Deng mlynedd ers dechrau rhyfel Afghanistan bydd rhaglen materion cyfoes Manylu yn clywed profiadau rhai o'r Cymry sydd wedi bod yn y wlad dros y ddegawd diwetha.
Yn 2001 roedd rhai'n hyderus byddai'r rhyfel drosodd ar ôl dim ond tri mis pan ddisodlwyd y Taleban. Ond deg mlynedd yn ddiweddarach mae’r rhyfel yn dal i rygnu mlaen gyda bron i dair mil o filwyr y gyngrair wedi eu lladd, a dros deg mil o bobol gyffredin wedi marw ers dwy fil a saith. ÌýBydd Manylu yn clywed gan y Cymry fu yno - rhai yn brwydro ac eraill yn ceisio gwella bywydau pobol gyffredin yn un o wledydd tlota'r byd.
Ìý
Manylu, heno, 1803.
Ìý
Bob pnawn Mercher mae Geraint Lloyd yn cael cwmni'r milfeddyg Glesni Haf o Aberystwyth. Os oes ganddo’ch chi broblem neu gwestiwn am eich anifail anwes, mae croeso i chi gysylltu â'r rhaglen i ofyn eich cwestiwn.
Wythnos yma, Alwena Joyce o Gynwyd sydd yn berchen ci bach Jack Russell 3 mis oed o'r enw Jini oedd yn gofyn be fasa'r ffordd orau i gal Jini i arfer efo synau uchel cyn noson tân gwyllt?
Dyma gyngor Glesni Haf.
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ìý
Meg Elis yr awdur, cyfieithydd ac adolygydd oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul 23.10.11
Ìý
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ìý
Mae ardaloedd menter newydd wedi eu creu ar gyfer Cymru ond a fydda nhw'n helpu i leihau diweithdra neu a fydd nhw'n denu gweithwyr o un rhan o Gymru i'r llall?Ìý
Bydd rhifyn yr wythnos hon o Manylu yn edrych ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i greu pum Ardal Fenter ar hyd a lled y wlad er mwyn rhoi hwb i'r economi. Roedd Ardaloedd Menter yn un o bolisiau llywodraeth Margaret Thatcher yn yr wythdegau. Ond llwyddiant cymysg gawson nhw bryd hynny. Mae rhai adroddiadau'n honni mai symud swyddi o un ardal i'r llall wnaethon nhw yn bennaf, yn hytrach na chreu swyddi newydd - ac mae rhai economegwyr yn amau gwerth sefydlu rhai newydd yn yr unfed ganrif ar hugain.
Ìý
Roedd sefydlu ardaloedd menter yn Lloegr eisoes yn un o bolisiau llywodraeth San Steffan cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddent hwythau'n sefydlu rhai yr ochor yma i Glawdd Offa. Mae rhai yn credu mai'r siom o glywed mai yn Wolverhampton - oedd eisoes yn ardal fenter - ac nid ym Mhen-y-Bont ar Ogwr y byddai Jaguar Land Rover yn agor eu ffatri newydd sbardunodd wleidyddion ym Mae Caerdydd i weithredu.
Ìý
Yn sicr, meddai David Jones, pennaeth Coleg Glannau Dyfrdwy - sy'n gweithio'n agos gyda nifer o'r cwmniau technolegol mawr yn yr ardal - fe fydd y buddsoddiad yn helpu'r gogledd-ddwyrain i barhau yn gystadleuol. Fe fydd yr Ardal Fenter sydd i'w sefydlu yno yn canolbwyntio ar gynhyrchu nwyddau, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Bydd y pwyslais ar ddiwydiannau gwahanol yn yr ardaloedd menter eraill.
Cynhyrchu ynni fydd y nod ar Ynys Môn. Canolfan ar gyfer gwasanaethau ariannol fydd Caerdydd, a bydd Glyn Ebwy a Sain Tathan yn canolbwyntio ar y diwydiant ceir ac awyrennau.
