Main content

Cynghrair Cenhedloedd UEFA

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A gwedi elwch, tawelwch fu! Ond ddim am hir.

A pwy oedd eisiau mynd i Rwsia fodd bynnag , i gael eu curo’n ddidrugaredd gan griw o ultras sy’n byw mewn rhyw goedwig gudd ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt er mwyn dal dial a damnedigaeth ar gefnogwyr y wlad a chwipiodd comrades côr y Kremlin o dair gôl i ddim yn Nhoulouse y llynedd?

“Don’t take me home” yn wir! Dwi ddim isho mynd i Rwsia fwy tebyg!

Ond mae’na gysur!

A dyrchafwn ein llygaid i’r cyfandir, o’r lle y daw ein cymorth. Ein cymorth a ddaw oddi wrth UEFA, yr hwn a sefydlodd gystadleuaeth Cwpan y Cenhedloedd!

Cyhoeddwyd trefn y gystadleuaeth ryngwladol newydd yr wythnos yma, a chymhleth iawn ydi'r drefn.

Bydd yna bum deg pump o wledydd yn cael eu dosbarthu i bedwar gr诺p yn ôl eu detholiad drwy drefn mesur FIFA.

Bwriad y gystadleuaeth ydi cynnig rhywbeth amgen na gemau cyfeillgar er mwyn creu mwy o gemau cystadleuol, a thrwy hynny anelu at fwy o gemau ystyrlon a fyddai'n cyfrannu at godi safonau a rhoi pwrpas i'r gemau.

Bydd rhaid i Gymru fodloni ar gael eu cynnwys yn yr ail garfan - hyn oherwydd y golled nos Lun yn erbyn Iwerddon (fe fyddai buddugoliaeth wedi sicrhau ein lle fel un o'r prif ddetholion ac yn y brif gynghrair).

Bydd yr enwau yngl欧n â phwy sydd yn wynebu pwy yn cael eu tynnu allan o'r het yn Lausanne ,y Swistir, ym mis Ionawr, yna'r cystadlu yn cael ei gynnal rhwng Medi a Thachwedd y flwyddyn nesaf. Wedi hyn a thrwy drefn a fydd yn cynnwys dyrchafiad a gostyngiad rhwng y cynghreiriau, bydd yna ail gystadlu yn parhau ym mis Medi 2020.

Bydd hyn i gyd yn arwain at ffeinals rhwng y timau a fydd yn gorffen ar frig y pedwar gr诺p ym Mehefin 2019 a bydd yna le hefyd i dimau o’r gystadleuaeth yma gymhwyso ar gyfer ffeinals Ewro 2020 y flwyddyn ddilynol.

Mae’r drefn gymhleth, ond y timau a allai Cymru ei wynebu yng Nghynghrair B ydi unrhyw un o Awstria, Rwsia, Slofacia, Sweden, Wcráin, Gweriniaeth Iwerddon, Bosnia-Herzegofina, Gogledd Iwerddon, Denmarc, Y Weriniaeth Tsiec a Thwrci.

Hwyrach y bydd yna drip i Rwsia wedi’r cwbl! Neu i Ddulyn!

Well imi fochel yn y goedwig gerllaw a byw ar ddeiet o bice ar y maen, cawl cennin a chwrw’r bragdy lleol am rhyw ddwy flynedd!!!!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf