Main content

Llanast llwyr i Messi ar Ariannin

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ar ôl bod yn rhyw amheus am ddisgwyl unrhyw gynnwrf yng Nghwpan y Byd, mae’r wythnos ddiwethaf wedi rhoi llond trol o gyffro, syndod a’r annisgwyl.

Dangosodd yr Ariannin eu bod yn dîm mewn stad o anrhefn llwyr, â’r chwaraewyr canol cae ddim fel petaent â’r awydd i fod ar y cae.

Wrth i’r Ariannin golli eu ffordd yn gyfan gwbl yn erbyn Croatia, fe ddangoswyd hefyd na all y llewpard yma newid ei smotiau.

Trist oedd nodi bod y ddelwedd ystrydebol o dwyllo a throseddu a’r chwarae budr y mae rhai ohonom yn ddigon hen i’w gofio yn ôl yn y chwedegau wedi cael ei atgyfodi wrth iddynt suddo i annwfn anobaith annerbyniol. Na, doedd hyd yn oed Messi yn gallu gwneud dim yng nghanol y 'mess' yma. Barn y rheolwr Jorge Sampaoli ydi fod cyd-chwaraewyr Messi ddim hanner digon dawnus i chwarae gyda’r messi-ah bach!

Ond, ymysg y cynnwrf, mae rhai wedi serennu, a hynny mewn timau sydd ar y cyfan yn eithaf cyffredin.

Lle fyddai Portiwgal heb Cristiano Ronaldo, seren y gystadleuaeth hyd yn hyn i mi? Achubiaeth ynddo'i hun, a thra bydd Iran yn ceisio eu curo nos Lun nesaf i drio aros yn y gystadleuaeth, y cwestiwn ydi, nid a ydynt yn ddigon da i guro Portiwgal (rhywbeth a allai fod yn debygol o ddigwydd) ond a ydyn nhw’n ddigon da i guro Ronaldo? (rhywbeth mwy anhebygol i ddigwydd)

Yna, gyda Lloegr yn dangos y gallant hwythau ddod yn agos at anrhefn, er waethaf ugain munud agoriadol addawol yn erbyn Tunisia, penderfynodd Harry Kane ei fod am fod mor ddylanwadol â Ronaldo.

Nid curo Lloegr fydd tasg Panama a Gwlad Belg ond a alla’i nhw wneud hynny drwy ymdopi â Kane? Rhywbeth sydd, o bosib, o fewn gallu'r Belgiaid efallai. Cawn weld.

Yna, brynhawn heddiw, byddai buddugoliaeth i Wlad yr Iâ yn erbyn Nigeria (rhywbeth o fewn eu gallu) yn ddigon da i gadw gobeithion yn fyw, a hyn yn bennaf diolch i berfformiad eu golwr yn eu gem agoriadol yn erbyn yr Ariannin.

Ie, hwyrach mai rhan amser mae Hannes Por Halldorsson yn chwarae i dîm Randers (yng nghynghrair Gwlad yr Iâ) ond i gyflawni un arbediad ar ôl y llall ac arbed cic o'r smotyn gan Lionel Messi, fe fyddai'r cynhyrchydd ffilmiau yma yn gallu cynhyrchu “blockbuster” am bêl droed ei wlad erbyn yr Hydref.

Ond, rhwystro’r “netbusters” rhag darganfod cefn y rhwyd fydd ei swydd yfory, ac yna yn erbyn Croatia yng ngêm olaf y gr诺p. Gêm a allai (petai Gwlad yr Iâ yn llwyddiannus yfory) fod yn ddiddorol gan y gallai'r ddau dîm yma chwarae a chael gêm gyfartal a sicrhau eu bod ill dau yn camu 'mlaen i'r rownd nesaf, ac anfon yr Ariannin adref!

Dwi’n si诺r y bydd gan FIFA rhywbeth i'w ddweud petai hyn yn digwydd.

Ar y llaw arall, a fyddai Luca Modric sydd hefyd yn edrych fel petai yn gallu cael ei enwebu fel chwaraewr y gystadleuaeth hyd yn hyn, yn bodloni gyda pherfformiad cyffredin. Does na ddim byd cyffredin wedi bod yn ei berfformiadau o yn erbyn Nigeria a’r Ariannin.

Yn olaf, syndod y gemau ar ôl dwy gêm ydi Rwsia. Tîm nad oedd yn cael llawer o barch gan eu cefnogwyr cyn yr wythnos ddiwethaf, ond sydd wedi chwalu Saudi Arabia (5-0) ac yna yr Aifft (3-1); gwledd o goliau eto yn erbyn Uruguay brynhawn Llun, neu ddos o realiti gan Luis Suarez a'r criw?

Bydd llawer yn dibynnu ar gêm Denis Cheryshev a ddaeth ar y cae fel eilydd ar ôl 24 munud yn erbyn y Saudis gan ddangos y gallu i ddylanwadu ar bopeth o'i gwmpas ar yr asgell a gwneud i rywun feddwl pan and oedd yn y tîm yn y lle cyntaf!

Ronaldo, Kane, Modric, Halldorsson, a Cheryshev. Oes mwy yn barod i ddatgelu eu doniau dylanwadol wrth i bethau boethi?

Mwynhewch yr wythnos sydd i ddod a pwy a 诺yr be sydd eto o'n Blaenau!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad I Ddysgwyr: Mehefin 9fed-16eg 2018

Nesaf

Cwpan Y Byd Rwsia, oddi ar y cae!