au, bod deall y gwahaniaethau rhwng gwahanol ddiwylliannau yn bwysicach nag erioed.

Gwersi Cymraeg yn Washington DC

Gyda dwy thema arall i'r 诺测濒 - cerddoriaeth America Ladin a diwylliant llafar pobl ddu'r Unol Daleithiau, mae cyfle i ni fel Cymry gael ein hysbrydoli hefyd gan bobl o wahanol cefndiroedd. Ac efallai, teimlo ychydig yn fwy balch am yr hyn sydd gyda ni i'w gynnig i'r byd hefyd.

Fe gewch chi glywed mwy am drip y Cymry i'r Smithsonian ar Stiwdio, nos Iau am 1800, ar Fehefin 25 a dydd Iau Gorffennaf 2.

Arwisgo - posteri gwylio'r gwylwyr!

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 06:24, Dydd Mercher, 24 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Bydd yn ddeugain mlynedd ers Arwisgo y Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon y dydd cyntaf o Orffennaf.

Yr oedd y cyfnod a arweiniodd at Orffennaf 1, 1969, yn un cyffrous a digon chwerw yn aml.

Er i'r rhan fwyaf o bobl wirioni gyda'r 'Prins' newydd yr oedd digon a oedd yn wrthwynebus hefyd ac mae digon o bobl a chanddynt fawr i'w ddathlu ar y deugeinfed pen-blwydd - ond digon i'w gofio.

Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio'r posteri Mae'n Drosedd bod yn Gymro ac If you're Welsh you're Watched a gyhoeddwyd ar y pryd.

Cynhyrchwyd y rheini yn sgil yr holl amheuon, sibrydion a hyd yn oed baranoia oedd yna yngly^n 芒 "heddlu cudd" a oedd yn gweithredu o Amwythig dan arweiniad uchel swyddog o'r enw Dixon.

poster.jpg

"Dicsi'r glust," mewn c芒n boblogaidd ar y pryd gan y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog.

Yn 么l y poster Cymraeg; "Mae unrhyw un sy'n beiddio dangos ei fod yn Gymro, yn awr mewn perygl cael ei gipio gan heddlu cudd Dixon, o Amwythig. A'r trosedd? Digon hawdd ffeindio un."

Ac yn y Saesneg: "Dixon's secret police, based in Shrewsbury, are now watching, filing, following all Welsh persons suspected of holding patriotic views. When they want to, they make arrests; and sometimes even frame the charges."

Y posteri, gyda llaw, yn costio chwe cheiniog yr un gyda phedair ceiniog o gludiant am 15 a mwy o Wasg Y Lolfa yn Nhalybont, Ceredigion!

Tybed faint ohonyn nhw sydd ar 么l? Oes gennych chi un?
Beth yw eich atgopfion chi o gyfnod yr arwisgo?

Cofio 1984

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Glyn Evans | 01:50, Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Yr adeg hon ym mis Mehefin drigain mlynedd yn 么l yr oedd darllenwyr a'u trwynau mewn nofel newydd ysgytiol. Un o nofelau mawr yr ugeinfed ganrif.

Nofel sy'n parhau i adleisio o fewn ein diwylliant poblogaidd.

Bythefnos yn 么l, ar Fehefin 8 1949, y cyhoeddwyd nofel dywyll George Orwell, Nineteen eighty-four ac er i'r awdur farw o fewn saith mis i'w chyhoeddi mae'r gyfeiriadaeth at y nofel yn parhau.

O'r nofel y daw teitlau dwy raglen deledu boblogaidd, Big Brother a Room 101.

Ar sail gweledigaeth lom 1984 y bathwyd yr ansoddair Orwellian yn y Saesneg ac Orwelaidd yn y Gymraeg. Yn y nofel hon y rhoddwyd bod i Newspeak, Doublethink, Thoughtcrime a'r Thought Police gydag amrywiadau fel Plismyn Iaith yn dal i gael eu bathu hyd yn oed yn y Gymraeg.

Ac i lawer ohonom, yr ydym yn dal i chwilio am linell agoriadol gan unrhyw awdur i ragori ar eiriau cyntaf Nineteen eighty-four:

"It was a bright cold day in April, and the clocks were striking thirteen."

Pwy allai wrthsefyll y demtasiwn i ddarllen ymhellach?

Mae'r dadlau'n parhau yngl欧n 芒 theitl y nofel - neu ddewis Orwell o flwyddyn ei nofel.

George Orwell - a'r Brawd Mawr fel y'i darluniwyd mewen ffilm.

Un gred gweddol gyffredin yw mai troi o chwith flwyddyn gorffen ei sgrifennu a wnaeth, 1948, ond mae eraill yn honni mai cyfeirio yr oedd at ganmlwyddiant sefydlu'r Fabian Society yn 1884.

Dyfalaid arall yw iddo ddewis yr un flwyddyn ag a wnaeth un o'i hoff awduron, G K Chesterton, yn ei stori The Napoleon of Notting Hill.

Beth bynnag am hynny, yr oedd Orwell yn pendilio hyd y diwedd un rhwng Nineteen eighty-four a The Last Man in Europe tra'n dal i feddwl am rywbeth gwell na'r ddau

Yr oedd Orwell mewn iechyd difrifol yn cael ei oddiweddyd gan y dici芒u ac yn dal mewn galar dwys wedi marwolaeth annisgwyl ei wraig, dan anesthetig ar fwrdd llawfeddyg, pan enciliodd gyda'i fab bychan, Richard, i gwblhau'r nofel ar ynys Jura yn yr Alban lle'r oedd yn cael ei adnabod wrth ei enw go iawn, Eric Blair.

A chael a chael fu hi ac yntau bron yn rhy wan i eistedd wrth ei deipiadur ond yno y rhoddodd yr awdur - a ddywedodd bod "rhyddiaith dda fel cwarel ffenest" - ei weledigaeth o'r gymdeithas dotalitaraidd, lom, yr oedd Winstone Smith yn byw ynddi ar bapur.

Ac mae'n dal i fod yn symbol - ac yn rhybudd - o gymdeithas lle cyfyngir 芒 hualau swyddogol ar ryddid unigolion gan wleidyddion a swyddogion sifil sydd hefyd yn defnyddio iaith i reoli meddyliau pobl trwy wyrdroi ystyr geiriau.

Bu'n nofel a efelychwyd mewn ffilm a llyfr ers hynny gan gynnwys, yn y Gymraeg, Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis.

Ond yn wahanol i Orwell mae'r Cymro yn cynnig dwy weledigaeth cwbl groes i'w gilydd o Gymru'r dyfodol un yn baradwys Gymraeg a'r llall yn hunllef lle mae'r siaradwraig Gymraeg olaf yn adrodd Gweddi'r Arglwydd.

Yn ei bropaganda lenyddol a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru, neges amlwg Islwyn Ffowc Elis oedd mai penderfyniadau gwleidyddol Cymry'r presennol, adeg sgrifennu'r nofel yn 1957, fyddai'n pennu ai'r freuddwyd ynteu'r hunllef ddeuai'n wir.

Ond chafodd ei nofel ef, er mor ddifyr i'w darllen, mo'r gafael ar ddychymyg y Cymry ac a gafodd Nineteen eighty-four ar weddill y byd.

Fel y byddech yn disgwyl bu sawl ymdrech, pan gyrhaeddwyd y 1984 go iawn, a ymddangosai mopr bell yn y dyfodol pan sgrifennai Orwell, i restru beth gafodd Orwell 'yn iawn' a lle methodd yn ei broffwydoliaeth lem.

Ond colli'r pwynt yw mynd ar 么l manylion. Hel manus. tra'n colli'r grawn. Y syniad mawr sy'n bwysig ac mae pryderon Orwell mor real heddiw ag erioed.

Yn wir, efallai y tybiwch eu bod yn nes nag erioed at fod yn wir yn nyddiau brodyr mawrion sydd 芒 chyfrifiaduron at eu galw . . .

Chwilio am adar gl芒n

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Glyn Evans | 08:55, Dydd Llun, 22 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Y tro nesaf y byddwn yn bwrw'n llach ar wleidyddion a'u costau mae un o olygyddion papurau enwadol Cymru am inni holi adar pa mor l芒n ydym ni ein hunain!

Mewn colofn 'Gair neu Ddau' ar Y Pedair Tudalen gydenwadol sy'n cael eu rhannu gan rai o'r papurau anghydffurfiol dywed y golygydd, Y Parchedig John Pritchard:

"Mae'r holl drafod a fu ar y costau, a'r holl gollfarnu a fu ar y gwleidyddion yn awgrymu bod yna ryw onestrwydd cynhennid yn perthyn i bobl gwledydd Prydain."

Gan ychwanegu bod yr holl feirniadu yn rhoi'r argraff fod pob un arall ohonom "yn ddilychwin a chwbl onest wrth drafod pob math o arian".

Ond mae o'n amau a yw hynny'n wir a hynny'n peri iddo ein hatgoffa o eiriau'r Iesu am daflu'r garreg gyntaf ar adegau fel hyn.

A holi: ". . . yw pawb arall yn gwbl onest wrth hawlio eu costau teithio, wrth lenwi'r ffurflen dreth, wrth wneud cais am arian oddi wrth y cwmni yswiriant, wrth drefnu bil am waith a wnaed, wrth gymryd diwrnod o'r gwaith, wrth ddefnyddio car y cwmni neu wrth ddefnyddio amser y cyflogwr?"

Na, yn 么l John Pritchard, sy'n weinidog yn Llanberis;
"Cyn rhuthro i gondemnio eraill, mae'n rhaid i bawb ohonom gydnabod ein beiau ein hunain, a bod yn edifeiriol amdanynt. Wedi i ni dynnu'r trawst o'n llygaid ein hunain y bydd gennym obaith i dynnu'r brycheuyn o lygaid rhywun arall.

"Mae angen tynnu sylw at anonestrwydd ac anghyfiawnder, ond mae gymaint haws gwneud hynny pan fo'n calon ni'n gywir tuag at Dduw."

Faint o ddarllenwyr Y Pedair Tudalen ddywedodd "Amen" i hynna tybed? A sawl un deimlodd bang o euogrwydd?

Helbulon enw ar ddu a gwyn

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 10:48, Dydd Sul, 21 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Rhywun ar y ff么n yn fy atgoffa nad yn achos ci arwr The Dam Busters yn unig y bu'r gair Nigger yn broblem ym myd ll锚n a ffilm.

Yn 1939 cyhoeddodd Agatha Christie nofel fwrdwr Ten Little Niggers a ddaeth y mwyaf poblogaidd o'i holl lyfrau.

Fe'i sylfaenwyd ar rigwm traddodiadol Ten Little Nigger boys . . . oedd yn adnabyddus i bawb ar y pryd gyda rhyw anffawd yn digwydd i bob un ohonyn nhw fesul un nes cyrraedd y geiriau olaf "then there were none".

Yn ei nofel mae Christie yn dod a deg o bobl ynghyd ar ynys anhygyrch Nigger Island ar wahoddiad Mr a Mrs U. N. Owen lle maen nhw'n cael eu lladd fesul un.

