Main content

8 ola Cwpan Y Byd, Rwsia

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gemau rownd yr wyth olaf a gwledd arall o’n blaenau.

Heddiw, Uruguay yn erbyn Ffrainc gyda Brasil a Gwlad Belg i ddilyn.

Tybed a’i Ffrainc fydd enillwyr Cwpan y Byd? Maent wedi ymddangos ben a ‘sgwyddau yn well a mwy cyson nag unrhyw dîm arall hyd yn hyn. A chydag asgwrn cefn yn cynnwys Hugo Lloris yn y gôl, amddiffynnwr gorau'r gystadleuaeth hyd yn hyn, Rafael Varane (o Real Madrid) yn cadw trefn a disgyblaeth, Paul Pogba sydd yn gwella gyda phob gem yn cadw cwmni i N’Golo Kante yng nghanol y cae, ac Antoine Griezmann a Kylian Mbappe yn bygwth ac yn beryglus ym mhob ymosodiad bron, maent yn edrych y byddant yn rhy gryf i Wrwguai er waethaf eu disgyblaeth amddiffyn eu hunain, a chyfraniad Luis Suarez yn y blaen. Fodd bynnag, bydd y golled sydd eithaf tebygol o orfod chwarae heb eu seren arall yn y llinell flaen , Edinson Cavani, oherwydd anaf, yn lleihau eu gobeithion o drechu'r Ffrancwyr dawnus.

Yna. Am saith o’r gloch, y gêm sy’n ymddangos fel gem y twrnamaint hyd yn hyn - Gwlad Belg yn erbyn Brasil.

Peidiwch â chael eich hudo gan y traddodiad o'r 'samba boys', er waethaf cynhwysiant Neymar, Wilian a Coutinho, na nid tîm o ddawnswyr gwerin egsotig ‘mo rhain ond tîm a all hefyd fod yn hollol weithrediadol a chlinigol eu dull. Os bydd angen cadw’r bel am gyfnodau hir i lesteirio’r gwrthwynebwyr, yna maent yn hollol alluog i gyflawni hyn. Wedi'r cwbl, maent wedi mynd deunaw gem erbyn hyn gan adael dim ond un gôl i mewn,

Ond, Gwlad Belg fydd y gwrthwynebwyr yfory. Tîm sydd gyda Romelu Lukaku ar dân, Kevin de Bryune yn rheoli rhediad y gêm wrth ochr Eden Hazard, ond gydag amddiffyn sydd yn dangos ansicrwydd o bryd i'w gilydd. Felly cyfle i Frasil ddangos eu bod hwythau, fel Ffrainc, yn gwella gyda phob gem. Neu a all Roberto Martinez wneud rhywbeth annisgwyl os fydd angen newid cwrs y gêm (rhywbeth nas gwelwyd ganddo yn ddigon aml yn ei gyfnod fel rheolwr ar Everton) a dod a buddugoliaeth i dîm sydd wedi llwyddo i swyno llawer hyd yn hyn.

Yna ddydd Sadwrn gêm sydd yn anodd ei darogan, Sweden yn erbyn Lloegr. Sweden gydag amddiffynfa hollol ddisgybledig wrth i'r ddau amddiffynnwr canol dynnu’r ddau gefnwr cefn i mewn, a chulhau'r bylchau o'u cwmpas, tîm sydd yn cadw i drefn anhyblyg 4-4-2 ac sydd ond wedi gweld Yr Almaen yn sgorio'n eu herbyn, yn wynebu Lloegr, sydd yn dibynnu ar allu Harry Kane ar y blaen, a heb fawr o greadigrwydd yn eu chwarae.

Enillodd Lloegr ar giciau o’r smotyn yn erbyn Colombia, a hwyrach mai dyna fydd tynged y gêm yma hefyd brynhawn yfory.

Yna, am saith Rwsia yn erbyn Croatia. Be a sut mae Rwsia yn parhau yn y gwpan, anodd credu, tîm diflas ac amddiffynnol sydd wedi synnu eu hunain, a’u cefnogwyr yn y broses, yn erbyn Croatia, sydd yn cynnwys Luca Modric yng nghanol y cae. Unig obaith Rwsia ydi cadw Modric yn dawel, os na, yna ta ta fydd hi.

Ar y llaw arall, mae gen i ryw theori gynllwyn fod pethau od yn digwydd, a bod yna rhyw ddirgel ymdrechion gan Mr Putin i roi help llaw i Rwsia tuag at gyrraedd y rownd derfynol, os nad i ennill y gystadleuaeth trwy ddylanwadu ar benderfynidau'r VAR, ac mai ‘Vladimir Always Right ydi diwedd y gân gyda'r dyfarnwyr yn pryderu am yr hunllef o dreulio gweddill o'u bywydau yn Siberia petai pethau'n mynd yn chwithig!

Gwyliwch y goliau, y penaltis, a'r troseddau a chadwch olwg fanwl ar sgrin deledu swyddogion y VAR sydd wedi eu cuddio mewn canolfan ddirgel rhywle yng nghanol Moscow! Yng nghrombil y Kremlin efallai, pwy a 诺yr?

Honiad anhygoel, ond unwaith eto, yn y Gwpan y Byd yma, mae unrhyw beth yn bosibl a gan amlaf yn digwydd!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Mae'n Haf o Hud ar Radio Cymru

Nesaf

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 9fed o Orffennad 2018