Ö÷²¥´óÐã

Archifau Awst 2009

Diwrnod darllen

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 01:14, Dydd Llun, 31 Awst 2009

Sylwadau (0)

Be wnewch chi heddiw?
Eistedd yn y tÅ· yn darllen?

Dyna ddylech chi fod yn ei wneud - gan mai fel diwrnod i wneud hynny'n benodol y cyflwynwyd y diwrnod hwn o ŵyl gan yr aelod seneddol Rhyddfrydol Syr John Lubbock yn 1871.

Ei fwriad ef gyda'i Fesur Gŵyl Banc - Bank Holiday Act - oedd neilltuo amser i weithwyr cyffredin dreulio'r diwrnod yn darllen ac yn 'gwella eu hunain'.

Ond nid felly'n union y bu hi ac yn lle aros adref gyda'u trwynau mewn llyfr beth wnaeth y tacla ond manteisio ar y diwrnod i'w hel hi am y glannau moroedd ac i ymblesera a llyfrau a darllen y pethau pellaf o'u meddwl.

Yr oedd Lubbock yn un a roddai bwys mawr ar lyfrau. Disgrifiodd nhw fel cyfrwng i gludo dyn i bob math o leoedd astrus.

"Gallwn eistedd yn ein llyfrgell a bod ar yr un pryd yn unrhyw ran o'r byd," meddai yn un o'i lyfrau gan ymfalchio y gall ystafell fechan o lyfrau fod yn gyforiog o gyfoeth anhraethol.

Yn eistedd mewn tagfa draffig heddiw neu'n mochel rhag cawod dan rhyw fargod; meddyliwch gymaint brafiach fyddai hi wedi bod pe byddem wedi gwrando ar Lubbock - banciwr wrth ei alwedigaeth ond yn un a diddordeb angerddol ym myd natur - yn arbennig pryfetach fel morgrug a gwenyn - ac mewn archaeoleg.

Dywedir bod un o'i lyfrau, Pre-historic Times, as Illustrated by Ancient Remains, and the Manners and Customs of Modern Savages, yn un o rai mwyaf dylanwadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ei faes.

Yn wahanol i'r drefn bresennol Llun cyntaf mis Awst oedd dydd gŵyl y ddeddf y bu e'n gyfrifol amdani gyda'r bwriad o fanteisio ar y tywydd gorau posib - er, pam bod angen diwrnod braf i ddarllen dydw i ddim yn deall yn iawn.

Yr oedd hi'n 1965 pan benderfynodd y Senedd yn Llundain symud y dyddiad i ddiwedd y mis fel ag y mae yn awr.

Anodd meddwl beth fyddai Lubbock a oedd yn AS Maidstone pan gyflwynodd ei ddeddfwriaeth, yn ei feddwl o'n syniad ni heddiw o wyliau banc.

Yn ei ddydd crynhowyd ei syniadau ef yn y rhigwm hwn:

How doth the Banking Busy Bee
Improve his shining hours?
By studying on Bank Holidays
Strange insects and wild flowers.

Peryg mai trwy ffenest car yn llusgo'n araf y byddai'n gwneud hynny heddiw.

Byddai'n fendith inni gyd aros adref i ddarllen.

Llwch yn y llygaid?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:01, Dydd Gwener, 28 Awst 2009

Sylwadau (0)

ER i dim Criced Awstralia orfod dychwelyd adref heb eu lludw gwerthfawr yr oedd ganddyn nhw serch hynny lestr lludw i fynd ardref efo nhw.

Cyflwynwyd Llestr y Lludw sef gwaith celf a grëwyd gan artist o Sir Benfro, Laura Thomas, i Gyfarwyddwr 'Cricket Australia', Dr John Bannon, gan y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones i nodi'r ffaith mai yng Nghymru y chwaraewyd gêm gyntaf y gyfres.

Laura Thomas a'i gwaith celf


Mae'r llestr yn adlewyrchiad o droelliad pêl griced ac nid yn unig yn coffau'r prawf cyntaf i'w gynnal erioed yng Nghymru ond hefyd yn symbol o gyfeillgarwch Cymru ac Awstralia meddai yn ei gylchlythyr diweddaraf.

Talwyd am y llestr gan Lywodraeth y Cynulliad, Cyngor Celfyddydau Cymru a SAFLE-celf cyhoeddus Cymru.

Wnai ddim taflu llwch i lygaid neb trwy awgrymu y bydd yn gwneud iawn am golli'r prawf a go brin y caiff gymaint o groeso a'r llestr lludw go iawn - ond o leiaf wnaethon nhw ddim gadael yn waglaw!

Wrth y drws yn curo . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:31, Dydd Gwener, 28 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mae o'n gwestiwn hynod amserol yr adeg arbennig hon; Sut mae rhywun yn penderfynu pa Brifysgol i'w dewis?

Y dewis o gyrsiau? Ardal braf ? Nythaid o ddarlithwyr adnabyddus eu ysgolheictod? Enw da i'r cyrsiau? Cyfartaledd sy'n plesio o fechgyn a merched?

Siŵr iawn, bod rhywun yn meddwl am y pethau hyn ond yn ôl yr Americanwr Chris Cope yn ei lyfr, Cwrw am Ddim am ei hynt a'i helynt yn dysgu Cymraeg gall y rheswm am y dewis fod yn un llawer llai pwysfawr - fel ag yn ei achos ef yn dewis Prifysgol Caerdydd fel y lle i astudio'r Gymraeg.

Chris  Cope

Yr hyn drodd y fantol oedd hwylustod gwefan y coleg ac yn arbennig wefan Ysgol y Gymraeg yno.

Yr oedden nhw, yn ôl Chris, yn hawdd eu defnyddio ac yn "darparu mwy o wybodaeth nag a welais ar wefannau prifysgolion eraill" yng Nghymru.

Ar ben hynny yr oedd Caerdydd yn ateb yr e-byst oedd yn cael eu hanfon ati.

"Hint gyfeillgar" felly, chwedl Chris, i Brifysgolion eraill sydd am fanteisio ar arian myfyrwyr o wledydd tramor.

"Dylanwadwyd ar fy newis o brifysgol, yn rhannol gan yr amryw dudalennau 'Funding Your Degree' . . . a rhwyddineb eu defnyddio," meddai.

"Hefyd, dylech chi, brifysgolion eraill, ateb eich e-byst gyda'r troad. Yn fy achos i fel person na allai bopio draw am sgwrs a phaned jyst unrhyw bryd, adlewyrchir gwerthoedd a threfnusrwydd Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd gan ei medr i fyw a gweithredu yn y byd modern ac ateb ei he-bost," medda fo wedyn.

Sut bydd prifysgolion eraill Cymru yn ymateb i'r feirniadaeth fach yna tybed - a'r awgrym nad ydyn nhw'n byw a gweithredu yn y byd modern?

Chwerthin? Roeddwn i'n meddwl na fyddwn i byth yn dechrau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 20:45, Dydd Iau, 27 Awst 2009

Sylwadau (1)

Yn yr Alban ddechrau'r wythnos a gweld fod jôc gan ein Rhod Gilbert ni ymhlith deg o rai gorau yr Edinburgh Fringe.

Yn ffodus, mae hi'n cyfieithu'n weddol ddidrafferth i'r Gymraeg - rhywbeth nad yw'n digwydd yn aml iawn gyda jôcs.

Ta beth, dyma ddweodd Rhod: "Gwesty sba? Mae'n union fel pob gwesty arall ond bod yna lun carreg o wely afon yn y dderbynfa."

I arbed trafferth ichi, "pebble" ddywedodd o. Fel yr awgrymais i dim ond ffŵl fyddai'n ymgymryd â chyfieithu jôcs.

Cyn dewis y jôc yna gwrandawodd naw beirniad ar gyfanswm o 3,600 munud o gomedi yn yr ŵyl a hidlo 7,200 o jôcs ar gyfer rhestr fer o 27 y byddai pobl fel chi a fi yn pleidleisio iddyn nhw.

Jôc gan Dan Antopolski ddaeth i'r brig a chan nad ydi hi, yn fy marn i, yn arbennig o dda yn y Saesneg gwreiddiol wnâi ddim gwneud mwy o gam â hi trwy ei chyfieithu er mai ond wyth gair sydd iddi:

"Hedgehogs," meddai, "why can't they just share the hedge?"

Rwy'n siŵr y cytunwch, os mai dyna'r orau rhad ar yr un ddaeth yn 7, 200 ar y rhestr!

Yr un ddaeth yn ail oedd orau gen i o'r deg uchaf, gan Paddy Lennox:

"Yr oeddwn i'n gwylio marathon Llundain," meddai, "a gweld un rhedwr wedi ei wisgo fel iâr a rhedwr arall fel wy. Wel, meddyliais, mi all hyn fod yn ddiddorol."

Roeddwn i'n eithaf hoffi sylw Marcus Brigstocke hefyd:

"I'r rhai hynny ohonoch sy'n berchen iPhone - dim ond wedi'i brynu fo ydy chi nid ei ddyfeisio."

Yn rhyfedd iawn doedd y jôc a dybiwn i yr orau o'r rhai y darllenais ddim hyd yn oed ymhlith y deg uchaf

"Mae 'na lot o bobol yn fy nghyhuddo i o fod yn hunanol - ond dyna ddigon amdanyn nhw . . ."

Ta waeth, un peth ddaeth yn amlwg iawn i mi wrth ddarllen am y dethol a'e didol; dydi Caeredin ddim yn lle y byddech chi'n teithio o bell iddo i glywed jôcs.

Clywais well yn ein steddfod fach ni.
Chwithau hefyd, siŵr o fod - ac os ydych chi am rannu - wel anfonwch, nawr.

Sillafu teitlau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:39, Dydd Iau, 27 Awst 2009

Sylwadau (0)

Gallech daeru ei bod yn ffasiwn yn Hollywood y dyddiau hyn i roi teitlau wedi eu camsillafu i ffilmiau.

Yn dal yn y sinemâu mae The Time Traveler's Wife wedi gamsillafu i'n llygaid ni yr ochr hon i'r Iwerydd lle byddwn yn rhoi dwy 'l' yn traveller.

Golygfa o Inglourious Basterds

Un, fodd bynnag, ydi'r arferiad Americanaidd, ond yn aml iawn pan fo gwahaniaethau sillafu fel hyn yn bodoli mae'r ffordd gymwys yn cael ei mabwysiadau y naill ochr a'r llall. Nid y tro hwn.

Camsillafiad o fwriad ydi un ffilm ddiweddaraf Quentin Tarantino, Inglourious Basterds - rhag i bobl ei chymysgu â ffilm Eidalaidd a ymddangosodd yn Saesneg ym 1978 fel The Inglorious Bastards a honno'n un o hoff ffilmiau Tarantino - fel yr eglura Lowri Haf Cooke yn ei hadolygiad ar y wefan hon.

Rhagor o Dwt Twtio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 15:38, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Sylwadau (0)

Wn i ddim oedd o'n beth call imi sôn am y cylchgrawn Zoo.

Mae peryg i'r peth fynd yn drafodaeth achos o fewn oriau i'r sylw Twt Twt ymddangos yr oedd llaw ar fy ysgwydd yn gofyn a oeddwn wedi gweld y cymorth mae'r cylchgrawn yn ei gynnig i ferched ifainc sy'n chwilio am waith trwy roi cyfle iddyn nhw ddangos eu holl gredenshials i ddarpar gyflogwyr.

Rhai fel Holly, 19, gyda 10 GCSE, 3 A/SLevels a Diploma Genedlaethol BTEC mewn Dawns.

Ac yng ngholofn This England y New Statesman dyfynnwyd dirprwy olygydd Zoo yn dweud wrth y Milton Keynes Citizen:

"Mae'n gwbl ddiragfarn - trwy gael gwared â'¾± dillad yr ydym wedi cael gwared ag unrhyw ragdybiaethau ynglÅ·n â hi."