Yn arwyddocaol dan y teitl And Then There Were None y cyhoeddwyd y nofel o'r cychwyn cyntaf yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn wedyn ond yr oedd y teitl gwreiddiol Ten Little Niggers yn dal i gael ei ddefnyddio yma tan yr Wythdegau gyda'r fersiwn cyntaf dan y teitl And Then There Were None yn cael ei gyhoeddi yn 1985.

Newidwyd enw'r ynys hefyd i Indian Island ac i Soldier Island ac fe newidiwyd geiriad y rhigwm traddodiadol i Ten little soldier boys . . .

Bu'r nofel yn cael ei hadnabod hefyd fel Ten Little Indians gyda phob cyufeiriad at Nigger yn y testun a'r rhigwm yn cael ei newid yn Indian.

Yn dal i werthu heddiw y mae And Then There Were None y seithfed llyfr mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd erioed - ond dim ond mewn siop ail law y deuech chi o hyd iddo wrth ei deitl gwreiddiol.

Y fersiwn cyyntaf un a fersiwn cyfoes o glawr y llyfr

Ond mewn cyfieithiadau Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg ac Iseldireg o'r llyfr, er enghraifft, cadwyd at y teitl gwreiddiol hyd yn oed yn yr Wythdegau pan oedd ymwybyddiaeth newydd yngl欧n 芒'r defnydd o dermau o'r fath.

Dros y blynyddoedd addaswyd y nofel hefyd ar gyfer y sgrin a'r llwyfan ond erioed wrth ei henw gwreiddiol ar wah芒n i gynhyrchiad Rwsaidd yn 1987 wrth yr enw Desyat Negrityat - Deg o Negroaid Bach.

Ar gyfer y fersiwn llwyfan bu'n rhaid newid y diwedd y stori hefyd i wneud llwyfaniad yn bosibl..

Bu sawl newid ar gyfer y sgrin fawr gyda'r ynys unig yn troi'n encil fynyddig yn Awstria yn 1965 a'r deg yn dod at ei gilydd yn niffeithwch Iran yn 1974 ac ar saffari yn Affrica yn 1989.

Ar gyfer y teledu addaswyd y nofel gan y 主播大秀 yn 1949 ac ITV yn 1959 ac erbyn 2005 yr oedd g锚m fideo And Then There Were None ar gael.

Y llynedd yr oedd fersiwn Wii.

Y diweddariad diweddaraf, fel petai, yw nofel graffig a gyhoeddwyd fis Ebrill 2009.

Ond fel y goliwog mae'r deg nigar bach wedi hen ddiflannu - ond faint o wahaniaeth mae hynny yn ei wneud a phawb yn cofio beth bynnag wrth ddarllen beth oedd y teitl a'r rhigwm gwreiddiol.

Be ddwedwch chi?

Mewn lle ciaidd

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Glyn Evans | 17:14, Dydd Gwener, 19 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae dywediad cyfarwydd iawn yn y Saesneg am roi enw drwg i gi.

Ac enw ci un o'r arwyr sy'n achosi cur pen i wneuthurwyr fersiwn newydd un o ffilmiau mwyaf poblogaidd y Pumdegau, The Dam Busters.

Yn 1955 y ffilm hon am Barnmes Wallis (Michael redgrave) yn dyfeisio bom oedd yn bownsio oddi ar wyneb dwr er mwyn dinistrio dau argae yn nyffryn diwydiannol y Ruhr yr Almaen oedd ffilm fwyaf poblogaidd gwledydd Prydain gan guro'r enwog White Christmas
.
A'r un mor boblogaidd oedd ei cherddoriaeth gan Eric Coates, y Dam Busters March gyda galw byth a hefyd am ei chwarae ar raglenni cais y radio.

Un o 'gymeriadau amlwg y ffilm oedd labrador du y peilot RAF, Guy Gibson (Richard Todd) y cyfeirwyd ato 12 gwaith wrth ei enw yn y ffilm yn 么l y rhai fu'n cyfrif.

A'r enw hwnnw sy'n destun cur pen i wneuthurwr fersiwn newydd 拢21miliwn o'r ffilm, Peter Jackson (The Lord of the Rings).

Ganol y Pumdegau nid achosodd yr enw 'Nigger' ddim tramgwydd i neb ond ym mlynyddoedd mwy gwleidyddol gywir yr unfed ganrif ar hugain mae rhai wedi ffromi yn barod.

Ond eraill yn dadlau, os mai dyna oedd enw'r ci pam newid ffaith i dawelu plismyn cywirdeb gwleidyddol.

Yn 么l yr adroddiadau mae'r ffilmwyr yn barod wedi bod yn ystyried galw'r ci yn Digger, Nidge neu a Nigsy gan ddweud i Gibson ei hun ei alw'n Nigsy ar adegau.

Gofynnwyd, hyd yn oed, i Stephen Fry sy'n sgwennu'r sgript gynnig enwau derbyniol ond y s么n yw i'r rheini i gyd gael eu gwrthod.

Erbyn hyn mae gwneuthurwyr y ffilm wedi derbyn waeth be wna nhw bydd rhywun yn anhapus.

Os newidir yr enw cant eu cystwyo am wyro oddi wrth y gwirionedd ac os na'i newidir cant chwip din am arddel gair sy'n annerbyniol erbyn heddiw.
Beth mae rhywun i'w wneud mewn sefyllfa felly?
Ac os ydyn nhw yn newid yr enw fyddai hi wahaniaeth i beth fyddai'n cael ei newid gan y byddai unrhyw newid yn un anghywir beth bynnag?

Edrychwn ymlaen at weld beth fydd wedi digwydd pan fydd y ffuilm i'w gweld yyn 2011.

Disgwyl dipyn gan Depp a Bale

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Glyn Evans | 11:39, Dydd Iau, 18 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae'n gyfuniad sy'n achosi disgwyliadau mawr. Christian Bale a Johnny Depp gyda'i gilydd mewn ffilm.

Bydd yn rhaid aros tan Orffennaf 3 cyn gweld y naill yn ymlid y llall yn y ffilm am y giangstar Americanaidd John Dillinger.

Depp fydd yn chwarae rhan Dillinger a Bale, yr actor a anwyd yn Sir Benfro, fydd yn chwarae rhan Melvin Purvis y swyddog FBI sydd ar ei warthaf.

Mae'r disgwyliadau yn uchel.

Sylfaenwyd y ffilm, Public Enemies, ar lyfr o'r un enw gan Bryan Burrough yn ymwneud 芒 chyfnod cyffrous gangsters enwog yr Unol Daleithiau a chreu yr FBI yn 1933-34.

Mae hwn yn gyfnod y mae gwneuthuwyr ffilmiau wedi ei odro yr un mor ddeheuig ag y buo nhw'n godro'r Gorllewin Gwyllt.

Ac yn union fel cyfnod saethwyr sydyn y ffilmiau cowboi cyfnod byr iawn oedd un y gangsters hefyd gyda rhai fel Bonnie a Clyde, Pretty Boy Floyd, Baby Face Nelson, Machine Gun Kelly a Ma Barker wedi gwibio megis s锚r gwib ar draws ffurfane hanes mewn cwta ddeunaw mis yn 么l Burrogh mewn erthygl yn y Times, ddydd Sadwrn Mehefin 13, 2009.

Hawdd credu o gymryd Hollywood fel eich llyfr hanes iddo fod yn gyfnod llawer hwy gan iddynt ei odro mor drwyadl.

Rhan o boster 'Public Enemies'

Yn wir, bu Dillinger yn 'arwr' sawl ffilm cyn Public Enemies wedi cael ei chwarae gan Lawrence Tierney yn Dillinger yn 1946; gan Scott Peters yn The FBI Story (James Stewart) 1959.

Yn Dillinger (1973) Warren Oates chwaraeodd y rhan ac yn The Lady in Red (1979) Robert Conrad oed yr actor ac mewn ffilm deledu, Dillinger, yn 1991 Mark Harmon oedd yr arwr.

Yn Dillinger is Dead , 1969, fodd bynnag, defnyddiodd y cyfarwyddwr, Marco Ferreri, glipiau ffilm o'r Dillinger go iawn!

Gelyn ac erlidiwr mawr Dillinger gydol ei yrfa oedd Melvin Purvis a chwaraewyd gan Ben Johnson gyferbyn 芒 Warren Oates ond dywed Burrough nad oedd y Purvis go iawn yn ddim byd tebyg i'r actor cydnerth hwnnw ond yn gorffilyn bychan 29 oed gyda llais main nad oedd y gorau wrth ei waith er yn ddigon cydwybodol.

"Mae'r Dillinger a'r Purvis a welwch yn Public Enemies yn llawer nes at y gwir na'r rhan fwyaf o gangsters sinema diweddar," meddai Burrough yn ei erthygl yn y Times.

Ac yng Nghymru fe fydd yna gymaint o ddiddordeb ym mhortread Christian Bale o Purvis ag a fydd yn un Depp o'r 'arwr' ei hun.

Un peth sy'n sicr; gallwn ddisgwyl rhywbeth o bwys.


Coroni Ekaterina

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 05:41, Dydd Llun, 15 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd - bore Llun, Mehefin 15

Bu Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Gwthiodd ryw lefnyn ifanc o Radio 3 feicroffon dan fy nhrwyn yn y Theatr Newydd brynhawn Mawrth a gofyn pwy oedd fy ffefryn i ennill cystadleuaeth 主播大秀 Canwr y Byd 2009. Nid oeddwn wedi clywed pawb bryd hynny ond mentrais ddarogan y byddai'r soprano fach o Siapan, Eri Nakamura, yn agos i'r brig.

Y pump ddaeth i'r brig. Llun: Brian Tarr

Felly pan ddaeth hi i'r llwyfan, y gyntaf i ganu yn y rownd derfynol neithiwr 'doeddwn i ddim yn ddi-duedd. Roeddwn i am i'r un fach, dwt, dlws, eiddil yr olwg, wneud yn dda.

Ffrwydrodd yn ogoneddus i aria osgeiddig Gounod, Je veus vivre allan o Romeo et Juliette. Yna canodd yr aria Eccomi in lieta vesta allan o I Capuleti e I Montecchi gan Bellini lle gorfodir Giulietta i briodi'r g诺r nad yw'n ei garu a hithau'n dymuno y deuai Romeo i'w hachub.

Yna canodd g芒n y forwyn Li霉 allan o Turandot gan Puccini lle mae'r Dywysoges Turandot yn arteithio'r ferch i geisio darganfod enw'r g诺r y bydd yn gorfod ei briodi yn y bore. Mae'r forwyn yn gwrthod ac yn trywanu ei hun ddiwedd y g芒n.

Gorffennodd ei rhaglen gyda'r g芒n 颁盲肠颈濒颈别, yr alaw gyfansoddodd Richard Strauss i'w wraig ddydd cyn eu priodas ar gyfer y a gerdd sgrifennodd Heinrich Hart i'w wraig yntau.

Heb amheuaeth, canodd Eri yn well neithiwr nag ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos. Yr oedd ei pherfformiad yn y brif gystadleuaeth ar y nos Sul gyntaf yn arbennig, ac er iddi ganu yn rownd derfynol y Datganiad, dod i mewn ar y funud olaf wnaeth oherwydd salwch y baswr o Groatia.

Neithiwr cododd i dir uwch a gwelsom hi yn ei helfen gyda'r gerddorfa. Cafodd gymeradwyaeth danbaid y gynulleidfa a chodod y gerddorfa iddi ar y diwedd. Gellid beirniadu ansawdd ei Ffrangeg yn ei ch芒n gyntaf ond dyma berfformiad teilwng o'r brif wobr.

Mae gan Giordano Luc脿, y tenor 21 oed o'r Eidal, lais swynol ond y mae tipyn o le i weithio arno. Mae angen colli pwysau arno - roedd Pavarotti yn denau fel styllen pan oedd e'r oed yna - a gweithio'n galed ar ei dechneg. Nid oedd cystal ag yn y rownd flaenorol, diffyg cymeriadu ac emosiwn. Cawsom ddigon o gerddoriaeth hardd ganddo - Donizetti, Verdi a Puccini - ond perfformiodd yn siomedig.

Siomedig, hefyd, oedd Jan Martin铆k y baswr o'r Weriniaeth Siec, enillydd Gwobr y Datganiad. Canodd arias o waith Dvo艡谩k, Rossini, a'r g芒n enwog Ella giammai m'am貌! allan o Don Carlo gan Verdi. Ond ni fu gwelliant yn ei ganu o'r rownd gyntaf a hwyrach i ni ei glywed ar ei orau yn y Datganiad.

Yna daethom at Yuriy Mynenko, yr uwchdenor o'r Wcr谩in. Mae hwn yn odidog. Neithiwr canodd dair c芒n a gyfansoddwyd ar gyfer uwchdenor, y gyntaf allan o Idaspe gan Riccardo Broschi, o bosib wedi ei chyfansoddi ganddo ar gyfer ei frawd, Farinelli, y castrata Eidalaidd enwog. Beirniadwyd Mynenko am ganu caneuon a gyfansoddwyd ar gyfer merched yn rownd derfynol gwobr y Datganiad. Cadwodd ei ddeunydd gorau ar gyfer neithiwr.

Yr oedd ei berfformiad o Crude furie degl'orridi abissi allan o Serse gan Handel yn rhyfeddod, y fath gerddor, y fath rediadau sicr a cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 主播大秀 - y llinynnau yn arbennig - yn hyfrydwch pur dan arweiniad Paul Daniel.

Gorffennodd gydag aria allan o Tancredi gan Rossini. Dyma ganwr gyda llyfndra sidanaidd a synnwyr a disgyblaeth cerddorol y gallwn wrando arno drwy'r nos. Roedd yn agos rhyngddo a'r ferch o Siapan. Dyma un arall fu'n ffefryn y dorf.

Yna daeth Ekaterina Shcherbachenko ysblennydd, 32 oed, yr hynaf yn y rownd derfynol ac o bosib yn y gystadleuaeth i gyd. Dim ond un arall a nododd ei fod yn 32, cynrychiolydd Andorra.

Ekaterina

Canodd Je voudrais bien savoir allan o Faust gan Gounod; Signore, ascolta! allan o Turandot gan Puccini; a No word from Tom allan o The Rake's Progress gan Stravinsky.

B没m yn gwrando brynhawn Sadwrn ar Y Fonesig Gwyneth Jones yn cymoni'r soprano o Latvia yn Signore, ascolta!

Dyma oedd perfformiad a hanner. Da gweld na amharodd cwymp yr hen Undeb Sofietaidd ar y safonau cerddorol. Mae hon eto'n ferch dlos, yn cynhyrchu sain cynnes, hardd, yn cymeriadu'n fendigedig, yn ddramatig, eto'n gynnil. Dyma gantores orffenedig.

Yr unig feirniadaeth bosib oedd ei hynganiad o'r Saesneg yng ngh芒n Stravinsky.

Yn sicr, roedd pethau'n agos iawn - y mwyafrif y b没m yn sgwrsio 芒 nhw o'r farn mai rhwng Mynenko a Sshcherbachenko fyddai hi er bod canmoliaeth fawr i Eri Nakamura o Siapan a gododd i her y noson.

Gwobr y Gynulleidfa
Yn gyntaf cawsom ganlyniad Gwobr y Gynulleidfa, penderfyniad a wnaed drwy bleidlais deleffon yn seiliedig ar y rowndiau blaenorol a sioc fawr oedd iddi fynd i'r Eidalwr Giordano Luc脿 - ond fel y dywedais roedd y pleidleisio wedi digwydd cyn y noson olaf.

Giordano Luc脿

Yna gwnaed y cyhoeddiad terfynol - yr enillydd oedd Ekaterina Sshcherbachenko. Dyfarniad poblogaidd a merch y mae'n fraint i'r gystadleuaeth gael ei hanrhydeddu 芒'r teitl 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Wrth fy ymyl gydol y nos yr oedd Ann Atkinson, y fezzo-soprano o Gorwen sy'n arweinydd C么r Meibion Froncysyllte - c么r byd enwog y dyddiau hyn - a chyfarwyddwraig G诺测濒 Gerdd Gogledd Cymru a gynhelir eleni rhwng Medi 19 a 26. Braf fu sgwrsio gyda hi a chlywed ei barn am y cantorion - a sefyll wrth ei hymyl a'i chlywed yn morio Hen Wlad Fy Nhadau ar ddiwedd y noson ac ar ddiwedd wythnos i'w thrysori - a diolch i'r rhai fynegodd werthfawrogiad o'r blog yn ystod yr wythnos!


Gwersi rheoli llygoden - gyda'r meistri!

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 01:00, Dydd Sul, 14 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd - bore Sul

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Bron nad awn ar fy llw y dylai fod gan 主播大秀 Cymru hawlfraint ar y term Dosbarth Meistr (Master Class). Cofiaf fy hen gydweithiwr a chyfaill, Gethyn Stoodley Thomas, cyn belled yn 么l 芒 1973 yn cynhyrchu cyfres deledu gyda'r teitl Master Class, o bosib ar gyfer 主播大秀2, lle'r oedd Geraint Evans yn rhoi cynghorion i gantorion ifainc.

Wn i ddim yn bendant ai fy niweddar gyfaill oedd y cyntaf i daro ar y syniad - os nag e, bu'n gyfrifol am ei boblogeiddio. Erbyn hyn daeth y math o ddysgu lle mae perfformiwr enwog yn hyfforddi disgybl unigol neu ddosbarth bychan o flaen cynulleidfa yn nodwedd boblogaidd o wyliau cerdd, os nad mwyach ar deledu.

Hynny er bod rhai gwybodusion ffroenuchel yn amau eu gwerth gan honni fod tuedd iddynt droi'n gyfle i'r athro berfformio.

Nid felly y Dosbarthiadau Meistr fu'n ddiweddglo dymunol i 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2009. Cynhaliwyd nhw ddoe ac yr oedd gwahoddiad i'r cystadleuwyr hynny na ddaethant i lwyfan terfynol yr un o'r ddwy gystadleuaeth gael sesiwn hyfforddiant gan un o'r beirniaid.

Kurt Moll

Euthum yn chwilfrydig i'r Theatr Newydd i weld a chlywed dau o'r beirniaid, y baswr enwog Kurt Moll a'r soprano o Gymru, y Fonesig Gwyneth Jones, yn rhoi sesiwn hyfforddi i ddau o'r cystadleuwyr aflwyddiannus.

Y peth cyntaf a'm synnodd oedd maint y gynulleidfa, yr oedd y theatr tua thri-chwarter llawn, a'r t芒l mynediad yn 拢8. Peth arall a'm trawodd; o blith y rhai y b没m yn sgwrsio 芒 nhw 'doedd dim un wedi bod yn y cyngherddau na'r datganiadau.

Roedd un g诺r o Aberhonddu a eisteddai wrth fy ymyl newydd ddychwelyd o weld opera yn y Met, Efrog Newydd. Roedd wedi prynu ei docyn ar gyfer y Dosbarthiadau Meistr fisoedd yn 么l ond heb fachu tocynnau ar gyfer y cystadlaethau.

O'm blaen eisteddai Maragret Towers o Bontrhydfendigaid oedd dair blynedd o mlaen i yn Ysgol Tregaron, a chyn-ddisgybl o'r Coleg Cerdd a Drama. Doedd hithau ychwaith ddim wedi mynychu'r un cyngerdd er yn byw yng Nghaerdydd ac er dod yn unswydd i weld y cantorion ifainc yn mynd drwy'u pethau gerbron y meistri.

Nos Iau sgrifennais rywbeth i'r perwyl fod gan Wade Kernot lais bendigedig ar y nodau uwch er heb fod cystal ar y nodau dwfn. Rhaid ei fod ef a Kurt Moll wedi darllen y Blog achos aed ati'n syth i roi gwell trefn ar yr agwedd honno o ganu'r g诺r ifanc o Seland Newydd drwy ganolbwyntio ar Aria Gremin allan o Eugene Onegin gan Tchaikovsky. Aria sy'n mynd lawr a lawr i'r dyfnderoedd.

Aethant dwyddi fesul cymal, y ddau'n gysurus yng nghwmni'i gilydd ac yn cellwair. Gellid teimlo cyfeillgarwch yn tyfu rhwng yr hen ganwr a'r bachgen ifanc. Erbyn diwedd yr awr a hanner, ar fy ngwir, medrwn weld gwahaniaeth amlwg yn ei ganu.

Cymerodd y Fonesig Gwyneth Jones y soprano o Latfia, Dana Bramane, dan ei hadain, a bu prysurdeb mawr yn rhoi sglein ar ei chyflwyniad o Signore, ascolta! allan o Turandot gan Puccini.
Gwyneth Jones

Un ffraeth ei thafod yw'r Fonesig Gwyneth a chawsom wybod pethau eraill na wyddwn i ddim byd amdanynt parthed y tafod. "Mae eich tafod fel llygoden fach ddireidus yn eich ceg a rhaid ei reoli," dysgais.

Clywsom bob math o bethau am sut i gynhyrchu llais. Mae gan Dana lais hardd ond roedd y Fonesig o Bontnewynydd yn benderfynol o ddysgu llawer iawn i'w disgybl ifanc o fewn yr awr a hanner.

Rhyfeddwn innau mor gyflym y dysgai'r ferch ifanc: rheoli'r gwefusau, y tafod, a dim pwyso ymlaen rhag amharu ar yr anadlu. "A pheidiwch digalonni," meddai Gwyneth wrthi, "dim ond 25 oed ydych chi a mae digon o amser gennych chi i wella."

Minnau? Edrychaf ymlaen i wneud defnydd o'r hyn a glywais pan ymunaf 芒'r gynulleidfa i ganu Hen Wlad Fy Nhadau ar ddiwedd rownd derfynol y brif gystadleuaeth heno.

Noddwyd y Dosbarthiadau Meistr gan Ian Smith of Stornoway Trust.



C芒n Gymraeg am y tro cyntaf erioed !

