Main content

Cerddi'r Cofi Armi - Barddoniaeth a Phel-droed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Rhoddwyd cryn sylw i hybu barddoniaeth yr wythnos hon, gyda dydd Iau diwetha’ yn cael ei bennu fel Diwrnod Barddoniaeth Genedlaethol ac yn sgil hyn, mae’n amserol dod ac ymdrechion Cymru i hybu barddoniaeth yn ein mysg, i sylw.

Mae mudiad Llenyddiaeth Cymru eisoes wedi arwain ar wahanol brosiectau sy’n ymwneud â barddoniaeth a phêl droed, gan sbarduno nifer o bobl ifanc ledled y wlad i ddatblygu eu medrau creadigol ysgrifenedig yn hynod effeithiol.

Er enghraifft, bu prosiect llwyddiannus rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chlwb Pêl droed Dinas Caerdydd a gafodd ei ysbrydoli gan atgofion Roald Dahl o ymweld â’r clwb pan yn ifanc, a thrwy ddefnyddio chwaraeon i ennyn diddordeb, fe lwyddwyd i gynhyrchu llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol o safon uchel.

Yn ogystal cafwyd prosiect yn y gorffennol drwy gydweithio, eto gyda chlwb Caerdydd, i roi cyfle i ferched o ddwy ysgol gynradd o’r ddinas i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi pêl droed ynghyd â sesiynau ysgrifennu barddoniaeth (hyn i gyd fynd â ffeinal cynghrair pencampwyr merched y llynedd).

Yn fwy diweddar, mae yna nifer o gerddi a ysgrifennwyd gan bobol ifanc o Gaernarfon wedi eu harddangos o gwmpas stadiwm yr Ofal yng Nghaernarfon, sef cartref clwb pêl droed y dref, ac maent yno i unrhyw un sy’n ymweld â gem ar yr Ofal i'w darllen a’u gwerthfawrogi.

Barddoniaeth gan ddisgyblion ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon ydi'r rhain , sy’n dangos yr hyn sy’n bosibl drwy gyfuno medrau creadigol ysgrifenedig disgyblion ifanc â'u diddordebau o fewn y byd pêl droed. Mae’r cerddi yn gynnyrch gweithdai barddoniaeth gyda naw o hogiau Blwyddyn 8 Ysgol Syr Hugh Owen dan ofal y Prifeirdd Ifor ap Glyn a Rhys Iorwerth. Mae’r bechgyn yn rhan o gynllunTRAC 11-24 Gwynedd, prosiect i gefnogi pobl ifanc sydd mewn peryg o ymbellhau o addysg, gan roi profiadau cadarnhaol iddynt. Cynhaliwyd y prosiect mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru, TRAC Gwynedd a Cics Cymru, cynllun gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru i annog pobl ifanc i wneud rhagor o chwaraeon.

Tynnwyd fy sylw at y gwaith yma ar wefan gymdeithasol yr wythnos yma, gyda chlwb Caernarfon yn canmol yr ymroddiad a'r deilliannau llenyddol.

Mae yna lawer o ffyrdd arloesol ac effeithiol y gall clwb pêl droed gyd weithio gyda'r gymuned, ac mae'r torfeydd mae’r Cofis yn ei ddenu i’w gemau yn dystiolaeth o effeithiolrwydd y clwb o ymestyn allan, a chynnwys yr ardal, eu cymdogion a’u cefnogwyr yn eu hymdrechion i fagu diddordeb a safon uchel a llwyddiannus o bêl droed.

Enghraifft effeithiol y gellir ei mabwysiadu a'i defnyddio yn llwyddiannus i sbarduno clybiau pêl droed ar draws Cymru i ddenu mwy o gefnogaeth leol i bêl droed ar lawrgwlad.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf