Main content

T卯m Hyfforddi Wrecsam

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn y dyddiau pan oeddwn yn hyfforddi yn yr Unol Daleithiau, roedd pob un ohonom ni, fel hyfforddwyr, yn derbyn cwrs sefydlu cyn cychwyn ar ein gwaith. Un o’r agweddau a gaiff ei drafod oedd y gwahaniaeth rhwng rheolwr ac arweinydd o fewn sefydliadau.

Y farn a ddaeth drosodd oedd bod rheolwr yn llwyddo drwy ymdrechion pobl eraill, ac mae un o swyddi'r rheolwr oedd sicrhau fod eu dîm o weithwyr (neu hyfforddwyr yn y cyd-destun yma) yn cydweithio gyda’i gilydd yn llwyddiannus ac effeithiol tuag at gyrraedd yr un nod.

Yn ogystal, fe nodwyd y gellir cael arweinwyr mewn pob haen o gyfundrefn (neu o fewn clwb pêl droed yn y cyd-destun yma) a’i bod yn bwysig fod rheolwyr yn barod i wrando ar eu syniadau ac ystyried eu cyfraniadau.

Yn dilyn ymadawiad sydyn Sam Ricketts o Wrecsam i'r Amwythig, beth bynnag fo’ch barn am hyn, mae ei dim o hyfforddwyr yn parhau ar y Cae Ras ac yn ymddangos fel petaent am gael y cynnig i barhau yn eu swyddi o hyfforddi'r tîm i'r dyfodol.

Ymddengys fod yr is reolwr, Graham Barrow wedi cael estyniad, neu welliant i'w gytundeb, er nad yw yn ôl pob son, yn awyddus i reoli'r tîm.

O ystyried rôl a dylanwad y tîm hyfforddi, does gen i ddim amheuaeth fod Sam Ricketts wedi llwyddo dros y saith mis a fu ar y Cae Ras, i godi Wrecsam i fod yn dîm sydd â hygrededd ar gyfer ceisio ennill dyrchafiad, a hynny drwy ymdrechion ei hyfforddwyr, yn ogystal â thrwy ei gyfraniad personol yntau hefyd).

Yn sgil hyn, fe fydd y penodiad o reolwr newydd ar y clwb yn un holl bwysig, ac yn un ble y gall gyd weithio a’r tîm hyfforddi llwyddiannus sydd yno yn barod.

Nid dyma’r drefn arferol yn y byd pêl droed.

Ystyriwch sefyllfa Mark Hughes sydd newydd golli ei swydd yn Southampton. Siawns na fydd y Cymro yn si诺r o gael swydd newydd yn rhywle cyn hir, ac fe allwch fod yn eithaf sicr y bydd ei dîm o hyfforddwyr, Eddie Niedzwiecki a Mark Bowen yn si诺r o’i ddilyn i'r clwb newydd.

Felly a ddigwyddodd yn Old Trafirfd ar ôl ymddeoliad Syr Alex Ferguson.
Roedd y tîm hyfforddi a lwyddodd i gyfrannu cymaint iddo, ar gael i David Moyes, ond nid felly y bu pethau, ac ni gadwyd y rhai a gyfrannodd cymaint i lwyddiant y clwb, wrth i dîm hyfforddi newydd gyrraedd gyda Moyes.

Yn y ddwy sefyllfa yma, doedd dim llwyddiant na chwaith gynllun dilyniant amlwg yn bodoli.
Ond, wrth edrych ar sefyllfa Wrecsam fel y mae ar hyn o bryd, mae'r clwb wedi nodi cyfraniad y tîm hyfforddi, ac yn ymddangos eu bod yn cael amlwg yng nghynlluniau dyfodol y clwb o dan bwy bynnag fydd y rheolwr newydd.

Bydd hi’n ddiddorol gweld sut y bydd pethau yn datblygu ar y Cae Ras a pharodrwydd y rheolwr newydd i gyd weithio gyda thîm profiadol a deallus o hyfforddwyr sy'n adnabod cryfderau a gwendidau'r tîm, ac sydd wedi bod yn rhan allweddol o lwyddiant y clwb y tymor yma .

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Croeso i d卯m cenedlaethol Kernow

Nesaf