Main content

Blerwch yn y Bernab茅u

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wythnos agoriadol grwpiau Cynghrair Ewrop a chanlyniadau diddorol ar draws y cyfandir

O bosib, y canlyniad mwyaf syfrdanol oedd hwnnw ym Mharis ble llwyddodd PSG i chwalu Real Madrid o dair gôl i ddim.

Yma yng Nghymru rydym yn ymwybodol iawn o’r helyntion ar y Bernabeu ym Madrid dros yr haf wrth i ni ystyried a oedd Gareth Bale ar fin gadael am Cheina neu ddim.
Ond aros ble y mae oedd ffawd y Cymro, ac yn wir mae wedi dangos rhyw agwedd sy’n efelychu -' Mi ddangosaf i chi pa mor dda ydw i', i'w reolwr Zinedine Zidane , a oedd yn ôl bron pob adroddiad yn awyddus i gael gwared â’r Cymro. Fel mae pethau ar hyn o bryd efallai taw Zidane ei hun fydd yn mynd gynta!

Gwir yr honiad yna neu ddim, mae Bale wedi llwyddo i roi'r trafferthion y tu cefn iddo, ac roedd y gôl a sgoriodd yn erbyn PSG nos Fercher yn berl, cystal ag unrhyw un a welwyd ganddo dros y blynyddoedd . Fodd bynnag fe darodd y bel ei fraich cyn iddo sgorio, ac yn ôl natur y rheol presennol, roedd hi'n drosedd, damweiniol neu ddim - felly dim gol y tymor hyd yn hyn i'r Cymro!

Ar wahân i hyn, doedd yna fawr o lewyrch na dyfeisgarwch yn chwarae Real a phwy a 诺yr petai’r gôl yna wedi’w chaniatáu y byddai pethau wedi troi allan yn wahanol?

Cafwyd beirniadaeth lem am berfformiad Real Madrid a’r cyhuddiad mwyaf ydi nad oes yna fawr o drefn na phatrwm disgybledig yn eu chwarae - cyhuddiad sy’n pwyntio bys at y rheolwr, Zidane gan honni mai hwyluso timau i chwarae gyda chwaraewyr galluog yw ei allu yn hytrach na ysbrydoli a threfnu timau i chwarae’n effeithiol ar sail patrwm disgybliedig..

Os yw amynedd y Madrilenos yn pyllu, neu i fod yn fwy cywir, os yw amynedd y Llywydd, Florentino Perez ar fin rhedeg allan be’ wedyn?

Angen trefn, patrwm a disgyblaeth ar y cae?

Mae’r enw eisoes wedi cael ei grybwyll- sef un sydd yn enwog am drefnu a mynnu disgyblaeth - Jose Mourinho.

Y son ydi fod gan Zidane fis i roi trefn ar bethau - ac yna?

Pwy a 诺yr? Mourinho yn ol yn y Bernabeu? cawn weld!

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Be nesa ar y Cae Ras?