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 05:17, Dydd Sadwrn, 13 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd - bore Sadwrn

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Daeth rhan gyntaf cystadleuaeth 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2009 i ben neithiwr gyda Gwobr Datganiad 2009 yn mynd i'r Weriniaeth Siec.

Y baswr cawraidd, 26 oed, Jan Martin铆k oedd yr enillydd, g诺r 芒'r llais gyda'r hyfrytaf a llond gwlad o gymeriad a phresenoldeb.

Mentrodd ganu tair c芒n gan Saint-Sa毛ns, nifer sylweddol o waith un cyfansoddwr, dwy gan Schumann ac un o waith Schubert.

Jan Martin铆k

Dyma berfformiwr di-fai a bydd yn gamp ei guro yn ffeinal y brif gystadleuaeth nos yfory (nos Sul) hefyd. Mae ei allu i ganu yn y gwahanol ieithoedd, a hynny gydag argyhoeddiad, yn un o'i rinweddau.

Coronodd wythnos ardderchog o ganu i gyfeiliant piano a hynny yn y modd mwyaf pleserus.

Bu raid i Tomislav Lu膷i膰 o Croatia dynnu n么l oherwydd aflwydd i'w lwnc a chymerwyd ei le gan y soprano fach hudolus o Siapan, Eri Nakamura a fydd hefyd yn rownd derfynol y brif gystadleuaeth nos Sul.

Canodd dair c芒n gan Hugo Wolf, dwy o waith Richard Strauss ac un, Manjyushage, gan y cyfansoddwr K枚saku Yamada o'i gwlad hi ei hun. Mae'n meddu ar lais cynnes, hyfryd, a swniai gymaint yn well yn Neuadd Dewi Sant nag yn y Theatr Newydd lle bu'r rowndiau rhagbrofol. Ond a oedd tair c芒n gan Wolf yn ormod?

Clywais lawer o ddadlau a thrafod ar yr uwchdenor, Yuriy Mynenko, o'r Wcr谩in. Cawsom ystod o ganeuon ar draws y canrifoedd ganddo, o g芒n serch o tua 1650 allan o'r opera Orontea gan Cesti i Silent Songs Valentin Sivestrov, a gyfansoddwyd ganddo pan oedd allan o ffafr awdurdodau'r Undeb Sofietaidd.

Mae ei lais yn rhyfeddod ac ni fuasai'n fwrn gwrando arno am oriau ond un feirniadaeth oedd na chanodd fwy o ganeuon a gyfansoddwyd ar gyfer uwchdenor yn hytrach na chanu caneuon a gyfansoddwyd ar gyfer lleisiau merched.

Anodd coelio bod seiniau mor fenywaidd yn dod o enau creadur mor olygus a gwrywaidd yr olwg,

Bydd pob un o'r tri yna i'w gweld a'u clywed ar lwyfan y brif gystadleuaeth nos yfory.

Canodd Javier Arrey, y bariton o Chile, bum c芒n o waith Dvo艡谩k - oll o naws Feiblaidd, un gan Ravel allan o Don Quichotte 谩 Dulcin茅e, a'r g芒n 贰谤濒办枚苍颈驳 gan Schubert.

Dyma g芒n a recordiwyd gan gynifer o gantorion mawr y byd a hawdd iawn cymharu Arrey yn anffafriol gyda rhai ohonyn nhw.

Dewis c芒n Gymraeg
Yr olaf i ganu oedd Natalya Romaniw, y soprano o Gymru a chawsom berfformiad ardderchog ganddi a rhaglen wedi ei dewis yn ofalus gydag amrywiaeth ganmoladwy o ganeuon - Purcell, Brahms, Delibes, Rakhmaninov a Benjamin Britten.

Yna gwnaeth rywbeth na wnaeth yr un cystadleuydd o Gymru yn hanes 主播大秀 Canwr y Byd, canodd g芒n Gymraeg - soned feddwol R Williams Parry, Mae hiraeth yn y m么r a'r mynydd maith gyda'r gerddoriaeth gan Dilys Elwyn-Edwards.

Dros yr holl flynyddoedd, 芒'r holl siaradwyr Cymraeg a feithrinwyd yn y traddodiad eisteddfodol a gynrychiolodd Gymru yn y gystadleuaeth, ni chanwyd unwaith g芒n Gymraeg na ch芒n a gyfansoddwyd gan Gymro.

Synnodd Natalya'n fawr pan dynnais ei sylw at hyn a diolch iddi yn y parti ddiwedd y noson am achub enw Gwlad y G芒n.

Fel yr awgryma ei chyfenw, Romaniw, mae ei gwreiddiau mewn ardal ar ffin Gwlad Pwyl a newidiodd ddwylo sawl gwaith. Er nad yw'n medru Cymraeg fe gaiff ei chofio nawr am fod y gyntaf o gynrychiolwyr Cymru i barchu iaith a thraddodiad cerddorol ein gwlad yn y gystadleuaeth hon.

Mae cystadleuaeth y Datganiad yn rhoi cyfle i bob cystadleuydd ganu o'u gwlad ac y mae mae pob un, bron, yn gwneud hynny gyda balchter.

Eleni clywson hwiangerdd Maori gan gynrychiolydd Seland Newydd, c芒n o Gatalunya gan gynrychiolydd Andorra ... gallwn fynd drwy restr gyfan o'r rhai gynigiodd am wobr y Datganiad.

Hyderaf, y bydd cynrychiolwyr Cymru i gyd o hyn allan yn dilyn esiampl Natalya.


Dewis pump - un o bob noson!

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 05:49, Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd - bore Gwener

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.
Rwy'n siwr nad oedd hyn yn ystyriaeth o gwbl gan feirniaid 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2009, ond ni ellid bod wedi dewis gwell cyfuniad o ddoniau disglaer ar gyfer y noson derfynol, nos Sul. Bydd pobl yn talu arian da i wrando ar unrhyw un o'r rhain ymhen ychydig flynyddoedd.

Neithiwr, cyhoeddwyd enwau'r pump:

  • Yurly Mynenko, yr uwchdenor 30 oed o'r Wcr谩in;

  • Eri Nakamura y soprano 31 oed o Siapan;

  • Giordano Luc脿, y tenor 21oed o'r Eidal;

  • Ekaterina Shcherbachenko, soprano 32 oed o Rwsia a

  • Jan Martinik, y baswr 26 oed o'r Weriniaeth Tsiec.

Er nad dyletswydd y beirniaid yw dewis cydbwysedd i blesio cynulleidfa, hynny wnaed a chlywais i neb yn cwyno. Cawn edrych ymlaen am noson o amrywiaeth lleisiau yn ogystal 芒 disgleirdeb dawn.

Giordano Luc脿

Ac wrth i Giordano Luc脿 gipio gwobr y noson neithiwr, cawn weld am y tro cyntaf ers cychwyn y gystadleuaeth ym 1983 enillydd pob rownd ar y llwyfan terfynol. Dyna fu'r drefn y tro cyntaf ond wedi hynny dewiswyd y pump gorau i'r ffeinal ac ni fu'n anarferol cael mwy nag un o ambell noson a neb o noson arall ar y brig.

Dyma'r tro cyntaf i mi gofio i enillydd pob rownd fynd trwodd - a hynny yn gwbl deg a chywir.

Yr ieuengaf un
Gair yn awr am gystadleuaeth neithiwr. Fe'i henillwyd gan y tenor o'r Eidal, Giordano Luc脿, yr ieuengaf yn yr holl gystadleuaeth.

Dyma wir artist, cerddor mor reddfol fel y mae canu mor naturiol a diymdrech iddo ag anadlu. Mae ei lais yn odidog, llais swynol gyda'r amrywiaeth i ganu unrhyw beth. Yr un dechneg y gall ei datblygu yw dyfnder ei gymeriadu, rhywbeth a ddaw yn anochel gydag amser a phrofiad.

Canodd bum aria; tair oedd y nifer a ganwyd gan y mwyafrif, ambell un yn canu pedair. Canodd ddau ddarn o waith Verdi, un o Rigoletto a'r llall o I Lombardi alla Prima Crociata; c芒n enwog Puccini o La Boh猫me - Che gelida manina; y g芒n o'r opera Werther gan Massenet lle mae'r bardd yn canu ei gyfieithad o un o gerddi Osian i'w hen gariad.

Ei ddewis arall oedd aria allan o'r opera L'Arlesiana (Y Ddynes o Arles) gan Cilea - stori wir a saern茂wyd yn stori fer a wedyn yn ddrama gan Alphonse Daudet gan ysbrydoli cyfansoddwyr, Cilea yn eu plith, wedi hynny.

Roedd neithiwr eto'n noson gyfoethog a difyr ei doniau. Y canwr cyntaf oedd Wade Kernot o Seland Newydd, baswr gyda llais bendigedig ar y nodau uwch er heb fod cystal ar y nodau isaf oll.

Cychwynnodd gydag Aria Gremin allan o Eugene Onegin gan Tchaikovsky. Wedyn canodd y g芒n o opera Mozart lle mae gwas Don Giovanni yn rhestri'r merched a hudwyd gan ei feistr. Roedd y gynulleidfa - y rhai oedd yn ddigon agos i weld - wrth eu boddau mai rhaglen Canwr y Byd oedd yn ei law wrth iddo gymryd arno restru campau rhywiol y Don!

Clywsom Helen Kearns o Iwerddon yn canu Weber, Donizetti a Stravinsky, y gyntaf a'r olaf yn ganeuon na chanwyd gan neb arall. Roedd C芒n yr Eos gan Stravinsky yn brawf ar ei thechneg ond llwyddodd yn ardderchog.

Mae hi'n gantores swynol a phleserus i wrando arni.

Mae Marc Canturri o Andorra'n ganwr a pherfformiwr dymunol, bariton lled ysgafn a cherddor da. Canodd weithiau gan Gounod, Mozart, Korngold a Donizetti ond heb lwyddo i greu cymaint 芒 hynny o argraff ar y gynulleidfa.

Yr olaf i ganu oedd y soprano Dora Rodrigues o Bortiwgal. Mae hon yn gerddor cyflawn, llais godidog, di-ymdrech yn llifo trosom. Dyma oedd perfformiad oedd fel pe'n un 芒'r gerddorfa - nid cyfeiliant iddi oedd y gerddorfa ond rhan ohoni.

Dewisodd alawon allan o Faust Gounod, La Boh猫me Puccini a Giuditta Lehar.

Teimlwn mor drist na fydd hi ymhlith y goreuon yn y ddwy gystadleuaeth a hithau wedi rhoi cystal cyfri ohoni ei hun ddwywaith.

Gyda'i gilydd
Un o nodweddion dymunol 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd yw bod yr holl gystadleuwyr yn ymddangos ar y llwyfan gyda'i gilydd ar ddiwedd yr olaf o'r rowndiau a phob un yn derbyn cymeradwyaeth y gynulleidfa a rhodd bersonol gan Menna Richards, Rheolwr 主播大秀 Cymru.

