Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Cofio - Burton a Liz
newyddiaduriaeth - journalism
cyfweliad - interview
cyfle - opportumity
ail-briodi - to remarry
o'n i'n digwydd bod - I happened to be
gohebydd - correspondent
cipio - to snatch
ro'n i wedi cael fy nallu - I was dazzked
yn anfodlon - unhappy
rhy dywyll - too dark
Newyddiaduraeth oedd thema Cofio gyda John Hardy wythnos diwetha. Fel arfer mae 'scoop' i newyddiadurwr yn golygu cyfweliad gyda rhywun enwog, a phan gafodd Beti George y cyfle i holi Richard Burton ar gyfer rhaglen deledu roedd hi meddwl ei bod wedi cael 'scoop' arbennig iawn. Yn anffodus roedd yna un broblem fach.
Rhaglen Sioeau Cerdd - Jada Davies
Beti druan - poor Beti
sioeau cerdd - musicals
gwesteion - guests
y gerddoriaeth - the music
deuawd - duet
Yr Wyl Gedd dant - The Cerdd Dant Festival
brolio - to boast
dawnswraig a hanner - a heck of a dancer
dawnsio gwerin - folk dancing
ychwanegu - to add
Mae hi'n hawdd deall pam roedd Beti George mor siomedig on'd ydy? Beti druan yn meddwl ei bod wedi cael 'scoop' arbennig iawn.
Bob wythnos mae Steffan Rhys Hughes yn mynd â ni ar daith i fyd y sioeau cerdd ac un o westeion Steffan Rhys wythnos diewtha oedd Jade Davies.
Roedd Jade wedi bod yn rhan o'r sioe Les Mis yn Llundain am ddwy flynedd. Ond mi ddechreuodd Steffan drwy ofyn iddi hi oedd hi'n mynd yn bôrd o berfformio yr un sioe drwy'r amser.
Rhaglen Aled Hughes - Gwyddau
gwyddau - geese
nythu - to nest
ucheldir - highlands
gaeafu - to winter
troedfeddi - feet (measurement)
mae hynny'n rhyfeddol - that's amazing
gwaed - blood
mudo - to migrate
osgoi adar ysgyflaethus - avoiding birds of prey
eryr aur - golden eagle
Jade Davies oedd honna yn sôn am ei gwaith yn perfformio ar Les Mis.
Ar raglen Aled Hughes, gwyddau oedd yn cael sylw! Nid unrhyw wyddau cofiwch chi, ond math arbennig o wyddau sy'n gallu hedfan yn uchel iawn iawn. Dyma Iolo Williams yn dweud yr hanes.
Rhaglen Bore Cothi - Treorci
rhestr fer - short list
chwyddwydr - microscope
Cystadleuaeth Brydeinig - British competition
o'n safbwynt ni - from our point of view
lle cymdeithadol - a social place
mam-gu - nain
yn ddiweddarach - later on
yn fywiog - lively
bryd hynny - at that time
chwyldro - revolution
Hanes gwyddau arbennig iawn yn fan'na gan Iolo Williams ar raglen Aled Hughes.
Mae Stryd Fawr Treorci wedi cyrraedd rhestr fer The Great British High Street.
Cafodd Branwen Cennard ei magu yn yr ardal a dyma hi'n cofio Stryd Fawr Treorci pan oedd hi'n ifanc.
Rhaglen Post Prynhawn - tatws
pencampwr - champion
casgliad o datws - a collection of potatoes
arddangos - to exhibit
beirniaid - adjudicators
ansawdd y croen - the quality of the skin
pridd - soil
cyfrinach - secret
yn benodol - specifically
cyflwyno sawl platiad - presenting several plates
hadau - seeds
Pob lwc i'r tair Stryd Fawr o Gymru sydd yn y gystadleuaeth ynde? Desiree, Maris Piper a Russian banana -maen nhw i gyd yn wahanol fathau o datws.
Ac mae Owain Llywelyn Roberts o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn nabod ei datws yn dda iawn.
Owain ydy pencampwr Prydain am ei gasgliad o datws.
Ar raglen y Post Prynhawn buodd Owain yn egluro wrth Nia Tomos beth oedd yn rhaid iddo wneud i fod yn Bencampwr Tatws Prydain.
Rhaglen Georgia Ruth - Seiriol Davies
parti cyd-adrodd - recitation party
Danedd Babis - Babies Teeth
y cysylltiad - the connection
canolbwyntio - concentrating
can gwaith gwell - a hundred times better
celf - art
cerflyniau - sculptures
ymateb - response
dyfeisio - to devise
byrfyfyr - impromptu
Hanes tatws Owain Llywelyn Roberts yn fan'na ar Post Prynhawn. Ar raglen Hwyrnos Georgia Ruth, y perfformiwr Seiriol Davies oedd ei gwestai arbennig.
Dyma fo'n egluro sut dechreuodd y diddordeb mewn perfformio.