Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 10fed o Hydref 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Ryan Jones

Cwpan Rygbi'r Byd - Rugby World Cup
prif gogydd - head chef
Undeb Rygbi Cymru - Welsh Rugby Union
bwydydd - foods
chwaraewyr - players
gwahanol wledydd - different countries

Gan fod Cwpan Rygbi'r Byd ymlaen yn Siapan ar hyn o bryd, cafodd Rhys ap William sgwrs gyda phrif gogydd Undeb Rygbi Cymru, Ryan Jones.

Pa fath o fwyd mae tîm Cymru'n ei licio tybed?

Trystan ac Emma - Cwrw

yn deillio'n ôl - harks back
Cyn Crist - Before Christ
ogof - cave
wedi darganfod - had discovered
Yr Eifftiaid - The Egyptians
yr ochr draw - the other side
gafr enfawr - a huge goat
ei godro hi - to milk her
am byth bythoedd - for ever
llefrith - llaeth

Sgwrs ar raglen Aled Hughes efo prif gogydd Undeb Rygbi Cymru a phob lwc i Gymru ynde yn eu gêmau'r wythnos nesa.

Dw i'n siwr bod llawer o gwrw'n cael ei yfed yn Siapan yn ystod y gystadleuaeth ac mi roedd hi'n ddiwrnod dathlu cwrw y penwythnos diwetha.

Dyma i chi Emma'n rhoi gwers fach i Trystan am hanes y ddiod.

Cofio - Murray The Hump

gwahardd - to prohibit
anghyfreithlon - illegal
aelwyd Cymraeg ei hiaith - a Welsh speaking home
dipyn o feddwyn - a bit of a drunkard
gwarchod eu milltir sgwâr - looking after their turf
dylanwadau gwaetha - the worst influences
wedi herwgipio - had hijacked
saethu - to shoot
o fewn dim - in an instance
cydnabod - to acknowledge

Hanes cwrw yn fanna ar raglen Trystan ac Emma. Yn 1920 cafodd cwrw a phob diod alcoholaidd arall ei wahardd yng Ngogledd America.

Mi wnaeth y Maffia lawer o arian yn y cyfnod yma drwy werthu alcohol yn anghyfreithlon.

Un o'r bobl bwysica yn y Maffia yr adeg honno oedd Murray the Hump ac mae Dafydd Wigley yn perthyn iddo fo.

Dyma i chi glip o'r archif ble mae Dafydd Wigley'n rhoi ychydig o hanes Llewelyn Morris Humphreys, neu Murray the Hump.

Beti a'i Phobol - Iwcs

dal dwylo - holding hands
ymdrechu - to make an effort
fues i erioed - I was never
anhygoel - incredible
gwitsiad - aros
profiad - experience

Hanes Murray the Hump yn fan'na ar raglen Cofio, a chofio ei blentyndod yn Nhrawsfynydd oedd Iwan Roberts yn ei sgwrs gyda Beti George.

Mae Iwan yn cael ei nabod hefyd fel 'Iwcs' ac roedd yn rhan o'r ddeuawd boblogaidd Iwcs a Doyle oedd yn canu yn y nawdegau.

Dyma Iwcs yn cofio Nadolig ei blentyndod.


Post Cyntaf - Dilys Ann Roberts

trawiad ar y galon - heart attack
gwasgfa ar hyd fy mrest - a tightness across my chest
digwydd bod - as it happened
egluro'r sefyllfa - to explain the situation
triniaeth - treatment
gwythiennau - veins
i ddod drosto fo - to get over it
erbyn hyn - by now
ymarfer corff - physical exercise
arbenigwr - specialist

Hanes Nadolig teulu Iwan Roberts yn Nhrawsfynydd yn fan'na ar Beti a'i Phobl.

Ar y Post Cynta ddydd Mawrth glywon ni am brofiad Dilys Ann Roberts gafodd drawiad ar y galonyn ddiweddar.

Dyma hi'n sôn wrth Merfyn Davies am sut wnaeth hi ddarganfod bod ganddi broblem gyda'i chalon.

Rhaglen Aled Hughes - Gemau bwrdd

gêmau bwrdd - board games
adfywiad - a revival
teimlo'n euog - feeling guilty
pres - arian
deugain o weithiau - 40 times
hyd yn oed - even
pererindod - a pilgimage
ar lafar - orally

Y Post Cynta yn fan'na yn holi a oedd merched yn cael yr un chwarae teg â dynion ym maes gofal y galon, ac yn rhannu profiadau Dilys Ann Roberts gyda ni.

Yn ôl y newyddion yr wythnos hon mae chwarae gêmau bwrdd wedi gweld adfywiad mawr yn ystod y blynyddoedd diwetha ac mae'n dal i dyfu.

Mae gan Peredur Glyn dipyn o obsesiwn gyda'r gêmau hyn fel clywon ni ar raglen Aled Hughes.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cerddi'r Cofi Armi - Barddoniaeth a Phel-droed

Nesaf

Gemau Cymru - Rowndiau Rhagbrofol yr Ewros