Gan ychwanegu fod dyletswydd ar bawb i wneud yr hyn allant i helpu Gordon Brown oresgyn y wasgfa economaidd.

Y bwriad oedd cario llun gyda'r eitem hon.
Ond i be? Os da chi wedi gweld un tystysgrif TGAU rydych chi wedi'u gweld nhw'i gyd.

Cofio Mair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 11:31, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Sylwadau (0)


Fel 'Miss Mair' yr oedd Eluned Mair Davies a fu farw mor ddirybudd ddydd Iau yn Nhrelew, Patagonia yn cael ei hadnabod gan lawer.

Mair Davies

Yn Gymraes tra chrefyddol aeth i dde America yn genhades am rai blynyddoedd yn y lle cyntaf - ond yno y treuliodd weddill ei hoes gan ddod yn rhan annatod o'r gymdeithas Gymraeg yn nhalaith Chubut.

Sefydlodd siop yn gwerthu llyfrau Cristnogol yn Nhrelew a byddai'n pregethu a gweinidogaethu - er nad oedd yn weinidog - yn y Gymraeg a'r Sbaeneg.

Bydd ei hangladd ddydd Llun Awst 24 gyda chapel y Tabernacl, Trelew, yn agored o ddeg y bore ac oedfa ddiolchgarwch yn cychwyn am ddau o´r gloch y pnawn.

Bydd y cynhebrwn yn cychwyn tua mynwent y Gaiman am 3.30 ar gyfer pedwar.

Galwyd ar y rhai sy'n galau i beidio ag anfon blodau siop ond yn hytrach roi'r arian i gronfa a sefydlwyd i gyhoeddi Testament Newydd Cymraeg-Sbaeneg, prosiect oedd agos iawn at galon Miss Mair.

Ar drywydd Jim Cro

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 10:42, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Sylwadau (1)

Y tro nesaf y byddwch chi'n canu am Jim Cro Crystyn yr hwiangerdd Dacw Mam yn Dwad i'r plant oedwch i feddwl am funud - pwy oedd y Jim Cro Crystyn yma.

Cloriau On Trac

Yn sgil cystadleuaeth cân werin yn Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy y flwyddyn nesaf mae Siân Thomas yn codi cwr y llen ar Jim Cro yn
, cylchgrawn y mudiad Ontrac sy'n hybu traddodiadau cerdd Cymru.

Un o'r darnau gosod yn yr Eisteddfod ydi'r pennill:

Ar y ffordd wrth fynd i Rymni,
Very well-a-done Jim Cro,
Cwrddyd wnes â dyna mwnci,
Very well-a-done Jim Cro
Victoria,Victoria,
Very well-a-done Jim Cro

Eglurir yn yr erthygl i'r pennill - sy'n fersiwn o Hob y Deri Dando - gael ei anfon i Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y lle cyntaf.

Gyda Jim Cro yn ymddangos mewn o leiaf tair cân werin Gymraeg sbardunwyd Sian i ymchwilio ymhellach a darganfod i'r cymeriad gael ei greu oddeutu 1828 gan berfformiwr wynepddu o'r enw Thomas Daddy Rice.

Gwelodd ef hynafgwr du yn dawnsio a chanu
Weel about and turn about and so jis so,
Eb'ry time I weel about I jump Jim Crow

a throdd hi'n gân boblogaidd yn theatrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ôl Siân nid oes amheuaeth mai gwneud hwy yr oedd y perfformwyr gwyn am ben dawnsfeydd lle mae dawnswyr Affrig-Americanaidd yn gwatwar symudiadau adar ac anifeilaidd.

A dyna egluro'r Jim Crow ond canfu Siân hefyd fod arwyddocâd i'r Victoria Victoria hefyd gan egluro mai'r posibilrwydd yw mai cyfeirio y mae at bennaeth enwog ymhlith yr Apache a oedd yn cael ei adnabod fel Victorio.

Cafodd ei bobl ef eu herlid o'u tiroedd a'u llwgu a'u hela am arian a phleser.

Rhwng 1879 ac 1880 arweiniodd gyrch gwaedlyd yn erbyn byddin yr Unol Daleithiau ym Mecsico newydd ac Arizona - nes iddo gael ei oresgyn mewn lle o'r enw Rattlesnake Springs fis Awst 1880 gan gwmni o filwyr oedd yn gyn gaethweision.

Gallai fod, maentumia Sian, mai sianti wladgarol oedd Victoria,Victoria,
Very well-a-done Jim Cro
gan y milwyr a'i trechodd.

Fel sy'n digwydd yn aml mae un eglurhad yn codi rhagor o gwestiynau ac ymhlith y rhai y mae Siân yn eu codi y mae cwestiwn am arwyddocâd Jim Crow House yng Nghroesyceiliog, Cwmbnran, Het Jim Cro Gwenno Penygelli ac, wrth gwrs, y Jim Cro Crystyn yna sy'n eistedd ar stôl yn Dacw Mam yn Dwad.

Y peryg yw - ddod o hyd i'r atebion y bydd plismyn gweddustra cywirdeb gwleidyddol ar eich gwarthaf i roi taw ar bopeth.

A'n gwaredo rhag hynny - ond cyfra dy ddyddiau Jim Cro Crystyn - pob un o'r one two four ohonyn nhw .

A thithau'n fathemategol ddiffygiol yn barod does fydd gen ti ddim gobaith.!

  • Cylchgrawn am ddim ydi On Trac yn cael ei gyhoeddi'n dymhorol - Blwch Post 428, Caerdydd, CF11 1DP. 02920318863.

Mae isio gRas

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:37, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Sylwadau (0)

Nes i rywun ofyn imi "Sut mae'r ras yn mynd?" y dydd o'r blaen wyddwn i ddim fy mod i mewn ras o gwbl.

Ond mae'n ymddangos bod yna ymgiprys rhwng Vaughan Roderick, un arall o flogwyr y Ö÷²¥´óÐã, a Hywel gwynfryn a minnau pwy sy fwyaf cegog.

Hynny yw pa un ohonom fydd yn 'postio ' - a defnyddio'r derminoleg yr ydw i mor gyfarwydd â hi - y mwyaf o sylwadau ar ei flog gyda Vaughan yn ofni bod y ddau ohonom yn bygwth ei goron!

Y cwestiwn cyntaf a ddaeth i'm meddwl i, yn naturiol, oedd; A yw hi'n bosib bod mewn ras nad ydych chi'n gwybod ei bod yn cael ei rhedeg? - ac mae metaffisegwyr wedi rhoi eu pennau i oeri mewn bwcedeidiau o ddŵr oer wrth fynd i'r afael a chwestiynau llai dyrys na hwnna.

Pethau fel, Pam yda ni yma? Yn blogio o gwbwl.

Beth bynnag, a ydio'n gwestiwn sy'n mynd a'ch bryd chi ai peidio, piciwch draw am dipyn o synnwyr cyffredin i flog Vaughan sydd, beth bynnag am unrhyw râs, ymhlith y difyrraf o flogiau, ac newydd ei ddewis yn nawfed blog gorau 'Total Politics' gan guro rhenciau hirion o flogiau Saesneg..

Ac un peth y gallwch fod yn sicr ohono; pwy bynnag fydd yn ennill y ras-na-wyddwn-amdani fe ddywed y sawl sy'n colli mai sylwedd nid swmp sy'n cyfrif yn y pen draw.

O leiaf, dyna fydda i'n i ddweud os collai.

Twt, twt!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:35, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Sylwadau (0)

Yn dilyn y drafodaeth am y twat, David Cameron.

Gwell aileirio hwnna i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth a gochel cnoc ganol nos rhyw blismon chwaeth neu gyrch plygeiniol sgwad o'r heddlu safonau.

Felly, yn ôl i'r dechrau.
Yn dilyn ein sgwrs Tyngu a Rhegi y dydd o'r blaen a'r defnydd o'r gair Twat ar y radio gan David Cameron tynnodd cyfaill fy sylw at eitem wythnosol yn y cylchgrawn Saesneg Zoo o'r enw Twat of the Week.

Neu fel mae'r cylchgrawn - sy'n cyhoeddi mor eofn luniau dirifedi o ferched ifanc yn borcyn noeth y- n ei gyhoeddi gyda'i swilder nodweddiadol, Tw*t of the Week!

Rhyw fath o ganllawiau T*t fot T*at golygyuddol ar waith siwr o fod.

Ond mae'b codi unwaith eto pa mor dderbyniol yw'r gair hwn mewn gwirionedd mewn cylchoedd mwy soffistigedig na'r blog hwn ac aelwyd y Cameroniaid.

Er Zoo ei hun sy'n dweis ei Dw*t - a chlymnlaid o bobl proffwydo'r tywydd oedden nhw yn y rhifyn diwethaf - mae cyfle i ddarllenwyr gynnig enwau hefyd - neu eu nomineiddio fel y byddai darlledwyr profiadol yn ei ddweud.

Twt twt.

Canu gwae

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:19, Dydd Mercher, 19 Awst 2009

Sylwadau (0)

Faint o wynt sydd yna ar ôl yng Nghymanfa Ganu yr Eisteddfod Genedlaethol?

Yr argraff mae rhywun yn ei gael yw fod llai a llai yn ei mynychu o flwyddyn i flwyddyn.
Yn union fel y gwasanaeth bore Sul mewn gwirionedd.

Hyd yn oed yn Y Bala tenau oedd y gynulleidfa gan beri i rai holi, Os dyma'r Bala sut fydd hi yng Nglynebwy y flwyddyn nesaf?

Mae pwnc y Gymanfa yn cael ei godi gan olygydd Y Goleuad, John Gruffydd Jones, hefyd.

Ef wedi sylwi pa mor gaeth oedd nifer o'r cymanfawyr i'w taflen emynau gan na wyddent y geiriau. Flynyddoedd a fu ni fyddai angen taflen o gwbl yw'r ensyniad!

"Ydi ein hemynyddiaeth goeth wedi mynd yn rhan o'r gorffennol erbyn hyn?" yw ei gwestiwn gan ofni mai "caneuon bach arwynebol a mymryn o grefydd yma ac acw" fydd trefn y dyfodol.

A chymryd y bydd yna ganu o gwbl achos mae'n holi ymhellach: "A fydd y Gymanfa Ganu yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol o gwbl, ac mae'r cyfan fydd gennym fydd darlith mewn pabell digon anghysbell ar gyrion y maes yn sôn am y traddodiad emynyddol yng Nghymru?"

O gyfri'r mynychwyr dyw hwnna ddim yn ddarlun mor afreal â hynny.

Rili canmol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:55, Dydd Mercher, 19 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mae pawb yn hoffi canmoliaeth ac yr oedd yna ganmoliaeth i Radio Cymru gan rai a gafodd eu holi gan Golwg, "A yw Radio Cymru yn taro deuddeg?"
Er enghraifft dyma oedd gan Hanna Hopwood o Gaerfyrddin i'w ddweud:

"Sa i'n meddwl bod gormod o Saesneg ar Radio Cymru. Mae lot o gerddoriaeth Gymraeg, ifanc arno fe ac mae hynna'n rili neis. Fi'n rili joio Radio Cymru."

Rili neis clywed hynna.

Rhwng dwy ŵyl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:09, Dydd Mercher, 19 Awst 2009

Sylwadau (0)

E-bost y dydd o'r blaen yn holi tybed oeddwn i wedi sylwi faint o brif enillwyr y Steddfod yn Y Bala eleni a fu ynghlwm wrth ŵyl y Smithsonian hefyd.

"Aeth Fflur Dafydd allan i Washington fel rhan o lansio'r digwyddiadau ym mis Mawrth, bu Siân Melangell yno ar gwrs ar feirniadu llenyddol ac roedd Lowri Davies, Carwyn Evans a Ceri Wyn ymhlith y cynrychiolwyr swyddogol. Diddorol ynte?" meddai'r e-bostwraig.

Tyngu a rhegi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:01, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (0)

Tra'r oeddem ni'n troi yn ein hunfan o amgylch Pabell Binc yr wythnos o'r blaen yr oedd Y Byd Go Iawn yn dal i droi hefyd a phethau'n digwydd na wyddem ni ddim byd amdanyn nhw.

Yn wir fe allai rhywun fod wedi llwytho gweddill y ddaear ar gefn lori a'i symud i rywle arall a fyddem ni ddim callach yn Y Bala nes cychwyn am adref a syrthio i'r twll adawyd ar ôl.

Un o'r pethau difyr a gollais i oedd David Cameron yn dweud y gair 'Twat' ar y radio a 'pissed off' wedyn.

Ond y gair cyntaf achosodd helynt gan fod hwn ym marn llawer un rheg yn ormod - yn un rheg y tu draw i deledu.

Ymateb sy'n codi'r cwestiwn, Pryd yn union mae rheg yn peidio â bod yn rheg ar radio a theledu?

Er bod twat yn air bob dydd i nifer fawr o bobl daeth yn amlwg ei fod hefyd yn air na ddylid ei ddefnyddio 'ar yr awyr' gan wleidydd rheng flaen.

Ar y llaw arall fyddai neb wedi dweud dim pe byddai wedi dweud prat (sy'n golygu pen-ôl.

Ond pam?

Beth oedd yn gwneud pissed off yn dderbyniol ond y llall, ddim?

A phe byddai wedi disgrifio rhywun fe; berk go brin y byddai yna gwyno o gwbl er bod hynafiaeth hwnnw yn llawer mwy anweddus. Yn dalfyriad, yn ôl un ffynhonnell o'r rhyming slang, 'Berkshire Hunt' - a go brin bod angen dweud â beth mae hwnnw'n odli.

Nid peth Seisnig yn unig mo hyn, fodd bynnag ac fe glywir yn y Gymraeg hefyd eiriau arferai fod yn rhegfeydd yn ymbarchuso trwy golli grym a'u defnyddio gan ddarledwyr.

Ar y newyddion yn Gymraeg clywyd gohebydd yn dweud ei bod "yn ddiawledig" yn rhywle - gair y byddai Mam wedi fy anfon i i'r gwely efo chwip din am ei ddefnyddio ddyddiau fu.

Daeth gair arall o'r un radd, "uffernol", yn un nad yw gohebwyr mwyach yn ymatal rhagddo hefyd.

Allwn ni edrych ymlaen at y dydd pan na fydd ond pobl hen-ffasiwn fel fi yn aflonyddu yn ein cadair o glywed rhywun yn cael ei ddisgrifio fel aelod o helfa Berkshire ar radio a theledu?

Crafu a phigo

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 11:07, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

Sylwadau (1)

Be mae rhywun i'w wneud o Colin B Jones?

Er iddo roi'r gorau i sgrifennu i'r Cymro ers sawl pobiad mi gafodd o fwy o sylw yn Eisteddfod Y Bala na sawl un sy'n dal i sgrifennu i'r Wasg Gymraeg.

I'ch atgoffa. Fo oedd y colofnydd clecs nad oedd Y Cymro ei hun i'w weld yn siŵr iawn sut i sillafu ei enw. Weithiau yn Colin B Jones, weithiau'n Colyn B Jones, weithiau'n Colin Pigog dro arall yn Colyn Pigog.

Beth bynnag, er iddo 'farw'n' newyddiadurol rai misoedd yn ôl yr oedd mor fyw ag erioed yn Y Bala lle'r oedd yn destun cystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan Lyn Ebenezer - Deuddeg o ddarnau byrion, crafog yn null Colin B Jones . . . ac yn y blaen.

Ac, yn wir, fe ddarganfu Lyn olynydd a ystyriai'n deilwng i'r Pigog - sef Vaughan Hughes sydd bellach yn un o olygyddion Barn ac yn un o'r cystadleuwyr ar gystadleuaeth newyddiadurol arall yn yr Eisteddfod y dewisodd ei beirniad - William H Owen a fu'n olygydd ar y Colin Jones go iawn yn Y Cymro - atal y wobr ynddi.

Ta beth, a welwn ni'r Colin yn ymuno'n â Barn yn awr ei argyfwng grant presennol?

Yn wir, a fyddai ei wraig yn caniatáu hynny acghos erbyn hyn mae ganddi hithau, Colleen B Jones, ei cholofn ei hun yn y cylchgrawn newydd WA-w! a sefydlwyd gan Lowri Rees-Roberts o Lanuwchllyn - a fu unwaith ar staff Y Cymro.

Ac os cai ddweud, mae hi'n llawer tebycach i'r Colin B o ran arddull na Vaughan Hughes - ond dyna fo mae ganddi hi'r fantais o fod yn rhannu gwely a'r pigwr!

Ac maen nhw'n dweud nad oes yna lawer o fywyd yn y byd newyddiadurol Cymraeg.

Wel os does na ddim bywyd mae na ddigon o grafu a phigo.

Tybed oes gan Colin fab neu ferch . . .?


Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Rhai'n gymwys - rhai ddim

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:12, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

Sylwadau (0)

Y stori orau i mi ei chlywed yn Eisteddfod Y Bala oedd un y Parchedig Huw Jones yn agor y Babell Lên gan ragymadroddi y gallai'r pwyllgor fod wedi cael rhywun "llawer cymhwysach" nag ef i wneud y gwaith.

"Fe allen nhw fod wedi dewis rhywun cymhwysach - beth bynnag am salach," meddai gan fynd yn ei flaen:

"Pan fydda i'n teimlo fymryn yn anghymwys i gyflawni ambell i orchwyl fy nghysur i ydi geiriau rhyw hen wreigan yn Y Drenewydd."

Eglurodd ei fod ar adael Y Drenewydd ac yn mynd rownd ei bobl i ffarwelio â nhw - yn eu plith Mrs James a oedd yn tynnu at ei chant oed.

"Pan godais i fynd mi gododd hithau hefyd ac estyn ei llaw i mi. 'Mr Jones,' medda hi. 'Dwi iso diolch ichi am ddod atom ni i'r Drenewydd.'

"'Ond y fi sydd i ddiolch i chi, dwi'n siŵr, am gael bwrw mhrentisiaeth fel gweinidog yma,' medda finna.

"'Mr Jones,' medda hi. 'Gwrandwch chi arna i. Dwi isio diolch ichi am ddod ato ni i'r Drenewydd. Mi fuasa un llawer salach wedi gwneud y tro i ni - ond inni fethu'i gael o.'"

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Blwmin plentynnaidd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:20, Dydd Mawrth, 11 Awst 2009

Sylwadau (1)

Daeth ebost yn dilyn fy sylwadau am ymateb phlentynnaidd pobl ar faes y Brifwyl i Ymgyrch Brâs Merched y Wawr.

Meddai Kate Crockett:

"Llongyfarchiadau ar eich blog yn sôn am yr ymateb anaeddfed i Ferched y Wawr a'u brâs.

"Ar ôl wythnos yn y Babell Lên roeddwn i wedi hen 'laru ar glywed cyfeiriadau at blwmar a dillad isa menywod fel tasen nhw'r pethau doniolaf ar wyneb y ddaear.

"Hiwmor o oes yr arth a'r blaidd!

"Y flwyddyn nesaf rydw i am gyfrif sawl tro bydd y geiriau bra, pais a blwmar yn cael eu crybwyll - fe gewch chi eu hychwanegu at eich casgliad o ffigurau!"

Amen i hynna, yn wir.

Nodiadau Nia - diwedd wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 12:05, Dydd Mawrth, 11 Awst 2009

Sylwadau (0)

Trydydd cyfraniad Nia Lloyd Jones o gefn llwyfan Eisteddfod Y Bala.

Nia Lloyd Jones efo Rhys MeilyrDYDD GWENER
Mi wnes i dreulio'r pnawn yn eistedd yn y stiwdio yn lle Hywel Gwynfryn unwaith eto.

Nôl i gefn llwyfan ar gyfer y cystadlu - nos Wener, a chael sgwrs ddifyr iawn yn gyntaf hefo Tomas Mac Aodh Bui o Waterford yn Iwerddon.

Mae Tom wedi dysgu Cymraeg ers rhai blynyddoedd bellach ac yn siarad Cymraeg hefo tinc Wyddelig gynnes.

Cafodd o ei urddo heddiw ac mae ganddo enw da hefyd, Twm Ap Huw Aur - sydd yn gyfieithiad llythrennol mae'n debyg o'i enw. Tom ydi cyflwynydd tairieithog yr Å´yl Ban Geltaidd.

Roedd 'na ddathlu mawr yn y pafiliwn pan ddaeth canlyniad y Côr Cerdd Dant, a Chôr Llangwm yn derbyn y wobr gyntaf.

Rhian Jones oedd yn gyfrifol am hyfforddi'r côr ac yn naturiol roedd hi a'i gŵr Dewi yn emosiynol iawn, a Dewi wedi colli ei dad yn ddiweddar - Emrys Jones Penbont.

Roedd prif stiward yr Eisteddfod - Alun Puw yn cystadlu ar y llwyfan mewn côr llefaru.
Dyma ichi ddyn prysur - sydd wedi arwain tîm gweithgar o stiwardiaid drwy'r wythnos ac yn llwyddo i ffeindio bwlch i ddod i gystadlu hefyd!

Mae'n debyg bod Côr Gwerin Y Bala a'r Cylch wedi gorfod ymarfer ar y stryd neithiwr gan fod cymaint o brysurdeb yn y dref a dim adeilad ar gael.

Felly bu'n rhaid ymarfer tu allan i gartref Nia Morgan, ond fe dalodd yr awyr iach ar ei ganfed a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar ddod i'r brig.

Dydd Sadwrn
Diwrnod y corau meibion. Pwy ddylech chi ei gefnogi os oes gennych chi un mab yn canu hefo Côr Meibion Llangwm ac un arall yn canu hefo Côr Meibion Taf?

Dyna benbleth Mrs Jones yn Llangwm. Roedd Aled yn canu hefo Côr Llangwm a'i frawd Gwynfor gyda Meibion Taf!

Yn sicr mae Llangwm wedi cael wythnos wych, ac fe barhaodd y llwyddiant heddiw yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas.

Daeth Trebor Lloyd Evans oddi ar y llwyfan a dweud wrtha i ei fod wedi mynd yn rhy hen i gystadlu ond nid dyna farn y beirniaid a llongyfarchiadau mawr iddo ar ennill y gystadleuaeth honno. Diwedd campus i'r wythnos!

A dyna ni! Steddfod arall yn dirwyn i ben. Diolch i bawb fu mor barod i sgwrsio, a hynny gan amlaf eiliadau ar ôl iddynt ddod oddi ar y llwyfan!!

Welwn ni chi yng Nglynebwy!

Lluniau Steddfod Bala

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 15:45, Dydd Sul, 9 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mae rhywun yn dychwelyd o'r Steddfod gyda swp o luniau.

Mae ambell un gwerth ei rannu - y rhan fwyaf ddim.
Y lleill yn edrych fel cawl wedi syrthio i lond powlen o fwd.

Hyd yn oed gan wybod nad oes yna ddim byd mwy bôring na lluniau pobl eraill rydw i am rannu rhai efo chi. Fel hwn:

Mae'r Steddfod yn ofnadwy o fawr - i blentyn bach

A'r llall yma, yr ydw i'n gwybod fel rydw i'n sgrifennu hwn y bydd rhywun bownd o sgwennu mewn i ddweud bod yna ugeiniau ar ugeiniau o gwn sy'n figaniaid. Ond mae'n rhaid i mi ddweud mai teimlo fel gweiddi "Asgwrn" arnyn nhw oeddwn i wrth basio.

Ond mod i ofn iddyn nhw gythru am y nghoes i.
Achos er bod eu perchnogion yn deall eu bod nhw'n figaniaid does yna ddim sicrwydd bod y cwn.

Cwn pabell Cymdeithas y Figaniaid

Beth bynnag, os yda chi'n dal eisiau gweld rhagor o luniau, cliciwch
Yma

Ac wedyn symud ymlaen Yma os dymunwch.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Yn symol eto - am y tro olaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:44, Dydd Sul, 9 Awst 2009

Sylwadau (0)

A dyma'r casgliad olaf o ffigurau difyr/diddorol/diflas/di-fudd/dibwrpas - croeswch allan i siwtio'ch pen y bore ma - o faes Y Bala:

20,178 - o ymwelwyr a'r Eisteddfod ddoe, dydd Sadwrn.

164,689 - o ymweliadau â'r maes yn ystod yr wythnos.
Mae rhai'n dweud 'o bobol ' ond fyddai hynny ddim yn gywir gan i rai cannoedd ymweld fwy nag unwaith. Ond fe fyddai'n ddiddorol gwybod sawl unigolyn ymwelodd â'r Ŵyl yn ystod yr wythnos. Rhywbeth i Ms Carr, yr aelod newydd o Tîm Steddfod, ei wneud i'n helpu y flwyddyn nesaf efallai.

300 - o stondinau ar y maes.

90 - awr o deledu byw o'r Steddfod yn ystod yr wythnos.

5 - milltir o bapur tŷ^ bach a ddefnyddiwyd yn ystod yr wythnos - yn ôl y Wales on Sunday heddiw. Ac rwyf i, o leiaf, yn hynod anniolchgar iddo am ymgymryd â'r ymchwil a ddatgelodd hyn.

5 - cystadleuaeth lle bu atal y wobr.

830 - o garafanau ar y maes carafanau.

7 - gwaith oedd y nifer fwyaf o weithiau y cefais fy neffro yn fy ngwely berfeddion nos gan sŵn Maes B i fyny'r lôn.

0 - o straeon newyddion am yr Eisteddfod yn y Wales on Sunday - Pride of the Nation heddiw.

Ymddiheuriad: oherwydd cyfyngder lle ar y we fyd eang a diffyg darn o bapur digon hir nid oes digon o ofod ar y safle hwn i gynnwys y ffigwr sy'n nodi faint o oriau fydd S4C yn eu hailddarlledu o'r Eisteddfod hon dros y flwyddyn nesaf.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Pallu Plesio Pump - a mwy

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:53, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

Er mai ynglÅ·n ag atal y Gadair y bu'r holl falu a siarad nos Wener nid hon oedd yr unig gystadleuaeth yn yr adran Lenyddiaeth lle gwrthodwyd gwobrwyo.

Yr oedd dwy arall a waeth enwi - yn nhraddodiad y nêm an shêm - feirniaid y ddwy gystadleuaeth arall hefyd i'w hychwanegu at Branwen Jarvis, Gwenallt Llwyd Ifan a Ceri Wyn Jones fel rhai a ddifethodd y Steddfod i rai.

Ataliodd Gerallt Lloyd Owen y wobr yng nghystadleuaeth y cywydd!

Ac yn y gystadleuaeth "Colofn o newyddion dychmygol ar gyfer papur bro" ni welodd William H Owen ddim byd gwerth ei wobrwyo gan yr 18 a gystadlodd.

Tybed a fyddai'n syniad i'r pum beirniad anodd eu plesio hyn drefnu aduniad yng Nglynebwy fis Awst nesaf?

Mae cymdeithasau wedi eu sefydlu am resymau salach.

Gai awgrymu Cydymdeithas y PPP - Pwyllgor y Pump Piwis?

Ac fe allen nhw gyfethol i'w plith, wrth gwrs, Emyr Davies a ataliodd y wobr yn y gystadleuaeth 'Deunyddiau ar gyfer dysgwyr' a Lyn Davies a Shan Cothio a ddewisodd atal y wobr yng nghystadleuaeth Tlws y Cerddor.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Rhyddhau'r Gadair?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:39, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

Gan Dylan Iorwerth o Golwg y clywais i'r ateb gorau i Argyfwng y Gadair WAg .

Pan gyrhaeddodd y tri beirniad, Branwen Jarvis, Gwenallt Llwyd Ifan a Ceri Wyn Jones, y gynhadledd i'r wasg yn dilyn y seremoni ddiseremoni ar y llwyfan holodd Dylan gyda winc yn ei lygaid tybed ai'r ateb ar gyfer y dyfodol fyddai rhoi'r Gadair am gerddi rhydd.

Ac ymhlith y cyntaf i beidio ymateb roedd Ceri Wyn Jones - enillydd y Goron ddydd Llun gyda cherdd gaeth!

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Dal braidd yn symol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:23, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mwy fyth o ffigurau a syms ffeithiol o ffwrnais y maes

24,166 - nifer yr ymwelwyr ddydd Gwener o gymharu â 27,873, Caerdydd; 23,941, Yr Wyddgrug.

500 - y nifer o ymholiadau a wnaed am le i garafan yng Nglynebwy y flwyddyn nesaf.

0 - o Restr Testunau Glynebwy sydd ar ôl ar y maes yn ôl Richard Davies, cadeirydd y pwyllgor gwaith, a fu'n chwilio am rai.

3 - y nifer o gystadlaethau yng nghyfrol y Cyfansoddiadau na fu cystadlu arnyn nhw.

2 - y nifer osbectols a gollwyd gan Elfyn Llwyd yn ystod yr wythnos (gweler 'Welwch Chi'). Y cyfrif diwethaf, fore Sadwrn.

7 - y niifer o feirdd sy'n swyddogol anobeithiol am sgrifennu awdl.

1938 - blwyddyn gyntaf cyhoeddi cyfrol y Cyfansoddiadau ar ei ffurf bresennol.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Rhagor gan Nia

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 14:15, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

Rhagor o sylwadau gan Nia Lloyd Jones Radio Cymru o gefn y llwyfan.
Dydd Mercher
Diwrnod gwahanol i'r arfer heddiw, gan mai eistedd yn sedd Hywel Gwynfryn fues i yn ystod y pnawn cyn dychwelyd i'r man lle dwi hapusaf - gefn llwyfan ar gyfer cystadlu'r nos.

Yno gwnes i gyfarfod y diva - Mared Elliw Huws - oedd yn cystadlu ar yr unawd o sioe gerdd, ac fe roddodd hi dipyn o fraw i arweinydd y noson, Dei Tomos, drwy gamu ar y llwyfan, syllu arno - ac yna dechrau canu!

Os cafodd Dei Tomos sioc, fe gafodd Lynwen Haf Roberts un fwy fyth - pan glywodd hi mai hi oedd enillydd cystadleuaeth yr unawd o sioe gerdd.

Mae'n debyg nad ydi'r cystadleuwyr yn clywed yr arweinydd gefn llwyfan ac fe gymerodd hi'n ganiataol mai hi oedd yn drydydd! Roedd ei hwyneb hi'n bictiwr pan ddeallodd be oedd be!

Braf iawn oedd gweld tri parti lleol ar y llwyfan yn y gystadleuaeth parti cerdd dant - Llangwm, Maesywaun a Chwmtirmynach a chymeriadau di-ri yn eu mysg nhw.

Uchafbwynt y noson i mi oedd gweld Huw Bryant yn perfformio yng nghystadleuaeth y cyflwyniad digri unigol. Dyma chi gês - heb gês!
Be?
I egluro ... roedd yn cymeriadu dyn ar wyliau a thri chwarter ei gês wedi diflannu yn y maes awyr. Wel sôn am chwerthin. Mae gan Huw un o'r wynebau hynny sydd yn gallu gwneud ichi chwerthin heb iddo orfod dweud dim.

Noson hwyr, ond noson dda.

Dydd Iau
Mi dreuliais i'r pnawn yng nghwmni'r corau merched. Mae angen dyn dewr i arwain côr merched, ac un felly ydi Elfed Morgan Morris - arweinydd Côr Cofnod. Mae'n amlwg bod y merched wrth eu boddau yn ei gwmni a sawl un - fel Morfudd - yn awchu am fynd ag ef i'r bar ar y maes ar ôl cystadlu.

Un arall sydd bob amser yn barod i gael sgwrs ydi Margaret Daniel- arweinydd Merched Bro Nest. Dau beth pwysig oedd raid i mi ei wneud oedd ei llongyfarch ar ei llwyddiant fel arweinydd Côr Pensiynwyr Aberteifi ac, wrth gwrs, dymuno gwellhad buan iawn i'w brawd - yr archdderwydd Dic Jones.

Braf oedd gweld hen wynebau yn ôl yn cystadlu ar y llwyfan hefyd - er nad ydyn nhw mor hen a hynny.

Yng nghystadleuaeth y ddeuawd cerdd dant, y rhai oedd ar y llwyfan oedd Llinos a Sioned, Elliw Mai ac Elain Llwyd ac Owain ac Awel. Doeddwn I ddim wedi holi'r ddwy ddeuawd gyntaf ers rhai blynyddoedd, a braf oedd cael rhoi'r byd yn ei le hefo nhw. Mae Sioned yng ngholeg Harper Adams, a newydd dreulio blwyddyn yn gweithio mewn lladd-dy!

Sgwrs ddifyr oedd honno ar ôl yr unawd contralto.

Mae'n braf cael cyfle I drafod pethau gwahanol, a phriodi oedd testun y sgwrs hefo Sioned Wyn - gan ei bod hi a'ichymar - Andrew - yn priodi y flwyddyn nesaf.

Trafod llysiau fum i hefo Iona Stephen - gan ei bod hi newydd gael rhandir - ac yn brysur hefo'i 'beetroot'. Chafodd hi fawr o lwyddiant hefo'r broccoli. Byw mewn gobaith ei bod yn cael gwell hwyl ar y canu. Margaret oedd y cystadleuydd olaf - ac mae hi'n fodel ar raglenni Wedi Tri a Wedi Saith!

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Bore bach glân

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:54, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

O ran natur yr ydw i'n godwr eithaf cynnar.

Ond yn ystod fy arhosiad yn Y Bala mi gefais i help 'cloc larwm' go anarferol i'm cael ar fy nhraed.

Lori sgubo'r stryd y cyngor lleol yn gwneud y sŵn mwyaf dychrynllyd am gyfnod maith yn bustachu mynd a dod ar hyd y strydoedd â'm deffrodd i bob bore yn ddieithriad.

Mae rhywun yn cymeradwyo gwasanaeth, siwr iawn, sy'n cadw'r Bala yn dirion ac yn deg - yn enwedig y dyddiau hyn o gwtogi ar bopeth.

Ond os yw hwn yn wasaneth arferol mae'n rhaid gen i fod trigolion Y Bala un ai yn gysgwyr y tu hwnt o drwm - neu yn deffro'n gynt na phawb arall yng Nghymru'i gyd.

Ond fy hun, allwn i ddim peidioâ meddwl, wrth droi at y pared, fod pedwar o'r gloch y bore braidd yn gynnar i fod yn defnyddio peiriant mor eithriadol o swnllyd i sgubo strydoedd.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Welwch chi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:16, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)


Panic!

Pawb a'i lygaid yn agored ar y maes

Yn ystod yr wythnos mae Elfyn Llwyd wedi colli dwy sbectol!

Ac er iddo gael un dros dro o'r Cemist dywed Elfyn - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith, Aelod Seneddol, Cyfreithiwr a magwr colomennod - nad yw'n gweld yn iawn efo hi.

Llun Elfyn Llwyd - ond efallai na fydd ef yn ei weld yn iawn

Ond a bod yn deg, dydy un o'r ddwy sbectol ddim beth fyddech chi'n ei alwn yn ar goll go iawn.

Gadawodd hi yn ei goban Gorsedd sydd bellach wedi gadael y Maes am yr olchfa!

Ond os gwelwch chi'r llall, dywedwch wrth Elfyn - achos fydd o ddim yn medru dod o hyd iddi ei hun

Mae o wedi colli'i sbectol.

ASiffeta fel y byddai Mr Picton yn dweud.

