Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Ebrill 24-29

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Dei Tomos - Martin Davis

cysylltiadau - cynnections
marwolaeth y dramodydd - the playwright's death
pennaeth adran - head of department
cymeradwyo - to recommend
fflyd (idiom) - a great many (lit:fleet)
triniaeth - treatment
cyhyr - muscle
ymgynull - to congregate
meddwl y byd o - to think the world of
achlysur - occasion

"...cysylltiadau Cymreig Shakespeare oedd yn cael sylw gan Dei Tomos ar ei raglen nos Sul, gan ei bod hi’n bedwar can mlynedd ers marwolaeth y dramodydd. Dyma i chi flas ar sgwrs Dei efo Martin Davis oedd â chysylltiad ag actorion y Royal Shakespeare Company yn Stratford, ond nid y cysylltiad basech chi'n ei ddisgwyl falle... "

Rhaglen Huw Stephens - Prince

anhygoel - incredible
ymddwyn - to behave
ar wahân i - apart from
lleisiau - voices
cystadleuaeth - competition
cymhariaeth - comparison
creu - to create
cyd-ganu - to sing with
offeryn - instrument
hunan gynhaliol - self sufficient

"Pedwar can mlynedd felly ers marwolaeth Shakespeare, ond yr wythnos diwetha mi gollwyd un o enwau mawr y byd cerddorol pan fuodd Prince farw yn bumpdeg saith mlwydd oed. Ar raglen Huw Stephens nos Iau cafodd Huw sgwrs efo un o ffans mawr Prince sef Eilir Pierce. Sut oedd o'n teimlo tybed ar ôl clywed y newyddion trist...?"

Rhaglen Aled Hughes - Himyrs

dynwaredwr - impressionist
dwfn - deep
y gwaelodion - the lower register
trigo - byw
ymdrechion - attempts
hogyn tlawd - a poor boy
sy'n (fy) nharo fi - which strikes me
toes - dough
cul - narrow
llifo - to flow

"Huw Stephens ac Eilir Pierce oedd rheina yn trafod cerddoriaeth Prince. Fel dwedodd Eilir yn y clip, roedd gan Prince lais anghygoel ond bore Gwener diwetha glyon ni lawer iawn o leisiau anhygoel, a lleisiau Himyrs oedden nhw i gyd. Dynwaredwr ydy Emyr Himyrs Roberts, neu Himyrs fel mae llawer yn ei nabod ac mae ganddo fo sioe newydd sydd yn mynd ar daith cyn bo hir. Roedd Aled eisiau gwybod sut oedd y busnes dynwared yma'n gweithio..."

Post Cyntaf - Ghazalaw

enwebu - to nominate
gwobr - prize
blaenllaw - prominent
amrywiol - variety
argraff - impression
perfformiad ysgubol - a sweeping prformance
lawn haeddu - fuly deserved
hyrwyddo - to promote
annisgwyl ac anghyffredin - unexpected and unusual
tu cefn i ni - backing us

"Wel chwarae teg, mae Aled yn ddipyn o ddynwaredwr ei hun yntydy? Ar y Post Cyntaf fore Iau cafodd Kate Crockett sgwrs efo Gwyneth Glyn ynglyn â'i pherfformiad gyda'r grwp Ghazalaw yng ngwobrau Gwerin Radio 2 nos Fercher. Cafodd y grwp eu henwebu ar gyfer gwobr y gân werin orau. Dyma Gwyneth yn són am y noson ac yn esbonio sut daeth hi i gysylltiad efo'r grwp o India..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Llwyddiant Llandudno