Ö÷²¥´óÐã

Archifau Medi 2010

'Myfi yw y gair'

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 09:11, Dydd Iau, 30 Medi 2010

Sylwadau (0)

Profi'r honiad na chafodd unrhyw lyfr fwy o ddylanwad ar yr iaith Saesneg na'r Fersiwn Awdurdodedig o'r Beibl - y King James Bible - y mae'r ieithmon o Gymru, David Crystal, yn ei lyfr diweddaraf.

Er wedi ei eni yng Ngogledd Iwerddon yng Nghaergybi y magwyd David Crystal sy'n cael ei gyfrif yn un o ysgolheigion iaith blaenaf y byd.

Darllen gweddill y cofnod

Map placiau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:20, Dydd Mawrth, 28 Medi 2010

Sylwadau (0)

Wrth eu placiau yr adnabyddir hwy - ac wele ddifyr gan yr Academi yn nodi ar fap o Gymru lle mae placiau wedi eu gosod i goffau llenorion o fri.

O glicio ar y gwahanol leoliadau ar y map mae gwybodaeth gryno am yr awdur dan sylw.
Gwelir rhai o'r placiau coffa mewn eglwysi a mynwentydd a hefyd ar waliau llyfrgelloedd neu dai.

Darllen gweddill y cofnod

Ymwelydd annisgwyl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:30, Dydd Sul, 26 Medi 2010

Sylwadau (0)

Y stori orau a glywais i yn sgil ymweliad diweddar y Pab â'n cymdogion agos oedd honno am ddigwyddiad dro'n ôl yn y Fatican.

Wrth edrych allan drwy ffenestr ar Sgwâr Sant Pedr mae nifer o gardinaliaid a phwysigion Pabyddol eraill yn gweld Iesu Grist ei hun yn cerdded i fyny'r grisiau sy'n arwain at y prif ddorau.

Darllen gweddill y cofnod

Y Mabinogi a'r Tibetiaid

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:31, Dydd Sadwrn, 25 Medi 2010

Sylwadau (0)

Tynnu sylw at yr hyn sy'n debyg rhwng chwedlau'r Mabinogi a straeon traddodiadol Bwdhaeth Dibetaidd fydd cyfarfod yn Aberystwyth fis Hydref.

Darllen gweddill y cofnod

O air i air - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:11, Dydd Gwener, 24 Medi 2010

Sylwadau (0)

Dilladu morforwyn a phlismyn, trafferthion Dehli, y Whitelaw newydd ac egluro'r gwahaniaeth astrus rhwng dogfen ac adroddiad - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

Darllen gweddill y cofnod

Rhifyn cyntaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:45, Dydd Mercher, 22 Medi 2010

Sylwadau (0)

Mae'r rhifyn cyntaf o Cristion dan ei olygyddiaeth newydd wedi cyrraedd. Rhifyn cyntaf y Parchedig Casi M Jones o'r Felinheli wrth y llyw.

Hithau'n brawf bod yr inc sydd yn y gwaed yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall gan ei bod yn ferch i Ned Thomas - newyddiadurwr a phen sbardunwr sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd, nes i'r Cynulliad droi'r drol arbennig honno.

Darllen gweddill y cofnod

Oll yn eu gynau . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:39, Dydd Mercher, 22 Medi 2010

Sylwadau (0)

Cafwyd rhagor o fanylion yr wythnos hon am awgrymiadau i newid Gorsedd y Beirdd.

Bu'r mater yn bwnc trafod yn Eisteddfod Blaenau Gwent ac fe fydd yn cael ei wyntyllu mhellach yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.

Cafodd y newidiadau sy'n cael eu hystyried eu disgrifio fdl y newid mwyaf ers dyddiau Iolo Morganwg.

Yn ganolog iddyn nhw mae'r awgrym i gael pob aelod a dderbynnir i'r Orsedd yn gyfartal yn hytrach na'r drefn bresennol bod y rhai mewn gwisgoedd gwynion o radd uwch na rhai mewn gwisgoedd gwyrdd a glas.

Ond hyd yn oed dan y drefn newydd bydd y lliwiau yn cael eu cadw - ond yn awr i ddynodi maes gweithgarwch y sawl sy'n eu gwisgo.

A bydd y rhai hynny oedd yn gefnogol i awgrym i yr Athro Hywel Teifi Edwards o ychwanegu gwisg goch at y gwyn, gwyrdd a glas, yn falch o glywed bod ychwanegu lliw newydd dan ystyriaeth.

Byddai'r lliw newydd ar gyfer y rhai a dderbynnir i'r Orsedd ar sail eu harbenigedd neu eu cyfraniad i gymdeithas neu fyd y campau.

"Dim ond y rhai sy'n ennill prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd a fydd yn cael eu hurddo i'r Wisg Wen, a byddai'r Wisg hon yn parhau i gydnabod y berthynas arbennig sy'n bodoli rhwng yr Orsedd a'r Eisteddfod ei hun," meddir.

"Mae'r Orsedd yn awyddus i sicrhau bod aelodau newydd yn cael eu derbyn ar yr un gwastad, gan wneud yn siŵr bod pob arbenigedd yn cael ei thrin yn gyfartal a bod yr anrhydedd o ymuno â'r Orsedd yn gytbwys ac yn ddi-wahan," ychwanegir yn y datganiad a gyhoeddwyd ddoe.