Dryswch y Gadair WAg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:24, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

O fewn munudau i Seremoni'r Gadair WAg yr oedd dryswch ynglÅ·n a beth sy'n debyg o ddigwydd i un o'r cadeiriau harddaf ers blynyddoedd lawer yn awr ei bod heb ei hennill.

Yn syth wedi'r seremoni dywedodd Heddlu'r Gogledd, a'i rhoddodd i'r Eisteddfod:

"Fe fyddwn ni'n trafod gyda'r gwneuthurwr o fewn y dyddiau nesaf i benderfynu ar y cam nesaf."

Gan nodi eu bod yn awyddus ei gweld yn cael ei harddangos mewn man cyhoeddus.

Ond yn ôl llefarydd ar ran yr Eisteddfod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith lleol yw beth a ddigwydd iddi.

Mewn gwlad sy'n un mor gymodlon rwy'n hyderus y bydd pawb yn gweld lygaid yn llygaid mewn amrantiad!

Y Gadair WAg

Nodyn hanesyddol:
Pan ataliwyd y gadair ym Mhenybont-ar-Ogwr fe'i trosglwyddwyd i'r Cynulliad yn unol â dymuniad John Elfed Jones a'i rhoddodd i'r Eisteddfod. Ef hefyd oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol.

Yng Nghaernarfon - aeth y pwyllgor gwaith yn groes i ddymuniad rhoddwr y gadair a oedd eisiau ei chyflwyno i Lys newydd y Goron yn y dref. Fe'i trosglwyddwyd i'w defnyddio yn ysgolion uwchradd bro'r Eisteddfod.

Maen nhw'n dweud i mi ei bod ar hyn o bryd yn Ysgol Dyffryn Nantlle.


Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Cadair Wa g

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:04, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

Pam y syndod mawr ynglŷn â ddoe?
Beth oeddan nhw'n ei ddisgwyl yn Y Bala ond Cadair Wag - ynte wa.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Cyfarchiad Dic yr Hendre

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:48, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

Yr oedd dau fwlch ar lwyfan Y Bala yn ystod seremoni'r Cadeirio ddoe.

Y bwlch yn y gadair - a'r bwlch a achoswyd gan absenoldeb yr Archdderwydd, Dic Jones, sydd yn rhy wael i fynychu ei ail Eisteddfod yn Archdderwydd.

John Gwilym Jones

Mi soniais i ychydig yn ôl gymaint mae'r Bala yn ei olygu i Dic ac er gwaethaf ei waeledd cyfansoddodd gywydd yn mynegi'r teimladau hynny ac fe'i darllenwyd dan deimlad gan Gofiadur yr Orsedd, y Prifardd John Gwilym Jones.

Hiraeth am y Bala
Y mae unlle ym Mhenllyn
lle'r wyf fi'n myfi fy hun,
yn gweithio cragen pennill
mewn chwys maith bob yn saith sill
wrth ryw gymell a chellwair
â hen gnawes gormes gair.

Ac yn ardal y Bala
ers yn hir mae 'na dir da
i'r brid a fu'n hir barhau
i garu plethu geiriau,
a'r cymeriad brafado
yn cyfri'n frenin y fro.

A dyma fro f'atgofion
o'm cynhaeaf brafiaf, bron -
fy urddo'n fardd yn fy oed
yn angerdd balchder iengoed.

Ond mae cael gormod clodydd
yn gynnar, yn difa'r dydd,
a rhyw wàg o eiriogwr
yw eilun serch Bala'n si^wr.

Ac yn naear yr Aran
lle mae llawer ceinder cân,
lle mae'r ffair yn llamu'r ffyrdd
mae'r Pethe'n bethe bythwyrdd.

Pe cawn, fe awn i heno
i erwau ffraeth yr hoff fro
a'm nef fyddai camu'n ôl
yn enwog - anhaeddiannol.
Dic yr Hendre

Bydd y rhai hynny oedd yno yn cofio mai cywydd gan Dic yr Hendre a ddarllenwyd hefyd oddi ar lwyfan Prifwyl yr Urdd yng Nghaerdydd pan nad oedd cadeirio yno ychwaith rai wythnosau yn ôl.

Ac er na allai dim wneud iawn am y siom o gadair wag ddoe yr oedd gwerthfawrogiad cynulleidfa'r Bala yn gwbl amlwg.

Stiward Selog

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 19:32, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

Ym mhabell Undeb Cymru a'r byd, cyfarfod Gwynfor Evans o Swydd Efrog.

Yn dod o Gaerfyrddin mae e wedi bod yn stiwardio'n rheolaidd yn yr Eisteddfdod Genedlaethol ers Eisteddfod Llanelli 1962 lle'r oedd yn canu gyda Chôr Caerfyrddin.

Gwynfor Evans

Erbyn hyn mae'n byw yn Sutton in Craven Swydd Efrog ond yn dal i fynychu'r Eisteddfod yn flynyddol gyda'i garafán.

Pan yn byw yng Nghymru byddai'n cystadlu mewn eisteddfodau bach ond symudodd i Ogledd Lloegr wrth i'r diwydiant glo grebachu ac mae'n awr yn aelod o Gymdeithas Gymraeg Bradford.

Mor symol ag erioed

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:58, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

Rhagor o ffeithiau ffigurol oddi ar y maes

23,027 - o bobl yn ymweld â'r Eisteddfod ddydd Iau (22,659 - Caerdydd; 21,089 Yr Wyddgrug; 19,205, Abertawe).

130 - o filltiroedd ar gefn beic i Lynebwy yn wynebu'r Cynghorydd Jason Owen.

£50,000 - o nawdd i'r Steddfod ym Meirionnydd gan gwmni Magnox North

22 - pennaeth cyngor sir y dywedodd Syr Emyr Jones Parry iddo ymweld â hwy.

14 - pennaeth cyngor sir y mae'r Prif Weinidog Rhodri Morgan wedi ymweld â hwy - yn ôl Syr Emyr.

1 - set o ffeithiau ffigurol i ddod eto - yfory.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Bala, Beic a Blaenau Gwent

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:56, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

Fore heddiw, Gwener, heb helynt na miri, cychwynnodd ar ei daith 130 milltir o'r Bala i Flaenau Gwent - ar gefn beic i godi arian tuag at yr Eisteddfod yno a hefyd y Gymdeithas Cystic Fibrosis.

jason-446.jpg

Er gwaetha'r hyn a wynebai ar yr A470 sy'n hunllef mewn car heb sôn ar gefn beic yr oedd y cynghorydd di-Gymraeg o Flaenau Gwent yn hwyliog i ryfeddu.

Gan ychwanegu wrth gyfeirio'i feic at y de:

"I only took the stableizers off yesterday!"

Bydded iddo'n llythrennol wyntoedd teg ar ei ôl.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Diws annwl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:44, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

Pan berfformiwyd drama Saesneg Martin Crimp, Attempts on Her Life, gyntaf cafodd ei disgrifio fel gêm dennis heb y rhwyd!

Ond pan aeth Alwyn Gruffydd ein hadolygydd ni i weld cyfieithiad Cymraeg Owen Martell ohoni yn Neuadd Buddug Y Bala y noson o'r blaen tueddai i gydweld â hynny ond gan ychwanegu ei bod fel gêm dennis heb y bêl hefyd .

Byddai'n ddiddorol cael gwybod beth oeddech chithau'n wneud o'r ddrama ryfedd, a dweud y lleiaf, hon. Anfonwch air.

Gan ystyried, tybed a fyddai perfformiad o ddrama'r Fedal Ddrama y llynedd wedi bod yn fwy eisteddfodol cymwys . . .

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Gwerth geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:14, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mae gan bob math o feirniaid bob math o ymadroddion i ddisgrifio diffygion neu ragoriaethau cerdd neu ddarn o lenyddiaeth.

Ac yn ystod yr wythnos hon ym Mhenllyn cawsom fwy na'n Bala a'n gweddill ohonyn nhw.

Rhai yn ystrydebol ryfeddol - eraill yn gwneud ichi oedi drostyn nhw a meddwl, Be'n union mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd?

A holi eich hun ai camp sylfaenol beirniad yw cyfuno geiriau gwag i swnio'n glyfar.

Felly, dyma ddechrau casglu.
Efallai y byddan nhw'n glir fel crisial ac yn golygu rhywbeth i chi.
Efallai ddim.

  • Treigarwch cynnil
  • Dilyniant apelgar
  • Gwrthebiadau trydanol o dreiddgar
  • Uniongyrchedd glân
  • Efallai i chithau glywed ymadroddion tebyg - rhannwch nhw efo efo darllenwyr eraill y blog.

    Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

    Gwefan Eisteddfod 2009

Mwy bras na bras

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:52, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

Wn i ddim a ydym ni'n wahanol i unrhyw genedl arall ond tynnodd ymdrech Merched y Wawr i ymestyn llinell hir o frâs yn sownd wrth ei gilydd o amgylch y pafiliwn sylw rhyfeddol.

Yn enwedig ymhlith dynion dros eu canol oed.

Ac yr oedd yn ddiddorol sylwi hefyd mai merched tua'r un oed oedd y rhan fwyaf o'r ymestynwyr brâs ac yn cael hwyl fawr wrth eu trafod.

Beth yn union sy'n gwneud y dilledyn penodol hwn yn destun cymaint difyrrwch a doniolwch mae'n anodd iawn dweud - ac yn y pen draw pwrpas cwbwl ddifrifol sydd y tu ôl i ymgyrch Merched y Wawr ac OXFAM i'w anfon i wledydd tlodion y byd.

Rhyfedd, felly, i Steddfodwyr gymryd y peth mor ysgafn - ac ymddabngos yn hynod blentynaidd ac anaeddfed mewn gwirionedd.

Y gorau y gellid ei ddweud am eu hagwedd oedd i sawl hen ffermwr gwritgoch a chlerc llwydaidd fynd adref o'r Brifwyl i'w bywyd di-liw a gwên ar eu hwyneb!

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Nia Lloyd Jones - rhagor o glecs cefn llwyfan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 06:21, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

Nia Lloyd Jones yn sgrifennu o gefn y llwyfan

Dydd Mawrth.
Dechrau'r diwrnod yng nghwmni'r tri oedd yn llefaru darn o'r Ysgrythur dan 19 oed - Lowri Elen, Heulen Cynfal a Guto Gwilym, a rhyfeddu at eu dawn i gofio llond tudalen o eiriau!

Braf iawn oedd gweld criw Llansannan tu ôl i'r llwyfan.

Efo criw Llansannan

Tro diwethaf imi fod yn eu cwmni oedd yn Eisteddfod yr Urdd ac yno mi ges i glamp o sws gan Huw - oedd yn digwydd bod yn dathlu ei ben-blwydd.

Roedd o nôl eto - ond ches i ddim sws y tro hwn - a gweddill y pentref bron iawn; yn cystadlu ar y cyflwyniad ar lafar ac ar gân a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu perfformiad, yn ogystal ac Ysgol Uwchradd Bodedern - oedd yn ail.

Dyma ddiwrnod cyflwyno medal Syr T H Parry Williams ac mi ges i sgwrs sydyn hefo - yr enillydd teilwng.

Dwi'n cofio Haf yn fy meirniadu fi droeon mewn sawl eisteddfod ac roedd hi bob amser yn sgwennu beirniadaeth hynod o fanwl!!

Braf iawn oedd hel atgofion amdani wedyn hefo Iwan Llywelyn Jones - fu'n ddisgybl iddi yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch, ac Edward Morris Jones sydd yn ffrind mawr iddi.

Daeth Guto Gwilym yn ôl ar y llwyfan eto - y tro hwn yng nghystadleuaeth y ddeialog a fedrwn ni ddim llai na rhyfeddu at y trowsus lycra du tynn yr oedd o yn ei wisgo!

Uchafbwynt y dydd i mi oedd cwrdd a'n ffrind eisteddfodol i - Shay Siwoku.