Ìý
Mae nifer tu allan i'r ardaloedd menter fodd bynnag yn dweud nad ydi hi'n deg bod y llywodraeth am greu manteision i fusnesau i ymsefydlu mewn rhai rhannau o Gymru - tra bod dim byd ar gael i'r rhai sydd eisoes yn ceisio cadw'u pen uwch ben y dwr mewn llefydd eraill. Ond, gyda Chymru'n wynebu toriadau mewn gwasanaethau, diweithdra cynnyddol, a gor-ddibyniaeth ar y sector gyhoeddus, mae nifer yn croesawu unrhyw gam allai helpu i osod seiliau ar gyfer economi mwy llewyrchus yn y dyfodol.
Ìý
Manylu, nos Lun 24 Hydref am 6.03pm
Ìý
Ìý
Ar fin dathlu ei ben-blwydd, un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd S4C a Radio Cymru ers degawdau, yr amaethwr, canwr a'r darlledwr Dai Jones, Llanilar, oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul 09.10.11
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ìý
Ìý
Ychydig wythnosau’n unig wedi trychineb y Gleision, pan laddwyd pedwar glowr yng Nghwm Tawe, bydd rhaglen faterion cyfoes Manylu ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn datgelu fod cynlluniau ar y gweill i ddatblygu pwll glo bach arall yn ymyl safle’r lofa.
Mae Manylu wedi darganfod fod cwmni Western Carbons, o Rydaman, wedi cyflwyno cynlluniau i Gyngor Castell Nedd Port Talbot i ddatblygu pwll newydd ar safle pum erw ar Fynydd Alltygrug, ger Godre’r Graig - rhyw filltir o bwll y Gleision.
Cwmni sy’n cyflenwi glo ar gyfer y diwydiant ffiltro dŵr yw Western Carbons, ac yn ôl y pennaeth, Jeff McAvoy, y bwriad yw cloddio’r glo ar gyfer defnydd y cwmni, gan greu o leiaf deg o swyddi.
Ond wrth i’r ymchwiliad i ddamwain y Gleision barhau, a gyda glowr arall wedi ei ladd mewn damwain yn Kellingley yng ngogledd Lloegr yn ddiweddar, mae nifer yn cwestiynu pa mor ddiogel yw hi bellach i weithio yn y pyllau glo.
Heno bydd Manylu’n gofyn a yw’r risg werth y gost?
Manylu am 6 o’r gloch, nos Lun 10 Hydref, ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.
Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Rhian Parry sydd yn teithio o amgylch Seland Newydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd.
Mae Rhian yn gwneud dyddiadur wythnosol i raglen Geraint wrth iddi fwynhau Cwpan y Byd.
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ìý
Ìý
Dyma'r gân gan Caryl yn arbennig i fabanod Mis Medi.
Cofiwch gysylltu â Dafydd a Caryl os am sicrhau fod enw aelod diweddara'r teulu neu fabi i ffrind yng nghan "Babis mis Hydref!"
Ìý
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ìý
Y tor calon o gael eu twyllo gan adeiladwyr anghyfreithlon - dyna fydd pwnc Manylu heno wrth i nifer o unigolion rannu eu profiadau. Bydd un gŵr oedrannus yn disgrifio sut y cafodd ei orfodi i fynd i'r banc er mwyn talu arian parod i un adeiladwr. Mae'r rhaglen hefyd yn edrych ar gynllun arloesol ym Môn sy'n ceisio sicrhau nad oes unrhyw fasnachwyr yn manteisio ar y trigolion yno.
Ìý
Mae adroddiad gan y swyddfa archwilio cenedlaethol yn amcangyfrif fod perchnogion tai yng Nghymru yn colli £330 miliwn y flwyddyn wrth gael eu camarwain gan fasnachwyr sy'n galw o ddrws i ddrws - ffigwr sy'n profi fod y broblem yn un rhy gyffredin o lawer.
Ìý
MANYLU gyda Nia Thomas am 1800 heno.ÌýÌý
Ìý
Ìý
Bydd rhaglen wythnosol newydd ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn mynd dan groen pob math o wahanol bynciau.
Ìý
ÌýCyflwynir y rhaglen newydd, Dan yr Wyneb gan Dylan Iorwerth ac fe'i darlledir yn ystod yr amser y darlledwyd Wythnos Gwilym Owen.Ìý
Ìý
Darllen gweddill y cofnod