Gwn fod cyfeillgarwch wedi ei gynnau rhwng y cantorion hyn fydd yn parhau am flynyddoedd a bu hyn yn nod a nodwedd o'r gystadleuaeth o'i chychwyn.

Yn y dyfodol bydd llawer ohonyn nhw'n cwrdd eto fel aelodau o'r un t卯m wrth berfformio mewn operau ledled y byd ac er bod rhai'n mynd o Gymru heb ennill yr un wobr cawsant brofiad a chyfeillgarwch fydd yn amhrisiadwy iddynt yn y dyfodol. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.

Ond yn awr ymlaen at heno, a chystadleuaeth y Datganiad. A'n dymuniadau gorau i'r Gymraes Natalya Romaniw!.


Llyfr y Flwyddyn - llyfr 'snobs' i ennill?

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Glyn Evans | 14:17, Dydd Iau, 11 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Nos Lun nesaf yw noson gwobrwyo Petrograd yn Llyfr y Flwyddyn mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Dyna'r farn sawl darllenydd, beth bynnag - mai Petrograd gaiff yr anrhydedd a hynny, fel y dywedodd Vaughan Hughes ar rifyn o'r Sioe Gelf, Mehefin 10, oherwydd bod "pob beirniad yn snob".

Yn ei farn ef Teulu L貌rd Bach ddylai fynd a hi.

Gwyn Thomas a Derec Llwyd Morgan, dau o'r beirniaid

Yr oedd Vaughan a dau arall, Bethan Gwanas a Lyn Lewis Dafis ( y blogiwr ) yn trafod ar y rhaglen deledu Sioe Gelf ar y tri llyfr a osodwyd ar y rhestr fer gan y tri beirniad, Luned Emyr, Gwyn Thomas a Derec Llwyd Morgan.

Disgrifiodd Vaughan Hughes ei hoff lyfr ef o'r tri, Teulu L貌rd Bach gan Geraint V Jones, fel un sy'n ffitio'r hen ddisgrifiad o'r News of the World - "All human life is there".

Ond cwynodd Lyn Lewis Dafis am "dduwch" gormodol y nofel honno er iddo gyfaddef iddo fethu 芒'i rhoi i lawr. Dywedodd Bethan Gwanas na allai feddwl am neb na fyddai'n mwynhau hon.

Ond tybiai hithau hefyd mai Petrograd gan William Owen Roberts fyddai'n mynd a hi a hithau'n "darllen fel rhuban".

I Vaughan, fodd bynnag, yr oedd Petrograd yn "feichus" a'r lleng cymeriadau yn ddryslyd.

Ysgrifennu da ond stori nad oedd yn cydio oedd barn Lyn Lewis Dafis a ddywedodd mai Pentigily gan Hefin Wyn fyddai o'n ei wobrwyo.
Ychwanegodd ei fod yn "ffaelu credu fod beirniaid yn medru gwneud peth mor ddoeth" a'i chynnwys ar y rhestr fer!

Os oedd lluosogrwydd cymeriadau Petrograd yn llethu Vaughan Hughes geiriau tafodiaethol Pentigily lethodd Bethan Gwanas a chytunodd Vaughan Hughes fod peryg i hynny ddigalonni darllenwyr.

A'r blogiwr hwn?
Tueddu, fel Vaughan Hughes, i gredu mai Petrograd fydd fuddugol am ei bod yn ffitio rhyw ddelwedd ffasiynol yn well na'r ddwy arall a'r pwysau mawr sydd wedi bod yn cael ei roi ar y ffaith nad oes dim byd Cymreig ynglyn 芒 hi fel pe byddai hynny ynddo'i hun yn rhinwedd.

Cawn weld nos Lun pa mor fuan fydd hi'n ddiogel i Gwyn Thomas ymweld 芒'i gynefin ym Mlaenau Ffestiniog eto.

Yn y cyfamser i bwy fyddech chi'n rhoi'r deng mil o bunnau o wobr - i un o'r tri ynteu llyfr arall cwbl wahanol? Anfonwch air.

Gwahaniaeth rhwng dau le

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 06:01, Dydd Iau, 11 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd - bore Iau

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Gyda thri o'r cantorion sy'n gwybod eu bod eisoes yn rownd derfynol y Datganiad yn cystadlu roedd neithiwr, noson olaf ond un prif gystadleuaeth 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2009, yn sicr o fod yn un dda.

Jan Martinik, y baswr 26 oed o'r Weriniaeth Siec, ddyfarnwyd yn enillydd y noson a rwy'n amau a fyddai neb yn anghytuno. Mae e eisoes yn rownd derfynol y Datganiad.

Jan Martinik

Dyma lais bendigedig, llyfn, disgybledig, lan a lawr ble mynnoch chi. Cyfareddol! Pleser pur oedd gwrando arno. Dyma glamp o ddawn a phersonoliaeth hoffus ac y mae dyfodol disglaer o'i flaen.

Verdi, Gounod, Puccini, Rakhmaninov - roedd ef a'r gerddorfa fel un, y gerddorfa oedd yn cyfeilio iddo ef nid ef yn ei dilyn hi.

Hon hefyd oedd noson y Gymraes, y soprano Natalya Romaniw. Er yn ifanc - 22 oed - cawsom berfformiad hyfryd ganddi. Mae ganddi'r llais llwysol a'r cymeriad i sicrhau dyfodol llwyddiannus. Weithiau roedd ei llais yn swnio'n ifanc ond mae ei thechneg yn ddiogel.

Dewisodd ganeuon oedd yn rhoi cyfle iddi ddangos ei doniau ei hun yn hytrach na bwrw iddi i blesio'r cynulleidfa. Nid y byddai hynny'n anodd gyda thyrfa frwdfrydig o Dreforys a chriw o'i chyd-fyfyrwyr o'r Guildhall wedi dod i'w chefnogi!

Canodd arias o Idomeneo gan Mozart, o Manon gan Massenet ac o Rom茅o et Juliette gan Gounod. Yn anffodus iddi, canwyd y ddwy alaw olaf gan eraill ynghynt yn yr wythnos - a'u canu'n well. Fel yna mae'n digwydd.

Yr un arall o'r triawd a fydd yng nghystadleuaeth y Datganiad nos Wener oedd y bariton Javier Arrey o Chile. Fel eraill yr un noson nid oedd yn fwriad ganddo fynd ati i blesio'r gynulleidfa gyda darnau poblogaidd, cyfarwydd ond, yn hytrach, canai yr hyn oedd yn arddangos ei gryfderau.

Canodd yr aria O Carlo, ascolta ... lo morro o Don Carlo gan Verdi. Cawsom berfformiad caboledig iawn. Mae ganddo wyneb a hyd yn oed aeliau actor ac y mae'n edrych fel Sbaenwr.

Er rwy'n dechrau blino o weld cantorion yn cychwyn canu c芒n 'barablu' Fiagro allan o Il barbiere di Siviglia Rossini oddi ar y llwyfan.

Ni chafodd Katharine Tier, y mezzo-soprano o Awstralia lawer o lwyddiant mor belled - er mae'n bosib mewn egwyddor iddi gyrraedd y rownd derfynol. Mae'n swnio fel mezzo dda, llais llyfn, aeddfed - dawn orffenedig yn wir.

Mae ganddi lais o ansawdd rhyngwladol. Canodd Dopo notto o Ariodante gan Handel, aria a ganwyd yn ardderchog gan yr uwchdenor Yuri Mynenko, enillydd gwobr nos Fawrth.

Y gantores arall neithiwr oedd Vira Slywotzky, y soprano o'r Unol Daleithau. Edrychwn ymlaen i'w chlywed wedi gweld ei pherfformiadau dramatig yn y gystadleuaeth arall.

Fedra i ddim honni fy mod yn hoffi ei llais, 'dyw e ddim yn swynol ac y mae Crudele! - Non mi dir allan o Don Giovanni gan Mozart yn g芒n mor swynol.

Roedd aria o waith Debussy allan o L'enfant prodigue yn gweddu'n well iddi, a pha un a fedrwch Ffrangeg neu beidio roedd pob gair yn glir. Gorffennodd gyda Do not utter a word allan o Vanessa gan yr Americanwr Samuel Barber.

Mae rhywun yn cael ei demtio i ddweud mai un anghenion sylfaenol canwr yw llais dymunol i wrando arno ond fel mewn t卯m rygbi neu d卯m p锚l-droed Americanaidd, am wn i, mae yna le i ddoniau o bob math a phob maint. Mae'n amlwg yn mwynhau gyrfa lwyddiannus yn barod er bod rhywun yn cael ei demtio i awgrymu ei bod yn perthyn yn nes i'r traddodiad can belto na bel canto.

Gwell yn y Neuadd
Un peth a'm trawodd wedi pum diwrnod o wrando ar gantorion yn y Theatr Nerwydd ac yn Neuadd Dewi Sant, gymaint gwell mae pawb yn swnio yn y neuadd.

Nid mater o ragfarn yw hyn am fod mwy o le i'm coesau hirion yn seddau Neuadd Dewi Sant ond roedd ansawdd lleisiau'r cantorion yn swnio'n well yno. A dywedodd Helen Kearns o Iwerddon wrthyf fod yn well ganddi ganu i gyfeiliant cerddorfa na phiano.

Dros wydraid o win holais Beverley Humphreys, y gantores a chyflwynwraig radio gyda Radio Wales, am hyn a dwedodd bod y Theatr Newydd yn lle anodd i ganu.

"A ddylai'r trefnwyr ystyried cynnal rowndiau rhagbrawf yn rhywle arall - fel Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan y Mileniwm?" holais.

"Byddai hynny'n ardderchog a byddai'n wych cael pob sedd wedi eu llenwi yn y prynhawniau," atebodd. "Awn i blannu hadau'r syniad."


Cyfle Cymreig

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 06:00, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd - bore Mercher

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

A oes gan Gymru ferch i ddilyn yn 么l troed Bryn Terfel a Neal Davies a chipio Gwobr Datganiad 主播大秀 Canwr y Byd?

Mae'r soprano 22 oed o Dreforys, Natalya Romaniw, wedi llamu'n hyderus dros y gamfa gyntaf a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, nos Wener.

Hi fydd yr unig ferch a'r ieuengaf o dipyn yn y ffeinal.

Natalya Romaniw

Yn ei herbyn bydd y baswr cawraidd 26 oed o'r Weriniaeth Tsiec, Jan Martinik; Tomislav Lu膷i膰, baswr arall, 31 oed, o Croatia, gyda'r llais fel m锚l; yr uwchdenor Yurly Mynenko, 30 oed o'r Wcr谩in; a'r bariton 27 oed o Chile, Javier Arrey.

Enillydd Natalya y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2008 ac enillydd y gystadleuaeth honno sy'n cael yr anrhydedd o gynrychioli Cymru yn Canwr y Byd y flwyddyn wedyn. Cymru yw'r unig wlad sy'n dewis ei chynrychiolydd yn y dull democrataidd hwn

Gwahoddir ceisiadau gan gantorion o wledydd eraill a bydd Julian Smith yn mynd ar ran trefnwyr y gystadleuaeth i wrando arnyn nhw a dewis pwy fydd yn cynrychioli'r gwahanol wledydd.

Mae i'r ddwy drefn eu manteision ac anfanteision. Anfantais trefn Cymru yw fod ein cantorion yn dueddol o fod yn iau na rhai'r gwledydd eraill ac y mae bariton neu faswr ar y cyfan yn datblygu'n hwyrach. Bryn Terfel oedd yr eithriad.

Dywedodd Natalya iddi gyfarfod Bryn yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn Llundain lle mae hi'n fyfyriwr.

"Roedd e'n neis iawn," meddai, "a fe g锚s chydig o gymorth gyda Nghymraeg ganddo fe."

Y brif gystadleuaeth gyntaf
Ond mae gan Natalya berfformiad arall cyn hynny. Heno, (nos Fercher) bydd yn cystadlu ym mhrif gystadleuaeth Canwr y Byd ac yn ei herbyn bydd Javier Arrey a Jan Martinik, sydd hefyd yn rownd derfynol y Datganiad. Dylai fod yn noson anfarwol i'r gynulleidfa!

Yn ffodus, fel y gwelwyd yng nghystadleuaeth y Datganiad, gall mwy nag un canwr fynd ymlaen o'r un rownd ragbrofol i'r rownd derfynol ac nid yw bod yn enillydd noson yn sicrwydd o le ar y llwyfan terfynol.

Yn sicr, cafodd Natalya, Arrey a Martinik hwb fawr i'w hyder.

Dwy ferch arall fydd ar y llwyfan nos heno - dwy gym锚r - yw Katharine Tier o Awstralia a Vira Slywotzky o'r Unol Daleithau. Bydd yn noson dda.

Ond yn y cyfamser, yn 么l at nos Fawrth. Yurly Mynenko o'r Wcr谩in oedd enillydd y noson - un arall fydd yn herio Natalya yn y Datganiad. Yn ddiddorol mae llawer o'r cantorion wedi canu'n llawer gwell i gyfeiliant cerddorfa yn Neuadd Dewi Sant nag i gyfeiliant piano yn y Theatr Newydd.

Roedd yr uwchdenor o'r Wcr谩in yn odidog nos Fawrth yn canu darnau o waith Gluck, Handel a Mozart a gyfansoddwyd ar gyfer castrata ond a genir fel arfer yn ein hoes ni gan y mezzos. Ef gafodd gymeradwyaeth wresocaf y noson, ac yn haeddiannol. Mae ganddo lais rhyfeddol.

Hefyd nos Fawrth, cawsom glywed un arall fydd yn ffeinal y Datganiad nos Wener, Tomislav Lu膷i膰, y baswr o Croatia. Mae'n ymddangos yn iau na 31 oed ac y mae'n canu gyda rhyw aeddfedrwydd diymdrech.

Y cystadleuwyr eraill oedd y Bwyles Izabela Matula, llais hyfryd gyda'r nodau isel a'r canolig ond heb fod cystal gyda'r nodau uchel. Mae hi'n ferch dlos a dymunol iawn ond pwy ddewisodd ei ffrog a steil ei gwallt?

Roeddwn eisoes wedi clywed Csaba Szegedi, cawr o fariton 27 oed o Hwngari yn y Theatr Newydd. Mwynhaodd ei hun yn fawr ar lwyfan Dewi Sant, a chawsom ninnau fwynhad mawr iawn yn gwrando arno. Digon o hwyl ac anwyldeb gyda llais melys iawn. Bydd yn ganwr o fri cyn hir ond mae angen peth sglein ar hyn o bryd.

Mae Claire Meghnagi o Israel yn 31 oed ond mae ganddi lais ifanc o hyd er nad yw'r nodau uchaf cystal 芒 hynny.

Roedd nos Fawrth yn noson amrywiol ac o'r safon uchaf eto. Ac y mae mwy, llawer mwy, i ddod.

Pump y G芒n

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 05:55, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae cynrychiolydd Cymru ymhlith y pump olaf a fydd yn cystadlu am wobr Cystadleuaeth y G芒n, Canwr y Byd Caerdydd, 2009, nos Wener.

Natalya Romaniw yw'r ieuengaf o'r pum canwr i fynd drwodd a hi hefyd yw'r unig ferch.

Y pump yw:


  • Jan Martin铆k, Y Weriniaeth Siec

  • Javier Arrey, Chile

  • Tomislav Lu膷i膰, Croatia

  • Yuriy Mynenko, Wcr谩in
  • Natalya Romaniw, Cymru

Lluniau'r Cystadleuwyr

Gwefan y gystadleuaeth

Ffurfafen olau, wal frics a ffrind newydd - dydd Llun

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 05:57, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Goleuwyd ein ffurfafen gyda dawn lachar arall yn Neuadd Dewi Sant nos Lun - Ekaterina Shcherbachenko, soprano 32 oed o Rwsia.
Hi gafodd wobr y noson yng nghystadleuath 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2009 a hynny o dipyn, goelia i.

A thybiaf ei bod yn bur hyderus o lwyddiant yn y brif gystadleuaeth. Ni chynigiodd yng nghystadleuaeth y Datganiad a chyfyngodd ei hun i ddwy g芒n yn unig: Temerari ... Come scoglio o Cosi fan tutte Mozart a Ruskai pogibnu (Golygfa Llythyr Tatayana) o'r opera Eugene Onegin gan Tchaikovsky.

Ekaterina Shcherbachenko

Ond nid perfformiadau byr mohonynt a chawsom yr ugain munud llawn a gwerth ein harian gyda dau gampwaith o berfformiad gan gantores sy'n aeddfed i'r llwyfan mawr.
Anodd dychmygu nos Sul y rownd derfynol heb hon.

Yr oeddem eisoes wedi clywed tri o'r cystadleuwyr eraill yn y Theatr Newydd y nos Sadwrn agoriadol ac wedi cychwyn braidd yn ddiargyhoeddiad gwelsom Dawid Kimberg yn gwella wrth fynd yn ei flaen.

Daeth i'r llwyfan ar gyfer ei aria gyntaf, aria "barablu" Figaro gan Rossini wedi i'r gerddorfa gychwyn a hynny'n ysgogi'r arweinydd, Lawrence Foster, i gellwair ei fod yn gobeithio na fu i'r gynulleidfa boeni mai ef ei hun fyddai'n canu!

Mae gan Ji-Min Park, y tenor o Gorea, lais dymunol iawn a'r ddawn i liwio'n hardd a chyfathrebu'n hyfryd ond nid oedd ef a'r gerddorfa bob amser yn cyd-symud.

Mae gan y fezzo o Saesnes Anna Stephany, lais hyfryd ond y mae'n brin o deimlad a mynegiant. Cafwyd perfformiadau da ganddi o Ravel a Bellini ac yr oedd ei pherfformiad o'r Dopo notto o'r opera Ariodante gan Handel yn dechnegol ardderchog iawn.

Yn ddiddorol iawn, yr oedd perfformiad pob un o'r tri dipyn gwell yn y gystadleuaeth hon nag yn y Theatr Newydd nos Sadwrn. A ddylid ystyried cynnal rowndiau'r gystadleuaeth hon yn rhywle arall?
Efallai y caf drafod hyn yn hwyrach yn yr wythnos.

Y canwr arall oedd Octavio Moreno, bariton 27 oed o Fecsico. Nid yw yntau'n cystadlu am wobr y Datganiad. Yr oedd braidd yn nerfus i ddechrau. ond clywsom ef ar ei orau yn canu'r aria o Don Sebastiano gan Donizetti.

Darlith cyn Datganiad!
Mae 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd yn fwy hyd yn oed na chystadleuaeth unawdwyr lleisiol orau'r byd. Mae'n 诺测濒.
Cyrhaeddais y Theatr Newydd yn gynnar yn y prynhawn a mynd fyny i'r bar uchaf.

Yno'r oedd y cyfansoddwr a'r ysgolhaig Geraint Lewis yn rhoi darlith anffurfiol am y gerddoriaeth y byddem yn ei chlywed gan gantorion cystadleuaeth y Datganiad ymhen hanner awr.

Gan fod Dora Rodrigues y soprano o Bortiwgal yn canu pedair c芒n gan Chausson a'r bariton o Andorra, Marc Canturri, yn canu tair c芒n gan Ravel ac un gan Offenbach - oedd hefyd 芒 chysylltiadau Ffrengig - a'r fezzo o Awstralia Katharine Tier yn canu un g芒n gan Faur茅 bachodd ar y cyfle i roi darlith ddifyr i ni am gyfansoddwyr Ffrainc.

Gan mor fyr fu oes Chausson (1855 - 1899) ni chaiff y gydnabyddiaeth a haedda, meddai Geraint Lewis; er mor delynegol a thlws ei alawon a'r modd y llwyddodd i ganfod ymateb priodol i'r cerddi y dewisodd gyfansoddi alawon iddynt.

Dysgais iddo farw tra'n mynd am dro gyda'i blant ar gefn beic tra ar wyliau yn Ne Ffrainc. Aeth ar ei ben i wal frics!

Yn yr awditoriwm eisteddodd dynes ifanc, hardd a thrwsiadus iawn wrth fy ymyl.
"Ydych chi'n un o'r cystadleuwyr?" holais. "Na, rwy i wedi dod i gefnogi fy ffrind sy'n cystadlu," atebodd.

"Pwy? Katharine Tier?" holais o ganfod tinc Awstraliaidd i'w llais. "Ie, cyrhaeddais o Hamburg am dri bore yma."

 Katharine Tier

"Mowredd! Rydych chithe'n gantores hefyd?" meddwn.
"Na, rwy'n arweinydd gyda Cherddorfa Opera Hamburg. Roedd gen i rai dyddiau'n rhydd, mae Katharine yn canu yma a mae'n gyfle ardderchog i fwrw golwg dros rai o'r cantorion fydda i'n eu harwain yn y blynyddoedd i ddod. Caerdydd yw'r lle i fod yr wythnos hon."

Cefais gyfle i ddangos fy ngwybodaeth o fywyd a gwaith Chausson yn ystod perfformiad hyfryd Dora Rodriguez. Canmolodd hithau ddewis Marc Canturri o ganeuon oedd yn arddangos ei gryfderau cerddorol ond pryderai am ddewis ei ffrind o Banquo's Buried (geiriau allan o Macbeth) o waith Awstraliad arall, Alison Bauld.

"C芒n front. Wn i ddim be ddywed y beirniaid," meddai hi, ond roedd hi'n fwy na phl锚s gyda pherfformiad Katharine Tier.

"Yr orau! Wrth gwrs, fedrwch chi byth fy nghyhuddo o fod yn ddi-duedd," chwarddodd.
Wel, fe gawsom berfformiad i'w gofio o Banquo's Buried gan y fezzo ddramatig o Awstralia a chafodd y cyfeilydd, Phillip Thomas, glamp o gusan am ei gyfraniad gorchestol.

Dyma ymddangosiad cyntaf Natalya Romaniw, y soprano o Dreforys sy'n cynrychioli Cymru. Mae hi'n bersonoliaeth hyderus, gynnes a chanddi lais grymus sy'n dangos aeddfedrwydd mawr am ei hoed.

