Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Ebrill 18 - 22, 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Stiwdio - Shakespeare

hyfforddi lleisiau - voice coaching
llafar cyfoes - modern speech
teimladau - feelings
mesur pum ban - pentameter
colli ei gof - lost his memory
yn wallgo - mad
llinell - line
amlwg - obvious
pwysleisio - to emphasise
cyfarwyddwr - director

"...bythefnos yn ôl roedd hi’n bedwar can mlynedd ers marwolaeth Shakespeare, ac ar Stiwdio buon nhw yn trafod perfformio ei ddramâu. Er bod llawer iawn o gwmnïau yn perfformio dramâu Shakespeare, mae’n anodd meddwl amdano heb feddwl hefyd am yr RSC. Mae’r cwmni yn perfformio llawer iawn o’i ddramâu bob blwyddyn, yn Stratford a Llundain fel arfer. Mae Nia Lynn yn gweithio gyda’r RSC yn hyfforddi lleisiau'r actorion ac mi fuodd hi’n egluro mwy ynglyn â beth yn union mae hi'n ei wneud efo'r cwmni... "

Aled Hughes - Game of Thrones

cyfres - series
dreigiau - dragons
yn ôl o farw'n fyw - resurrected
lle ffug - an unreal place
canolbwynt - focal point
barusrwydd - greed
cefndiroedd - backgrounds
ffasiwn beth - such a thing
milwrol - military
arwyr - heroes

"...a dan ni'n aros ym myd y ddrama nawr, ond drama dipyn yn wahanol i ddramâu Shakespeare - 'Game of Thrones'. Roedd chweched cyfres y ddrama yn cychwyn yr wythnos hon ac ar raglen Aled Hughes fore Gwener mi roedd yna edrych ymlaen mawr at y gyfres newydd. Geraint Iwan oedd gwestai Aled ac mi oedd y ddau yn trio egluro pa fath o gyfres ydy 'Game of Thrones'."

Straeon Bob Lliw - Y Wers - Mamgu neu Nain

wyresau - granddaughters
ambell i ffrog - an occasional frock
del - pretty
ddim mor ymwybodol - not as aware
cyfnither - cousin (female)
llwyth o ddilad - loads of clothes
ail-gylchu - recycle
yr adeg (hyn)'ny - at that time
llachar - bright
pa gyfnod - what period

"Geraint Iwan ac Aled Hughes yn fan'na yn trafod cyfres newydd 'Game of Thrones'. Mae yna ddau air am 'grandmother yn Gymraeg - 'mam-gu' yn y de a 'nain' yn y gogledd, ac roedd rhaglen Y Wers yn y gyfres Straeon Bob Lliw, i gyd am y bobl arbennig yma. Yn ystod y rhaglen roedd chwech o wyresau ifanc yn holi eu nain, neu fam-gu, am eu hanes personol nhw. Dyma i chi Gwenan i ddechrau yn holi ei nain am y gwahanol ffasiynau oedd i'w cael yn ystod ei bywyd... "

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Lleoliadau Ffeinalau Cwpan Cymru