"Byddai'r newidiadau hyn hefyd yn gymorth i ddileu'r syniad bod gan unrhyw liw flaenoriaeth a bod un yn fwy cymwys neu bwysig nag un arall. Fel rhan o hyn, mae'r Orsedd hefyd wedi trafod y syniad o newid trefn y lliwiau yn yr Orymdaith a lleoliad eu heisteddiad yn y Cylch ac ar lwyfan y Pafiliwn."

Hefyd dan ystyriaeth mae cynnig na ddylai unrhyw unigolyn gynnig nag eilio mwy na thri pherson gwahanol i'w hurddo yn ystod yr un flwyddyn.

Fe all Eisteddfod Wrecsam fis Awst nesaf fod yn un go hanesyddol felly gan mai yng nghyfarfod cyffredinol yr Orsedd yno y bydd y pwnc dan ystyriaeth nesaf.

Ond does na ddim byd i'ch rhwystro rhag mynegi barn rhwng nawr a hynny ac mae gwahoddiad i anfon sylwadau at y Cofiadur, Penri Tanad - cofiadur@eisteddfod.org.uk.

"Os cytunir ar y cynlluniau yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, y gobaith yw cyflwyno'r newidiadau radical hyn yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012, pan fydd y Brifwyl yn ymweld ag ardal Iolo Morganwg ei hun."

Fydd yr hen griadur yn troi yn ei fedd? Amser a ddengys.

Darllen gweddill y cofnod

Mewn gair - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:42, Dydd Gwener, 17 Medi 2010

Sylwadau (1)

Brian Flynn, Gavin Henson, merch Glyndwr a llythyrau hwyr - rhai o bobl a phynciau'r wythnos yng ngeiriau pobl eraill yn ein detholiad wythnosol o ddyfyniadau.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

Darllen gweddill y cofnod

Ochr arall awdur plant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 12:28, Dydd Iau, 16 Medi 2010

Sylwadau (0)

Dechreuodd yr wythnos hon gyda diwrnod i ddathlu Roald Dahl yr awdur llyfrau plant.

Yr oedd cryn ddiddordeb Cymreig yn y digwyddiad gan mai yng Nghaerdydd y ganwyd yr awdur a wnaeth gymaint o gyfraniad i lenyddiaeth plant yn Saesneg.

Darllen gweddill y cofnod

Barddiho

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:44, Dydd Gwener, 10 Medi 2010

Sylwadau (0)

Gan ddisgrifio ei hun fel "trwbadwr ar gefn ceffyl" mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn paratoi ar gyfer taith hydrefol o gwmpas y wlad.

Ar gyfer y daith bydd Gillian Clarke yn cael cwmni bardd y frenhines - y Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy a fydd gyda hi yng Ngwesty'r Angel, Y Fenni, ar noson gyntaf y daith.

Darllen gweddill y cofnod

Chwarae - a geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:28, Dydd Gwener, 10 Medi 2010

Sylwadau (0)

Gavin Henson, John Toshack, anwariaid y sinema, Gavin Henson, Alex Jones, adolygwyr llyfrau a Gavin Henson - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

Darllen gweddill y cofnod

Allan o'r byncar

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:17, Dydd Iau, 9 Medi 2010

Sylwadau (0)

I gyd-fynd â chynnal cystadleuaeth Cwpan Ryder yng Nghymru mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi'r nofel gyntaf yn y Gymraeg gyda chwarae golff yn gefndir iddi.

Fel yr adroddwyd ar y wefan hon yn gynharach cafodd yr awdur, Gareth william Jones, ei hun mewn dipyn o dwll wrth ddewis teitl i'r nofel - oherwydd helyntion Tiger Woods oddi ar y cwrs golff.

Darllen gweddill y cofnod

Pictiwr - o gambyhafio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:39, Dydd Mercher, 8 Medi 2010

Sylwadau (0)

Diolch byth am Bethan Gwanas. Dydi hi byth yn mynd i'r pictiwrs ond mae hi'n dweud rhywbeth heddiw sy'n agos iawn at galon y rhai ohonan ni sydd yn mynd.

Yn ei cholofn wythnosol yn y mae Bethan yn datgelu mai uffern iddi hithau hefyd ydi pobol eraill - yn y sinema o leiaf.

Darllen gweddill y cofnod

Dyfyniadau, bach

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:22, Dydd Gwener, 3 Medi 2010

Sylwadau (0)

Cofio Owen Edwards, gwerth llyfr, iaith barddoniaeth, gwella clwyfau a holi cymhleth - rhai dyfyniadau a dynnodd sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A chofiwch mai'r cyngor ar gyfer heddiw yw - i wneud y Pethau Bychain. Pethau fel cyfrannu i'r blog hwn er enghraifft!

Darllen gweddill y cofnod

Diwrnod bach

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:01, Dydd Mercher, 1 Medi 2010

Sylwadau (0)

"Gwnewch y pethau bychain . . ." mae'r dywediad bron a bod yn ystrydeb genedlaethol ond ddydd Gwener yma mae gwahoddiad inni wneud yn union hynny - ar y we.

Mae gwahoddiad wedi ei estyn i bob un ohonom ni i 'wefannu' yn y Gymraeg y diwrnod hwn - os oes y fath air yn bod.

Darllen gweddill y cofnod

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.