Ö÷²¥´óÐã

Archifau Mehefin 2010

Bron a marw eisiau gwybod . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 16:25, Dydd Mercher, 30 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Yr ydw i bron a marw eisiau gwybod pwy fydd yn ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn heno. Ond bydd yn rhaid disgwyl tan hanner awr wedi chwech.

Y llyfr can lle i'w gweld cyn marw sy'n peri'r diddordeb mwyaf eleni - achos fel y dwedais i rai wythnosau yn ôl dim ond John Davies, y sgrifennwr, sy'n cael ei ystyried yn 'awdur' y gyfrol gan yr Academi er mor anhepgor i'w llwyddiant yw lluniau rhagorol Marian Delyth.

Darllen gweddill y cofnod

Dyddiau dyrys

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 20:34, Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Tybed a yw'r rhai sy'n rhedeg Theatr Genedlaethol Cymru yn teimlo drafft oer ar eu gwegil ac o amgylch eu traed heno yn sgil cyhoeddi'n gtynharach heddiw Cyngor Celfyddydau Cymru?

Darllen gweddill y cofnod

Dwedwch eto . . . dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:03, Dydd Gwener, 18 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Cusan ci, cadair eisteddfod, refferendwm Cynlluniad, bwydo bajars - rhai o'r pethau gafodd sylw yn y wasg yng Nghymru ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.

Tusw o ddyfyniadau - a gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr a'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.

Darllen gweddill y cofnod

Deuoedd annwl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 17:20, Dydd Iau, 17 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

Mae h'n rhyw fymryn o ffasiwn ar y funud i wneud pethau bob yn ddau yn y theatr Gymraeg.

Theatr Genedlaethol Cymru yn crwydro'r wlad yn perfformio dwy ddrama fer, Dau. Un. Un. Dim. gan Manon Wyn ac Yn y Tren gan Saunders Lewis a hynny gerbron cynulleidfaoedd o gyn lleied a 15 ac 20 o bobl - ond stori arall ydi honno.

Darllen gweddill y cofnod

Penderfyniad dilun

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 22:03, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Go brin y bydd neb yn anghydweld â'r ffaith bod Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw yn haeddu ei le ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.

A go brin bod amheuaeth ym meddwl fawr neb mai ef sy'n mynd i ennill.

Darllen gweddill y cofnod

Ymateb cadeiriol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:27, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

Fel yr oedd rhywun yn rhagdybio ddoe mae ymateb yn barod i Gadair Eisteddfod Glynebwy.

Dyma rai o'r pethau a glywyd hyd yn hyn - a dim ond neithiwr oedden nhw'n ei dangos hi am y tro cyntaf erioed.

Darllen gweddill y cofnod

Meddwl am gadair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:05, Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Yr yda ni wedi cael dros y blynyddoedd - sut gallai ddweud hyn heb frifo neb na sathru cyrn? Ond yr yda ni wedi cael ambell i gadair Eisteddfod y bu ymateb iddi hi.

Cadair Tyddewi, er enghraifft gydag ambell un yn ddirmygus ohoni hi ond y bardd â'i henillodd, Myrddin ap Dafydd, yn dweud ar y pryd iddo ef fod wrth ei fodd.

Darllen gweddill y cofnod

Cylchgrawn newydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:52, Dydd Llun, 14 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Y sôn ydi bod yna gylchgrawn Cymraeg newydd ar y gweill ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.

Yn y Genedlaethol yn Y Bala y llynedd gwelwyd dau gylchgrawn newydd, un gan Y Lolfa i gystadlu â Barn am arian Cyngor Llyfrau Cymru a'r llall, WA-w!, yn fenter gan Lowri Rees-Roberts o'i chartref yn Llanuwchllyn ac yn dal i gael ei gyhoeddi - heb gymorth grantiau.

