Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Hydref 1af - 6ed 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Aled Hughes - Baledi

cyfansoddi - to compose
yn llythrennol - literally
cynulleidfa barod - captive audience
yn ymgasglu - to congregate
pob pwnc dan haul - every subject under the sun
rhyfeloedd - wars
lliogydd - floods
llongddrylliadau - shipwrecks
moesol - moral
crefydd a dirwest - religion and temperance

"... ychydig o hanes y baledi gan Arfon Gwilym, mewn sgwrs efo Aled Hughes. Fel cawn ni glywed, roedd y baledi'n boblogaidd iawn ers talwm yn enewdig mewn trefi mawr ac mewn ffair neu farchnad.Ond beth yn union oedd pwrpas y baledi. Dyma Arfon Gwilym yn esbonio..."

Rhaglen Aled Hughes - Lloyd Masey

disgwyl ymlaen - edrych ymlaen
her - challenge
mam-gu - nain
yn gymharol bell - relatively far
ffurflen gais - application form
tu hwnt - beyond
clyweliad gyda'r cynhyrchwyr - audition with the producers
beirniaid - judges
cael ffydd yno fi - have faith in me
ymateb - response

"...a dyna ni, y baledi oedd papurau newydd y gorffennol - yn rhoi hanes pob sgandal mae'n debyg! Mae Lloyd Masey o Gwm Rhondda yn cystadlu yn yr X Factor ar hyn o bryd. Cafodd Aled Hughes air efo fo ddydd Iau i weld sut fath o brofiad oedd cymryd rhan yn y rhaglen boblogaidd hon..."

Bore Cothi - Cadair Osian

pleidleisio - to vote
y fraint - the privilege
saer - carpenter
anarferol - unusual
dyluniad - design
yn drawiadol iawn - very striking
cynrychioli annwfn - representing hell
Penbedw - Birkenhead
dyrchafu tua'r goleuni - ascending towards the light
adlewyrchu'r themâu - reflecting the themes

"Pob lwc i Lloyd yn y sioe ynde? A dw i'n siwr basai fo'n falch iawn o'ch cefnogaeth tasech chi'n cael cyfle i bleidleisio drosto fo rywdro. Osian Rhys Jones enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a fo hefyd ydy bardd y mis Radio Cymru ar gyfer mis Hydref. Roedd Shan yn teimlo'n fusneslyd iawn ddydd Llun ac aeth hi draw i dy Osian i gael gweld y gadair dros ei hun..."

Rhaglen Geraint Lloyd - Vilna Thomas

fe dawelodd - it became quieter
traffordd - motorway
lan sha Abertawe - Swansea way
pan o'n i'n groten - pan o'n i'n ferch fach
yn gyfarwydd â - familiar with
pwll glo - coal mine
ffili - methu
gwaelod y tyle - bottom of the hill
wedi cyfarwyddo - got used to
hewl - heol/ffordd

"Osain Rhys Jones yn fan'na yn disgrifio'r gadair enillodd o yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae Vilna Thomas yn byw ym mhentref Llanddarog ger Caerfyrddin, ers iddi hi fod yn blentyn bach. Mi fuodd hi'n sôn wrth Geraint Lloyd nos Fawrth am sut mae'r pentref wedi newid dros y blynyddoedd. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyrraedd Rwsia a Chwpan y Byd 2018

Nesaf

Cynghrair Cenhedloedd UEFA