Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Ebrill 7fed-13eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ysbrydoliaeth - James Harrison

Ysbrydoliaeth - Inspiration
arwyr - heroes
y fraich euraidd - the golden arm
gwaed anghyffredin - rare blood
o ganlyniad i hynny - as a result of that
amcangyfrif - estimate
arbed bywydau - to save lives
datblygu clefyd gwaed - develop blood infection
yn y groth - in the womb
cwffio - to fight

"...Ysbrydoliaeth, sef rhaglen ble mae mae Nic Parry yn holi pwy ydy arwyr gwestai'r wythnos. Dydd Llun diwetha buodd y meddyg teulu Catrin Elis Williams, ac eraill, yn dweud pa arwyr oedd wedi eu hysbrydoli nhw. Dewis Catrin oedd James Harrison gafodd ei eni yn 1936 yn Awstralia. Dyma hi'n esbonio pam mai fo ydy ei dewis hi..."

Rhys Mwyn - Gwenno

cysylltiadau teuluol - family connections
Cernyw - Cornwall
llai o gefnogaeth - less support
strwythur - structure
amgen - alternative
pontio - to bridge
yr Anhrefn - a Welsh punk band in 80's
pwyllgor - committee
cyfiethu - to translate
plantos - children

"Dyna beth yw arwr ynde? Wedi arbed dwy filiwn o fywyadau! Mae gan y gantores Gwenno gysylltiadau teuluol â Chernyw ac mae hi'n canu yn Gymraeg ac mewn Cernyweg. Hi felly oedd y gwestai perffaith i Rhys Mwyn nos Lun gan ei fod yn sôn am gerddoriaeth oedd efo cysylltiad â Chernyw. Ydy hi'n anoddach gwneud gyrfa o ganu mewn Cernyweg nag o ganu yn Gymraeg? Dyna un o'r cwestiynau gofynnodd Rhys iddi hi..."

Rhaglen Aled Hughes - Mona lisa

Gweinidog Diwylliant - Culture Minister
gyrru - to send
casgliadau cenedlaethol - national collections
trefnu'r trafnidiaeth - organise the transport
amodau cywir - the right conditions
oriel - gallery
benthyg - to lend
pren - wood
cyflwr - condition
bregus - fragile

"Yr Anhrefn wedi perfformio i blantos Cernyw, gobeithio bod nhw'n iawn ynde? Yn Ffrainc mae'r Gweinidog Diwylliant wedi dweud dylai'r Mona Lisa fynd ar daith o amgylch Ffrainc a gadael y Louvre am sbel. Ond dydy'r amgueddfa ddim yn hapus efo'r syniad. Be mae pobl Ffrainc yn ei feddwl o hyn tybed? Dyma oedd gan Mari Griffith i'w ddweud wrth Aled Hughes..."

Rhaglen Geraint Lloyd - Sion Yaxley

gornest - bout
Pencampwriaeth - Championship
pwysau welter - welterweight
yn hytrach na - rather than
rôn i awydd - I fancied
hyfforddi - to train
aballu - and so on
dw i'n gorfod - I have to
Gemau'r Gymanwlad - Commonwealth games

"Mi fasai hi'n sgandal go iawn tasai rhywbeth yn digwydd i'r Mona Lisa yn basai? Y llun yn cael ei ddisgrifio fel un bregus yn fan'na ond fasech chi byth yn sôn am Sion Yaxley o Ruthun fel person bregus. Mae o newydd ennill gornest bocsio dros Gymru mewn Pencampwriaeth Bocsio Pwysau Welter. Lle sy nesa iddo fo tybed - y Gêmau Olymaidd?"

Dwyn i Gof - Norah Isaac

Dwyn i Gof - Remembering
dylanwad - influence
Coleg y Drindod - Trinity College
tila - feeble
dychryn - to frighten
uffernol - terrible (hellish)
ynganu - pronouncing
am wn i - as far as I know
ddim yn cael hwyl mawr - not making much headway
saith gwaith chwech - 7x6

"Dw i'n siwr byddwn ni'n clywed llawer mwy am Sion Yaxley yn y dyfodol. Os dach chi'n meddwl bod Sion yn galed arhoswch nes eich bod chi'n clywed am Norah Isaac. Yn y rhaglen Dwyn i Gof wythnos yma roedd Llyr Gwyn Lewis yn sgwrsio ? nifer o bobl am Norah a'i dylanwad a'i chariad at y Gymraeg. Dyma Iestyn Garlick yn cofio amdani pan oedd hi'n ei ddysgu yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin..."

Bore Cothi - Singapore

cerdd - music
y cyfle - the opportunity
profiad - experience
byw tramor - living overseas
parch - respect
o d'amgylch di - around you
gwthio - to squeeze
croesawgar - welcoming
dod i arfer - becoming used to
creda i - I can well believe it

"Iestyn Garlick oedd hwnna yn cofio am Norah Isaac. Mae Rhys Tomos yn dod o Fangor yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n byw yn Singapore, ac yn dysgu cerdd mewn ysgol uwchradd yn y ddinas. Sut ddigwyddodd hynny tybed? "

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Parch i ddyfarnwyr

Nesaf

Mecsico v Cymru