Darllen gweddill y cofnod

Dyddiadur Nia - dydd Sadwrn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 06:20, Dydd Llun, 7 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Nia lloyd Jones

  • Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bu'n rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn'. DYma ei chyfraniad olaf o Eisreddfod yr Urdd.

Diwrnod yr aelwydydd oedd hi heddiw a braf gweld yr enwau cyfarwydd yn ogystal â rhai newydd gefn llwyfan.

Roedd Aelwyd Llangwm yno yn eu crysau cochion, ac yn eu plith roedd Lowri Hughes sy'n gorffen cystadlu hefo'r aelwyd eleni gan y bydd hi dros yr oed erbyn flwyddyn nesaf.

Mi wnes i gyfarfod sawl un arall yn yr un sefyllfa hefyd, ac ambell un yn naturiol yn ddigon emosiynol.

O ran yr aelwydydd newydd, roedd o leiaf dwy ohonyn nhw yn lleol - sef Aelwyd Aeron ac Aelwyd Emlyn.

Gadael y llwyfan
Mae'n ddifyr iawn gweld ymateb y cystadleuwyr wrth iddyn nhw adael y llwyfan, a phan ddaeth Enfys Hatcher o Aelwyd Pantycelyn oddi ar y llwyfan y peth cyntaf ddywedodd hi wrthyf oedd, "Ych a fi! Pam dwi'n gwneud hyn?!"

Ond o fewn pum munud roedd 'na wên ar ei hwyneb ac roedd y rhyddhad yn amlwg.

Safon uchel
Mae sawl un wedi cyfeirio at safon uchel yr offerynwyr unwaith eto eleni a chawson ni ddim ein siomi yn y gystadleuaeth Unawd Offerynnol dan 25 oed.

Steffan Morris oedd yn drydydd. Mae o'n chwarae'r 'cello' ac ar fin gadael Ysgol Yehudi Mennuhin, a'i fryd ar fynd i astudio wedyn i Vienna.

Cai Isfryn oedd yn ail hefo'r trymped ac mae o ar fin mynd ar daith berfformio i'r Eidal.

Jocelyn Freeman ddaeth i'r brig gyda'i pherfformiad ar y piano ac fe dorrodd un o'r nodau / tannau yn ystod y perfformiad!

Theatrig
Teleri Mair Williams o Aelwyd yr Ynys enillodd gystadleuaeth y Cyflwyniad Theatrig Unigol.

Mae Teleri yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Keele ond wrth ei bodd hefyd yn perfformio ac yn cystadlu hefo Aelwyd yr Ynys.

Yn wahanol i'r arfer, doedd ganddi ddim mymryn o golur ar ei hwyneb heno ar y llwyfan a hithau'n cyfaddef wedyn ei bod yn teimlo'n noeth iawn hebddo.

Sioe gerdd

Elgan Llyr Thomas enillodd gystadleuaeth yr Unawd o Sioe Gerdd.

Mae o'n fyfyriwr yn y Coleg Cerdd ym Manceinion, ac mae Huw Foulkes oedd yn cyfeilio iddo - yn byw yng Nghaerdydd.

Doedd y ddau ddim wedi cael llawer o gyfle i ymarfer hefo'i gilydd, ond ta waeth am hynny, fe hawliodd Elgan y llwyfan a'r wobr gyntaf.

Corau aelwyd
Tro'r corau aelwyd oedd hi wedyn, ac ar ol y cystadlu mi es i i mewn i'r pafiliwn ar gyfer y canlyniadau.

Iwan Griffiths oedd yn arwain, ac wrth iddo gyhoeddi enwau'r enillwyr, dyna lle'r oeddwn i yn rhedeg o un pen o'r pafiliwn i'r llall i gael gair hefo'r enillwyr! Pwy sydd angen mynd i'r gampfa? Wir i chi, mae gweithio gefn llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd llawn cystal ac yn llawer mwy pleserus!

A dyna ni - Eisteddfod arall wedi dod i ben. Diolch i bawb fu mor barod i sgwrsio, a llongyfarchiadau mawr i'r holl gystadleuwyr. Dw i'n edrych ymlaen yn barod at flwyddyn nesaf!