Cafodd ymateb brwd am ei pherfformiad o Rakhmaninov a'r g芒n Oliver Cromwell gan Britten. Rwy'n sicr y cawn berfformiad da iawn ganddi hithau yn Neuadd Dewi Sant nos Fercher.

Diweddodd y prynhawn gyda'r baswr Jan Martinik o'r Weriniaeth Siec, cawr Bryn Terfelaidd yr olwg gyda llais mwyn, cyfoethog, yn rhoi mwynhad mawr i ni gyda thair c芒n gan Schubert, dwy gan Tchaikovsky a diweddglo hwyliog C芒n y Chwannen Mussorgsky.

O, ie, fy ffrind newydd o Awstralia a Hamburg?
Cofiwch yr enw - Jennifer Condon.

Y cychwyn gorau posib - dydd Sul

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 05:59, Dydd Llun, 8 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Cafodd 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2009 y cychwyn gorau posib.
Neithiwr, cafwyd noson o berfformiadau gan bump o unawdwyr y byddai'n fraint talu arian da i glywed unrhyw un ohonyn nhw.

Enillydd y noson oedd soprano 31 oed o Siapan, Eri Nakamura , ac ni chlywais neb yn anghytuno gyda'r beirniaid. Nid yw ennill rownd y noson gyntaf yn sicrwydd o gyrraedd y rownd derfynol ond anodd credu na fydd hon yna'n cystadlu am y brif wobr.

Eri Nakamura

Mae ganddi lais syfrdanol o fawr sy'n gyfoethog ac yn hyfrydwch pur i'r glust ac yr oedd ei pherfformiadau o alawon allan o Manon gan Massenet a Rom茅o et Juliet gan Gounod yn feistrolgar.
Mae hon yn seren.

Ond nid hi oedd yr unig un i swyno'r gynulleidfa. Cafodd Etienne Dupuis, y bariton o Ganada, dderbyniad gwresog. Dyma actor hyderus er efallai bod ei lais fymryn yn brin o gynhesrwydd.

Profodd Dana Bramane, y soprano 25 oed o Latfia, fod ganddi lais ardderchog yn ehedeg uwchlaw'r gerddorfa. Mae'r baswr o Ariannin, Fernando Javier Rad贸, sydd ond yn 23 oed, yn meddu ar lais, personoliaeth a dawn actio hefyd.

Hefyd clywsom soprano arall - tair soprano ardderchog yr un noson! - Emiliya Ivanova, 27 oed o Fwlgaria a ganodd Regnava nel silenzio allan o Lucia di Lammermoor gan Donizetti yn wirioneddol hudolus.

Ond yn ddiamau nid oedd neb am anghytuno 芒 dyfarniad y beirniaid mai y ferch o Siapan oedd yr orau. Ond ni fuaswn, ychwaith, yn synnu gweld mwy nag un o gystadleuwyr neithiwr ar y llwyfan terfynol.

Haedda Paul Daniel, arweinydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, air o ganmoliaeth am y modd llawn cydymdeimlad ac astud y cyfeiliwyd i'r cantorion.

Y Wobr Datganiad
Ynghynt, treuliais brynhawn pleserus yn y Theatr Newydd yn gwrando ar chwech o gantorion ail rownd cystadleuaeth y Wobr Datganiad.

Roedd Csaba Szegedi yn glamp o fariton, gwerinol yr olwg, o Hwmgari, gyda llais cynnes a chyfoethog a braf ei weld, fel nifer o'r cystadleuwyr eraill, yn canu gweithiau cyfansoddwyr o'u gwledydd - dwy g芒n o waith ei gydwladwr Kod谩ly yn ei achos ef.

Mae Helen Kearns o Ddulyn yn soprano ddeniadol ei llais a'i hymddangosiad. Cawsom berfformiadau syml, di-rodres ganddi o weithiau Richard Strauss, Schubert - neilltuol o dda - a Ravel, a hefyd c芒n o waith y Sais Michael Head wedi ei chyfansoddi i gerdd a sgrifennodd Francis Ledwidge a laddwyd yn y Rhyfel Mawr ym 1917.

Mae Tomislav Lu膷i膰, y baswr 31 oed o Croatia yn dipyn o dalent. Llais cyfoethog drwy'r holl rychwant ac rwy'n tybio y buasai'r gynulleidfa wedi dymuno mwy o amrywiaeth yn ei ddewis na'r tair c芒n gan Hugo Wolf a dwy gan Shostakovich. Ond dyma un i gadw golwg arno.

Daeth yr uwchdenoriaid yn fwy amlwg yn y gystadleuaeth yn y blynyddoedd diwethaf. Rhoes Yurly Mynenko, 30 oed o'r Wcr谩in, berfformiadau cyfareddol o Vaga luna, che inargenti gan Bellini a La lontananza Donizetti. Mae llais Mynenko'n odidog ond heb fod cystal ar y nodau uwch.

Soprano eto sy'n cynrychioli Pwyl, Izabela Matula, 29 oed. Ai fel mezzo y bydd yn gwneud enw iddi ei hun maes o law? Mae ei llais yn debyg i'r Saesnes Anna Stephany ond yn agosach atoch chi. Canu hyfryd, di-lol, o ganeuon gan Tchaikovsky, Sibelius, Richard Strauss a Schubert.

Yn olaf cawsom fariton arall, Javier Arrey 27 oed o Chile. Llais mwyn, mor hyfryd, a chanwr cynnil, di-ffwdan. Canodd ganeuon gan Dvo艡谩k, Schumann ac un o waith Carlos Guastavino, un o gyfansoddwyr ei wlad. Synnwn i ddim gweld hwn yn gwneud yn dda yn y ddwy gystadleuaeth.

Er iddi gael hwyl dda yn y gystadleuaeth am y Wobr Datganiad dywedodd Helen Kearns wrthyf ei bod yn gwir edrych ymlaen at ganu gyda cherddorfa yn Neuadd Dewi Sant.

"Mae'n well gen i ganu gyda cherddorfa," meddai er nad oedd am gyfaddef mai eilbeth yn ei golwg yw cystadleuaeth y g芒n.

Yr oedd yn llawn canmoliaeth o'r cymorth a'r gofal a gaent fel cystadleuwyr gan 主播大秀 Cymru.

Ac wedi mymryn o gellwair am y pwysigrwydd o yfed digon o dd诺r i wrthsefyll effeithiau sustem awyru Neuadd Dewi Sant ac ychydig o chwisgi Gwyddelig Middleton: Very Rare - "pwysig iawn cael Very Rare" - dymunais yn dda iddi gyda'r sylw mai braf oedd gweld y cantorion mor frwd eu cefnogaeth i'w gilydd.

A mor barod i sgwrsio gydag aelodau o'r gynulleidfa - un o nodweddion arbennig y gystadleuaeth o'i chychwyn.

Gwobr y G芒n - y noson gyntaf

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 06:48, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Nos Sadwrn - rygbi a chyfeillgarwch
Cafwyd tywydd crasboeth yn ystod wythnos gyntaf erioed Cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd ym 1983.

Cychwynnodd cystadleuaeth 2009 gyda storm o law taranau!

A minnau'n cysgodi ym mar y Theatr Newydd, mewn dim o dro yr oeddwn yn trafod taith rygbi'r Llewod yn Ne Affrica gyda dynes hawddgar o Johannesburg a gyflwynwyd i mi fel Jean.

Dawid Kimberg - ei gariad yn Gymraes

Darganf没m yn fuan mai Mrs Kimberg oedd hi, mam Dawid, y bariton sy'n cynrychioli De Affrica yn y gystadleuaeth.

Ymhen dim gwyddwn fod cariad Dawid yn Gymraes a bod Jean yn lletya gyda mam-gu'r cariad ac iddi ymweld 芒 Sain Ffagan a'r Senedd a'i bod yn cael amser gwych a bod nifer o'r cystadleuwyr yn adnabod ei gilydd cyn cyrraedd Caerdydd, a bod yr awyrgylch yn gyfeillgar a hyfryd ...

Wythnos fel yna yw un 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd.

Rownd gyntaf cystadleuaeth am y Wobr Datganiad oedd hi nos Sadwrn a chynrychiolydd Lloegr, Anna Stephany, mezzo 31 oed, roes gychwyn anrhydeddus i'r wythnos. Mae gan Loegr record arbennig yn y gystadleuaeth hon, wedi ei hennill y ddau dro diwethaf - 2005 a 2007 - ac yn 么l ym 1997.

Mae Anna mewn olyniaeth deilwng. Mae ganddi lais cyfoethog, mae'n gerddor gyda'r gorau a chawsom berfformiad cynnil, cynnes a di-lol ganddi. Efallai mai hon yw ei chystadleuaeth hi. Cynigiodd amrywiaeth o gerddoriaeth - Schubert, y ddau gyfansoddwr Seisnig Pelham Humfrey a Thomas Dunhill, y Ffrancwr Hahn, a'r Awstriad Hugo Wolf.

Dawid Kimberg, y barit么n 28 oed o Dde Affrica y b没m yn trafod rygbi gyda'i fam ddaeth wedyn - pedair c芒n gan Hugo Wolf, un gan y Sais Herbert Howells ac un gan Richard Strauss. Canwr a chanddo bresenoldeb ar lwyfan a llais dymunol.

Yr oedd Claire Meghnagi, soprano 31 oed o Israel, eto yn bresenoldeb dramatig. Mae ganddi lais - llais mawr - a phersonoliaeth garismatig. Edrychaf ymlaen yn fawr i'w chlywed yn canu i gyfeiliant cerddorfa yn y brif gystadleuaeth.

Yn dilyn caneuon gan Mendelssohn, Schubert, y Ffrancwr Chausson a Hahn cyflwynodd ddwy g芒n ddoniol o'r cylch caneuon I Hate Music! gan Bernstein. Diddorol gweld a fydd hi neu Anna Stephany yn rownd derfynol y gystadleuaeth hon.

Tybiaf y bydd Ji-Min Park, tenor 30 oed o Weriniaeth Corea, yn fwy cysurus yn y brif gystadleuaeth. Nid tenor telynegol mohono ond yn ddiamau y mae'n gerddor ardderchog a llwyfan yr opera fydd ei fyd.

Felly, hefyd, Vira Slywotzky, soprano 26, sy'n cynrychioli Unol Daleithau'r America. Presenoldeb dramatig, aeddfed, ar lwyfan gyda llais mawr. Mae'n debyg bod gwaed Wcr谩in rywle yn ei gwythiennau. Bydd yn ddiddorol ei chlywed gyda cherddorfa. Cafodd y gynulleidfa werth eu harian gyda'i pherfformiadau o ddwy g芒n allan o Serate Musicali gan Rossini.

Hawdd ei dychmygu yn pwyso ar y bar mewn tafarn yn y gorllewin gwyllt ac yn bwrw iddi ond, rywsut, ni allaf ei gweld yn cyrraedd brig y gystadleuaeth hon ond gyda cherddorfa yn y brif gystadleuaeth pwy 诺yr.

Y ddwy wnaeth argraff gynnar oedd y Saesnes a'r ferch o Israel, gyda'r ail fymryn lleia ar y blaen.

Cywilydd Gerallt

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听,听

Glyn Evans | 01:00, Dydd Sadwrn, 6 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Yr adeg hon yr wythnos diwethaf yr oeddem yn brasgamu tuag at ddiwedd Eisteddfod yr Urdd 2009 a phawb mewn hwyliau da yn y Bae.

Ddeugain mlynedd yn 么l yn Aberystwyth wnaeth wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddim dirwyn i ben mewn cystal tymer.

Eisteddfod gecrus a diflas fu hon gydag ymweliad y Tywysog Charles a oedd yn ymbaratoi ar gyfer cael ei arwisgo yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon y mis nesaf.

Ac yntau newydd dreulio cyfnod yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn dysgu am Gymru a meistroli rhywfaint o Gymraeg fe'i gwahoddwyd i lwyfan yr Urdd er mawr ddiflastod i nifer o Gymry ifanc.

A phan ymddangosodd ar y llwyfan i ddarllen yr araith a sgrifennwyd yn ffonetig ar ei gyver cerddodd nifer o bobl ifainc allan mewn protest.

Ac os rhywbeth, ychwanegwyd at y drwgdeimlad pan gyhoeddodd arweinydd yr Eisteddfod, i gymeradwyaeth, ei fod yn sylwi i'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa aros yn y babell a chroesawu'r llanc ifanc o Dywysog - a hynny'n ennyn llid Y Cymro.

Doedd o ddim yn gyfnod dedwydd, hwn.

Llanc ifanc arall a wnaeth argraff fwy gwerthfawr yn yr Eisteddfod honno oedd enillydd y Gadair, ddiwrnod cyn y brotest.
Dyma eisteddfod Cerddi'r Cywilydd, Gerallt Lloyd Owen awdur llinellau gyda mwyaf cofiadwy llenyddiaeth Gymraeg a gyfansoddodd yn ystod cyfnod yr arwsigiad:

Wylit, wylit, Lywelyn
Wylit waed pe gwelit hyn.

A da gweld Barn mis Mehefin yn dwyn i gof yr orchest honno a wobrwywyd gan T Llew Jones, yn beirniadu, trwy holi Gerallt Lloyd Owen - a oedd ymhlith y protestwyr hynny a gerddodd allan y diwrnod wedyn.

Hon oedd ei drydedd cadair yn dilyn rhai 1962 a 1965 ac yr oedd yn eironig cymharu y bonllefau a gymeradwyaeth iddo un diwrnod a'r islais o ddirmyg y diwrnod wedyn wrth iddo weithredu synnwyr ei gerddi.

Ac mae'n datgelu i Barn na siaradodd pennaeth yr Urdd ar y pryd, R E Griffith, byth ag ef wedyn!

Cymru Heddiw oedd y testun yn 1969 meddai wrth Barn.

"Oedd o'n ddewis annoeth o safbwynt yr Urdd! Ond mi oedd o'n destun da. Roedd yr union destun i mi, a dweud y gwir, gan fy mod i wedi bod yn corddi cymaint am yr Arwisgiad ac yn meddwl a phendroni am gyflwr Cymru," meddai Gerallt.

Cyhoeddwyd Cymru Heddiw maes o law dan y teitl mwy bachog, Cerddi'r Cywilydd. Cyfrol ddinod a llipa ei gwedd wedi ei styffylu wrth ei gilydd yn hytrach na'i rhywmo.
Ond os yr oedd yn llipa ei chlawr roedd hi'n ffrwydrol ei chynnwys.

A dywed Gerallt wrth Barn ei fod yn tybio mai Wylit, wylit . . . oedd y gerdd gyntaf iddo ei chyfansoddi - honno neu Y Gwr Sydd ar y Gorwel.

Yn yr un cyfweliad mae'n mynegi ei siom am gyflwr y Gymraeg heddiw ac am ei ofn ynglyn 芒 mentro i gyhoeddi rhagor.

Cyfweliad amserol a diddorol.

  • Eisteddfod yr Urdd 2009
  • Blooming gr锚t

    颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

    Glyn Evans | 09:39, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

    Sylwadau (0)

    Mae'n arferiad dweud, pe byddai dinas Dulyn yn cael ei dinistrio y gellid ei hailgreu unwaith eto o ddilyn dalennau nofel fawr James Joyce, Ulysses, gan mor fanwl yw'r disgrifad o'r ddinas yn honno
    .
    Y mae Ulysses a gyhoeddwyd yn 1922 yn un o nofelau'r ugeinfed ganrif y bu'r mwyaf o drafod ac anghydweld ynglyn 芒 hi.

    A Joyce wedi troi'n alltud erbyn hynny; ym Mharis y cyhoeddwyd hi gyntaf gan berchen siop lyfrau o'r enw Shakespeare, Sylvia Beach.

    Cyn hynny ymddangosodd fesul darn mewn cylchgrawn Americanaidd, The Little Review, tra'r oedd Joyce yn dal i'w sgwennu.

    A'r Little Review eisoes wedi ei erlyn am gynnwys darn yn disgrifio hunan-foddhad rhywiol meddiannodd swyddogion y tollau gopiau o'r llyfr gorffenedig a'i wahardd yn yr Unol Daleithiau tan 1933.

    Yn naturiol, doedd o ddim yn dderbyniol yn Iwerddon Babyddol ychwaith.

    Gyda 264,834 o eiriau mae'r nofel wedi ei rhannu'n ddeunaw pennod sy'n dilyn diwrnod ym mywyd y prif gymeriad, Leopold Bloom, yn Nulyn ar Fehefin 16, 1904 gyda'r ddinas ei hun cyn bwysiced a'r bobl yng ngolwg Joyce wrth iddo roi sylw i'r manylyn lleiaf wrth sgrifennu.

    Hynny barodd iddo ddweud wedyn: "Pe byddai i Ddulyn ddiflannu'n ddisymwth oddi ar wyneb Daear fe ellid ei hailadeiladu o'r llyfr hwn."

    Y farn gyffredinol yw nad yw hi'n nofel 'hawdd' er bod rhai yn cwyno i ormod gael ei wneud o'r syniad ei bod yn anodd i'w darllen - ond fe fyddech yn ei chael yn anodd dod o hyd i rywun sydd wedi ei darllen bob gair a'i deall!

    Dilyn mae'r stori ddiwrnod arferol o fore gwyn tan nos ym mywyd casglwr hysbysebion, Leopold Bloom o dras Iddewig, a'i grwydriadau drwy strydoedd Dulyn.

    O'r teitl mae'r gyferbyniaeth 芒 chwedl Roegaidd Ulysses yn amlwg gyda phob pennod yn y nofel yn cyfateb i benodau yn Odyssey 主播大秀r.

    Ei wraig anffyddlon, Molly, yw Penelope yr Odyssey a Stephen Dedalus, yr olaf o'r triawd o brif gymeriadau ydi Telemachus y chwedl Roegaidd.

    Er y gyferbyniaeth amlwg tramgwyddus fyddai ceisio priodi holl elfennau yr Odyssey a holl elfennau Ulysses ond y mae'n arwyddocaol nad oes bodlonrwydd ar ddiwedd dydd i Leopold na Stephen wedi eu crwydriadau drwy'r ddinas/bywyd.

    Un o hynodion y nofel yw myfyrdod maith Molly ynglyn 芒 phwrpas bywyd tua'r diwedd. Un frawddeg faith heb unrhyw atalnodi ar ei chyfyl ac yn gorffen gyda'r un gair Yes.

    Mae dau reswm dros hel meddyliau fel hyn yn awr.

    Yr ydym am drothwy Mehefin 16 sy'n cael ei ddathlu bob blwyddyn er 1954 yn Nulyn fel Bloomsday gyda phob math o weithgareddau - gan gynnwys ymweliadau 芒 lleoedd yn y nofel gyda nifer o'r rhai sy'n cymryd rhan wedi eu gwisgo yn nillad y Dauddegau.

    Gyda'r gweithgareddau eleni yn cychwyn ar Fehefin 7 gan ymestyn i Fehefin 16 fe fydd yna frecwestau, darlleniadau, ffilmiau ac yn y blaen yn ogystal 芒 theithiau tywys.
    Fel rheol mae'n wythnos / diwrnod gwych i fod yn Nulyn!

    Rheswm arall dros s么n am gampwaith Joyce yw fod llyfr newydd wedi ei gyhoeddi am y nofel; Ulysses and Us: The Art of Everyday Living gan Declan Kiberd (Faber. 拢14.99) sy'n dadlau i lyfr Joyce gael ei gamddarllen a'i gamddeall gan genedlaethau o ddarllenwyr a beirniaid gan ddweud mai nofel am bobl gyffredin i bobl gyffredin yw hi.

    Ac ynglyn 芒'r cyhuddiad o fod yn llyfr anodd mae'n gofyn:
    "Pam mae o wedi cael ei alw yn anarllenadwy gan y bobl gyffredin y'i agrfennwyd ar eu cyfer?"

    Er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth yn y dyfodol mae'n cynnig eglurhad bennod wrth bennod yn ei lyfr ar gyfer y darllenwyr cyffredin hynny fel y gallant weld o'r newydfd nofel "a sgrifennwyd i ddathlu byw bob dydd pobl gyffredin".

    Pa well rheswm i dynnu'r nofel drwchus oddi ar y silff unwaith eto a rhoi cynnig arall ar ei darllen?

    Ond rhowch ddigon o amser i chi'ch hun!

    Pobol Nia - 3

    颁补迟别驳辞谤茂补耻:

    Blogiwr Gwadd | 06:49, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009

    Sylwadau (0)

    Trydydd cyfraniad Nia Lloyd Jones, un o'n blogwyr gwadd yn Eisteddfod yr Urdd
    Nia sydd yng nghefn y llwyfan yn holi cystadleuwyr a phobl ddifyr eraill ar gyfer 主播大秀 Radio Cymru. Dyma ei chyfraniad olaf:

    Dydd Sadwrn - diwrnod yr aelwydydd!
    S么n am hwyl!!
    Ges i sgwrs hefo glamp o gantores opera mewn ffrog binc a wig gwyn - o Aelwyd Crymych - cystadleuaeth y chwarter awr o adloniant. Pwy oedd yn cuddio dan y wig ond doctor ifanc o'r enw Dylan!

    Ron i wrth fy modd yn ystod cystadleuaeth y corau meibion tri llais - a'r hogia i gyd yn canu can Maharishi - Ty ar y Mynydd a brawd Gwil Maharishi yn canu hefo criw Aelwyd Bro Cernyw, ac yn goron ar y cyfan mi ges i sws wedyn gan Huw Pen Cefn - aelod o'r aelwyd honno - oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed!

    A dyna ni - steddfod arall yn dod i derfyn. Diolch i bawb am fod mor barod i sgwrsio, ac os byw ac iach - mi wela i chi gyd yng Ngheredigion flwyddyn nesa.

    主播大秀 iD

    Llywio drwy鈥檙 主播大秀

    主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.