Main content

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 9fed o Orffennad 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Dewi Llwyd - Gwyn Vaughan

fy mywyd i - my life
mi gollish fy llais - I lost my voice
lleisiau gwirion - silly voices
teimlo i'r byw - felt deeply
yn rhyfedd iawn - strangely enough
hyn a'r llall - this and that
deutha fi - dweud wrtha fi
paid â bod yn wirion - don't be silly
darganfod - to discover
beth bynnag dw i isio - whatever I want

Mae'r actor Gwyn Vaughan yn chwarae rhan Arthur yn y gyfres deledu Rownd a Rownd ers dros 10 mlynedd. Roedd o hefyd yn un o'r pedwar oedd yn canu efo'r grwp Hapnod yn yr wythdegau. Erbyn hyn mae o'n perfformio caneuon opera yn rheolaidd. Dyma fo, ar ddiwrnod ei ben blwydd yn 60 oed, yn dweud wrth Dewi Llwyd sut digwyddodd hynny...

Rhaglen Aled Hughes - Cwn Defaid Cymreig

Cadeirydd - Chaiman
Cymdeithas Cwn Defaid Cymreig - The Welsh Sheepdog Society
ast - bitch
dynes - woman
sefyll rhyngthyn nhw - standing between them
gwarchod - to guard
nam bach - a small injury
difyr - interesting
ffyddlondeb naturiol - natural faithfulness
hunaniaeth - identity

Penblwydd hapus arbennig felly i Gwyn Vaughan. Mae yna berthynas arbennig iawn rhwng ci defiad a'i feistr neu feistres, yn ôl Dafydd Gwyndaf Cadeirydd Cymdeithas Cwn Defaid Cymreig. Roedd gan Dafydd cwpwl o staeon diddorol i'w dweud wrth Aled Hughes i brofi'r pwynt...

Bore Cothi - Cyfeilyddion

Cyfeilyddion - Accompanists
ymarfer - rehearsing
ar goll - missing
wneud e lan - making it up
deuawd - duet
ail-adrodd - repeat
sefyllfa - situation
sdim ots da fi - I don't care
am eiliad bach - for a second
y gynulleidfa - the audience

Ffrind gorau dyn - ambell i stori yn fan'na am y cwn defaid Cymreig. Mae yna gyfres reolaidd am Gyfeilyddion ar Bore Cothi, a'r wythnos diwetha y cyfeilydd Caradog Williams oedd yn cadw cwmni i Shân. Oes yna unrhyw broblemau wedi codi pan oedd o'n cyfeilio? Dyma Caradog yn sôn am un neu ddau o sefyllfaoedd digon anodd ddigwyddodd yn ystod ei yrfa...

Bore Cothi - Y Gwasanaeth Iechyd

Y Gwasanaeth Iechyd - The Health Service
deugain mlynedd - 40years
hyfforddiant cyffredinol - general traing
brat bach - a small apron
croes goch - red cross
y cychwyn - the start
yr elltydd - the hills
offerynau - equipment
bydwraig - midwife
tystysgrif - certificate

... a chwarae têg i Only Men Aloud am gario mlaen fel tasai dim wedi digwydd ynde? I ddathlu 70 mlynedd o’r Gwasanaeth Iechyd buodd yna nifer o eitemau arbennig ar Radio Cymru wythnos yma. Roedd un ohonyn nhw ar raglen Bore Cothi ddydd Llun. Dyma i chi ran o sgwrs gan Gwenno Miller oedd yn arfer gweithio fel nyrs, lle mae hi'n cofio am yr adeg pan oed hi'n gweithio yn ei swydd gyntaf fel nyrs gymunedol yng Nghaernarfon ac yn mynd o gwmpas ar ei beic...

Rhaglen Geraint Lloyd - Dafydd Povey

nionod - onions
llu o wobrau - loads of prizes
cefnogi - supporting
cyfrinach - a secret
y cynnyrch gorau - the best product
cig eidion - beef
wyn - lambs
tafod - tongue
rysáit - recipe
ar fy marw - on my life

Gwenno Miller yn fan'na yn mynd â ni yn ôl i gyfnod cynnar y Gwasanaeth Iechyd. Mae busnes cigydd Dafydd Povey o Chwilog ger Pwllheli yn rhannu penblwydd efo'r gwasanaeth iechyd, ac mae ei fusnes yn un llwyddiannus iawn. Buodd o'n egluro wrth Geraint Lloyd pam bod y busnes wedi gwneud cystal dros y blynyddoedd...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

8 ola Cwpan Y Byd, Rwsia

Nesaf

Ffeinal Cwpan Y Byd 2018 - Ffrainc v Croatia