Ö÷²¥´óÐã

Archifau Mai 2011

Heini Gruffudd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:53, Dydd Mawrth, 31 Mai 2011

Sylwadau (0)

Ar drothwy wythnos fawr yn Abertawe, un o bobl y ddinas - Heini Gruffudd oedd gwestai arbennig y bore.

Heini Gruffudd

Fel athro ac awdur mae wedi treulio oes yn dysgu Cymraeg i blant ac oedolion.

Yn wr hynod brysur, ar hyn o bryd mae o'n paratoi llyfr ar hanes diddorol ond trasig ei deulu yn yr Almaen yn y 30au .

O dras Iddewig fe laddwyd ei nain mewn carchar rhyfel, ond fe lwyddodd ei fam i ddod draw i Brydain a chartrefu yn y man yn Abertawe.

Gan obeithio am fuddugoliaeth i dim pel-droed Abertawe yn Wembley fe fydd eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon hefyd yn mynd a'i fryd.


Adolygiad Llyfrau y Flwyddyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:45, Dydd Mawrth, 31 Mai 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad gan Catrin Beard o'r 3 llyfr ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.

Lladd Duw - Dewi Prysor, Caersaint - Angharad Price, Bydoedd - Ned Tomos.

Catrin Beard

Achos John Cooper

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 13:59, Dydd Gwener, 27 Mai 2011

Sylwadau (0)

Chwarter canrif wedi dwy lofruddiaeth ddwbl yn Sir Benfro, mae'r llofrudd John William Cooper bellach dan glo.

Mewn rhifyn arbennig o Manylu, mae Aled Scourfield yn siarad â nifer o uwch swyddogion heddlu Dyfed.

Manylu, Dydd Gwener, 27ain o Fai am 2.04pm

Ail ddarllediad Dydd Sul 29ain o Fai am 10.02am ac hefyd nos Lun 30ain o Fedi am 6.03pm ar Radio Cymru.

Marathon Wal Fawr Tsieina

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Geraint Lloyd Criw Geraint Lloyd | 10:15, Dydd Mercher, 25 Mai 2011

Sylwadau (0)

Geraint Lloyd yn sgwrsio hefo Martina Davies sy'n byw yn Shanghai, ac sydd newydd gael y profiad o gymryd rhan ym Marathon Wal Fawr Tsieina.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Hawl i Holi: Llanbrynmair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 09:36, Dydd Mercher, 25 Mai 2011

Sylwadau (0)

Mae'r rhaglen ar daith unwaith eto yn ymweld â gwahanol ardaloedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Hawl i Holi - Llanbrynmair

Ìý

Yn rhaglen ola'r gyfres Dewi Llwyd sy'n teithio i Lanbrymmair i ganfod barn y bobl am bynciau llosg a hynny yng nghwmni panel o bedwar.

Ar y panel yr wythnos hon fydd Comisiynydd Gwasanaethau Cyfreithiol a ffermwr o'r ardal Tom Jones, y cerddor a cholofnydd Rhys Mwyn, y Cyng. Beryl Vaughan, a'r aelod seneddol Plaid Cymru Elfyn Llwyd.

Hawl i Holi, nos Fawrth, 6.03pm, Radio Cymru.

Ìý

Cyfweliad Penblwydd Eleri Llwyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 09:25, Dydd Mercher, 25 Mai 2011

Sylwadau (0)

Ar drothwy ei phen-blwydd eleni mae'r gantores Eleri Llwyd yn gobeithio cyfarfod Barack Obama, a hynny gyda'i gwr yr Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd.

A hithau bellach wedi ymddeol fel athrawes Saesneg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, mae hi wrth ei bodd yn cael gwneud yr hyn mae'n mwynhau ei wneud! Mae hynny'n cynnwys coginio, tyfu llysiau, a theithio i weld orielau yn Llundain ond nid y siopau! Does dim yn well ganddi na mynd i Gaernarfon i warchod ei hwyres Anni.

Fe ddaeth i amlygrwydd fel cantores yn y 70au ac mae wedi ail-ddechrau perfformio'n ddiweddar. Mae'n ddiolchgar ei bod yn cael cwmni cyfeilydd erbyn hyn.

Yn ferch i’r dramodydd Huw Lloyd Edwards mi roddodd Eleri hefyd gynnig ar ysgrifennu pan oedd hi'n ifanc, gan gynnwys un ddramodig am y Lone Ranger a Tonto!

Ei hanrheg pen-blwydd delfrydol fyddai taith ar drên yr Orient Express i Rwsia a chael pryd o fwyd hyfryd gyda’i theulu i gyd ar ôl cyrraedd adref.

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Celfyddydau 22.05.2011

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 09:11, Dydd Mercher, 25 Mai 2011

Sylwadau (0)

Beca Brown sy'n adolygu'r arddangosfa ddiweddaraf yn Oriel Mostyn, Llandudno.

Ìý

Beca Brown

Ìý

Ìý

Geraint Lloyd yn dysgu sut i odro

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Geraint Lloyd Criw Geraint Lloyd | 09:18, Dydd Llun, 23 Mai 2011

Sylwadau (0)

Yn ystod wythnos Addysg i Oedolion, fe drefnodd tîm y rhaglen bod Geraint yn dysgu sut i odro.

Fe dreuliodd fore gyda Cefin Evans o Fferm Cwm Wythig yng Nghapel Bangor.

Ìý

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Hawl i Holi: Nottingham

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 09:46, Dydd Mercher, 18 Mai 2011

Sylwadau (0)

Mae'r rhaglen ar daith unwaith eto yn ymweld â gwahanol ardaloedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Dewi Llwyd sy'n teithio i Nottingham i ganfod barn y bobl am bynciau llosg a hynny yng nghwmni panel o bedwar.

Ar y panel yr wythnos hon fydd Gareth Davies cyn gapten rygbi Cymru ac un o bennaethiaid Prifysgol Leeds Metropolitain, y canwr a'r gwleidydd Dafydd Iwan, un o Gymry amlwg canolbarth Lloegr Jonathan Simcock sy'n gweithio fel Swyddog Datblygu gyda gwasanaeth gwirfoddol Derbyshire Dales, a Sian Foster, fu ar un adeg yn un o uwch reolwyr gyda rhai o gwmniau mwya' Prydain sydd bellach wedi ail hyfforddi fel athrawes.

Hawl i Holi yn Nottingham

Hawl i Holi, nos Fawrth, 6.03pm, Radio Cymru.

Cyfweliad penblwydd Twm Elias

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:27, Dydd Llun, 16 Mai 2011

Sylwadau (0)

Fydd Twm Elias ddim eisiau llawer o ffys ar ei benblwydd - ar y cyfan mae'n well ganddo gael tipyn o heddwch!

Ei anrheg delfrydol fyddai tocyn llyfr er mwyn cael prynu cyfrol o'i ddewis ei hun!

Twm Elias

Wrth ei waith bob dydd mae'n trefnu cyrsiau amgylcheddol ym Mhlas Tan y Bwlch ger Maentwrog yng Ngwynedd, swydd ddelfrydol ar ei gyfer gan ei fod yn ymddiddori ym mhob agwedd ar fyd natur.

Yn awdur ar nifer o lyfrau, o hanes y porthmyn i'r tywydd, mae Twm hefyd yn olygydd ar gylchgrawn 'Fferm a Thyddyn', gwaith y mae'n ei wneud ers yr 80au ac sy'n rhoi boddhad mawr iddo.

Twm oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd a bu teithiau'r gymdeithas yn fodd o ddysgu fod amryw o enwau gwahanol gan y Cymry ar yr un anifeiliaid a phlanhigion.

Mae Twm bellach yn aelod o banel sydd yn safoni enwau ym myd natur ac mae'n grediniol ers yn ifanc fod angen i'r iaith ddatblygu mewn meysydd fel gwyddoniaeth yn ogystal a'r celfyddydau!


Dwy gyfrol yn ymwneud ag Iwan Llwyd a chyfres Yr Ynys ar S4C

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:23, Dydd Llun, 16 Mai 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad gan Sioned Williams o'r gyfrol deyrnged Iwan ar daith gol. Myrddin ap Dafydd a Siarad trwy'i het - Karen Owen. A chyfres Yr Ynys ar S4C.

Lois Dafydd o Batagonia

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Geraint Lloyd Criw Geraint Lloyd | 11:26, Dydd Gwener, 13 Mai 2011

Sylwadau (0)


Dyma ddigwyddodd ddoe ar raglen Geraint Lloyd wrth i'r tîm gynhyrchu cael e-bost yn dweud bod yna ferch o'r enw Lois Dafydd o Batagonia wedi rhoi ar ei statws Facebook ei bod hi wedi dod o hyd i Radio Cymru ar y we, ac yn gwrando ar raglen Geraint Lloyd.

Hawl i Holi: Rhuddlan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 10:54, Dydd Mawrth, 10 Mai 2011

Sylwadau (0)

Dewi Llwyd sy'n teithio i Ruddlan i ganfod barn y bobl am bynciau llosg yr etholiad a hynny yng nghwmni panel o bedwar o'r prif bleidiau yng Nghymru.

Mae'r rhaglen ar daith unwaith eto yn ymweld â gwahanol ardaloedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

Ar y panel yr wythnos hon fydd Gareth Roberts perchennog cwmni Llaeth y Llan, Gwilym Owen ar ran y Ceidwadwyr, y gantores ac Arweinydd Côr Eisteddfod Genedlaethol eleni Ann Atkinson, a'r cyn aelod seneddol Llafur, Betty Williams.

Hawl i Holi, nos Fawrth, 6.03pm, Radio Cymru.

Babis Bach y Gwanwyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Dafydd a Caryl Criw Dafydd a Caryl | 15:12, Dydd Mawrth, 3 Mai 2011

Sylwadau (0)

Dyma'r gân gan Caryl yn arbennig i fabanod y Gwanwyn. Cofiwch gysylltu â Dafydd a Caryl os am sicrhau fod enw aelod diweddara'r teulu neu fabi i ffrind yng nghan "Babis bach yr Haf!"

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Hawl i Holi: Llangennech

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 13:56, Dydd Mawrth, 3 Mai 2011

Sylwadau (0)

Aled ap Dafydd sy'n teithio i Langennech i ganfod barn y bobl am bynciau llosg yr etholiad a hynny yng nghwmni panel o bedwar o'r prif bleidiau yng Nghymru.

Mae'r rhaglen ar daith unwaith eto yn ymweld â gwahanol ardaloedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

Ar y panel yr wythnos hon fydd Dr Dai Lloyd ar ran Plaid Cymru, Elgan Morgan ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, Gwenda Thomas ar ran Llafur a Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr.

Hawl i Holi, nos Fawrth, 6.03pm, Radio Cymru.

Cyfweliad Penblwydd Linda Griffiths

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:39, Dydd Mawrth, 3 Mai 2011

Sylwadau (0)

Cyn iddi ddathlu ei phenblwydd bu Dewi draw ym Mhenbontrhydybeddau, Ceredigion, yn holi'r gantores Linda Griffiths.

Yn un o'r triawd yn y grwp gwerin Plethyn mae hi'n fwy adnabyddus fel Linda Healy, ond wedi ei hysgariad penderfynodd fynd nôl i ddefnyddio ei henw bedydd.

Er nad yw Plethyn yn dal i berfformio mae Linda yn parhau i ganu, ar ei phen ei hun neu gyda'i merched.

Yn fam i dair o genod, mae wrth ei bodd eu bod nhw wedi cael magwraeth wledig ddigon tebyg i'r un a gafodd hi ym Maldwyn.

Mae Linda'n gweithio'n llawn amser fel cyfieithydd, gan fwynhau bod yn fos arni hi ei hun sy'n ei galluogi i dreulio ambell brynhawn yn mynd a'r ci am dro ac yna'n gweithio gyda'r nos!

Ei hanrheg penblwydd delfrydol fyddai cael treulio dyddiau lawer yn marchogaeth gan gyfarfod ambell ffrind da ar y ffordd!

Celfyddydau 01.05.11

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:26, Dydd Mawrth, 3 Mai 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad gan Catrin Beard o ffilmiau o nofelau Steig Larsson. Llyfrau a rhaglenni Wallander gan Henning Mankell a chyfres teledu The Killing.

Adolygiad o The passion

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 12:25, Dydd Mawrth, 3 Mai 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad Sioned Williams o berfformiad The Passion gyda Michael Sheen a dros 1000 o bobl yn cymryd rhan ym Mhort Talbot dros benwythnos y Pasg.

Cyfweliad penblwydd Manon Rhys

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 12:12, Dydd Mawrth, 3 Mai 2011

Sylwadau (0)

A hithau newydd symud ty ac wedi cael cyfnod prysur yn clirio, gobeithio treulio ei phenblwydd yn yr ardd, neu yng ngharafan y teulu yn Sir Benfro yr oedd Manon.

Mae'r garafan yn lle da i iddi hi a'i gwr Jim Parc Nest fynd i weithio ac ymlacio wrth gerdded llwybr yr arfordir.

Yn gyn athrawes, ond fel mae'n cyfadde, nid yr orau erioed, rhoddodd y gorau i ddysgu yn yr 80au er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu'n llawn amser.

Ar hyn o bryd mae'n ceisio cwblhau dilyniant i'w nofel Rara Avis a gyrhaeddodd restr fer llyfr y flwyddyn.

Yn ferch i'r llenor a'r gwleidydd Kitchener Davies a fu farw pan oedd Manon yn 4 oed, mae'n sicr iddo fod yn ddylanwad mawr arni gan ei bod hithau wedi dewis llenydda.

Mae wrth ei bodd fel mamgu ac yn honni bod treulio amser gyda phlant dan 6 oed 'yn ehangu eich gorwelion yn aruthrol' wrth iddi glywed am Dr Who ac 'aliens' ymhlith pethau eraill!

Ei hanrheg penblwydd delfrydol fyddai planhigyn neu ddau ar gyfer gardd y ty newydd.

Cwestiwn cyntaf Dewi oedd - sut fyddwch chi'n dathlu'r penblwydd?

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.