Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Aled Hughes - Gwenllian
Tywysoges - Princess
adnabyddus - famous
arwres - heroine
fe frwydodd - she fought
rhoi genedigaeth - to give birth
bygythiad anferthol - a huge threat
fe'i chipwyd hi - she was captured
mae'n bur debyg - it's highly likely
mewn lleiandy - in a convent
ei threftadaeth - her heritage
...ychydig o hanes dwy Gwenllian. Ar Fehefin 12ed yn 1282 cafodd y Dywysoges Gwenllian - tywysoges ola Cymru - ei geni. Yn fuan wedyn cafodd ei thad, Llywelyn, Tywysog Cymru ei ladd gan fyddin Lloegr. Ond be ddigwyddodd i Gwenllian ar ôl i'w thad farw? Clywon ni ei hanes ar raglen Aled Hughes gan Elinor Wyn Reynolds. Ond i ddechrau, hanes Gwenllian arall...
Mae Bywyd yn Drag - Connie Orff
colur - make up
deunydd - material
diddanu - to entertain
go dda - really good
llwyfan - stage
glud - glue
chwysu - to seat
mor llachar - so bright
pob manylun - every detail
co ni off - here we go
Hanes diddorol dwy Gwenllian oedd hwnna gan Elinor Wyn Reynolds. Ddim pob perfformiwr drag sy'n briod ac yn dad i ddau o blant, ond mae Alun Saunders bach yn wahanol. Mae o wedi cael ei hyfforddi i fod yn berfformiwr drag ac mae o'n perfformio o dan yr enw Connie Orff. Yn y rhaglen 'Mae bywyd yn drag', mi gaethon ni flas ar sut oedd Alun yn paratoi ar gyfer ei berfformiad cyhoeddus cyntaf fel Connie Orff.
Beti a'i Phobol - Eleri Twynog Davies
byd marchnata - marketing world
y tu hwnt i'r ffin - beyond the border
ymholiadau'r wasg - press enquiries
ymgyrch - campaign
bardd y gadair - the chaired bard
dysgu trwy brofiad - learning through experience
Archdderwydd - Archdruid
y goron - the crown
derwyddon - druids
Ceidwad y Cledd - Bearer of the Ceremonial Sword
Connie Orff, neu Alun Saunders oedd hwnna yn paratoi am ei berfformiad cyhoeddus cyntaf.
Eleri Twynog Davies oedd gwestai Beti George wythnos yma. Mae Eleri wedi gweithio ym myd marchnata ar hyd ei gyrfa. Dyma hi'n sôn am yr adeg pan oedd hi'n gyfrifol am farchnata'r Eisteddfod Genedlaethol, pan oedd y syniad o wneud hynny'n eitha newydd...
Syndrom Down a Fi - Stori Iwan
ar wahân - apart
anghenion dwys - intensive care
ymgyfarwyddo - to get used to
bwrw ymlaen - to get on with it
yn gymharol ddiweddar - fairly recently
rhyw fath o alar - some kind of bereavemant
ymgodymu - to grapple
ymarferol - practical
teimlo'n euog iawn - feeling very guilty
llawenydd a chwerthin - happyness and laughter
O diar - anffodus ynde? Ond stori dda hefyd! Dan ni'n mynd i orffen yr wythnos yma efo clip o raglen arbennig 'Syndrom Down a Fi'. Mi gawn ni glywed Mike a Lyn West, rhieni Iwan sydd â Syndrom Down, yn sôn am eu profiad nhw pan gafodd Iwan ei eni. Mi gawn ni glywed hefyd sut mae Mike a Lyn yn helpu rhieni eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw...