主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
  • Adolygiad Vaughan Hughes o Teulu L貌rd Bach gan Geraint V Jones. Gomer. 拢9.99.



  • A hithau'n Nadolig y credit crunch rydw innau, fel chithau mae'n si诺r, wedi clywed peth wmbredd o bobol yn dweud eu bod nhw'n mynd i fod yn fwy darbodus nag arfer dros W欧l y Gwario eleni.

    A phrun bynnag , y tro yma does neb yn aros tan ar 么l y Dolig i fachu bargen. Mae bargeinion ar gael yn barod.

    Clawr y llyfr Mewn cywair masnachol o'r fath cyhoeddaf yn syth bin nad oes gwell bargen i'w chael yn unman na hon, degfed nofel Geraint Vaughan ar gyfer oedolion.

    Mae hi'n glamp o nofel fawr, dew. A bod yn fanwl, mae hi'n 655 o dudalennau.Y cyfan am ddegpunt namyn ceiniog!

    A does dim arwydd o fath yn y byd bod Gomer wedi gorfod gwneud arbedion er mwyn gallu gwerthu nofel o'r trwch hwn am bris mor rhesymol. Mae'r papur, y clawr , a chynllun y clawr, llun trawiadol-briodol o waith Rebecca Kitchin, yn chwaethus a safonol.

    Ac yn wahanol i lawer o nofelau tew dyw rhwymiad fy nghopi i ddim yn bygwth datgymalu o gwbl.

    Gwerth ei darllen
    Fyddai hynny i gyd, wrth reswm pawb, yn golygu dim byd os na fyddai'r nofel yn un sy'n werth ei darllen.

    Pleser o'r mwyaf ydi gallu eich sicrhau ei bod hi'n bendant yn werth ei darllen.

    Dywedaf ragor.
    Fe'i cefais yn anodd rhoi'r gorau i'w darllen.
    Does dim rhyfedd bod adolygwyr llyfrau Saesneg wedi bathu'r term page turner am nofel nad oes modd ei gollwng. Dyna gamp fawr Geraint Vaughan.

    Heb chwyddo
    Yn aml iawn mae hyd yn oed y goreuon o nofelwyr yn chwyddo maint eu nofelau efo gor fanylder syrffedus, sef, a bod yn blaen, padding. Naill ai hynny neu maen nhw'n benderfynol bod y cyfan o'u gwaith ymchwil trylwyr yn mynd i mewn i'r nofel, doed a ddelo.

    Ysywaeth, mae hynny'n gallu bod yn llafurus i'r darllenydd . Gall hefyd amharu'n ddifrifol ar rediad y stori.

    ( Syrthiodd Sebastian Faulks o bawb i'r fagl honno yn Human Traces, ei nofel am gychwyniadau seiciatryddiaeth, ac yn y diwedd mae'r hyn ddylai fod yn nofel o'r radd flaenaf yn suddo mewn cors o syniadaeth ar draul cymeriadaeth.)

    Epig o stori
    Sylweddolaf ei bod yn hen bryd imi roi rhyw syniad i chi o thema nofel Geraint Vaughan. Er efallai nad thema ydi'r gair mwyaf priodol yn achos Teulu L貌rd Bach. Byddai'n well gen i ei galw'n stori.

    Epig o stori. Stori teulu Alis Huws a oedd yn byw yn Little Lord Street, Blaendyffryn, sef Blaenau Ffestiniog yn bendifaddau. At etifedd perchennog y chwarel y mae'r L貌rd Bach yn cyfeirio. ( Er bod mwy i'r cysylltiad na hynny'n unig fel y cewch chi weld.)

    Mae'r nofel yn agor ym 1919 ac yn cloi ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain. A hithau'n cwmpasu hanes teulu,cymuned, cenedl a chyfandir dros y rhan helaethaf o gan mlynedd, mae ei chynfas yn eang

    Yn fwy na hynny mae'r hanes yn argyhoeddi'n llwyr. Do, bu Geraint Vaughan yn gwneud gwaith ymchwil. Llawer iawn o waith ymchwil. Ond mae ganddo'r crebwyll i beidio llusgo'r ymchwil hwnnw i mewn i'r hanes yn ddiangen.

    Ar y cychwyn cyntaf un mae ei ddisgrifiadau o fywyd yn y chwarel yn gwbl gredadwy. Yr un mor ysgytiol o argyhoeddiadol yw'r modd yr ymdrinnir 芒 chyflwr truenus Rhys sy'n dychwelyd adre o'r Rhyfel Mawr yn llestr drylliedig.

    Mentraf hawlio nad oes neb yn y Gymraeg wedi rhoi gwell mynegiant i sgil effeithiau diawledig y ffosydd na Geraint Vaughan yn y nofel hon.

    Na茂f o ddiniwed ydi'r Parch. T L Morgan pan welwn ef gyntaf ond mae yntau'n dod i deimlo croeswyntoedd y newyddfyd blin.

    Ail Ryfel Byd
    Dirwasgiad ac Ail Ryfel Byd ddaw nesaf.
    Y tro hwn mae un aelod o Deulu L貌rd Bach yn wrthwynebydd cydwybodol sy'n cael ei anfon i weithio i lofa Gresffordd - a chael mwy o barch am ei safiad yn y gymdeithas lofaol gymharol ddi Gymraeg honno nag a gaiff adra mewn cymdeithas chwarelyddol Gymraeg.

    Mae aelod arall o'r teulu yn "Arwr Rhyfel" - yn un o'r rhai a fomiodd Dresden.

    Fe drochwyd Jac yr Undeb droeon yng ngwaed y diniwed. Ond go brin fod gwaeth enghraifft o hynny na'r cyrchoedd awyr didostur ar Dresden ym 1945.

    Lladdwyd miloedd aneirif - rywle rhwng 25,000 a 40,000- o wragedd, plant a ffoaduriaid.

    Eto, 芒'm llaw ar fy nghalon, chafodd y profiad o fod ar gyrch awyr o'r fath, ac o ddyn yn neidio am ei fywyd mewn parashiwt o awyren fomio a oedd yn belen o d芒n, erioed well mynegiant mewn rhyddiaith Gymraeg.

    Croesawaf yn frwd unrhyw dystiolaeth y gellir ei chynnig i'r gwrthwyneb. Dwi'n gwybod ein bod ni'n wych ers talwm talwm - gweler y Gododdin - am ddisgrifio galanastra rhyfel .Ond mae ymchwil, dawn a greddf lenyddol Geraint Vaughan wedi ei alluogi, yn ein dyddiau ni, i ailgreu cyffro ac alaeth rhyfela mewn modd pur nodedig.

    Realiti Cymru heddiw
    Erbyn cyrraedd ein cyfnod ni, dyw'r awdur ddim yn cau ei lygaid i realiti y Gymru sydd ohoni: erydiad y diwylliant a'r iaith Gymraeg gan ddiweithdra, cyffuriau, mewnfudwyr, difrawder, a gor ddibyniaeth Cymru ar nawdd y wladwriaeth.

    Ymhlyg yn hyn oll mae methiant ein cymdeithasau Cymraeg i ddod o hyd i unrhyw beth a allai ddechrau llenwi'r bwlch yr oedd crefydd, er gwaethaf popeth, yn ei lenwi hyd at chwedegau'r ugeinfed ganrif.

    Prin iawn yw'r llithriadau a ganfyddais mewn 655 o dudalennau. Gyda'r gwaethaf yw Ifan yn cyfarch ei fam wrth ddod adra o'r ysgol ym 1919 efo'r geiriau:
    "Haia Mam."
    Go brin fod plant Llundain heb son am Flaenau Ffestiniog yn dweud hynny 'radeg honno!

    O genhedlaeth i genhedlaeth
    Drwyddi draw, fodd bynnag, mae Geraint Vaughan yn cofnodi ieithwedd y cenedlaethau yn rhagorol. Dyma, mewn dau ddyfyniad byr, grynhoi dirywiad y Gymraeg, a dirywiad gwerthoedd y diwylliant Cymraeg.

    Meddai'r hogyn bach wrth ei fam ym 1919:
    "Byddwch yn ofalus Mam. Mae'r llwybr 'ma fel gwydr ac mae'n chwipio rhewi o hyd."

    Meddai'r drygi sy'n llofruddio hen fachgen methedig ym 1999: "Os ma chdi ddim deud lle mae ffycin pres chdi mae chdi'n ffycin dead meat."

    Llygedyn o olau
    Ond teg ydi nodi fod Geraint Vaughan yn gweld llygedyn bach o olau ar y diwedd un. Wrth i Little Lord Street gael ei chwalu i'w throi'n fflatiau mae hanes Teulu L貌rd Bach, a gofnodwyd mor fanwl gan aelod o'r teulu - ond a gollwyd - yn cael ei ddarganfod gan fforman y giang o Bwyliaid sydd wrthi'n chwalu'r rhes tai.

    Pwyliad ydi yntau. Ond un a godwyd yng Ngwynedd yn Bwyliad Cymraeg. Mae o'n deall gwerth yr hanes - sef yr hanes ryda ni newydd ei ddarllen - ac mae o'n ymorol am ei ddiogelu.

    Ai'r neges fawr yw hyn: mai dim ond drwy gymhathu pobol o'r fath y gallwn ni oroesi?

    Hitiwch befo r诺an am hynny.
    Llawenhawn yn hytrach bod problem beth-i'w-gael-i-taid (os nad i Dad...) y Nadolig hwn wedi ei datrys.

    A phwy a 诺yr na fydd Geraint Vaughan hefyd yn cael anrheg haeddianol yn y Flwyddyn Newydd.
    Llyfr y Flwyddyn? Synnwn i ddim.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Geraint V Jones

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy