Main content

Mae'n Haf o Hud ar Radio Cymru

Newyddion

Mae'r cês yn llawn dillad nofio, a'r eli haul yn barod, achos mae 主播大秀 Radio Cymru a 主播大秀 Radio Cymru 2 yn mynd ar wyliau . Mae Haf 2018 yn mynd i fod yn un prysur i gyflwynwyr Radio Cymru, gan y byddan nhw'n teithio ar hyd a lled y wlad i gwrdd â chi y gwrandawyr yn rhai o wyliau diwylliannol gorau Cymru.

Mae'r daith yn cychwyn ar ddydd Sadwrn y 30ain o Fehefin yng Nghastell Caerdydd, lle bydd Caryl Parry Jones a Catrin Heledd yn cyflwyno o lwyfan 主播大秀 Radio Cymru yn Tafwyl. Mae'n si诺r y bydd Caryl yn mwynhau dawnsio i'w hoff gân hafaidd, Haul, gan Adwaith. Ar ddydd Sul, bydd Huw Stephens a Richard Rees yno yn croesawu Bryn Fôn a Candelas. Cofiwch gadw llygad am Lisa a Linda; bydd y ddwy yn crwydro o amgylch y castell ac yn darlledu eu rhaglen ‘Haf o Hud' yn fyw rhwng 2 a 5pm.

I'r gorllewin byddwn ni'n mynd y penwythnos wedyn, i draeth Llangrannog i ymweld â G诺yl Nôl a Mlân. Ar ôl gorffen coginio eu hoff fwyd barbeciw (byrgyrs dwbl a llwyth o gaws!), mi fydd Geth a Ger ar yr awyr yn fyw o'r Pentre Arms. Ifan Jones Evans a Dafydd Meredydd fydd yn cymryd yr awenau ar brynhawn dydd Sadwrn wrth i Mared Williams, Mei Gwynedd a Geraint Jarman ddiddanu'r dorf.

Caernarfon fydd y stop nesaf a Gwyl Arall, gan obeithio bydd yr haul yn gwenu ar ein cyflwynwyr, Aled Hughes a Lisa Gwilym. Bydd hi'n werth i chi godi'n fore, achos bydd Galwad Cynnar a Tudur yn darlledu yn fyw o Glwb Hwylio Caernarfon. Tybed a wnaiff Tudur bwrdd badlo draw i'r 诺yl o'i hoff draeth, Traeth Mawr Aberffraw?

Mi fyddwn ni'n gorffen lle gychwynnodd y daith, nôl yng Nghaerdydd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd criw Radio Cymru a Radio Cymru 2 yna drwy'r wythnos i gwrdd â chi'r Eisteddfodwyr a llongyfarch y cystadleuwyr dewr. Bydd hyn i gyd i'w glywed ar Radio Cymru drwy gydol yr wythnos. Ry' ni'n gwybod bod Caryl yn edrych ymlaen, gan ei bod hi'n ffanferth o'r cystadlu dawnsio disgo. Wyt ti wedi bod yn ymarfer dy symudiadau, Caryl?

Da ni'n barod i fynd – ydych chi?

Gobeithio eich bod chi, welwn ni chi yna!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cwpan Y Byd Rwsia, oddi ar y cae!

Nesaf

8 ola Cwpan Y Byd, Rwsia