Mi wnaethon ni gyfarfod y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a gweld ein gilydd wedyn yn Eisteddfod yr Urdd.

Efo Shay

Mae Shay wedi dysgu Cymraeg ers rhai blynyddoedd bellach ac wedi gwirioni ar yr Eisteddfod, ac yn stiwardio bob blwyddyn. Roedd o'n gofidio nad ydi o'n cael digon o gyfle i ymarfer ei Gymraeg ond bod dod i'r Eisteddfod yn gyfle gwych i wneud hynny, a dwi'n mawr obeithio y gwelwn ni ein gilydd eto flwyddyn nesaf.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Dysgu deffro

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:00, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)


Syr Emyr Jones Parry fu'n traddodi Darlith Flynyddol Undeb Cymru a'r Byd eleni.

Bu'n gyfle iddo ddwyn i gof ddarlith arall a draddododd - i griw o filwyr, medda fo.

Ac yntau wedi bod wrthi am ychydig sylwodd fod y rhes flaen yn cysgu'n sownd.

"Gelwais ar y cadeirydd i ymyrryd," meddai gan ychwanegu mai'r unig ateb a gafodd gan hwnnw oedd;

"Chi wnaeth iddyn nhw gysgu a gyda chi mae'r cyfrifoldeb o'u deffro nhw."

Yn ffodus iawn chwarddodd pawb yn y gynulleidfa ddoe - o leiaf doedden nhw ddim wedi syrthio'i gysgu!

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Dramodydd y gân

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 20:01, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (0)

Anfonodd cyfaill i'm hatgoffa:

"Nôl yn yr Wythdegau, roedd enillydd y Fedal Ddrama yn rhan o'n SRG (y Sin Roc Gymraeg) ac - fel Cedwyn Aled, Huw 'Bobs' Pritchard a Neil Rosser - yn dilyn traddodiad Billy Bragg fel canwr a gitarydd unigol, neu 'singer songwriter'.

"Y gân dwi'n gofio orau yw Wyt ti'n cofio sgwar Llangefni? ond roedd o hefyd yn canu un am ferch ond na fedrai'm yn fy mwy gofio'i henw.

"Braf gweld y cyn newyddiadurwr o'r Herald - ac un o hoelion wyth yr SRG - dan lifoleuadau'r llwyfan unwaith eto heddiw."

Yn wir - ac os gwyddoch chi enw'r ferch 'na . . . anfonwch air. A llun hefyd os oes gennych un.

Cwestiwn dramatig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 19:51, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (0)

Cwestiwn digon teg i'w ofyn:

Pa iws sydd yna mewn dyfranu Medal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol heb sicrhau fod y ddrma sy'n deilwng ohoni yn cael ei pherfformio?

Enillodd Dyfed Edwads am yr eildro eleni - gan brofi ei bedigri.

Ond mae'r ddrama y cafodd fedal amdani y llynedd yn dal heb ei pherfformio.

Sefyllfa sy'n dipyn o ffars a dweud y lleiaf.

Holi Dyfed Edwads

Dal yn symol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 19:49, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (0)

Rhagor o ffigurau Steddfodol:

24,794 - o bobl ar y maes ddyd Mercher o gymharu â 20,952 Caerdydd; 23,092 Yr Wyddgrug; 20,741, Abertawe.

120,345 - o ymwelwyr â'r Steddfod erbyn nos Fercher. Caerdydd - 90,998; 90,730; Abertawe - 20,741.

0 - rhagor o ffigurau heddiw
Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Beiro'r awen gyfarch

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:42, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (0)

Llun egsgliwsif i Blog Cylchgrawn yn awr.

beiro.jpg

Llun o'r union feiro a ddefnyddiodd y Prifardd Mererid Hopwood i sgrifennu ei chyfarchion i fardd y Goron ar gyfer y seremoni ddydd Llun.

Rwy'n deall mai bwriad perchen y beiro yw defnyddio'r union feiro awenyddaidd hon i gystadlu yng Nglynebwy flwyddyn nesaf yn ffyddiog y daw cyffyrddiad y brifardd ddwbl ag ysbrydoliaeth.

A dyna pam na allaf ddatgelu enw'r percchennog.

Ond daw'r cyfan yn eglur ar lwyfan Glynebwy.
Wel, gobeithio'n 'te.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Rhagor gan Nia - o gefn y llwyfan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 07:38, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (0)

Nia Lloyd Jones Radio Cymru yn blogio o gefn y llwyfan

Dydd Llun
Dechrau'r diwrnod yng nghwmni Endaf Morgan o Lanbedr-pont-Steffan - myfyriwr sydd yn astudio meddygaeth yng Nghaerdydd, chwaraewr rygbi o fri, a phianydd ardderchog hefyd!

Ydi chwarae rygbi a chanu'r piano yn gyfuniad doeth tybed? Ta waeth....dymuniadau gorau iddo hefyd ym Marathon Berlin ymhen y mis.

Duw a ŵyr sut mae o'n llwyddo i gael amser i wneud popeth.

Rhys Meilir wedyn - yn ennill dwy wobr gyntaf am ganu dan 12 oed. Hogyn bach annwyl dros ben.

Yr unig broblem ydi ei fod o'n cefnogi Man U!
Go brin iddo fwynhau y gêm yn erbyn Valencia nos Fercher!

Dwi wrth fy modd yng nghwmni'r criw gefn llwyfan. Mae'r rhain yn tynnu coes o ben bore tan nos a finna'n trio cadw trefn arnyn nhw. Dipyn o dasg!

Criw Derwent
Roedd Telynorion Cwm Derwent o Swydd Derby yn ôl ar y llwyfan ddoe.

Dyma griw o gerddorion ifanc sydd wrth eu boddau yn dod i'r steddfod bob blwyddyn i gystadlu ar y gystadleuaeth grŵp offerynnol ac maen nhw'n mynd a'u 'mascot' efo nhw ar y llwyfan - Twm Sion Cati.

Addas iawn eleni ac yntau'n dathlu ei ben-blwydd yn 400. Roedd pob un ohonyn nhw ar y llwyfan yn gwisgo cap stabl, ac un wedi gorfod benthyg cap heddiw gan y Stiwardiaid, ar ôl gadael y gwreiddiol yng Nghaerfyrddin!

Mali Fflur, Ffion Elin a Celyn Llwyd Cartwright oedd yn cystadlu ar yr unawd gerdd dant dan 12 oed ond yn hytrach na thrafod canu hefo nhw - fe gawson nhw sgwrs am ffasiwn!

Roedd y tair wedi dewis eu dillad llwyfan yn ofalus, a Ffion Elin yn cyfaddef nad oes dim yn well ganddi na mynd i gystadlu mewn eisteddfodau bach lleol, a wedyn gwario'r enillion ar ddillad newydd!

Rygbi oedd y pwnc dan sylw ymysg y bechgyn ddoe - Llyr Gwynedd, Rhydian Jenkins ac Aron Dafydd. Aron yn cefnogi'r Scarlets, Llyr yn cefnogi'r Gweilch, a Rhydian ar fin mynd am dreialon i Academi'r Gweilch ... er ei fod yn cefnogi'r Scarlet! Roeddwn i wedi drysu'n lan erbyn y diwedd!

Braf iawn oedd gweld WJ o Lanbrynmair yn ei wisg wen a chlamp o wên ar ei wyneb fel arfer.
Diolch am y sws hefyd!

Coroni corni?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:05, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Sylwadau (0)

Fe wnes i annhegwch a beirniad y Goron, M Wynn Thomas, y dydd o'r blaen ( Dewiniaeth Geiriau
Dewiniaeth Geiriau) trwy adael allan un o'i frawddegau yn dechrau gyda llythrennau'r gair CORONI gan roi'r argraff fod cychwyn ei feirniadaeth yn sillafu CORNI.

Fel hyn y dylwn fod wedi dyfynnu:

Cyn ichi ofyn . . .
Oes na goroni i fod?
Rowch saith munud imi.
Ond fe fedrai ddatgelu'n syth . . .
Nid ar chwarae bach . . .
I ddweud y gwir . . .


Diolch i Alcwyn Tomos am sylwi ar y llithrad

A thybed nad ef sy'n iawn? Fod y peth braidd yn corni wedi'r cwbwl!

Mwy symol fyth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:03, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Sylwadau (0)

Rhagor o wybodaeth ffigurol o Faes y Steddfod

19,658 - nifer yr ymwelwyr ddydd Llun o gymharu â 20,423 y llynedd, 18,608 yn 2007 a 20,123 yn Abertawe 2006.

54,411 - nifer yr ymwelwyr erbyn nos Lun - 52,810 Caerdydd; 50,175 Y Fflint; 54,941 Abertawe.)

£0 - newid allan o £20 ar ôl talu am bryd o fwyd ar y Maes.

41 - oed prifardd y Goron.

30 erw - o dir ar gyfer yr Eisteddfod.

18,113 - nifer yr ymwelwyr ddydd Mawrth o gymharu â 17,236 y llynedd, 17,463 yn 2007 a 18,074 yn Abertawe 2006.

75,524 - nifer yr ymwelwyr erbyn nos Fawrth - 70,046 Caerdydd; 67,638 Y Fflint; 73,015 Abertawe.)

700 - y nifer o fras fydd yn cael eu hymestyn o amgylch y pafiliwn gan Ferched y Wawr ddydd Mercher am 12.15.

6 - nifer yr aelodau o barti cerdd dant Perlais a dderbyniwyd i'r Orsedd
yr wythnos hon.

15 - y nifer o fyrddau oedd eu hangen i ddal y model DNA a grëwyd y tu allan i'r Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg.


£5,000 - o wobr y bydd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn ei defnyddio i dalu am ei mis mêl.

Ffigurau eraill

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Dysgu dim

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:18, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Sylwadau (0)


Heno, nos Fercher, yw noson cyhoeddi enillydd Dysgwr y Flwyddyn, yng nghanolfan Cywain, jyst i fyny'r lôn o faes y Steddfod ac yn lle hawdd ei gyrraedd rhwng cawodydd.

Faint fydd yno, mae'n anodd dweud.

Dim un o'r rhai hynny sy'n dibynnu ar Raglen y Dydd i wneud eu trefniadau - gan nad oes sôn o gwbl am y digwyddiad ynddi.

Saith o'r gloch ydi'r amser os ydych â diddordeb.

Arbrawf radio gweledol - Tocyn Wythnos ar y we

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 21:10, Dydd Mawrth, 4 Awst 2009

Sylwadau (2)

Mae arlwy arlein Ö÷²¥´óÐã Cymru o'r Eisteddfod yn ehangu bob blwyddyn, ac eleni ry'n ni wedi bod yn cynnal arbrawf diddorol yn ychwanegol at y ffrwd byw o'r llwyfan, y gwasanaeth canlyniadau, y clipiau fideo a'r holl straeon a blogiau o'r Maes.

Beti George yn y stiwdio

Tocyn Wythnos yw rhaglen nosweithiol Radio Cymru o'r ŵyl, gyda Beti George a'i gwesteion yn trafod y cystadlu ac uchafbwyntiau'r dydd.

Yn ôl Medwyn Parri, cynhyrchydd y ddarpariaeth deledu o'r Eisteddfod, "Mae Beti George wedi bod yn dweud wrthai ers blynyddoed mai Tocyn Wythnos oedd y rhaglen orau i ddod o'r Steddfod, felly ro'n i eisiau rhoi cyfle i bobl ei gweld hi hefyd! Mae criwiau'r Ö÷²¥´óÐã yma yn darlledu ar dri phlatfform - teledu, radio ac arlein - a dyma gyfle inni gyd weithio efo'n gilydd."

Felly aed ati i gynllunio arbrawf uchelgeisiol o greu rhaglen radio fyw gyda lluniau, trwy gyfrwng ffrwd fideo ar ein gwefan Eisteddfod, gan fanteisio ar yr adnoddau teledu ac arlein fyddai ar safle'r Ö÷²¥´óÐã ar y Maes yn barod.

Roedd ein cynnig cyntaf ar radio gweledol nôl ym mis Ebrill, gyda Dyl Mei a Huw Evans yn rhoi sylwebaeth amgen ar Wobrau Roc a Phop Radio Cymru o flaen gwegamerâu mewn stiwdio gyfagos. Ond dyma her newydd - saith noson o gynhyrchu rhaglen radio mewn stiwdio deledu, gyda degau o westeion ac eitemau, a'i gwelifo'n fyw o ganol cae ger Y Bala.

Y drefn felly ydi bod Beti a'i gwesteion yn eistedd yn y stiwdio deledu fach sy'n gartref i raglenni'r Babell Lên gyda'r dydd, tra bo Catrin y cynhyrchydd yn rheoli'r rhaglen radio o fws y Ö÷²¥´óÐã.

Ar yr un pryd, mae Heather yn eistedd yn y Sganyr - lori fawr yn llawn sgriniau ac offer ar gyfer darllediadau allanol teledu - yn cyfarwyddo'r camerâu a dewis y lluniau.

Mae'r dynion sain ar y bws yn gyrru'r sain lawr llinellau ffôn digidol ISDN i Ganolfan y Ö÷²¥´óÐã yng Nghaerdydd ar gyfer ei darlledu ar Radio Cymru, tra bo'r sain a fideo yn cael eu bwydo gyda'i gilydd at Andy yn y caban codyddu, a'i bentwr o beiriannau ffrydio, sy'n trosi'r rhaglen i fformat Flash a'i anfon allan i weinyddion ffrydio'r Ö÷²¥´óÐã yn Llundain dros gyswllt lloeren i'r rhyngrwyd.

Nid oes fideo ar gael i bob eitem serch hynny - gyda rhai cyfweliadau a recordiwyd o flaen llaw ry'n ni'n ceisio tynnu ffotos ar gamerau digidol bach i'w harddangos ar y sgrîn.

cabanau.jpg

Yr un peth oedd yn flaenoriaeth i bawb oedd cadw ysbryd y rhaglen radio o sgwrsio anffurfiol.

"Ar raglen radio mae rhywun yn cael parablu fel maen nhw eisiau," meddai Beti George wrthai.

"Ar ôl y rhaglen nos Fawrth roedd Ceri Wyn, enillydd y Goron, yn diolch am y cyfle o gael sgwrs eang a chael yr amser i egluro beth oedd yn y darn buddugol a'r themâu yn y gwaith. Doedd e ddim yn sylwi bod y camerâu yna!".

Mae Catrin Huws, cynhyrchydd Tocyn, yn cytuno.

"Ry'n ni wedi arfer gwneud y rhaglen rownd bwrdd mewn stiwdio radio - mae 'na agosatrwydd corfforol a theimlad o eistedd mewn stafell yn sgwrsio yn hytrach na 'pherfformio', fel sy'n gallu digwydd ar deledu," meddai.

Roedd hi'n awyddus i gadw'r un awyrgylch er gwaetha'r newid lleoliad:

"Roedd hi'n dipyn o sioc i'r bobl camera pan aethon ni fewn i'r stiwdio deledu ac ail-drefnu'r cadeiriau fel roedden ni eisiau - roedd yn bwysicach i ni fod pobl yn wynebu'i gilydd er mwyn hwyluso'r sgwrs yn hytrach na'r holi un-wrth-un sy'n fwy arferol ar deledu, a doedd dim ots gennym ni os oedd pobl yn cerdded o flaen y camerâu!"

Dyw'r camerâu ddim yn poeni Beti, sy'n frwdfrydig dros yr arbrawf.

"Mae'n glir bod hwn yn rhywbeth gwerth ei wneud. Mae pobl eisiau gweld pethau y dyddiau yma, a thrwy'u rhoi hwn ar y we ni'n ehangu'r gynulleidfa. Ond dwi ddim eisiau anghofio mai rhaglen radio yw hi.

"Mae rhaglenni radio yn gallu bod yn fwy difyr ac yn fwy agos atoch chi ac mae eisiau bod yn ofalus nad y'n ni'n colli hynny wrth ddarlledu o set teledu, sydd gymaint mwy eang."

Hyd yma mae'r gwesteion wedi bod yn ddigon hapus i sgwrsio o flaen y camerâu.

"Mae wedi bod yn ddiddorol gweld angerdd pobl ar y sgrîn, y chwifio breichiau, a phawb yn cymryd rhan yn y drafodaeth," meddai Catrin.

"Does dim problemau mawr wedi bod'; mater o ddod i arfer yw e - ni ddim wedi gwneud hyn o'r blaen. Mae mwy o gur pen i'r technegwyr yn cysylltu'r holl feeds rhwng yr uned radio a'r uned teledu a'r stiwdio."

"Er enghraifft, fel arfer ni sy'n chwarae clipiau o'r cystadlu i fewn i'r rhaglen ein hunain, felly mae'n wahanol iawn cael y clipiau yna'n cael eu bwydo o sganyr teledu. Dim ond un glitsh sy di bod hyd yma - mae'n drefn newydd i bawb," meddai.

"Ond dyma'r ffordd ymlaen!"

Mae Sian Gwynedd, Golygydd Radio Cymru, hefyd wedi bod yn mwynhau'r rhaglenni arbennig ar y radio ac ar y we:

"Mae'n bwysig ein bod ni'n arloesi a gwthio ffiniau a thrio pethau newydd. Dwi'n meddwl bod y criwiau cynhyrchu radio yn naturiol wedi poeni bydden nhw'n gorfod cyfaddawdu wrth gynhyrchu'r rhaglen yn y dull yma - ond dyw hynny ddim di digwydd - felly i fi, mae'n arbrawf llwyddiannus a rhywbeth allwn ni adeiladu arno fe efo digwyddiadau a rhaglenni eraill.

"Dwi di synnu faint o ddiddordeb sy ynddo, a phobl yn holi sut mae'n gweithio. Mae bendant werth ei wneud."

Mae'r rhifynnau arbennig o Tocyn Wythnos yn cael eu dangos yn fyw ar ein gwefan Eisteddfod trwy gydol yr wythnos, ac ar gael i wylio eto am saith diwrnod ar ôl y darllediad - perffaith ar gyfer dal i fyny ar ôl dychwelyd adre o'r Bala!

Os y'ch chi wedi bod yn gwylio Tocyn Wythnos arlein - neu'n gwrando yn y dull arferol ar eich radio hyd yn oed - mi fyddem ni'n falch iawn clywed eich barn am yr arbrawf radio gweledol, a holl ddarpariaeth arlein y Ö÷²¥´óÐã o'r Eisteddfod eleni.

Gallwch daro'ch sylwadau i lawr yn y blwch sylwadau ar waelod y blog hwn.

Eu dal yn y gors

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:06, Dydd Mawrth, 4 Awst 2009

Sylwadau (0)

Tynnodd mwy nag un fy sylw - wel, dau a bod yn fanwl - at yr hyn oedden nhw'n dybio oedd yn gamgymeriad sillafu ar un o stondinau'r Maes.

Arwydd pabell
Nhw, wrth basio'r babell yn y llun yn tybio mai Gorgerous Cymru oedd o'i fod.

Mawr eu siom o sylweddoli bod yna'r fath air Cymraeg â Gorgors.
Lle gwlyb.
A lle hawdd iawn i ambell un suddo at eu pengliniau ieithyddol ynddo mae'n amlwg.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Dim ond un?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:42, Dydd Mawrth, 4 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mae'n ymddangos nad ydyn nhw yn disgwyl llawer o 'Gymry tramor' yn y pafiliwn yfory ar gyfer y seremoni fer cyn seremoni'r Fedal Ryddiaith.

Fel hyn mae'n cael ei disgrifio yn Rhaglen y Dydd:

"Croesawu cyfeillion o wledydd tramor i'r Eisteddfod â'¾± harweinydd . . ."

Mae'r 'â'¾±' unigol yna yn codi'r cwestiwn, faint o waith arwain sydd yna ar un cyfaill?

Dewiniaeth geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:28, Dydd Mawrth, 4 Awst 2009

Sylwadau (1)

Profwyd yn ystod beirniadaeth y Goron ddoe faint o'r dewiniaid geiriau yn y gynulleidfa oedd yn effro.

Wrth draddodi ei feirniadaeth sicrhaodd y beirniad M Wynn Thomas fod chwe brawddeg gyntaf ei feirniadaeth yn cychwyn gyda llythrennau y gair Coroni.

Cyn ichi ofyn . . .
Oes na goroni i fod?
Rowch saith munud imi.
Nid ar chwarae bach . . .
I ddweud y gwir . . .

Tybed nad oedd yntau yn haeddu rhyw fath o wobr am gyflawni'r fath gamp. Yn sicr nid oes neb sy'n cofio unrhyw feirniad arall yn gollwng y fath gliw.

"Os sylwoch chi, rych chi'n giamster ar groeseiriau. Os fethoch chi sylwi, falle y gwrandewch chi'n fwy astud ar feirniadaeth y flwyddyn nesaf," meddai Mr Thomas wrth gyhoeddi enw'r buddugol.

Ymhlith aelodau'r Orsedd tu cefn iddo ar y llwyfan, tybed a sylweddolodd y Cofiadur beth oedd yn digwydd? Wedi'r cyfan mae John Gwilym Jones yn luniwr croeseiriau o fri!

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Camp prydydd y Goron

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:45, Dydd Mawrth, 4 Awst 2009

Sylwadau (0)

Cyflawnodd Ceri Wyn Jones nid yn unig gamp brydyddol ddoe yn ennill y Goron ond mae o siŵr o fod yr unig brifardd erioed yn hanes yr Eisteddfod i gael ei gadeirio a'i goroni ar yr un cae yn union - gyda deuddeng mlynedd o fwlch rhwng y ddau ddigwyddiad!

Oni bai y gwyddoch chi yn well, wrth gwrs.

A thestun rhywfaint o chwilfrydedd ynglŷn â champ Ceri ddoe oedd ei ffugenw Moelwyn - gan fardd sydd yn cael ei gysylltu mor amlwg â Cheredigion.

Ceri Wyn Jones.jpg


"Dyna oedd enw cartref olaf, fel petai, fy nhaid y Parchedig Gwynedd Jones, oedd wedi ei fagu ym Mlaenau Ffestiniog a mynd i Ysgol y Moelwyn," eglurodd,

Roedd cysylltiadau ag union fro'r Eisteddfod hefyd - ar wahân i'r ffaith iddo ennill ei Gadair yn Y Bala yn 1997:

"Roedd fy nhaid yn hanu o Landderfel a'i deulu yntau yn hannu o Landrillo sydd dafliad carreg go lew o'r maes - felly, mae dod yn ôl i Feirion yn arwyddocaol i mi," eglurodd.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Mwy symol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:10, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Sylwadau (0)

Rhagor o ffigurau o faes yr Eisteddfod:

15,292 - nifer yr ymwelwyr ddydd Sul - gan gymharu â 13,072 yng Nghaerdydd y llynedd.

34,753 - nifer ymwelwyr â'r Bala rhwng nos Wener a nos Sul

1,500 - y nifer fwyaf erioed yn gig agoriadol Maes B.

250 - o blant yn cymryd rhan yn y sioe feithrin fore Sul.

£12 - pris mynediad i'r maes neu £8 i fyfyrwyur dan 21, £3 i blant ac £11 i bensiynwyr.

£4 - pris brechdan gig oen (gyda neu heb nionod). Saws coch am ddim.

Ffigurau eraill

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Dychymyg bardd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:40, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Sylwadau (0)

O holl aelodau Gorsedd y Beirdd synnwn i ddim mai gan aelod newydd sbon y mae'r enw barddol sy'n dangos y mwyaf o ddychymyg - oni bai y gwyddoch chi'n wahanol.

Yr oedd Iwan Rhys yn cael ei dderbyn i'r Orsedd yn rhinwedd y ffaith iddo ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol yr urdd yng Nghonwy y llynedd.

Iwan Rhys

Ac o hyn allan mae wedi dewis cael ei adnabod fel "Anorac yr Awen".

Tybed a fydd hyn yn gychwyn ffasiwn o enwau gorseddol gwahanol?

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Modrwy'r Orsedd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:11, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Sylwadau (0)

Nid yn aml yr ydych yn ei gael ond roedd gwedd ramantus i seremoni'r Orsedd yn Y Bala y bore ma gyda'r Archdderwydd yn cael ei olwg gyntaf ar fodrwy dyweddïad Connie Fisher.

Llongyfarchodd Selwyn Iolen hi ar ei dywediad â Jeremy Reed a syrthiodd mewn cariad â hi ar orsaf Caerdydd!

Connie a Jeremy cyn y seremoni


Wrth longyfarch Connie ar ei dyweddïad a'i modrwy dywedodd Selwyn Iolen fod Jeremy yn y gynulleidfa a phan drodd y gynulleidfa i'w gyfeiriad fe wnaeth ymnatu gydnabod eu cymeradwyaeth.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Pobol Nia

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 08:43, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Sylwadau (0)

Nia Lloyd Jones yn blogio o gefn y llwyfan yn Y Bala

Dydd Sadwrn
Diwrnod y bandiau, a phawb yn andros o smart yn eu lifrau pwrpasol - heblaw am Osian druan o Fand Y Drenewydd gyrhaeddodd yr Eisteddfod a sylwi ei fod wedi anghofio ei drowsus! Diolch byth fod ganddo ffrind yn Y Bala (Tomos) oedd yn fodlon rhoi menthyg pâr iddo!

Gwallt gorau
Mae'r wobr am y gwallt gorau ddydd Sadwrn yn mynd i Robin - aelod o dîm offerynnau taro Band Deiniolen. Dwi'n hoff iawn, iawn, o wallt cyrliog ac roedd Robin a'r cyrls yn bownsio yn ystod perfformiad y band!

Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu llwyddiant, ac i Gavin Saynor - sydd hefyd wedi llwyddo i golli pum stôn dros y misoedd diwethaf!

Teuluol
Roedd na thema deuluol iawn yn ystod cystadleuaeth y côr cymysg gyda Chôr Godre'r Garth dan arweiniad Elir Owen Griffiths yn cynnwys wyth aelod o'i deulu - ac yn eu plith ei rieni yng nghyfraith!

Ai peth doeth neu beryg oedd hyn? Wel doeth iawn yng ngolwg y beirniaid gan iddyn nhw dderbyn y wobr gyntaf.

Côr Rhuthun oedd yn ail - dan arweiniad Robat Arwyn, ac yn rhyfedd ddigon roedd ei chwaer a'i nith yn canu yng Nghôr Godre'r Garth hefyd!

Dydd Sul
Gwledd o gerddoriaeth wrth i 12 o gorau ymddangos ar y llwyfan. Roedd o fel un cyngerdd mawr a braf oedd cael sgwrs hefo Owen Saer - arweinydd Bechgyn Bro Taf - côr oedd yn gwir fwynhau ei hunan ar y llwyfan.

Côr arall o'r brifddinas ydi CF1 - ac yn eu plith oedd Eifiona - yr unig ferch hyd yma i wisgo 'leggings' pinc ar y llwyfan! Elen Hughes ydi arweinydd Adlais ac mae hi'n rhoi genedigaeth mewn saith wythnos ond mae'n debyg bod y babi yn cicio fel 'randros ar y llwyfan heddiw ... babi cerddorol iawn felly!

Gwobr gwallt
Nôl at y gwallt cyrliog ac mae'r wobr am y gwallt gorau heddiw yn cael ei rhannu rhwng dau sef Ianto o Bechgyn Bro Taf - sydd hefyd yn aelod o'r band Nos Sadwrn Bach - fydd yn ymddangos yn Maes B ddiwedd yr wythnos, a Dylan Llyr sy'n aelod o Côr Dre , ac a oedd yn ymddangos ar y llwyfan mawr am y tro cyntaf erioed!
Cystadleuaeth dda - o ran y canu ... a'r gwallt!

Argyfwng bardd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:16, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Sylwadau (0)

Diwrnod y Coroni. Gobeithio y bydd yr Archdderwydd Selwyn Iolen yn cadw ei record lawn ac y bydd yna goroni.

A gobeithio'n fwy na dim y bydd y bardd yn cyrraedd mewn pryd. Dydi hynny ddim wedi digwydd bob tro ym Meirionnydd.

Roeddwn i'n sôn am John Eilian yn fardd coron yr Eisteddfod yn Nolgellau yn 1948 y diwrnod o'r blaen yn y blog.

Dim ond y dim fu hi iddo fo gyrraedd i'w Goroni mewn pryd.

Yn amlwg, yr oedd wedi cael gwybod ymlaen llaw mai ef oedd yn fuddugol ond yn ystod ei daith gyda chyfaill o'i gartref yn Llansanffraid gorboethodd a nogiodd ei gar wrth ddringo rhiw dros Fwlch yr Oerddwr am Ddolgellau.

Canlyniad yr oedi oedd fod drysau'r pafiliwn newydd gau ar gyfer y seremoni erbyn iddo gyrraedd y Maes.

"Mae'n rhaid imi fod i mewn yna," meddai wrth Stiward oedd yn gwarchod y drws ond unig ymateb hwnnw oedd bod pawb yn dweud hynny er mwyn cael i mewn i bafiliwn a fyddai'n orlawn ar gyfer y seremonïau yr adeg honno.

John  Eilian

"Mae'r seremoni ar fin cychwyn," medda fo.

A John Eilian yn ateb; "Ond fydd yna ddim seremoni hebddo fi. Y fi sydd wedi ennill."

Ac er mor amharod oedd y Stiward teyrngar i gredu hynny fe'i darbwyllwyd yn y diwedd i agor y drws - ac yr oedd y bardd coronog yn ei sedd cyn galwad yr Archdderwydd iddo ef, ac ef yn unig, godi ar ei draed.

Pebyll y cyfamod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:15, Dydd Sul, 2 Awst 2009

Sylwadau (0)

Tan ddoe sylweddlais i ddim bod yna gymaint o barch yn parhau tuag at y Sul Cymreig.

Allai ddim meddwl am unrhyw reswm arall pam bod cymaint o stondinau ar y maes heb eu hagor.

Yn eu plith yr oedd pabell y wasg efengylaidd - Gwasg Bryntirion - sydd yn gwerthu dim byd ond llyfrau Cristnogol a Beiblaidd!

Mae'n siŵr o fod yn bwynt y gallai diwinyddion ac athronwyr ddadlau'n hir amdano - A yw hi'n bechod gwerthu llyfrau Cristnogol a Beiblau ar y Sul?

Bu bron imi a throi i Babell yr Eglwysi i ymneilltuo a dwys fyfyrio am y peth. Roedd honno yn agored.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Symol iawn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:03, Dydd Sul, 2 Awst 2009

Sylwadau (0)

Syms - mae'n nhw'n bethau pwysig ar faes yr Eisteddfod.

Ffigurau o leiaf.

A dyma ichi rai fu'n cael eu taflu o gwmpas yn ystod y ddeuddydd cyntaf:

1,245 - o bobl yn y cyngerdd agoriadol nos Wener o gymharu a 1,634 yng Nghaerdydd y llynedd.

18,216 - o bobl wedi ymweld â'r maes ar y Sadwrn cyntaf - o gymharu â 17,681 yng Nghaerdydd y llynedd.

£30,000 - yr arian ychwanegol y bu'n rhaid eu gwario ar ffyrdd yr Eisteddfod oherwydd y glaw gan weithio drwy nos Iau.

£10 - y pen o arian sydd wedi cael eu codi gan drigolion Cyffiniau - fel mae bro'r Eisteddfod yn cael ei hadnabod.

£200,000 - nod y gronfa leol ar gyfer yr Eisteddfod.

£290,000 - yr arian a godwyd yn lleol mewn gwirionedd a hynny'n "ddirwgnach a chyda hwyl hefyd" yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.

Newyddion da?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:39, Dydd Sul, 2 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mae'n siŵr i chwithau sylwi ar y duedd sydd yna i goroni newyddiadurwyr yn eisteddfodau Meirionnydd.

John Eilian yn Nolgellau, 1949, ac Eluned Phillips yn Y Bala yn 1967.

Bu bwlch yn 1997 gyda'r athro a'r addysgwr Cen Williams yn cael ei goroni.

Ac eleni?
Tybed ai newyddiadurwr unwaith eto fydd yn cael ei alw i'r llwyfan i'w goroni yfory?

Rhaid disgwyl tan yfory neu at weld yr hanes yn y papurau newydd ddydd Mawrth ac ar y we nos yfory.

Bythol ifanc-ish

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:18, Dydd Sul, 2 Awst 2009

Sylwadau (1)

Dangos ei oed mae rhywun ond fe fwynheais innau gyngerdd Maes B gyda Bryn Fon nos Sadwrn agoriadol Y Bala.

A hynny o berfeddion nos tan oriau mân y bore.

Mae'n wir, doeddwn i ddim yno . Gorwedd yn fy ngwely oeddwn i dafliad carreg oddi wrth y maes a'i babell las - ond yn clywed popeth yn eithaf clir drwy ffenestr agored.

Fy ymdrech gyntaf i ail ymieuengo'n steddfodol - ond dangos ei oed mae rhywun mewn gwirionedd!

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Loshin Pete?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:59, Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009

Sylwadau (0)

Yn sgil ymweliad Peter Hain â Maes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn yr oedd un brawd yn amau bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol stondin ar y maes hefyd.

Ond o bicio draw i Safle S 148 doedd gan Uncle Peter's Fudge ddim byd i'w wneud â'r gwleidydd o Gastell-nedd.

Rhag cywilydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:14, Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mae rhai ohonom yn dal i gofio ymdrech lew a phoblogaidd Peter Hain yn annerch yn y Gymraeg oddi ar lwyfan y Brifwyl yng Nghastell-nedd yn 1994, lle mae'n aelod seneddol.

A rhoddodd eithaf cynnig ar gychwyn yn y Gymraeg yr hyn oedd ganddo i'w ddweud mewn cynhadledd i'r wasg ar faes Eisteddfod Y Bala ddydd Sadwrn yn eistedd ochr yn ochr ag Elfyn Llwyd yr AS lleol.

Peter Hain ac Elfyn Llwyd

Ond troi i'r Saesneg a wnaeth o ymhen tair neu bedair brawddeg gan egluro:

"I'm going to switch into English - because I don't want to put Elfyn to shame in his own constituency!"

°Õ´Ç³Ü³¦³óé wa - fel bydda nhw'n dweud yn Y Bala.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Meistr parcio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:18, Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009

Sylwadau (0)

Dywydd fel hyn gyda stiwardiaid y meysydd parcio mae fy nghydymdeimlad i.

Wn i ddim pwy yn union sydd mewn gofal o barcio yn Y Bala ond pwy bynnag yw - a chyn gystled yw - rwy'n teimlo i'r Steddfod golli cyfle peidio a gwahodd Gwilym Euros Roberts i ysgwyddo'r baich yn enwedig gan fod y Blaenau yn nalgylch yr Å´yl.

Nid yn unig mae o wedi dangos dycnwch arbennig ynglŷn â pharcio yn ddiweddar ond wedi profi hefyd y gall o dynnu llun cerbydau troseddwyr a throi 'trosedd' yn yn bwnc trafod a llythyru mewn papur newydd.

A dwi'n siŵr y byddai o wedi trefnu cornel glud - a chlyd hefyd siŵr o fod - i Ddafydd Iwan adael ei gerbyd ar gyfer cyngerdd Sain yn ddeugain oed nos Lun.

Gallem weld gwawrio Oes Eur Parcio Taclus!


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.