Dyddiadur Nia - dydd Gwener

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 16:51, Dydd Sadwrn, 5 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Nia lloyd Jones

  • Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bu'n rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn'.

Darllen gweddill y cofnod

Mesur llwyddiant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:20, Dydd Gwener, 4 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Cyrraedd llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ydi'r uchafbwynt eithaf un i sawl ymgeisydd.

Ond nid pob un.

Pan glywodd ambell i aelod o barti oedd yn cystadlu y dydd o'r blaen iddyn nhw gamu o'r rhagbrofion i'r llwyfan ar gyfer cystadleuaeth hwyr y dydd eu hymateb oedd.

"Mam, da ni wedi cael llwyfan. Jyst yn lwc ni a ninna iso cael cychwyn adref."

Na, dydi'r bywyd Steddfodol ddim yn un hawdd ac anodd iawn yw plesio pawb.

Hen stori

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 14:17, Dydd Gwener, 4 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Galw mewn siop dan faner y Cyngor Llyfrau ar y maes.

"Oes gynno chi lyfrau Tecwyn y Tractor?

"Naaa . . ."

A chynnig fel eglurhad;

"Maen nhw'n hen."

Ond nid i blant sydd heb eu darllen o'r blaen.

Beth bynnag ei oed, mae pob llyfr yn newydd y tro cyntaf gwelwch chi o.

Allwch chi ddychmygu'r sgwrs hon:
"Oes gynno chi Un Nos Ola' Leuad?"
"Na, mae o'n hen."

Dyddiadur Nia: dydd Iau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 09:41, Dydd Gwener, 4 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Nia lloyd Jones

  • Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bu'n rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn'.


Darllen gweddill y cofnod

Braidd yn hefi?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:06, Dydd Gwener, 4 Mehefin 2010

Sylwadau (0)


Cyfaill yn holi ddoe, oeddwn i wedi cael amser i bicio draw i'r Bwyty hyd yn hyn - y gornel o'r maes lle gall y mwyaf soffistigedig yn ein plith gael gwydraid bach gwaraidd o win.

Darllen gweddill y cofnod

Cleber sy'n gafael

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:42, Dydd Gwener, 4 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Ar wahanol barwydydd mewn corneli o'r maes mae byrddau bach sy'n ein cyflwyno ni i iaith y Cardi.

Darllen gweddill y cofnod

Trindod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:41, Dydd Iau, 3 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Pa sawl math o ddyn sydd?

Wel, mae tri math o berson yn bod yn ôl Gareth Jones un o lywyddion anrhydeddus yr eisteddfod:

Darllen gweddill y cofnod

Gwers aur

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:36, Dydd Iau, 3 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Ar faes yr Eisteddfod cyfaddefodd Caryl Lewis, Llywydd dydd Mercher yr Eisteddfod, bod ei chysylltiad hi â Llanerchaeron yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd yn berchen pysgodyn aur.

Darllen gweddill y cofnod

Dyddiadur Nia: dydd Mercher

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 08:46, Dydd Iau, 3 Mehefin 2010

Sylwadau (2)

Nia lloyd Jones

  • Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos mae'n rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn' o'r Eisteddfod.


Darllen gweddill y cofnod

Dyddiadur Nia Lloyd Jones: dydd Mawrth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 14:46, Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

  • Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bydd yn rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn' o'r Eisteddfod.

Darllen gweddill y cofnod

Cardis call

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:00, Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Nawr te, y busnes ma bod y Cardis yn dyn gyda'u harian.

Rhoddwyd clec i'r chwedl honno gan yr aelod o'r Cynulliad Elin Jones a oedd yn llwydd y dydd yn yr Eisteddfod ddydd Mawrth:

Darllen gweddill y cofnod

Record lawn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:58, Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Ysgol Gymraeg Llundain ar y Maes y dydd o'r blaen ac yn gallu ymfffrostio yn y ffaith bod ei haelodaeth o'r Urdd yn gant y cant.

Pob copa walltog yn aelod.

Sawl ysgol arall all ymffrostio yn hynny tybed - hyd yn oed yn y broydd Cymreiciaf un?

Panad? Go brin

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:52, Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Yr hanes yw i Ferched y Wawr fynd trwy 30 litr o laeth cyn deuddeg o'r gloch ddydd Llun a rhedeg allan o laeth ar gyfer gwneud paned i rai oedd yn galw.

Darllen gweddill y cofnod

Dewis arwr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:33, Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Pan ofynnwyd i enillydd Medal y Dysgwyr ddoe a oedd ganddo arwr Cymraeg neu Gymreig cafwyd ateb ychydig yn annisgwyl efallai:

Darllen gweddill y cofnod

Dyddiadur Nia: dydd Llun

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 09:10, Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Nia lloyd Jones

  • Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bydd yn rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn' o'r Eisteddfod. Dyma ei chyfraniad cyntaf.

Darllen gweddill y cofnod

Ffordd osgoi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:19, Dydd Mawrth, 1 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

Fel sy'n digwydd yn aml ar faes Steddfod gwyrais yn sydyn oddi ar fy llwybr unionsyth y pnawn yma er mwyn osgoi gwrthdrawiad â rhywun nad oeddwn yn or awyddus i'w gyfarfod.

Ond wrth droi cornel i osgoi un mi ddois i chwap yn syth i wyneb rhywun arall nad oeddwn am ei weld.

Yn wir, o'r ddau, gallwn fod wedi dygymod yn well â'r cyntaf.

Ydi, mae bywyd yn alegori ar faes Steddfod.

Neb eto

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:15, Dydd Mawrth, 1 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Newydd sylweddoli bod tri diwrnod wedi mynd ers imi gyrraedd ac nad wyf wedi clywed neb yn dweud mai Eisteddfod yr Urdd ydi Britain's Got Talent Cymru.

Rwy'n siŵr imi glywed rhyw swyddog neu gadeirydd pwyllgor neu lywydd yn ei ddweud un ar ôl y llall hyd syrffed yng Nghaerdydd y llynedd.

Y lein fyddai; bod gan Gymru ei Britain's Got Talent neu ei Hex Ffactor ei hun ac mai Eisteddfod yr Urdd gyda'i holl amrywiol dalentau yw'r sioeau hynny i ni. Mewn cae.

Fel y dwedais i chlywais i mo'r honiad hyd yn hyn eleni.

Efallai y dylwn gynnig gwobr i'r cyntaf i ystrydebu . . .

Briwsion

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:57, Dydd Mawrth, 1 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Un o gymeriadau Plant y Fflam, y sioe ieuenctid hynod boblogaidd, ydi bachan o'r enw Torth.

Mewn un olygfa mae merch yn ei gymryd dan ei hadain am y noson gan sbarduno'r sylw gan gymeriad arall, "Fe fyddi di'n friwsion bara erbyn y bore"!

Dilyn y wagen

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:41, Dydd Mawrth, 1 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Ni allwn beidio a sylwi amser cinio ddoe bod y ciw y tu allan i wagan fwyd Cig Oen Cymru yn hirach na'r un ger y wagan gyrri y drws nesaf.

Y Cardis yn cefnogi cynnyrch cartref efallai.
Neu'r lleill yn rhannu'r bwyd yn gynt.

Wagan fwyd

Mae ymchwiliadau yn parhau a hwn yn rhywbeth y byddwn yn dychwelyd ato wrth i'r wythnos fynd rhagddi, siŵr o fod.

Yn y cyfamser wrth wagan nwdls dawelach gofynnodd rhywun,
"Wnes ti fwynhau hwnna?"
A chael yr ateb, "Roedd o'n well na ciwio."

Michael Winner y dyfodol?

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.